Unol Daleithiau America

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth UDA)
Neidio i: llywio, chwilio
United States of America
Unol Daleithiau America
Baner yr Unol Daleithiau Sêl Fawr yr Unol Daleithiau
Baner Sêl Fawr
Arwyddair: E Pluribus Unum (traddodiadol)
In God We Trust (swyddogol, ers 1956)
Anthem: The Star-Spangled Banner
Lleoliad yr Unol Daleithiau
Prifddinas Washington, D.C.
Dinas fwyaf Dinas Efrog Newydd
Iaith / Ieithoedd swyddogol Dim ar lefel ffederal;
Saesneg (de facto)
Llywodraeth Gweriniaeth Ffederal
- Arlywydd Donald Trump
- Is-arlywydd Mike Pence
Annibyniaeth
- Datganwyd
- Adnabwyd
O Brydain Fawr
4 Gorffennaf 1776
3 Medi, 1783
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
9,631,420 km² (3ydd1)
4.87
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2013
 - Cyfrifiad 2010
 - Dwysedd
 
316,544,000 (3ydd)
308,745,538
33/km² (178fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2012
$16.768 triliwn (1af)
$53,001 (9fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2013) 0.914 (5ed) – uchel
Arian cyfred Doler yr Unol Daleithiau (USD)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-5 i -10)
(UTC-4 i -10)
Côd ISO y wlad .us (hefyd .gov .edu .mil .um)
Côd ffôn +1
1 Dadlir safle arwynebedd gyda China ac weithiau rhoddir ei safle yn 3ydd neu'n 4ydd.

Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America (Saesneg: United States of America) neu'r Unol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng Canada i'r gogledd a Mecsico i'r de. Lleolir Alaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada. Ynysfor yng nghanol y Cefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sef Hawaii.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes yr Unol Daleithiau

Cyn glaniad yr Ewropeiaid cyntaf roedd y diriogaeth gyfandirol yn gartref i sawl llwyth o Americanwyr brodorol, e.e y Sioux a'r Navajo.

Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd Prydeinig hyd yr 1700au cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil Gwrthryfel America (1776-1783).

Bryd hynny, roedd Florida a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin (Texas, California, Arizona a.y.y.b.) yn perthyn i Sbaen; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o Afon Mississippi hyd at ffin Canada yn perthyn i Ffrainc, ac roedd Alaska yn perthyn i Rwsia. Yn 1803 prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri (Pryniant Louisiana) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn 1836 cafodd Texas annibyniaeth oddiwrth Mecsico ac ar ôl naw mlynedd fel Gweriniaeth Texas ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, roddodd Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo (1848) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau New Mexico, Arizona, California, Colorado, Utah a Nevada, i'r Unol Daleithiau.

Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861 - 1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.

Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Ar fore'r 9fed o Ebrill 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomattox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.

Yn 1868 gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth yr Unol Daleithiau

Ceir sawl cadwyn o fynyddoedd yng ngorllewin y wlad megis y Rockies a'r Sierra Nevada. Lleolir mynyddoedd yr Appalachians ger yr arfordir dwyreiniol. Rhwng y Rockies a'r Appalachians, ceir basn afonydd Mississippi a Missouri, y Llynnoedd Mawr a'r Gwastadeddau Mawr.

Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir Rhestr taleithau'r Unol Daleithiau yn ôl arwynebedd a rhestr ohonynt yn ôl eu huchder.

Undeb ffederal o 50 talaith yw'r Unol Daleithiau. Lleolir y brifddinas, Washington D.C., mewn ardal ffederal sy ddim yn perthyn i unrhyw dalaith.

Alabama
Alaska
Arizona
Arkansas
Califfornia
Colorado
Connecticut
De Carolina
De Dakota
Delaware
Efrog Newydd
Fflorida
Georgia
Gogledd Carolina
Gogledd Dakota
Gorllewin Virginia    
Hawaii
Idaho
Illinois
Indiana
Iowa
Kansas
Kentucky
Louisiana
Maine
Maryland
Massachusetts
Michigan
Minnesota
Mississippi
Missouri
Montana
Nebraska
Nevada
New Hampshire
New Jersey
New Mexico
Ohio
Oklahoma
Oregon
Pennsylvania
Rhode Island
Tennessee
Texas
Utah
Vermont
Virginia
Washington
Wisconsin
Wyoming
Alabama Alaska Arizona Arkansas California Colorado Connecticut Delaware Fflorida Georgia Hawaii Idaho Illinois Indiana Iowa Kansas Kentucky Louisiana Maine Maryland Massachusetts Michigan Minnesota Mississippi Missouri Montana Nebraska Nevada New Hampshire New Jersey New Mexico Efrog Newydd Gogledd Carolina Gogledd Dakota Ohio Oklahoma Oregon Pennsylvania Rhode Island De Carolina De Dakota Tennessee Texas Utah Vermont Virginia Washington Gorllewin Virginia Wisconsin Wyoming Delaware Maryland New Hampshire New Jersey Massachusetts Connecticut Gorllewin Virginia Vermont Rhode IslandMap of USA with state names.svg
Ynglŷn â'r ddelwedd hon


Dinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau
Rhif Prif ddinas Talaith Pobl. Rhif yr ardal ddinesig Pobl, ardal ddinesig.[1] Rhanbarth[2]
Dinas Efrog Newydd
Dinas Efrog Newydd
Los Angeles
Los Angeles
1 Dinas Efrog Newydd Efrog Newydd 8,250,567 1 18,818,536 Gogledd-ddwyrain
2 Los Angeles Califfornia 3,849,378 2 12,950,129 Gorllewin
3 Chicago Illinois 2,833,321 3 9,505,748 Canol-orllewin
4 Houston Texas 2,169,248 6 5,539,949 De
5 Phoenix Arizona 1,512,986 13 4,039,182 Gorllewin
6 Philadelphia Pennsylvania 1,448,394 5 5,826,742 Gogledd-ddwyrain
7 San Antonio Texas 1,296,682 29 1,942,217 De
8 San Diego Califfornia 1,256,951 17 2,941,454 Gorllewin
9 Dallas Texas 1,232,940 4 6,003,967 De
10 San Jose Califfornia 929,936 30 1,787,123 Gorllewin
Amcangyfrifon o'r Ganolfan Cyfrifiad, 2006

Cosb[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynnydd o: 800% mewn 40 mlynedd

Ymgyrch 'Y Rhyfel
yn Erbyn Cyffuriau'
Nifer y carcharorion yn UDA rhwng 1925 a 2012.

Mae gan Unol Daleithiau America fwy o garcharorion nag unrhyw wlad arall yn y byd. Yn ogystal â hyn, mae'r niferoedd y pen yn uwch nag unrhyw wlad - ar wahân i Seychelles.[3][4] Yn 2012 roedd y nifer yn 707 oedolyn am bob 100,000 o'r boblogaeth.[5]

Roedd y trobwynt oddeutu 1971, y flwyddyn y laniswyd eu hymgyrch yn erbyn cyffuriau.

Ar 3 Chwefror 2014 cafwyd anerchiad yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau gan Shelia Jackson Lee a ddywedodd: "5% yn unig o boblogaeth y byd sydd yn byw yn yr Unol Daleithiau, ond eto, er hyn, rydym wedi carcharu oddeutu chwarter holl garcharorion y byd." [6][7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Table 2. Population Estimates for the 100 Most Populous Metropolitan Statistical Areas Based on July 1, 2006, Population Estimates (PDF). 2005 Population Estimates. U.S. Census Bureau (5 Ebrill, 2007). Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
  2.  Figure A–3. Census Regions, Census Divisions, and Their Constituent States (PDF). U.S. Census Bureau. Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
  3. United States National Research Council. The Growth of Incarceration in the United States: Exploring Causes and Consequences. Washington, DC: The National Academies Press, 2014. Adalwyd 6 Ionawr 2015:
    • "The U.S. penal population of 2.2 million adults is by far the largest in the world. Just under one-quarter of the world's prisoners are held in American prisons."
  4. Highest to Lowest - Prison Population Total. International Centre for Prison Studies. Adalwyd 6 Ionawr 2015.
  5. Mahapatra, Lisa (19 Mawrth 2014). "Incarcerated In America: Why Are So Many People In US Prisons?". International Business Times. http://www.ibtimes.com/incarcerated-america-why-are-so-many-people-us-prisons-charts-1562451. Adalwyd 3 Tachwedd 2014.
  6. Cyfieithiad o: the United States is comprised of only 5 percent of the world’s population, but we incarcerate almost a quarter of the world’s prisoners.
  7. groundreport.com; adalwyd 6 Ionawr 2015

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]