Florida
|
|||||||||
Prifddinas | Tallahassee | ||||||||
Dinas fwyaf | Jacksonville | ||||||||
Arwynebedd | Safle 22fed | ||||||||
- Cyfanswm | 170,451 km² | ||||||||
- Lled | 260 km | ||||||||
- Hyd | 800 km | ||||||||
- % dŵr | 17.9 | ||||||||
- Lledred | 24°30'G i 31°G | ||||||||
- Hydred | 79°48'G i 87°38'G | ||||||||
Poblogaeth | Safle 4fed | ||||||||
- Cyfanswm (2010) | 18,801,310 | ||||||||
- Dwysedd | 135.4/km² (8fed) | ||||||||
Uchder | |||||||||
- Man uchaf | Bryn Britton 105 m |
||||||||
- Cymedr uchder | 30 m | ||||||||
- Man isaf | 0 m | ||||||||
Derbyn i'r Undeb | 3 Mawrth 1845 (27fed) | ||||||||
Llywodraethwr | Rick Scott (G) | ||||||||
Seneddwyr | Bill Nelson (D) Marco Rubio (G) |
||||||||
Cylch amser | UTC -5/-4 | ||||||||
Byrfoddau | FL | ||||||||
Gwefan (yn Saesneg) | www.myflorida.com |
Un o daleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America yw Talaith Florida neu Florida, neu yn Gymraeg Fflorida,[1] gorynys fawr rhwng y Cefnfor Iwerydd a'r Gwlff Mecsico. Fe enwodd Juan Ponce de León y dalaith yn 1513. Ym 1763 bu Prydain yn ffeirio Cuba am Florida wedi i'r Prydeinwyr meddianu dinas La Habana/Hafana. Symudwyd y boblogaeth Sbaeneg i Guba wedyn. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 18,801,310.[2]
Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwâr (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.
Roedd Florida’r 27ain o’r taleithiau i ymuno â’r Unol Daleithiau ym 1845. Prifddinas y dalaith yw Tallahassee.
O’r 19eg ganrif ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20fed ganrif roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. Agorwyd Disney World ym 1971. Mae ganddo maint o 30,500 o aceri, ac yn denu tua 46 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol.[3]
Mae Canolfan Ofod Kennedy wedi bod yn allweddol i gyflawniadau’r Unol Daleithiau yn y maes Gofod ac hefyd yn denu twristiaid.
Mae gan Florida gorsydd mawr. Yr un mwyaf yw Cors Everglades. Rhennir un arall, Cors Okefenokee, efo Georgia.
Dinasoedd Florida[golygu | golygu cod y dudalen]
1 | Jacksonville | 813,518 |
2 | Miami | 399,457 |
3 | Tampa | 345,556 |
4 | St. Petersburg | 248,098 |
5 | Orlando | 235,860 |
6 | Tallahassee | 172,574 |
7 | Fort Lauderdale | 184,892 |
8 | Melbourne | 76,068 |
9 | Pensacola | 76,068 |
10 | Key West | 25,478 |
11 | Lake Wales | 12,071 |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Florida].
- ↑ "Compendium of the Ninth Census:Population, with race." (PDF). US Census Bureau. p. 14. Archifwyd o'r gwreiddiol on Tachwedd 20, 2010. http://www2.census.gov/prod2/decennial/documents/1870e-02.pdf. Adalwyd Rhagfyr 3, 2007.
- ↑ Gwefan history.com
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y dalaith