Ffrainc
|
|||||
Arwyddair: Liberté, Égalité, Fraternité "Rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch" |
|||||
Anthem: La Marseillaise | |||||
Prifddinas | Paris | ||||
Dinas fwyaf | Paris | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth unedol | ||||
Arlywydd Prif Weinidog |
François Hollande Manuel Valls |
||||
Sefydliad - Gwladwriaeth Ffrengig - Cyfansoddiad cyfoes |
843 (Cytundeb Verdun) 1958 (Pumed Weriniaeth) |
||||
Esgyniad i'r UE | 25 Mawrth 1957 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
547,030 km² (47ain) 0.25% |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2014 - Dwysedd |
63,929,000 (22ain) 117/km² (89ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2014 $2.333 triliwn (9fed) $36,453 (24ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2013) | 0.893 (20fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Ewro (€) (EUR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .fr | ||||
Côd ffôn | +33 |
Gwladwriaeth yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc (Ffrangeg: France); enw swyddogol: Gweriniaeth Ffrainc (Ffrangeg: République française). Mae'n ffinio â Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, a'r Eidal yn y dwyrain, Monaco, Môr y Canoldir, Sbaen ac Andorra yn y de, a Môr Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas.
Mae'r mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, unig iaith swyddogol y wlad, ond ceir sawl iaith arall hefyd, megis Llydaweg yn Llydaw, Basgeg yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn ne-orllewin Ffrainc, Corseg ar ynys Corsica, ac Ocsitaneg - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer o fewnfudwyr a'u teuluoedd, o'r Maghreb yn bennaf, yn siarad Arabeg yn ogystal.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfnod yr Henfyd, adnabyddid rhan helaaeth y diriogaeth sy'n awr yn Ffrainc fel Gâl, ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau Celtaidd mewn sawl teyrnas frodorol annibynnol. Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar dde Gâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion Groegaidd dinas Massilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl gan Iŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni.
Daeth Gâl yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, a datblygodd diwylliant Galo-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r Ffranciaid, yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair. Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen. Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas Siarlymaen a'i fab Louis Dduwiol. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng Nghytundeb Verdun. Derbyniodd Siarl Foel Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach.
Yn 1337 dechreuodd rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc, y Rhyfel Can Mlynedd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais, ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.
Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan y Chwyldro Ffrengig rhwng 1789 a 1799. Cipiwyd grym gan Napoleon Bonaparte fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar Rwsia yn 1812; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i Ynys Elba wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Leipzig, a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn Mrwydr Waterloo a'i alltudio i Ynys Sant Helena. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.
Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng yr Almaen a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae Brwydr y Marne a Brwydr Verdun. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Ffrainc yn un o'r Cynghreiriaid. Yn dilyn Brwydr Ffrainc ym 1940 rhannwyd Ffrainc fetropolitanaidd yn rhanbarthau a feddiannwyd gan yr Almaen a'r Eidal a rhanbarth Llywodraeth Vichy oedd yn cydweithio â Phwerau'r Axis. Yn ystod blynyddoedd y feddiannaeth, brwydrodd mudiad y résistance yn erbyn y meddianwyr a'r cydweithredwyr. Adferwyd sofraniaeth Ffrengig ym 1944 ac aeth y Cynghreiriaid ymlaen i ennill y rhyfel ym 1945.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Tyfir gwenith yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, ac yno hefyd mae'r diwydiannau trymion. O gwmpas y maes glo sy'n ymestyn o Béthune hyd at Valenciennes mae'r diwydiannau haearn a dur, cemegau a gweolion. Mae ffatrioedd y cwmni rwber Michelin yn y Massif Central. Yn y de-ddwyrain tyfir gwinwydd, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs mae cynhyrchu gwin yn bwysig yn Ffrainc.
Mae gan Ffrainc amrywiaeth mawr o ran tirwedd, o'r gwastadeddau arfordirol yn y gogledd a'r gorllewin i fynyddoedd yr Alpau a'r Pyreneau yn y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Yn yr Alpau Ffrengig y mae Mont Blanc, y mynydd uchaf yng ngorllewin Ewrop gydag uchder o 4810 m. Mae ardaloedd mynyddig eraill yn ogystal, gan gynnwys y Massif central, y Jura, y Vosges, y massif armoricain a'r Ardennes. Mae sawl afon nodedig yn llifo trwy'r wlad, gan gynnwys Afon Loire, Afon Rhône (sy'n tarddu yn y Swistir), Afon Garonne (sy'n tarddu yn Sbaen), Afon Seine, ac Afon Vilaine.
Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Gyda phoblogaeth o 64.5 miliwn, saif Ffrainc yn 19eg ymysg gwledydd y byd. Mae tŵf naturiol (heb gynnwys mewnfudiad) y boblogaeth wedi cyflynu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2004, tyfodd y boblogaeth o 0.68%, tra yn 2006 roedd 299,800 mwy o enedigaethau nag o farwolaethau.
Yn 2004, ymfudodd 140,033 o bobl i Ffrainc, 90,250 ohonynt o wledydd Affrica a 13,710 o Ewrob. Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ystadegau ac Astudiaethau Economaidd, roedd tua 4.9 miliwn o bobl wedi ei geni mewn gwledydd eraill yn byw yn Ffrainc, 2 filiwn ohonynt wedi dod yn ddinasyddion Ffrengig.
Er fod poblogaeth y wlad yn cynyddu, mae poblogaeth llawer o ardaloedd gwledig yn parhau i leihau. Yn y cyfnod 1960-1999, gostyngodd poblogaeth pymtheg o départements gwledig; y gostyngiad mwyaf oedd 24% yn Creuse.
Dinasoedd mwyaf Ffrainc yw:
Rhif | Enw | 1982 | 1990 | 1999 | 2007 | Ardal |
---|---|---|---|---|---|---|
1. | Paris | 2.176.243 | 2.152.423 | 2.125.246 | 2.143.614 | Île-de-France |
2. | Marseille | 874.436 | 800.550 | 798.430 | 791.172 | Provence-Alpes-Côte d’Azur |
3. | Lyon | 413.095 | 415.487 | 445.452 | 479.288 | Rhône-Alpes |
4. | Toulouse | 347.995 | 358.688 | 390.350 | 445.164 | Midi-Pyrénées |
5. | Nice | 337.085 | 342.439 | 342.738 | 336.795 | Provence-Alpes-Côte d’Azur |
6. | Naoned | 240.539 | 244.995 | 270.251 | 278.308 | Pays de la Loire |
7. | Strasbourg | 248.712 | 252.338 | 276.391 | 277.716 | Alsace |
8. | Montpellier | 197.231 | 207.996 | 225.392 | 255.015 | Languedoc-Roussillon |
9. | Lille | 196.705 | 198.691 | 212.597 | 240.787 | Nord-Pas-de-Calais |
10. | Bordeaux | 208.159 | 210.336 | 215.363 | 236.202 | Aquitaine |
11. | Rennes | 194.656 | 197.536 | 206.229 | 209.101 | Bretagne |
12. | Reims | 177.234 | 180.620 | 187.206 | 198.597 | Champagne-Ardenne |
13. | Le Havre | 199.388 | 195.854 | 190.905 | 183.958 | Haute-Normandie |
14. | Saint-Étienne | 204.955 | 199.396 | 175.127 | 173.835 | Rhône-Alpes |
15. | Angers | 136.038 | 141.404 | 151.279 | 172.534 | Pays de la Loire |
16. | Toulon | 179.423 | 167.619 | 160.639 | 169.387 | Provence-Alpes-Côte d’Azur |
17. | Grenoble | 156.637 | 150.758 | 153.317 | 159.472 | Rhône-Alpes |
18. | Nîmes | 124.220 | 128.471 | 133.424 | 151.767 | Languedoc-Roussillon |
19. | Aix-en-Provence | 121.327 | 123.842 | 134.222 | 150.342 | Provence-Alpes-Côte d’Azur |
20. | Dijon | 140.942 | 146.703 | 149.867 | 148.986 | Bourgogne |
Rhaniadau gweinyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhennir Gweriniaeth Ffrainc yn 27 région. Mae 21 ohonynt yn ffurfio'r Ffrainc gyfandirol, felly wrth gyfri Corsica hefyd, mae yna 22 région yn Ffrainc fetropolitanaidd. Y régions tramor — Guadeloupe, Martinique, Réunion, Mayotte a Guyane Ffrengig — yw'r 5 arall.
Rhennir y régions ymhellach yn 101 département. Mae pob un o'r régions tramor hefyd yn département ynddi'i hun. Mae rhif gan bob département rhif a ddefnyddir ar gyfer codau post, cofrestru ceir ac yn y blaen. Rhennir pob un o'r départements metropolitanaidd yn sawl arrondissement, a rennir wedyn yn cantons llai. Rhennir y cantons yn communes - mae yna 36,697 commune, ac mae cyngor trefol etholedig gan bob un. Rhennir communes Paris, Lyon a Marseille yn arrondissements trefol yn ogystal.
Yn ogystal â'r uchod, mae sawl tiriogaeth dramor gan Weriniaeth Ffrainc.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
|
|
|
|