Pennsylvania
|
|||||||||
Prifddinas | Harrisburg | ||||||||
Dinas fwyaf | Philadelphia | ||||||||
Arwynebedd | Safle 33ain | ||||||||
- Cyfanswm | 119,283 km² | ||||||||
- Lled | 255 km | ||||||||
- Hyd | 280 km | ||||||||
- % dŵr | 2.7 | ||||||||
- Lledred | 39°43'G i 42°G | ||||||||
- Hydred | 74°43'Gor i 80°31'Gor | ||||||||
Poblogaeth | Safle 6ed | ||||||||
- Cyfanswm (2010) | 12,702,379 | ||||||||
- Dwysedd | 23.86/km² (31ain) | ||||||||
Uchder | |||||||||
- Man uchaf | Mynydd Davis 979 m |
||||||||
- Cymedr uchder | 335 m | ||||||||
- Man isaf | 0 m | ||||||||
Derbyn i'r Undeb | 12 Rhagfyr 1787 (2il) | ||||||||
Llywodraethwr | Tom Wolf (D) | ||||||||
Seneddwyr | Bob Casey, Jr. (D) Pat Toomey (G) |
||||||||
Cylch amser | UTC -5/-4 | ||||||||
Byrfoddau | PA | ||||||||
Gwefan (yn Saesneg) | www.state.pa.us |
Mae Pennsylvania (hefyd yn Gymraeg Pensylfania)[1] yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Ei llysenw yw'r Dalaith Maen Clo a'i henw swyddogol yw Cymanwlad Pennsylvania. Y ddwy ddinas fwyaf yw Philadelphia a Phittsburgh.
Gwladychwyd tiroedd eang i'r gogledd a'r gorllewin o Philadelphia gan Grynwyr o Gymru yn yr 17eg ganrif, ac mae'n debyg y symbylwyd y gwladychiad gan y dyhead i gael rhyddid i addoli yn ôl eu credo. Mae'r nofel gan Marion Eames Y Rhandir Mwyn wedi ei seilio ar hanes y gwladychiad hwn.
Erbyn 1700, roedd un traean (33%) o'r dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y ddeunawfed ganrif cafwyd ail don o wladychu, wedi'i arwain gan Morgan John Rhys o'r enw Cambria ac a elwir heddiw Tir Cambria (Cambria Country). Erbyn Cyfrifiad 2003-6 dim ond 1.5% oedd yn galw'u hunain 'o darddiad Cymreig'.[2]
Ar fur dwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriad hwn:
“ |
Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law. |
” |
Ceir ffiniau taleithiau: Delaware i'r de-ddwyrain, Maryland i'r de, Gorllewin Virginia i'r de-orllewin, Ohio i'r gorllewin, Llyn Erie ac Ontario, Canada i'r gogledd-orllewin, Efrog Newydd i'r gogledd a New Jersey i'r dwyrain. Asgwrn cefn y dalaith yw Mynyddoedd yr Appalachian sy'n gorwedd yng nghanol y dalaith, o'r gogledd i'r de.
Cynnwys
Dinasoedd, trefi a'u poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Dinas | Poblogaeth |
---|---|
Philadelphia |
1,547,607
|
Pittsburgh |
306,211
|
Allentown |
118,974
|
Erie |
101,047
|
Reading |
88,102
|
Scranton |
75,809
|
Bethlehem |
75,103
|
Lancaster |
59,360
|
Levittown |
52,700
|
Harrisburg |
49,279
|
Galeri o enwau llefydd Cymraeg a Chymreig[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwynedd Valley[golygu | golygu cod y dudalen]
Bala Cynwyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Penllyn, Pennsylvania[golygu | golygu cod y dudalen]
Bwrdeisdref Sirol Gogledd Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Narberth, Pennsylvania[golygu | golygu cod y dudalen]
Berwyn, Pennsylvania[golygu | golygu cod y dudalen]
Bryn Mawr[golygu | golygu cod y dudalen]
Merion, Pennsylvania[golygu | golygu cod y dudalen]
Philadelphia[golygu | golygu cod y dudalen]
Whitford, Pennsylvania[golygu | golygu cod y dudalen]
Haverford[golygu | golygu cod y dudalen]
Golygfeydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Polygonum pensylvanicum: "Y ganwraidd rosliw"
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Pennsylvania].
- ↑ American FactFinder, United States Census Bureau. "American Community Survey 3-Year Estimates". Factfinder.census.gov. http://factfinder2.census.gov/bkmk/table/1.0/en/ACS/08_3YR/DP3YR2/0400000US42. Adalwyd 31 Gorffennaf 2010.