Louisiana

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Talaith Louisiana
Baner Louisiana Sêl Talaith Louisiana
Baner Louisiana Sêl Louisiana
Llysenw/Llysenwau: Talaith y Gors
Map o'r Unol Daleithiau gyda Louisiana wedi ei amlygu
Prifddinas Baton Rouge
Dinas fwyaf New Orleans
Arwynebedd  Safle 31eg
 - Cyfanswm 51,843 km²
 - Lled 130 km
 - Hyd 379 km
 - % dŵr 15
 - Lledred 28° 56′ G i 33° 01′ G
 - Hydred 88° 49′ Gor i 94° 03′ Gor
Poblogaeth  Safle 25ain
 - Cyfanswm (2010) 4,574,836
 - Dwysedd 45.5/km² (25ain)
Uchder  
 - Man uchaf Driskill Mountain
535 m
 - Cymedr uchder 100 m
 - Man isaf 0 m
Derbyn i'r Undeb  30 Ebrill 1812 (18eg)
Llywodraethwr Bobby Jindal (G)
Seneddwyr Bill Cassidy (G)
David Vitter (G)
Cylch amser Canolog: UTC-6/-5
Byrfoddau LA US, LA
Gwefan (yn Saesneg) louisiana.gov

Mae Louisiana yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, ar lan Gwlff Mecsico, a groesir gan Afon Mississippi; mae delta'r afon yn dominyddu'r gwastediroedd arfordirol yn ne'r dalaith. Yr unig ardal ucheldirol o bwys yw'r ardal o gwmpas Afon Goch yn y gogledd-orllewin. Yr Ewropeiaid cyntaf i lanio yno oedd y Sbaenwyr, ond fe'i hawliwyd gan Ffrainc a'i henwi ar ôl y brenin Louis XIV o Ffrainc yn 1682. Fe'i rhoddwyd i Sbaen yn 1762 ond dychwelwyd i feddiant Ffrainc yn 1800. Roedd Louisiana yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith yn 1812. Cefnogai'r De yn Rhyfel Cartref America. Baton Rouge yw'r brifddinas ac mae New Orleans yn borthladd bwysig ar lan y Mississippi.

Dinasoedd Louisiana[golygu | golygu cod y dudalen]

1 New Orleans 343,829
2 Baton Rouge 229,553
3 Shreveport 218,021
4 Lafayette 120,623
5 Welsh 3,380

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag-map of Louisiana.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Louisiana. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.