Croeso

Logo Eglwysi Bro AledCroeso! Mae Bro Aled wedi ei lleoli i’r de o Abergele, gyda Llanrwst i’r gorllewin a Dinbych i’r dwyrain. Mae’n ardal wledig, amaethyddol, gyda thraddodiad cyfoethog yn yr efengyl. Yma y magwyd William Salesbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog, Edward Parry ac eraill. Heddiw, mae gwaith yr Arglwydd yn parhau i gael ei ddyrchafu, a’n nod yw dyrchafu enw Iesu a dwyn tystiolaeth i ras a thrugaredd Duw.

Crist yn unig a ddyrchafwn ac rydym yn trefnu ein holl weithgarwch i’w ddyrchafu ef. Mae pob oed ynghlwm wrth y gwaith a braf yw gweld teuluoedd cyfan yn dod i addoli ac i wrando Gair Duw. Mae gennym bwyslais ar adnabod dawn pob un ac rydym wedi sefydlu sawl tîm i drefnu a hybu gweithgarwch yn ein plith.

Rhoddwn bwyslais hefyd ar gyd-addoli ac mae oedfa arbennig yn cael ei pharatoi bob nos Sul ar gyfer y Fro gyfan. Cynhelir hon yn Llansannan. Mae manylion pob oedfa, a’r cyfarfod eraill yn ystod yr wythnos, i’w gael yn Llais Bro Aled.

Mae croeso i bawb ymuno â ni.

“Profwch, a gwelwch mai da yw’r ARGLWYDD.” (Salm 34:8)