Bu’r wythnos ddiwethaf yn un o’r rhai mwyaf dramatig yng ngwleidyddiaeth Prydain ers tro. Y llywodraeth yn cael cweir hanesyddol nos Fawrth yn y bleidlais ar eu cynllun i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yna’n llwyddo i oroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fercher. Oherwydd hyn i gyd mae dyfodol gwleidyddol Prydain yn glir fel mwd! Rydym wedi clywed proffwydo gwae, pobl am waed ei gilydd a nifer yn dadlau’n groch mai dim ond un ffordd (eu ffordd hwy!) sydd i ddatrys y sefyllfa. Dwi’n siŵr fod yna nifer ohonom yn ddigon pryderus ynglŷn â’r effaith y mae’r dryswch yma’n ei gael ar yr economi ac ar fywoliaeth pobl ar hyd a lled y wlad, ond wrth i ni ddarllen y Beibl cawn ein hatgoffa nad yw tensiwn nag ansicrwydd gwleidyddol yn ddim byd newydd i bobl yr Arglwydd.
Meddyliwch am Heseceia’r brenin a phobl Jwda a Jerwsalem yn wynebu bygythiadau a gwawd ymerodraeth fawr Asyria yn 701CC. (Mae’r hanes i’w weld yn Eseia 36 a 37). Roedd y gelyn pwerus wedi’u cornelu ac yn rhoi pwysau arnynt i ddod i gytundeb â hwy cyn iddynt gael eu dinistrio. Mynnai prif swyddog brenin Asyria nad oedd pwrpas i bobl Jerwsalem wrando ar Heseceia na dibynnu ar yr Arglwydd. Ond sefyll yn gadarn a wnaeth Heseceia, ac yn hytrach nag ildio i ddirmyg a thwyll y gelyn grymus, trodd at Dduw mewn gweddi gyda’r geiriau ‘O Arglwydd y Lluoedd, Duw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; tydi a wnaeth y nefoedd a’r ddaear.’ (Eseia 37:16) Sylweddolai Heseceia fod ei Arglwydd uwchlaw pob grym a gallu daearol, ac oherwydd hynny y gallai ddibynnu arno, ac ar ei addewidion i’w bobl yn yr argyfyngau mwyaf. Gall Cristnogion heddiw gael eu calonogi yn yr un modd o wybod fod teyrnas Dduw yn gadarn a Christ ein brenin eisoes wedi ennill buddugoliaeth derfynol dros bob gelyn ar y Groes. Diolchwn nad oes unrhyw argyfwng yn dirymu addewidion graslon Duw i’w bobl, a bod diogelwch tragwyddol i’w gael gyda’r Bugail Da – ‘Yr wyf fi’n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o’m llaw i.’ (Ioan 10:28)
Rhodri
]]>Eleni byddwn yn cofio cant a hanner o flynyddoedd ers marwolaeth Henry Rees, un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn ei gyfnod, ac un o deulu enwog Chwibren, Llansannan! Ac yn sgil hyn rydym am gychwyn y flwyddyn trwy ystyried testun un o bregethau Henry Rees sy’n addas iawn ar gyfer Llais Bro Aled cyntaf 2019 – Salm 90:12 ‘Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth.’
Yn y bregeth hon mae Rees yn nodi mor hawdd yw hi i ddynion a merched o bob oed fyw eu bywydau fel pe bai dim diwedd i ddod. Er cymaint o rybuddion a gawn yn y Beibl mor fyr yw ein hoes, ac mor frawychus yw marwolaeth pan ddown ar ei draws, ein tuedd naturiol yw gwneud cymaint â phosib i anwybyddu’r cwestiynau dwys ynglŷn â bywyd wedi marwolaeth. Yn wir mae’n diwylliant cyfoes ni’n annog y fath agwedd gan honni nad oes digon o dystiolaeth wyddonol am faterion o’r fath.
Ond nid felly mae’r Duw tragwyddol yn siarad â’i bobl. Diolchwn nad oes gennym Arglwydd sy’n brwsio pethau anodd o dan y carped! Yn hytrach nag osgoi trafod yr elfennau poenus a dryslyd o’n bodolaeth, mae’r Beibl yn rhoi goleuni i ni arnynt gan gyhoeddi gobaith i gredinwyr ar sail cariad rhyfeddol Duw. Ac wrth gwrs yn Iesu Grist gwelwn Achubwr a brofodd farwolaeth ac atgyfodiad drosto’i hun. ‘Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy’r cyntaf o lawer sy’n mynd i gael eu codi.’ (1 Corinthiaid 15:20 beibl.net)
Felly ydym ni’n barod i dderbyn tystiolaeth Gair Duw a geiriau Iesu am fywyd tragwyddol? Ydi gwirioneddau’r Beibl am gael effaith ar y ffordd yr ydym yn wynebu bob diwrnod – boed hynny ar ddechrau blwyddyn newydd neu beidio? Dyna arweiniad Salm 90:12 i ni. Os bydd ansicrwydd pryd yn union y bydd rhywun yn glanio ar ein haelwyd, bydd y doeth yn paratoi ar fyrder yn hytrach na llaesu dwylo. Yr un egwyddor sy’n bodoli ynglŷn â’n bywyd a’n perthynas gyda’r Arglwydd. Wrth i ni ystyried y geiriau hyn, gofynnwn am gymorth Duw i wneud y mwyaf o’r amser a gawn trwy ddod mewn ffydd at Grist, a byw’n bywydau gan ddibynnu’n llwyr arno Ef.Llais Bro Aled 06.01.19 + 13.01.19
Rhodri
]]>Wrth i’r flwyddyn ddod i’w therfyn mae’n rhaid i mi ddiolch i bawb ohonoch am eich cefnogaeth a’ch gweithgarwch yn y Fro ac yn eich eglwysi lleol trwy gydol 2018. Ac wrth i ni edrych ymlaen at ddechrau blwyddyn newydd, dylwn dynnu eich sylw at y newid fydd yn dod i ran nifer ohonom o Sul cyntaf Ionawr ymlaen. Bydd amseroedd nifer o’r gwasanaethau yn newid ynghyd â’r ffaith y byddwn yn cyd-addoli gyda’n gilydd fel eglwysi cyfagos yn gyson. Cofiwch gadw golwg fanwl ar Lais Bro Aled pan fydd yn cael ei gyhoeddi, a’i gadw wrth law am bythefnos i’n hwyluso wrth i ni ddod i arfer â’r drefn newydd. Gweddïwn y bydd y cyfan yn fodd i ni brofi bendith Duw wrth i ni addoli gyda’n gilydd yn y sylweddoliad fod y ‘Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi’u codi gan ddynion!’ (Actau 7:48)
Dros y Nadolig byddwn yn dathlu dyfodiad Duw i’n plith ym mherson Iesu. Ond mae Duw yn byw yng nghanol ei bobl yn thema bwysig trwy gydol y Beibl. Os awn yn ôl mor bell ag Exodus 29:45, gwelwn eiriau’r Arglwydd yn datgan y bydd ‘yn preswylio ymhlith pobl Israel’, ac o neidio i lyfr olaf y Beibl, gwelwn yr un addewid hyfryd i Gristnogion yn Natguddiad 21:1-3. Wrth ddarllen Datguddiad 21, byddwn fel arfer yn canolbwyntio ar y rhan sy’n sôn am y nef newydd a’r ddaear newydd lle na fydd poen, llefain na marwolaeth mwyach. Ond faint o sylw yr ydym wedi ei roi i’r ffaith y bydd Duw yn byw gyda’i bobl? Mae ystyried hyn yn gwneud dyfodiad Crist i’r byd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol. Pan anwyd Iesu, gwelwyd ddechrau’r cyflawniad o addewid Duw i ddarparu aberth dros ein pechod, ond cafwyd rhagflas hefyd o’r hyn sydd i ddod am dragwyddoldeb i’r saint. Caiff Cristnogion weld Iesu fel y mae, wyneb yn wyneb, a chael bodoli am byth gyda’r Arglwydd. Dinistriwyd y rhwystrau fu’n ein hatal rhag bod mewn perthynas ag ef trwy fywyd, marwolaeth, ac atgyfodiad Iesu! Does ryfedd fod yr angel wedi dweud wrth y bugeiliaid fod ganddo ‘newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn!’ (Luc 2:10 Beibl.net)
Rhodri
]]>Dros yr wythnosau nesaf, dwi’n siŵr y bydd nifer fawr ohonom yn cael ein hatgoffa o’r hanesion cofiadwy am eni Mab Duw trwy gyfrwng darlleniadau Beiblaidd neu ddramâu’r geni. Ond mor hawdd yw i ni ddatgysylltu’r hyn a glywn am Joseff, Mair a’r babi a anwyd oddi wrth ein profiadau go iawn ni. Er bod cenhedlu Crist yn wyrth trwy gyfrwng yr Ysbryd Glân, does dim awgrym bod yr enedigaeth felly. Ac er bod Catholigiaeth wedi tueddu i or-ddyrchafu Mair, nid yw’r dystiolaeth Feiblaidd yn honni dim mwy am Mair na’i bod yn ferch ifanc a ddangosodd ffydd yn ei Harglwydd pan nad oedd yn gwbl sicr sut oedd popeth yn mynd i droi allan. Os edrychwn yn fanwl ar yr adran lle mae Mair yn clywed am ei beichiogrwydd annisgwyl ym mhennod gyntaf Luc, nid y ffaith y bydd yn cael plentyn a hithau’n wyryf sy’n ei chythryblu i ddechrau, ond yn hytrach bod Duw am ddangos ffafr tuag ati (Luc 1:28-29). Faint ohonom ni sy’n synnu fod Duw yn dangos ffafr tuag at bobl annheilwng heddiw, ac yn dewis rhai ffôl a gwan er mwyn cywilyddio’r doeth a’r cryf (1 Corinthiaid 1:27)?
Ond wedi i’r angel roi esboniad i Mair, ymateb ffydd a ddaeth o’i gwefusau: “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” (Luc 1:38) Ni chafodd Mair y darlun cyflawn ynglŷn â’i mab hynaf, ond fe glywodd ddigon iddi allu ymddiried yn Nuw, ac ildio’i hun i wneud gwaith yr Arglwydd. Yn aml, dyma brofiad ddaw i ran credinwyr hefyd. Heb ateb i bob cwestiwn, bydd gofyn i ni ymddiried yn yr Arglwydd a’i Air cadarn. A gallwn wneud hyn yn hyderus oherwydd ein bod wedi cael gwybod mwy na Mair! O ddarllen gweddill y Testament Newydd sylweddolwn i faban Mair dyfu’n ddyn, a thrwy ei farw a’i atgyfodiad cyflawnodd y cyfan er mwyn ein cymodi â Duw, a rhoi i’w bobl fywyd tragwyddol!
Diolchwn y Nadolig hwn nad stori ffug yw hanes geni Iesu, a bod Duw yn parhau i ddangos ffafr ac i aros gyda phawb sydd wedi rhoi eu bywydau i’w unig Fab, y Gwaredwr.
Rhodri
]]>Genedigaeth wyrthiol oedd un Iesu oherwydd mai dyma ddyfodiad Duw mewn cnawd dynol er mwyn gwneud y gwaith unigryw o achub dynion a merched euog. Oni bai i Iesu gael ei eni yn Dduw ac yn ddyn, ni fyddai achubiaeth na gobaith i ddynol ryw – dyna pa mor dyngedfennol yw geni mab Mair.
Gwelais fwletin newyddion yn ddiweddar yn nodi bod Tîm Achub Mynydd Llanberis yn dathlu 50 mlynedd ers iddynt ddechrau. Gwasanaeth a werthfawrogir yn fawr gan bawb sy’n mynydda, yn arbennig y rhai sydd wedi bod mewn helbul. Ond heb y tîm achub mynydd beth fyddai’n digwydd? Pwy fyddai â’r sgiliau a’r cyfarpar priodol i wneud yn siŵr fod y rhai sydd mewn angen difrifol yn cael eu symud ar fyrder o berygl i ddiogelwch? Wrth gwrs, argyfyngau yn unig yw’r achlysuron pan mae angen galw ar dîm achub mynydd, ond neges y Beibl yw bod pawb angen ei achub yn dragwyddol am ein bod i gyd wedi’n gwahanu oddi wrth Dduw. ‘Mae’r un fath i bawb am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau’u hunain.’ (Rhufeiniaid 3:23).
Mae’r Achubwr wrth law, mae’n barod ac yn abl i’n gwneud yn ddiogel am byth, ydym ni am alw arno?
Rhodri
]]>Ydych chi erioed wedi cael y profiad hwnnw o siarad â hen ffrind, neu gyd-weithwyr nad ydych wedi eu gweld ers blynyddoedd a rhyfeddu iddynt gofio amdanoch? Mae yna rywbeth hyfryd iawn mewn dod i ddeall fod pobl yn cofio amdanoch, ac yn arbennig i Gristion mae gwybod fod Cristnogion eraill yn cofio ac yn gweddïo drosom yn gysur enfawr mewn amgylchiadau anodd. Nid yw hynny’n syndod gan fod y Beibl yn annog credinwyr i weddïo’n daer ar Dduw mewn pob math o sefyllfaoedd gwahanol, a hynny mewn hyder y bydd yr Arglwydd yn gweithredu yn ôl ei ddoethineb ei hun, ac er daioni ei bobl. (Rhufeiniaid 8:28)
Ond nid dim ond pobl sy’n cofio amdanom. Wrth ddarllen y Beibl gwelwn y datganiad rhyfeddol fod Duw ei hun yn cofio ei bobl. Yn ystod darlithoedd DAWN yn Aberystwyth yn ddiweddar arweiniodd Hywel Edwards ni i fyfyrio ar adnodau y byddai’n ddigon hawdd i ni frysio heibio iddynt ar ddiwedd Exodus 2. ‘Ond yr oedd pobl Israel yn dal i riddfan oherwydd eu caethiwed, ac yn gweiddi am gymorth, a daeth eu gwaedd o achos eu caethiwed at Dduw. Clywodd Duw eu cwynfan, a chofiodd ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob; edrychodd ar bobl Israel ac ystyriodd eu cyflwr.’ (Exodus 2:23-25)
Tydi Arglwydd y Lluoedd ddim yn anymwybodol o’n poenau a’n anghenion. Wrth glywed cwynfan ei bobl oherwydd gormes y gelyn, cofiodd Duw y cyfamod a wnaeth â hwy. Cyfamod yw’r gair cyfoethog a geir yn y Beibl i ddisgrifio’r ymrwymiad diwyro hwnnw y mae’r Arglwydd wedi ei wneud i’w bobl. Ac i Gristnogion heddiw, mae mwy fyth o gysur o wybod mai cyfamod newydd yng ngwaed Iesu Grist sydd gennym erbyn hyn. (Luc 22:20) Nid gobeithio y bydd Duw yn gwneud rhywbeth i’w hachub rhywbryd yn y dyfodol y mae’r saint, ond ymddiried fod yr hyn a gyflawnodd Iesu trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn ddigon i achub pawb sy’n credu, yn awr ac am byth.
‘Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Duw osododd Iesu’n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
trefn gollyngdod inni’n llawn.’
Rhodri
]]>Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod cymaint o’r Beibl yn atgoffa pobl Dduw mewn gwahanol ffyrdd. Yn yr Hen Destament, roedd Cyfraith Duw yn atgoffa’r bobl yn gyson o’u pechod a’u hangen am faddeuant trwy’r cyfarwyddiadau manwl am aberthau a sut oeddynt i addoli Duw sanctaidd. (Hebreaid 10:3-4) Ac os edrychwn ar nifer o’r Salmau, cyfeiriadau at y ddihangfa o’r Aifft trwy’r Exodus a geir er mwyn i bobl yr Arglwydd gofio pwy a’u hachubodd. E.e. ‘Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw, er mwyn dangos ei rym. Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd, ac arweiniodd hwy trwy’r dyfnder fel pe trwy’r anialwch. Gwaredodd hwy o law’r rhai oedd yn eu casáu, a’u harbed o law’r gelyn.’ (Salm 106:8-10)
Beth amdanom ni heddiw felly? Beth yw’r pethau holl bwysig y mae angen i ni gael ein hatgoffa ohonynt? O droi at y Testament Newydd, gwelwn bwyslais ychwanegol, ond nid annisgwyl yn cael ei amlygu. Marwolaeth ac atgyfodiad yr Arglwydd Iesu yw prif destun y cofio yno oherwydd mai dyna’r unig ffordd i bechaduriaid gael eu cymodi â Duw. Pan mae Paul yn agosáu at ddiwedd ei lythyr cyntaf at y Corinthiaid, mae am eu hatgoffa o’r Efengyl. A beth yw’r Efengyl? ‘Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau; ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i’r Deuddeg.’ (1 Corinthiaid 15:3-5)
Yr hyn y mae angen i bob Cristion ei gofio yw’r hyn y mae Crist wedi ei gyflawni dros ei bobl. Does dim gobaith i ni hebddo Ef, ond i bawb sy’n credu ynddo Ef mae bywyd tragwyddol wedi ei roi’n rhodd i’r annheilwng. Gweddïwn am gymorth yr Arglwydd i gofio, ac am nerth i geisio Crist mewn ffydd ac edifeirwch.
Rhodri
]]>Heno, byddaf yn mynd i hyfforddiant Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar ddiogelu data. Does gen i ddim syniad beth yn union fydd yn cael ei ddweud, ond dwi’n gobeithio y bydd gennym syniad gwell fel gofalaeth o’r ffordd ymlaen wedi inni gael ein rhoi ar ben ffordd. Y tu ôl i’r ddeddf newydd ar ddiogelu data mae yna fwriad doeth i warchod gwybodaeth bersonol ac i geisio diogelu preifatrwydd unigolion. Profiad digon anghyfforddus yw derbyn galwadau gan rai sy’n gwybod eich enw, cyfeiriad, ayyb a chithau heb unrhyw syniad pwy sydd ben arall y ffôn, na sut y maent yn gwybod cymaint amdanoch! Ond ydych chi erioed wedi meddwl pwy sy’n gwybod pob manylyn personol amdanoch? Nid cyfeirio at sgamwyr, cyfaill agos na hyd yn oed gymar oes ydw i yma, ond at ein Creawdwr. Mae’r Llythyr at yr Hebreaid yn dweud: ‘Does dim byd drwy’r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e’n gweld popeth yn glir. A dyma’r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.’ (Hebreaid 4:13 Beibl.net) Mae’r Arglwydd yn gweld y cyfan – nid gweithredoedd yn unig ond hefyd y meddyliau pechadurus a hunan gyfiawn nad ydym hyd yn oed yn eu cydnabod! Brawychus? Mae’r Arglwydd hefyd wrth gwrs yn gweld ein poenau a’n gofidiau dwysaf, y rhai nad ydym yn barod i’w rhannu ag eraill – ac mae’r Gair yn ein hatgoffa fod Iesu yn archoffeiriad sy’n cyd-ddioddef â’n gwendidau ni. (Hebreaid 4:15)
Ein rhesymeg yn aml dros geisio cuddio pethau rhag eraill yw cywilydd neu ofn – beth fyddant yn ei feddwl ohonof, wnawn nhw droi cefn arnaf wrth weld yr ochr arall i bwy ydw i? Yn y Beibl cawn glywed am Dduw sy’n datgan ei farn yn eglur ar ein drygioni, ond sydd hefyd wedi trefnu ffordd i faddau ein holl bechodau. Gwêl yr Arglwydd bopeth amdanom ond, o ddod at Iesu mewn ffydd ac edifeirwch, gallwn fod yn hyderus o’i gariad diddiwedd tuag atom. Gwrthodwyd Iesu ar y Groes er mwyn i’w ddisgyblion gael eu derbyn yn blant tragwyddol i’w Tad. Diolch Iddo!
Rhodri
]]>Bywyd tragwyddol – term sy’n cael ei ddefnyddio lawer gwaith mewn oedfaon ar draws Cymru ond beth yn union mae’n ei olygu? Miliynau o flynyddoedd yn y nefoedd gyda’r angylion? Dyna’r darlun poblogaidd o bosib, ond nid yw’n cyd-fynd yn llawn â phwyslais y Beibl. Wrth i ni droi at Air Duw, gwelwn fod bywyd tragwyddol yn ymwneud yn uniongyrchol â’n perthynas â Duw, ac yn arbennig felly â’i Fab Iesu Grist. Wrth gwrs mae’r term tragwyddoldeb yn cyfeirio at y goruwchnaturiol, y tu allan i amser fel yr ydym ni yn ei brofi a’i ddeall o ddydd i ddydd, ond mae bywyd tragwyddol yn y Beibl hefyd yn ymwneud ag ansawdd bywyd gyda’r Arglwydd a’n creodd. Rhodd gan Dduw yw bywyd tragwyddol sy’n golygu na fydd y rhai sy’n ei dderbyn yn wynebu marwolaeth dragwyddol (sef pen draw naturiol pechod yn ôl Rhufeiniaid 6:23).
Sut felly y gallwn ni dderbyn bywyd tragwyddol? Ateb clir y Testament Newydd yw y gallwn dderbyn y rhodd hwn os ydym yn derbyn Iesu Grist trwy ffydd. Dyma grynodeb gofiadwy llythyr cyntaf Ioan ‘Y sawl y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; y sawl nad yw Mab Duw ganddo, nid yw’r bywyd ganddo.’ (1 Ioan 5:11) Ac wrth ystyried hyn, mae’n hyfryd sylweddoli bod y rhodd o fywyd tragwyddol ar gael heddiw i’r Cristion, ac nid yw’n rhywbeth y mae angen disgwyl amdano wedi marwolaeth. Eto mae geiriau Ioan yn gymorth mawr: ‘Pwy bynnag sy’n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo….’ (Ioan 3:36) Sylwer mai yn y presennol y mae Ioan yn sôn am gael bywyd, ac nid rhywbryd yn y dyfodol.
Daeth Iesu, Mab Duw i’r byd a bu farw dros bechod a choncro marwolaeth trwy atgyfodi. Iddo Ef y rhoddwyd yr awdurdod i roi bywyd tragwyddol i eraill. A’r rhai sy’n derbyn bywyd yw’r rhai sy’n ymddiried yng Nghrist ac yn ei adnabod: ‘A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.’ (Ioan 17:3) Golyga hyn os ydym yn gofyn i ni’n hunain oes gen i fywyd tragwyddol, mae’r ateb yn dibynnu ar ydym ni’n adnabod Duw trwy Iesu. Cofiwn nad yw gwybod am Iesu ar ei ben ei hun yn ddigon – mae hyd yn oed y cythreuliaid yn gallu rhoi disgrifiad digon cywir o bwy yw Iesu! (Mathew 8:29) Ond mae’r crediniwr yn un â’i Waredwr ac yn gwybod nad oes ‘dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!’ (Rhufeiniaid 8:39 Beibl.net)
Rhodri
]]>Ymddengys y gair Cristion deirgwaith yn . . . → Read More: Dydd Sul, 16 Medi 2018]]>
Ymddengys y gair Cristion deirgwaith yn y Testament Newydd (Actau 11:26; Actau 26:28; 1 Pedr 4:16). Galwyd dilynwyr Iesu Grist yn “Gristnogion” yn gyntaf yn Antiochia (Actau 11:26) gan fod eu hymddygiad, eu gweithgaredd, a’u llefaru fel Crist. Defnyddiwyd y gair i ddechrau gan bobl Antiochia nad oedd wedi’u hachub fel llysenw i wneud sbort ar y Cristnogion. Ystyr llythrennol y gair yw ‘perthyn i garfan Crist’ neu ‘credwr neu ddilynwr Crist’, sydd yn debyg iawn i ddiffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru.
Yn anffodus dros amser mae’r gair “Cristion” wedi colli llawer iawn o’i arwyddocâd, ac fe’i defnyddir yn aml am bobl sydd ond yn grefyddol, neu’n foesol, ac nid am rywun sy’n dilyn Iesu Grist. Mae llawer o bobl sydd ddim yn credu nac yn ymddiried yn Iesu Grist yn ystyried eu hunain yn Gristnogion am eu bod yn mynd i’r capel, neu am eu bod yn byw mewn gwlad “Gristnogol”. Ond nid yw mynd i’r eglwys/capel, gwasanaethu rhai llai ffodus, na bod yn berson da yn gwneud rhywun yn Gristion. Fel y dywedodd rhywun unwaith “Nid yw mynd i’r eglwys yn gwneud rhywun yn Gristion, yn fwy nag yw mynd i garej yn gwneud rhywun yn gar.” Nid yw bod yn aelod o eglwys, mynd i wasanaethau yn aml, na rhoi i’r eglwys yn eich gwneud yn Gristion.
Mae’r Beibl yn ein dysgu na all gweithredoedd da ein gwneud yn dderbyniol i Dduw. Dywed Titus 3:5 wrthym (Beibl.net) ‘Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy’r Ysbryd Glân.’ Felly Cristion yw rhywun sydd wedi ei eni o’r newydd drwy Dduw (Ioan 3:3; Ioan 3:7; 1 Pedr 1:23). Dywed Effesiaid 2:8 wrthym mai ‘Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw.’ Gwir Gristion yw rhywun sydd wedi edifarhau, ac wedi rhoi ei ffydd a’i ymddiriedaeth yn Iesu Grist yn unig.
Golyga hyn ymddiried ym mherson Iesu Grist, a’r ffaith iddo farw ar y groes i dalu am ein pechodau, cyn atgyfodi ar y trydydd dydd i ddangos ei fuddugoliaeth dros farwolaeth. Dywed Ioan 1:12 wrthym: ‘Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, sef y rhai sy’n credu ynddo, hawl i ddod yn blant Duw.’ Mae gwir Gristion felly yn blentyn i Dduw, ac wedi derbyn bywyd newydd yng Nghrist, ac fe welir hyn yn eu cariad tuag at eraill, a’u hufudd-dod i Air Duw (1 Ioan 2:4; 1 Ioan 2:10).
]]>