Dydd Sul, 26 Mai a 2 Mehefin 2019

‘Molwch yr Arglwydd. Diolchwch i’r Arglwydd, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth’. (Salm 106:1)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i foli’r Arglwydd yn ein gwahanol oedfaon ar draws Bro Aled heddiw. Wrth i ni wneud hynny, cofiwn pwy yw’r Duw yr ydym yn ei addoli – yr un sy’n Dad, yn Fab ac yn Ysbryd Glân sy’n llawn daioni a’i gariad yn ddiddiwedd. Ac oherwydd marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, gallwn brofi’r cariad hwnnw ein hunain, dim ond i ni droi ato Ef ac ymddiried ynddo.

Gan y bydd hi’n wythnos hanner tymor o ddydd Llun ymlaen, dyma gyfle gwych i mi ddymuno’n dda i bawb o blant, ieuenctid a theuluoedd y Fro fydd yn gwneud y daith hir i lawr i Eisteddfod yr Urdd yn y brifddinas. Dwi’n siŵr y bydd nifer fawr o bobl yn eithriadol o falch o’ch llwyddiant beth bynnag fydd yn digwydd yn y rhagbrofion neu ar y llwyfan! Rhywbeth cadarnhaol yw bod yn falch dros rywun arall a gallu llawenhau yn noniau neu lwyddiannau eraill, ond defnyddir y gair balchder mewn ffordd arall yn y Beibl hefyd. Ystyriwch Diarhebion 16:8 sy’n ddywediad Saesneg cyfarwydd: ‘Daw balchder o flaen dinistr, ac ymffrost o flaen cwymp.’ Ac mae’r Testament Newydd yn rhybuddio am falchder hefyd: ‘ “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.” Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw’r amser bydd e’n eich anrhydeddu chi.’ (1 Pedr 5:5-6 Beibl.net)

Natur balchder personol o’r math hwn yw ei fod yn cyd-fynd ag agwedd hunangyfiawn a hunan ddibynnol – y meddylfryd cyffredin lle’r ydym yn tybio bod ein llwyddiannau yn deillio o’n dawn neu’n gwaith caled ein hunain, a’r methiannau yn fai ar bobl eraill. Mae’n eithriadol o anodd i’r person balch allu disgyn ar eu bai a chydnabod eu bod angen help oherwydd bod ganddynt y fath feddwl o’u hunain.

Yn ysbrydol, does dim lle llawer peryclach i fod ’na methu cydnabod ein bod angen cymorth, oherwydd dyna’r union feddylfryd sydd un ai’n diystyru’r Arglwydd yn llwyr, neu’n ei wneud yn was i’n dymuniadau ni. Tybed faint o hyn sydd i’w weld yn ein calonnau ni?

Sut ydym ni felly i fynd i’r afael â balchder yn ein bywydau ein hunain? Mae’r dyfyniad uchod o Pedr yn rhoi awgrym cryf o’r man cychwyn – plygu i awdurdod Duw trwy gydnabod ein heuogrwydd a’n hangen am ei gymorth Ef. Yn ymarferol, golyga hyn ddod mewn ffydd at yr Un sy’n addfwyn ac yn ostyngedig gan blygu iddo fel Achubwr ac Arglwydd. A phan fydd balchder yn codi ei ben eto, gallwn ofyn i’n hunain, os nad ydw i angen help, pam fu rhaid i Iesu farw?

Rhodri

Llais Bro Aled 26.05.19 + 02.06.19

Comments are closed.