Wicipedia:Y Caffi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coffi

Croeso i'r Caffi - y lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg. Mae llefydd defnyddiol yn cynnwys: y Ddesg Gyfeirio, y Ddesg Gymorth, y Tudalen Cymorth iaith a'r negesfwrdd gweinyddiaeth. Ceir rhestr o drafodaethau ar dudalennau sgwrs sy'n disgwyl ymateb yma: Wicipedia:Sgyrsiau cyfoes.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.



Erthyglau bot Wicipobl[golygu cod y dudalen]

Helo pawb! Fi'n wrthi weithio ar brosiect sy'n cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwybodaeth Cymraeg am bobl Cymru ar Wicipedia a Wikidata. Fel rhan o'r prosiect bydd Defnyddiwr:Prosiect Wici Môn yn cydlynu cyfres o ddigwyddiadau efo ysgolion. Fi hefyd yn trefni Hacathon a Cyfieith-a-thon.

Byddaf hefyd yn creu tua mil a hanner o erthyglau stub gan ddefnyddio data Cymraeg o Wikidata, a bydd e'n ddefnyddiol iawn cael adborth cyn i mi gyhoeddi'r erthyglau yma.

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Dyma enghreifftiau o'r batsh cyntaf, sef erthyglau am arlunwyr sydd efo gweithiau celf yn Gasgliad Portreadau Cymru.

Byddaf yn diolchgar am unrhyw adborth cyn i mi lwytho'r batsh o tua 200 o erthyglau. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 10:11, 18 Ionawr 2019 (UTC)

Hia Jason. Sut mae'r categoriau yn cael ei creu? Ydi'n bosib cael categoriau genedigaeth/marwolaeth ac ati? Dwi'n credu bydd diweddaru pob erthygl beth bynnag ar ôl rhedeg y bot, i ychwanegu categoriau mwy perthnasol, DEFAULTSORT a thrwsio ambell beth. Dwi wrthi yn gwneud hynny gyda arlunwyr benywaidd ar hyn o bryd am nad oedd categori cenedlaetholdeb. --Dafyddt (sgwrs) 10:21, 18 Ionawr 2019 (UTC)
Diolch Dafyddt. Mae'r catogoriau yn cael i greu gan defnyddio ffeithiau o Wikidata er mwyn matsio pethau fel galwedigaeth i categoriau perthnasol. Gyda mwy o amser dyle bod modd creu rhai mwy manol, fel categoriau genedigaeth/marwolaeth. Y prif problem yw amser! Mae gyda ni amserlen dynn iawn ar gyfer o prosiect a mae rhaid i mi cyhoeddu 1500 erthygl erbyn canol mis Mawrth. Mi wna'i weld beth sy'n bosib cyn cyhoeddi'r erthyglau. Jason.nlw (sgwrs) 08:44, 21 Ionawr 2019 (UTC)
Dafyddt Helo Dafydd, dim ond update bach - gyda'r 200 o erthyglau cyntaf fi wedi llwyddo ychwanegu genedigaeth/marwolaeth. Ar gyfer y prif batsh o 1000 o erthyglau sydd i ddod, dw'i wedi llwyddo ychwanegu categoriau galwedigaeth yn ol cenedlaetholdeb i rhan fwyaf o'r erthyglau. Gobeithio bydd hyn yn llehai unrhyw gwaith trwsio sydd angen. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 14:37, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Gwych iawn wir! Rhai pethau'n dod i'r meddwl:
1. Cofia bod angen 2 baragraff, felly defnyddia'r frawddeg sy'n cyflwyno'r oriel, gyda colon ar y diwedd, nid hanner-colon ::h.y. Dyma ddetholiad o waith William Daniell:
2. Fedri di roi rhestr i ni o'r categoriau - mae gweld rhai coch yn anobeithio dyn!
3. Hefyd, cofia ychwanegu {{Rheoli awdurdod}} hefyd ar bob un?
4. Mae orphans ar enwiki yn cael eu tagio, ac yn aml yn cael eu dileu. felly, byddai'n wych pe paet yn medru rhoi dolen o un person i berson arall. Mi wnes i wneud hyn efo rhestr o wd o bobl o'r un genhedlaeth, ond doedd rhai ddim am i hwnnw fod yn hir. Neu beth am ddefnyddio 'Gweler hefyd' a rhestru dau neu dri o'r un genre?
Edrychaf ymlaen! Cell Danwydd (sgwrs) 13:12, 18 Ionawr 2019 (UTC)
Diolch Cell Danwydd am yr awgrymiadai
1. Dim problem
2. Dw'i ddim am atodi unrhyw catagoriau sydd ddim yn bodoli - ond hapus i rhannu'r data
3. Diolch am atgoffa fi am hyn. Dim problem.
4. Awgrymiadau da. bydd rhaid gweld faint o amser sydd efo fi. Jason.nlw (sgwrs) 08:44, 21 Ionawr 2019 (UTC)
Bril! Gwych Jason! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:35, 18 Ionawr 2019 (UTC)
Gwych iawn. Mae erthyglau Wicidata yn fordd wych o ddechrau erthyglau, ond fel rhan o'r prosiect byddwn yn awgrymu bod pobl yn cael eu hannog i lenwi nhw gyda gwybodaeth ychwanegol. Er enghraifft y peth mwyaf nodweddiadol am Hubert von Herkomer i'w nodi mewn erthygl Cymraeg oedd mai ef oedd yn gyfrifol am gynllunio Cleddyf Mawr yr Orsedd a gwisg yr Archdderwydd, pethau mae'n rhaid eu hychwanegu trwy law. Oes modd rhoi'r erthyglau newydd mewn categori arbennig fel eu bod yn hawdd eu canfod er mwyn eu gwella? AlwynapHuw (sgwrs) 17:24, 18 Ionawr 2019 (UTC)
Diolch AlwynapHuw. Fi'n cytuno’n llwyr. Bydd yr holl erthyglau yn ymddangos yn y categori yma Jason.nlw (sgwrs) 08:44, 21 Ionawr 2019 (UTC)
Jason.nlw Dau bwynt bach. 1) Dim am newid y 3 enghraifft cyn iddynt beidio â bod yn enghreifftiau yn yr edefyn hwn. Oes modd rhoi gwybod pryd rwyt yn hapus iddynt gael eu golygu? 2) Rwy'n sgwennu erthyglau yn bur aml am bobl a chysylltiadau Cymreig, oes eisiau rhoi categori "WiciPobl" arnynt yn ystod cyfnod y prosiect? AlwynapHuw (sgwrs) 01:35, 22 Ionawr 2019 (UTC)
Pwyntiau da Alwyn! Pwrpas 'Eginyn' ar erthygl oedd er mwyn grwpio erthygla bychan gyda'i gilydd, ond yn anffodus mae nhw ar bron pob erthygl ar cywici, ac yn gwbwl dibwrpas erbyn hyn. Ond, mae destubathons (dad-egino!) yn digwydd ar y wicis mawr - ymgyrchoedd i gael gwared o'r diawched, a gallem ninnau ddilyn Jason, yn ychwanegu gwybodaeth a rhoi gogwydd Gymreig. Efallai y gall rai o wirfoddolwyr y LLyfrgell Gen helpu yn hyn o beth, Jason? Fy hun, mae rhoi gwybodlen Wicidata / Cyfoesi erthyglau'n Flaenoriaeth Rhif Un! Daw popeth mewn amser! fel dywedodd Waldo, gwas yw amser, nid meistr. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:16, 18 Ionawr 2019 (UTC)

Dau bwynt Jason, mae llawer o'r eitemau ar Wicidata'n cynnwys dyddiad geni / marw - mae'r wybodaeth am y tri a grewyd yn barod (Hubert von Herkomer, Edwin Henry Landseer a William Daniell) ar Wicidata ond nid yn yr erthygl. Fedri di tynnu nhw fewn i'r gweddill?

Yn ail, os mai llond llaw o erthyglau ar ferched sydd gen ti, yna mae angen creu yr un faint o erthyglau ar ferched a'r nifer yr erthyglau ar ddynion, er mwyn cadw'r ddesgil yn wastad. Cafwyd trafodaeth ar hyn rai misoedd yn ol. Unrhyw awgrymiadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:14, 21 Ionawr 2019 (UTC)

@Jason.nlw: Er gwybodaeth, mae gennym ni 1,175 yn fwy o erthyglau am ferched nag ar ddynion. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:26, 22 Ionawr 2019 (UTC)
Jason: newydd weld dy fod wedi creu 200 o erthyglau. Mae na rai pwyntiau (uchod) wedi'u gwneud, a dwyt ti heb eu hateb. Gofynais sut wyt ti am gadw'r balans - angen creu yr un faint o erthyglau ar ferched a'r nifer yr erthyglau ar ddynion. A gofynais, Unrhyw awgrymiadau? Mae'n bolisi gennym ni, sydd wedi ei drafod a'i gytuno yn y caffi ers dros flwyddyn. Yn ail, mae pob un o'r 200 uchod i'w gweld yn ddwy frawddeg gwta, gydag oriel, nid dau baragraff, sydd eto'n mynd yn groes i'r tuedd diweddar o fynd am ddyfnder nid niferoedd. Mae na lawer mwy ar Wicidata, a mannau eraill y gellid eu tynnu i fewn yn otomatig i'r erthyglau. Mae'r dair enghraifft a roddaist ddwywaith maint yr erthygau dw i newydd ei hagor (llythyren 'R: Richard Bernard Godfrey...), ac felly nid ydynt yn nodweddiadol o weddill yr erthyglau. Yn dryddydd, dydy hi ddim yn arferiad ar Wicipedia i ddefnyddio termau anghymreig fel: 'Gwerthwr printiau ac ysgythrwr o Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon oedd... neu 'Cafodd ei eni ym Mhrydain Fawr. Arddull Seisnig Wicidata a enwici yw hon, nid arddull Wicipedia Cymraeg. Yn olaf, Saeson yw bron y cwbwl o'r 200 a uwchlwythwyd. Pa linyn mesur a gymerwyd i ddewid y bobl yma? Roeddwn i dan yr argraff mai pobl a oedd ag erthygl ar y Bywgraffiadur oedden nhw?
Hyd nes bod y 200 erthygl yma wedi eu gwella, eu ehangu a'u cywiro, fy marn i ydy na ddylid ychwanegu rhagor. Mae dyfnder a gwybodaeth gyfoethog yn llawer pwysicach na niferoedd erbyn hyn, fel y dywedodd Lea wrth gloi Hacio'r iaith y llynedd a sawl un yn y caffi ers tro byd. Byddai'n braf petaet yn trafod gyda chymuned cywici ar gychwyn y prosiect y tro nesaf, nid ychydig ddyddiau cyn uwchlwytho'r erthyglau, er mwyn i ni dy gynorthwyo. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:10, 6 Chwefror 2019 (UTC)
Diolch Aled! Cytuno! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:31, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Dyma'r cod, fel y gweli ar ddalen y wybodlen:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | nationality = {{banergwlad|'''Ychwanegu'r wlad'''}} | dateformat = dmy}}
Roedd suppressfields yn bodoli yn y tri enghraifft, ond am ryw resm rwyt wedi'i dynnu o'r 200. Mae ychwanegu 'banergwlad' yn dileu / posibilrwydd o jac yr undeb yn cael ei roi am Gymro, y tricoleur am Lydawr ayb.
Fel y dywed y wybodlen, Jason - a'n polisi o ran gwybodlenni WD (gweler: Cymorth:Wicidata), mae angen cyfieithu'r hyn sydd ar Wicidata, pob tro. Llywelyn2000 (sgwrs)



Llywelyn2000. Diolch yn fawr am eich sylwadau. Mi wna'i cheisio gwneud fy ngorau i'w ymateb
1. Erthyglau ar ferched - Mi wnaethon ni trafod hyn ym Mangor. Briff y prosiect yw creu erthyglau am yr arlunwyr, ar bobol yn ein Casgliad Portreadau. Er mwyn cyrraedd y targed gan y Llywodraeth fi hefyd am greu nifer o erthyglau i bobl yn y Bywgraffiadur - felly, yn anffodus, yn yr achos yma does gen i ddim rheolaeth dros y nifer o erthyglau am ferched. Mae'n wych bod ni'n annog pobol i greu erthyglau am fenywod, ond ambell waith dydi o ddim yn bosib, oherwydd bod y wybodaeth/data ddim ar gael, a bydd y broblem yma ond yn tyfu fel mae'r nifer o erthyglau yn mynd lan. Dyma trafodaeth y cymuned ar rhan cyfarftaledd rhyw. Pawb wedi cytuno, bod e ddim yn bosib i ddylyn yr argymell yma pob tro. Felly dydw i ddim yn gweld hyn fel problem fawr yn yr achos yma.
2. Hyd yr erthyglau - Yn yr adborth mi nes ti awgrymu bod digon o destun yn yr erthyglau, trwy gynnwys y frawddeg sydd yn cyflwyno'r Oriel. Does neb arall wedi codi hyn fel problem felly mi wnes i fwrw ymlaen i greu'r erthyglau. Mae'r tair enghraifft yn cynnwys brawddeg am yrfa'r person. Mae 40 allan o’r 200 erthygl yn cynnwys y frawddeg yma felly, fi'n cytuno bydd e wedi bod yn well i rannu enghraifft o erthygl heb y frawddeg - mi wnes i jyst dewis i dair erthygl gyntaf ar fy rhestr. Efo'r batch nesaf mi wna'i sicrhau bod gen i enghreifftiau sydd yn cynrychioli'r holl erthyglau.
3. Arddull - Fel ti'n gwybod dydw i ddim yn arbenigwr yn arddull yr iaith Cymraeg (fel siaradwr ail iaith). Dyna pam nes i gymrid adborth gan gydweithwyr cyn cyhoeddi'r enghreifftiau a gofyn am adborth y gymuned ar ôl cyhoeddir enghreifftiau. Does neb wedi codi hyn fel problem. Fi'n croesawi unrhyw awgrymiadau am sut i wella'r arddull yn y dyfodol.
4. Saeson yw bron y cwbwl - Fi ddim yn gweld bod hyn yn perthnasol o gwbl. Roedd y batsh yma yn cynnwys pobol sydd wedi creu gweithiau celf yn ein gasgliad Portreadau. Bydd y batsh nesaf yn cynnwys y pobol yn y lluniau - 1200 o erthyglau yn cynnwys 500 Cymro, gyda llawer o'r gwybodaeth yn dod o'r Bywgraffiadur Cymreig. Ond mae hawl gan pobol creu erthyglau am pobol nodiedig o unrhyw wlad.
5. Trafod gyda chymuned - Wrth gwrs, mae'n bwysig i drafod creu erthyglau efo'r gymuned a rydi'n ni wastad wedi gwneud hynnu. Mae'r prosiect yma wedi dod i ni ar fur rhybudd, gyda'r gwaith ar erthyglau ddim yn cychwyn tan doc cyn Nadolig, Dw'i wedi gwneud fy ngorau i rannu enghreifftiau cyn gynted â phosib er mwyn gadael amser i drafod efo'r gymuned. Ar y cyfan rhoedd yr adborth ar yr erthyglau yma yn positif:
Cell Danwydd - "Gwych iawn wir!"
Llywelyn2000 - "Bril! Gwych Jason!"
AlwynapHuw - "Gwych iawn. Mae erthyglau Wicidata yn fordd wych o ddechrau erthyglau"
Felly mae'r sylwadau uchod yn eithaf annisgwyl, a mae'n rhwystredig, yn enwedig ar rhan yr ardull, bod nhw'n dod nawr i nid cyn cyhoeddi'r batsh.
Fi'n hapus i drafod fyrdd allwn ni gwella'r iaith y 200 o erthyglau, ond does gen i ddim o’r amser i chwilio am ragor o ddata. Ond fel mae Alwyn wedi dweud, mae'r erthyglau yma yn ffordd dda o gyflwyno pwnc ac annog pobl i ychwanegu mwy. Fi'n gobeithio bydd modd ofyn i wirfoddolwyr ychwanegu mwy yn y dyfodol, er enghraifft. Ond ar yr un pryd bydd rhaid i mi fwrw ymlaen efo casglu adborth ar y batsh nesaf, er mwyn cadw'r prosiect yn symud ymlaen. Mae targedau'r prosiect yn gofyn i mi gyhoeddi’r holl erthyglau o fewn y 5 wythnos nesaf felly byddaf yn anelu at gyflawni hynny. Jason.nlw (sgwrs) 12:27, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Yn gyffredinol: pe baet wedi trafod efo'r gymuned yn gynt, gallasem fod wedi awgrymu hyn yn gynt. Yn ail, mae safon a chadw at ein rheolau a chanllawiau'n bwysicach na chyrraedd targedau'r Llywodraeth.
Mi atebaf gan ddilyn y drefn uchod:
1. Erthyglau ar ferched - trafodom ym Mangor y ffaith mod i wedi codi'r mater o bwysigrwydd cadw'r balans yn y Caffi, a dywedaist dy fod wedi'i weld. Soniais y gallwn helpu efo AWB gyda'r categoriau. Mater bach fyddai creu nifer o erthyglau ar ferched i gadw'r balans yma. Yn sicr does gen i ddim mo'r amser i wneud hynny. Mae'r 'wybodaeth/data ar gael' - gelli greu 1,000 o erthyglau swmpus allan o WD, er mwyn cadw'r balans e.e. gyda'r prosiect MenywodMewnCoch'. Beth am fynd ati wedi i'r prosiect ddod i ben, fel bod y balans yn ei ol, dyweder o fewn deufis i ddiwedd y prosiect? Gallwn dderbyn cyfnod byr fel hyn.
Os nad oes amser efo ti i gwneud yr erthyglau am menywod, pam wyt ti'n meddwl bydd amser efo fi? Wrth edrych ar y trafodaeth am hyn, fi'n ddim yn gweld bod angen i mi gwneud hyn. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
2. Hyd yr erthyglau - mae gosod tair enghraifft (8 - 10 fel arfer) o esiamplau teg yn hanfodol, o osod mwy yn yr enghreifftiau na sydd yn y swp dilynnol, mae na elfen o gamarwain. Awgrym: gelli greu brawddeg am anrhydeddau a dderbyniwyd, gyda llif yn cael eu tynnu i fewn. Dyma wnes i gydag artistiaid o wahanol wledydd tua dwy flynedd yn ol. Gellir gwneud yr un peth gydag elfennau eraill, os ydynt yn bodoli ee coleg, gwaith, cysylltir gyda. Dywedi: does gen i ddim o’r amser i chwilio am ragor o ddata - awgrymaf dy fod yn gofyn am ymestyniad o'r amser a roddwyd. Mae erthyglau o safon yn bwysicach na channoedd o bytiau dwy-frawddeg yn fy marn i.
Dw'i wedi esbonio'r sefyllfa efo'r data. Mae'n posib bydd rhestr o anrhydeddau a dderbyniwyd am falle 10% o'r pobol, a falle gwybodaeth am Teulu efo tua 5% ond mae'n mynd yn anodd iawn i awtomeiddio erthyglau mewn batsh efo data sydd yn hollol gwahanol ar gyfer gwahanol pobol. Fi wedi gwneud fy gorau i casglu gymaint o data sydd yn posib. Does dim modd cael ystyniad ar y prosiect oherwydd bod rhaid cwnlhau yn y blwyddyn arianol yma - wedi esbonio hyn hefyd. Gyda llaw, mae hyd yr erthyglau yn tebyg iawn i'r rhai nes ti botio ar llyfrau yd'r cymuned wedi cwyno am safon yr erthyglau yma? Eto, mae neb arall wedi cwyno am hyd yr erthyglau Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
3. Arddull - doeddwn i ddim yn son am arddull y Gymraeg, Jason arddull arferol cywici parthed y defnydd o dermau gwleidyddol / hen ffasiwn, son roeddwn i am dermau gormesol a wthiwyd arnom fel cenedl. Rhoddais ddwy esiampl: Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon oedd... ac ym Mhrydain Fawr. Mae Alwyn eisioes wedi dechrau cywiro'r rhain gyda llaw; ond er parch, gelli di wneud hynny efo Find/Replace.
Fi ddim yn gweld problem efo'r defnydd o 'Prydain Fawr' os nad yw'r data yn enwi Lloegr/Cymru/Alban ayyb. Ond efo'r erthyglau sydd i dod dw'i wedi ceisio defnyddio man geni er mwyn adnabod yr union wlad. Ond efo 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon' er engraifft - dyna oedd teitle swyddogol y genedl yn yr adeg roedd y person yn byw, felly mae'n ffaith? Ambell waith, wrth edrych ar erthygl unigol bydd geiriad arall yn dod yn alwg, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r rhau sydd wedi gwella'r erthyglau yn barod. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
4. Saeson yw bron y cwbwl - ti di methu'r pwynt. Dyma ofynais: Yn olaf, Saeson yw bron y cwbwl o'r 200 a uwchlwythwyd. Pa linyn mesur a gymerwyd i ddewid y bobl yma? Gofyn cwestiwn wnes i, er mwyn gweld a oes cydbwysedd o ran cenedl. Gwnes hyn, gan i ti gyflwyno'r prosiect fel: Fi'n wrthi weithio ar brosiect sy'n cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwybodaeth Cymraeg am bobl Cymru ar Wicipedia a Wikidata. (gweler cyflwyniad i'r sgwrs yma). Cymerias felly mai srtistiaid o Gymru oeddent. Efallai y byddai rhoi cyflwyniad llawnach, a hynny cyn cychwyn ar y gwaith, nid tua'r diwedd, wedi bod yn well.
Fi'n cytuno galla'i wedi rhannu rhagor o gwybodaeth am y prosiect efo'r cymuned, a mi wna'i ceisio wneud yn y dyfodol. OND mi nes i esbonio yn union beth oedd y prosiect yn golygu yn ein sgwrs ffon tua mis yn ôl.Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
5. Trafod gyda chymuned - Fy sylw bras, cyffredinol, cyntaf oedd hynny. Pan ddaeth yr erthyglau, gallwn fynd i fwy o ddyfnder.
Mae tri o'r golygyddion eisioes wedi gwneud rhai golygiaidau er mwyn i ti newid dy gronfa ddata, a pheth doeth fyddai cytuno efo'r newidiadau yma: e.e. Hwn gan Cymrodor a [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Anthony_Cardon&curid=234578&diff=7454032&oldid=7448505 hwn gan Alwyn.
wedi ateb hyn yn fy ymateb i bwynt 3.Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Ti'n iawn nad oes 'polisi', ond mae yma argymhelliad, ac mae hefyd yn beth da - hyd y gallom. Gofyn a oedd posib ei gyflawni oedd yr unig gwestiwn godwyd yn ei erbyn; yn y cyswllt hwn, mae'n hollol bosib creu 1,00 arall ar fenwywod (rhai helaeth!). Ond dyma'r cwestiwn pwysicaf: sut wyt ti'n mynd i gyfiawnhau i cywici am gyfnod o flwyddyn fod yn gyfartal, ond nad yw bellach oherwydd prosiect Llywodraeth Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol? Byddai cadw'r glorian yn wastad, yn ddymunol, yn beth da.


wedi ateb hyn yn fy ymateb i bwynt 1.Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Dwyt ti ddim wedi crybwyll y sylw canlynol wnes i (uchod): fy awgrym i ti ddefnyddio'r Wybodlen a nodais uchod (gyda 'surpressfield' a 'baner' ynddo). Mae'r ddolen a rois i ti ar ddalen 'Gymorth' ac felly'n bolisi gweithredol - mae angen cyfieithu'r Gwybodlenni ar ol eu creu. Dyna sydd wedi digwydd hyd yma efo cannoedd ohonyn nhw gan ein golygyddion, ac er parch iddyn nhw, dylid dilyn y drefn hon. Ni ddylid gosod gwybodlen os y bydd Saesneg sywleddol yn ymddangos.
Mae cynnwys yr Infobox heb 'surpressfield' yn gamgymeriad ar fy rhan i. Mi wna'i ceisio datrus efo AWB. Fi wedi ceisio gwneud yn siwr bod yr holl data sydd yn y gwybodleni wedi eu Cyfieithu. Fi wedi gwneud 8000 o olygiadau i Wikidata ers Nadolig er mwyn sicrhau hyn. Felly wyt ti'n gweld maesydd Saesneg, rowch gwybod a mi wna'i ceisio datrus. 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Rwyt ti'n synnu fod y sylwadau'n dod wedi i ti gyhoeddi'r swp, nid cynt. Mae hynny oherwydd fod y swp o 200 yn llawer llai (a gwahanol, fel nodais uchod) na'r dair enghriafft a roddaist, ac a oedd i fod yn esiamplau teg.
Ond ti wedi ymateb sawl gwaith i'r erthyglau heb swn am haner y pethau tin codi nawr, er bod nhw'n hollol amlwg o'r engreifftiau e.e Hyd yr erthyglau a Arddull. Dyna beth oedd fy sylw. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Un wers sydd yma, y bydd yn rhaid gweithredu arno ar unwaith: ein bod yn creu Polisiau am y materion yma, er mwyn i ni symud ymlaen yn hytrach nag yn ol. Awgrymaf hefyd fod unrhyw brosiectau'n cael eu rhoi o flaen y gymuned cyn gynted a'u bod wedi'u derbyn, gydag union eiriad y fanyleb. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:58, 7 Chwefror 2019
Hapus i rhannu manylion prosiectau. Ar rhan polisiau - os mae'r cymuned yn meddwl bod angen rhagor o polisiau, felly mi wna;i edrych ymlaen i cymrud rhan yn unrhyw trafodaeth er mwyn i ni gyd cytunoar y ffordd gorau i symyd ymlaen. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Saib

Jason, cyfra i ddeg cyn ymateb i hwn. Ti'n dechrau mynd ychydig yn ymosodol ar y person yn hytrach na'r ffeithiau, er mwyn datrus hyn! Cadwa hefyd at ein dull arferol yma'n y caffi, y drefn o ddefnyddio un ident i bob cyfraniad, neu mi eith y sgwrs ar chwal, yn dameidiog, os wyt yn torri llif y sgwrs. Dyna'r drefn arferol; ac o drefn y daw polisi gweithredol. Mae na ambell un, weithiau'n gwneud hyn, ond nid yw'n ymarfer da.

1. Fe ddywedi fi'n ddim yn gweld bod angen i mi gwneud hyn (cadw cydbwysedd rhyw): yn fy marn i, Jason, mae pob golygydd cywici yn gweld yr angen i gadw cydbwysedd, a dylai parchur cydbwysedd hwn fod yn rhan o bob brosiect. Pam ddyli di gadw'r cyfbwysedd? Gan mai ti sy'n torri / colli'r cydbwysedd, ac yn creu gender gap. Dy broblem di ydy hon Jason. Byddai rhagweld hyn, wedi arbed trafferthion yr awr olaf. Awgrymais dir canol - cyfnod o ddeufis i greu nifer o erthyglau ar fenywod, ond ti'n gwrthod hynny. Gofynaf i ti ailystyried.

2. sefyllfa efo'r data - awgrym caredig oedd gen i gan i hynny weithio ar dros 7,000 o erthyglau ar fenywod tua dwy flynedd yn ol. Fedra i ddim gweld sut y byddai'r sefyllfa'n wahanol heddiw. Ar gyfartaledd roedd o leiaf un neu ddwy frawddeg yn ychwanegol drwy ddefnyddio'r dull yma.

3. Living with Vampires - mae'n cynnwys tair brawddeg - un yn fwy na'r hyn ti am ei roi, ac fe'i chrewyd yn 29 Awst 2014!!!! Mae llawer o ddwr wedi mynd dan y bont ers hynny, a no-we faswn i'n argymell erthygl fel hon heddiw!!! Jason, efallai nad wyt yn ymwybodol ohon, ond https://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Y_Caffi#Erthyglau_safonol mae'r sgwrs diweddar yma yn nodi pwysigrwydd o hyd yr erthyglau]: ...ein harferiad, ers sawl blwyddyn bellach, fod rhai cael o leiaf dwy baragraff.

4. Ein harferiad hefyd, yw defnyddio enw arferol gwlad, nid yr enw a ddefnyddiwyd yn swyddogol arni yn yr oes honno - yn enwedig os yw'r enw'n un gwleidyddol. Er enghraifft, dw i'n cofion trafodaeth ar hyn, rhwng Anatiomaros a minnau ddeg mlynedd yn ol. A dweud y gwir, dw i ddim yn cofio gweld neb yn defnyddio Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon erioed! A gwledydd Prydain mae'r rhan fwyaf o olygyddion yn ei ddefnyddio ers blynyddoedd. Os mai nod dy briosiect yw newid hyn, wnei di roi dy resymau ar wahan, er mwyn i ni ei drafod? Efallai mai'r broblem yn y bon yw nad wyt yn gyfarwydd iawn a'n canllawiau, ein hymarfer da. Ti'n gofyn dyna oedd teitle swyddogol y genedl yn yr adeg roedd y person yn byw, felly mae'n ffaith? ydy, mae'n ffaith! Mae'n ffaith hefyd y gelwir y darn hwnnw o dir, lle ganed yr arlunydd yn "Lloegr"; mae hynny hefyd yn ffaith. O'r ddwy ffaith, yr un a ddefnyddiwn ni yma ar cywici yw'r ail.

5. Diolch am ddweud cytuno galla'i wedi rhannu rhagor o gwybodaeth am y prosiect efo'r cymuned. Byddai hynny'n beth da.

Diolch hefyd am ddweud mai cangymeriad oedd peidio a defnyddio 'surpressfield'; yr unig reswm dwi'n cynnig y pethau yma ydy gan y byddai'n well o ran yr erthygl. Paid a chymryd awgrymiadau fel hyn yn bersonol mewn unrhyw fodd! Dw i wedi dileu ambell erthygl dwy frawddeg a luniwyd gan Brosiect Wici Mon ac eraill a buaswn yn rhagrithiol iawn pe na bawn yn tynnu dy sylw at hyn. Os gelli weld dy ffordd yn glir i dderbyn fy nghyfaddawd, yna gallaf gefnogi uwchlwytho'r gweddill. Cofion cynnes - Llywelyn2000 (sgwrs) 17:26, 7 Chwefror 2019 (UTC)

Wedi bod yn proud iawn o'r 'gender balance' ar y Wicipedia Cymraeg!!! Angen i Wiciprosiectau parchu hyn! @Cell Danwydd: Lot o waith ar erthyglau fel hwn: John Murphy! Twm Twm yr Hwntw (sgwrs) 09:25, 8 Chwefror 2019 (UTC)
Diolch am y ping! Wel am drafodaeth hir! Dim amser i ddarllen y manylion heddiw, ond yn siomedig gyda'r 'erthyglau' hyd yma: byddwn wedi disgwyl erthyglau tebyg neu well na'r dair enghraifft a roddwyd, ond yn falch fod Jason yn dal i weithio arnyn nhw, wrth i mi deipio. Mae angen cadw'r glorian yn wastad o ran cydraddoldeb y ddau ryw, rywsut, neu mi fydd Wicipedia Cymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol yn edrych fel ffylied, ac mae'r peth yn anheg hefyd. Oes na ateb? Dwn i ddim! ON Mae gen i 160 o erthyglau ar lysiau'r afu i ddod (diolch i Duncan Brown a'i griw), ond mi fydd pob un yn dair paragraff, gobeithio, ac wedi'u hysgrifennu a llaw! Cell Danwydd (sgwrs) 11:30, 8 Chwefror 2019 (UTC)
@Llywelyn2000, Jason.nlw: Does dim angen ffrae. Mae'r egin erthyglau mae Jason wedi creu yn ddefnyddiol, cyn belled nad ydym yn eu gadael fel egin erthyglau. Echnos mi lywyddais "gwella" hanner dwsin o'r erthyglau, mewn dim o beth trwy ychwanegu paragraff o adran "cefndir" erthyglau o ieithoedd eraill trwy gywiro cyfieithiadau Google translate (Saesneg a Ffrangeg yn bennaf); ee Anthony Cardon, Abraham Blooteling, Alfred Brothers. O fewn deufis mi allwn wneud yr un peth efo'r rhan fwyaf o'r 200 erthygl creodd Jason ddechrau'r wythnos. Os oes hanner dwsin ohonom yn ymrwymo i fod yn rhan o'r prosiect bydd y 200 yn erthyglau dechau o fewn dim. Yr unig broblem sydd gennyf i ydy gôr ddefnyddio wicidata i greu miloedd o erthyglau awtomatig fel bod mwy na all yr ychydig ohonom sydd wrthi ymdopi a nhw. Un ffordd o ddelio efo'r broblem, o bosib, byddid i Jason cynnal dosbarth i ddangos i ni gyd sut i greu erthyglau tebyg gallem wella yn ôl ein diddordebau a'n amserlen ein hunain. AlwynapHuw (sgwrs) 12:05, 8 Chwefror 2019 (UTC)
Diolch yn fawr iawn AlwynapHuw, dw'i wir yn gwerthfawrogi'r holl waeth ti wedi gwneud hyd yma i wella'r erthyglau yma. Dw'i wedi gwneud nifer o welliannau bach i'r cyfan, ac wedi creu tudalen prosiect er mwyn i ni gyd cydweithio yn well, (gwybodaeth isod) felly dim ond gair i ddweud, byddaf yn hapus i gynnal hyfforddiant ar ran defnyddio Wikidata i gasglu data i greu/gwella erthyglau. Rhywbeth i ni drafod yn y cyfarfod Grŵp Defnyddiwr nesaf falle. Jason.nlw (sgwrs) 15:37, 8 Chwefror 2019 (UTC)


Diweddariad[golygu cod y dudalen]

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb:@DafyddTudur, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb. Erbyn hyn dw'i wedi cyhoeddi 200 o erthyglau am arlunwyr sydd yn rhan o'n gasgliad Portreadau. Fi hefyd wedi crei tudalen prosiect WiciPobl er mwyn rhannu rhagor o gwybodaeth - ymddiheuriadau bod hyn bach yn araf yn cyrraedd.

Ers cyhoeddi dw'i wedi derbyn rhai sylwadau ychwanegol ac felly wedi gwneud rhai newidiadau i'r erthyglau.

  • Wedi cynnwys categoriau dyddiad Geni/Marw
  • Wedi cywiro'r gwybodlen i'r un cywir
  • Wedi newid Prydain Fawr i Lloegr/Cymru/Alban heblaw am lond llaw ble nad oes tystiolaeth gadarn o ba wlad roedd person yn perthyn
  • Wedi ychwanegi brawddeg i pob un, i nodi bod gweithiau celf gan y pobol yn archif y Llyfrgell Genedlaethol, a'r National Portrait Gallery

Dyma rai enghreifftiai:

Felly, hoffwn holi am eich adborth eto er mwyn i mi gael cadarnhad neu beidio bod yr erthyglau yn cyrraedd safon digon dda. Mae'n bwysig i fi, ar Lyfrgell Genedlaethol bod y gymuned yn hapus efo ein cyfraniadau, felly rwy’n croesawi unrhyw sylw. Rwy’n gweithio ar ail rediad o erthyglau (tua 1200) a bydd eich adrodd yma yn ddefnyddiol iawn ar ran gwneud yn siŵr bod pob erthygl yn cyrraedd y safon gytunedig. Byddaf, wrth gwrs yn gofyn am adborth eto cyn cyhoeddi unrhyw erthyglau bellach. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:37, 8 Chwefror 2019 (UTC)

Sylwadau

Bydd e'n ddefnyddiol iawn os allwch chi nodi os ydych chi'n hapus efo'r erthyglau neu beidio gan nodi eich rhesymau. Diolch am eich amser! Jason.nlw (sgwrs) 15:37, 8 Chwefror 2019 (UTC)

Wedi symud William Owen (arlynudd) i William Owen (arlunydd). Deb (sgwrs) 20:13, 8 Chwefror 2019 (UTC)
Gwych iawn Jason! Mae pethe'n symud yn eu blaenau'n dda! Bydd tua 2000 o erthyglau byr ar ferched yn cael eu creu yn y dyddiau nesaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 9 Chwefror 2019 (UTC)
Diolch yn fawr Deb! Jason.nlw (sgwrs) 18:19, 11 Chwefror 2019 (UTC)

Prosiect Wicibobl[golygu cod y dudalen]

Pan fo cyfranwyr yn cyfranu bywgraffiadau wrth law i brosiect Wicipobl, neu wedi i Wicibobl dod i ben, gai ofyn yn garedig i chwi eu hychwanegu i adran "Pobl Llanbethma" ar erthygl "Llanbethma" er mwyn sicrhau nad ydynt yn erthyglau amddifad ac er mwyn ehangu'r erthyglau cymunedau? ee Llansanffraid Glan Conwy - Pobl o Lan Conwy AlwynapHuw (sgwrs) AlwynapHuw (sgwrs) 04:44, 16 Chwefror 2019 (UTC)

Data'r Bywgraffiadur[golygu cod y dudalen]

@Jason.nlw:@Llywelyn2000:Hoffwn erfyn peidio creu erthyglau "data" o'r Bywgraffiadur. Mae'n bwysig bod modd i ymchwilwyr canfod gwybodaeth unigryw, o wahanol ffynonellau er mwyn creu lle ar y we i'r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae arddull a rheolau gwahanol Wicipedia a'r Bywgraffiadur yn gyd weithio i greu erthyglau "gwahanol" o ran cynnwys ac arddull. Rwyf am i hynny parhau. I gyflawni anghenion y prosiect be am chwilio am ddata o'r ODNB, Who was Who, Bywgraffiadur Awstralia Bywgraffiadur Canada Bywgraffiad Seland Newydd ac ati yn hytrach nag ail chwydu gwael y'r hyn sydd eisoes ar gael yn y Gymraeg yn y Bywgraffiadur! AlwynapHuw (sgwrs) 04:09, 18 Chwefror 2019 (UTC)

Dau erthygl Cymraeg wedi eu hysbrydoli gan Bywgraffiadur Awstralia sydd ddim ar gael yn y Bywgraffiadur Cymreig na'r Wikipedia Saesneg Bryn Newton-John a Margaret Gordon mae gwythiennau i'w cloddio tu allan i'r maesydd hawdd ac amlwg! AlwynapHuw (sgwrs) 04:50, 18 Chwefror 2019 (UTC)
@AlwynapHuw: Helo Alwyn. Diolch yn fawr am y sylwadau. Fi'n cytuno bod angen arddull gwahanol ar Wicipedia a'r Bywgraffiadur, ac wrth gwrs efo defnyddio data, mae 'na berig bod dim 'arddull' o gwbl! Ond ar yr un pryd dwi'n credu bod e'n bwysig bod erthyglau Wici ar gael am bobol yn y bywgraffiadur oherwydd bod y Bywgraffiadur ddim yn agored, ac yn eistedd tu allan i'r rhwydwaith cysylltiedig o erthyglau Wicipedia Cymraeg. Mae creu tua 600 o erthyglau am bobol y bywgraffiadur wedi bod yn darged ar gyfer y prosiect o'r cychwyn, ac felly, yn anffodus mae'n rhy hwyr yn y dydd i ddechrau adeiladu erthyglau efo data arall. Mae'r data cychwynnol wedi cael eu prosesi er mwyn adrodd ar ffeithiau megis, galwedigaeth, teulu, lle geni ayyb, ond nawr, er mwyn ceisio codi'r safon, ni'n wrthi ychwanegu brawddeg neu ddwy ar law ar gyfer bod un, sydd yn adrodd ar gyflawniadau allweddol y person. Yn syml, bydd y brawddegau yn esbonio pam bod person yn bwysig - ac mae hyn yn un beth mae'n anodd iawn gwneud efo data yn unig.
Fi'n gobeithio bydd y gwaith yma yn lleihau'ch pryderon braidd , ond mi wna'i 'pingo' pawb eto unwaith bydd llond llaw o enghreifftiau ar gael. Fel mae Robin wedi awgrymi does gan y Llyfrgell, y Llywodraeth neu unrhyw un arall rheolaeth dros Wicipedia. Os nad yw'r gymuned yn hapus efo safon y cynnwys, yna bydd e ddim yn cael i gyhoeddi, ond byddaf yn gwneud fy gorau i wrando ar adborth a gwneud gwelliannau o fewn yr amserlen, er mwyn cyflawni'r gwaith. Diolch, a cofion gorau Jason.nlw (sgwrs) 12:16, 20 Chwefror 2019 (UTC)

Erthyglau am Gwleidyddion[golygu cod y dudalen]

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb:@DafyddTudur, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb. Fi wedi bod yn gweithio ar batsh o 70 erthygl am wleidyddion, sydd yn rhan o'n gasgliad portreadau.

Dyma'r 10 erthygl gyntaf er mwyn i fi ymateb i unrhyw awgrymiadau neu gywiriadau sydd angen cyn i mi gyhoeddi'r 60 arall. Fel y gwelwch, mae pob un efo gwybodaeth wahanol yn dibynnu ar y wybodaeth oedd wrth law. @AlwynapHuw: Mae William Williams (gwleidydd), Harold Finch a Enoch Salisbury yn engreifftiau o pobol sydd hefyd yn rhan o'r Bywgraffiadur.

Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 12:12, 1 Mawrth 2019 (UTC)


Newydd gywiro:
1. Hugh Childers. Dw i'n gweld dy fod wedi cyfieithu Chancellor of the Duchy of Lancaster drwy QuickStatements ar Wicidata yn 'Canghellor Dugiaeth Caerhir'; 'Caerhirfryn' yw Lancaster. Dw i'n siwr mai nam bach yw hyn, ond fedri di gadarnhau fod y gweddill wedi'u cyfieithu'n gywir, gyda'r enwau llefydd sydd ar Wicipedia? Mae yma hefyd angen treiglo yma ac acw e.e. yng Ngholeg y Drindod.
2. Enoch Salisbury. Dw i wedi ychwanegu categori man geni = Categori:Pobl o Sir y Fflint. Hefyd newidiais Categori:Gwleidyddion Prydeinig i Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif.
Mae yma fwy o gig ar yr asgwrn y tro hwn, ond bydd angen trefnu i rywun gywiro pethau reit elfennol, fel yr uchod, gyda llaw a llygad. Os nad oes gwrthwynebiad gan eraill, yn y tridia nesa, yna ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:27, 2 Mawrth 2019 (UTC)
Diolch am y sylwadau Llywelyn2000. Mi wna'i ceisio sieco'r pethau chi wedi awgrymu cyn i mi cyhoeddi'r gweddyll, a cyn profi efo'r batsh nesaf. Jason.nlw (sgwrs) 10:05, 4 Mawrth 2019 (UTC)
Mae'r rhain yn edrych yn well! Mi fedraf gywiro ambell gam dreigliad gydag AWB, ond does gen i ddim amser i wneud hyn am blwc, oherwydd salwch fy mam. Cytuno eu bod yn pasio'r marc ansawdd! Sian EJ (sgwrs) 15:56, 5 Mawrth 2019 (UTC)
Diolch yn fawr Sian EJ - Fi wedi darganfod a cywiro nifer o treigliadau yn y brawddegau am addysg yn bennaf a wedi cywiro llond llaw o teitlau megus 'Canghellor Dugiaeth Caerhir'. Fi hefyd yn barod i cywiro efo AWB os bydd camgymeriadau yn llithro drwy'r rhwyd. Cofion Jason.nlw (sgwrs) 10:34, 6 Mawrth 2019 (UTC)
@Jason.nlw, Llywelyn2000: A oes modd sicrhau bod y dolen Bywgraffiadur yn arwain at y Bywgraffiadur (Cymraeg) yn hytrach na'r Dictionary of Welsh Biography (Saesneg) ? AlwynapHuw (sgwrs) 14:47, 7 Mawrth 2019 (UTC)
@AlwynapHuw, Llywelyn2000: Fi'n ymwybodol o'r broblem yma ond dal yn chwilio am ddatrysiad. Dim ond y cyfeiriad i'r Saesneg sydd ar Wikidata (Oherwydd y ffordd mae'r 'Identifiers' yn gweithio). Wedi holi ein tîm cyfrifiadurol am restr o'r links Cymraeg cyfatebol ac wedyn bydd modd defnyddio AWB i ddatrys y broblem. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:17, 7 Mawrth 2019 (UTC)

Erthyglau bot WiciPobl[golygu cod y dudalen]

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb:@DafyddTudur, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb! Dyma'r tro olaf mi wna'i trwblwch chi am eich barn ar gyfer y prosiect yma. Dyma enghreifftiau o'r prif batsh o erthyglau Wicipobl, sef tua 1150 erthygl am bobol sydd yn ymddangos yn Gasgliadau Portreadau Cymru a hefyd yn y Bywgraffiadur Cymreig (tua hanner a hanner).

Fel efo'r batsh diwethaf mae cynnwys yr erthyglau yn dibynnu ar argaeledd data. Gyda thua 700 o'r erthyglau tlotaf ni wedi gweithio i gyfoethogi trwy ychwanegu o leiaf un frawddeg ar law er mwyn roi cig ar yr asgwrn. Dyma enghreifftiau o'r erthyglau yma:

Dyma enraifft da o safon yr erthyglau sydd heb mewnbwn dynol

A dyma enghraifft o'r safon leiaf, a hefyd un o'r erthyglau mwyaf swmpus.

Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau - nodi unrhyw gamgymeriadau neu typos ayyb. Gyda llaw, er mwyn ceisio cadw'r cyfartaledd rhyw o amgylch y 50/50 bydd fy nghynlluniau am y flwyddyn nesaf yn cynnwys y bwriad i greu batsh o erthyglau cyfoethog am fenywod sydd yn awduron enwog. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 14:47, 8 Mawrth 2019 (UTC)

Ar 11 Chwefror mi soniais: 'Bydd tua 2000 o erthyglau byr ar ferched yn cael eu creu yn y dyddiau nesaf.'
Dw i'n gweithio ar hynny ers 11 Chwefror, gan i ti ddweud dy fod yn rhy brysur. Mi fyddaf, gobeithio wedi gorffen paratoi'r gwaith hwn mewn tua 7 diwrnod. Beth ydy'r diwrnod olaf y gelli gyhoeddi'r erthyglau yma? Os fedrwn ni beidio a cholli'r cydraddoldeb, yna gorau i gyd! Cofion gorau... Llywelyn2000 (sgwrs) 15:14, 8 Mawrth 2019 (UTC)
Gwych - newyddion da. Ar hyn o bryd ni dal yn gweithio ar y ddata i gwneud yn siwr bod pob erthygl yn cyrraedd y safon uchod, felly byddwn ni ddim yn barod y gyhoeddu am wythnos eto siwr o fod. Fi'n credu bydd rhaid i ni cyhoeddu erbyn 19/20 Mawrth er mwyn roi amser i fi benni fy adroddiadau a pob dim cyn diwedd y mis. Jason.nlw (sgwrs) 16:05, 8 Mawrth 2019 (UTC)
@Jason.nlw: Dau bwynt bach: Cymro Cymraeg alltud oedd John Owen, nid Sais. Wrth roi disgrifiad mewn (cromfachau) i feirdd, cerddorion, llenorion etc gwell yw defnyddio eu henwau barddol ee John Owen (Owain Alaw) yn hytrach na John Owen (bardd). Ond manion yw'r rhain, mae'r sgerbydau data yn ei wneud yn haws o lawer i greu erthyglau gwerth chweil. AlwynapHuw (sgwrs) 16:04, 8 Mawrth 2019 (UTC)
@AlwynapHuw: - Diolch Alwyn. Mi wna'i mynd trwy'r data i sieco am enwau barddol, a gwneud unrhyw newidiadau. Efo John Owen - dyma un o'r problemau sydd yn codi wrth weithio allan cenedligrwydd efo'r data - oherwydd bod e wedi eu geni yn Lloegr. Does dim ffordd beirianyddol i mi ddod o hyd i broblemau ond mi wna'i edrych trwy'r rhestr o bobol sydd wedi geni yn Lloegr efo enw sydd edrych yn Gymreig, i weld os alla'i sortio hwn. Jason.nlw (sgwrs) 16:17, 8 Mawrth 2019 (UTC)
@Jason.nlw: Oes modd i ti newid y frawddeg yn gasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yn gasgliadau'r National Portrait Gallery yn Llundain. i: yng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yng nghasgliad Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain? (Bydd erthygl am Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn cael ei greu Dydd Sul). A hefyd ategu'r côd {{DEFAULTSORT:Smith, John}}, sy'n rhoi'r enwau yn nhrefn eu cyfenw yn y categoriau? AlwynapHuw (sgwrs) 06:26, 9 Mawrth 2019 (UTC)
@AlwynapHuw: Diolch am creu'r erthygl Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol Alwyn! Fi'n wrthi newid y brawddeg yn yr erthyglau efo AWB. Dyma engraifft: John Sturt. Mi wna'i gweld os alla'i ychwanegu Defaultsort - oleaf efo'r erthyglau sydd i dod. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 10:57, 12 Mawrth 2019 (UTC)

Does gen i ddim gwrthwynebiad i'r rhain gael eu huwchlwytho; gallem ychwanegu a chywiro wedyn, fel y soniwyd. Un cais: cofia ychwanegu Categori:Merched yn ôl canrif ar erthyglau perthnasol! Dyma'r categori sy'n cael ei gyfrif o ran ambell declyn (nid WD) i gyfri sawl erthygl ar ferched sydd. Os na elli gynnwys yr union flwyddyn, gelli eu rhoi yn ol canrif / degawd, er y byddai blwyddyn yn well, wrth gwrs! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 06:17, 12 Mawrth 2019 (UTC)

Grêt, mi wna'i ychwanegu'r categori am menywod i'r data pnawn ma. Jason.nlw (sgwrs) 10:57, 12 Mawrth 2019 (UTC)
Gwych gweld erthyglau newydd ar bobl sydd yn y Bywgraffiadur! Sylwa ar rai cywiriadau ar y ddalen David James.
Fodd bynnag, ti wedi uwchlwytho'n rhy sydyn, cyn i erthyglau gael eu creu ar ferched! Mi rois y ddolen yma i ti wythnosau'n ol er mwyn i ti gadw llygad ar y balans menywod / dynion; gweler: https://query.wikidata.org/#%0ASELECT%20%3FgenderLabel%20%28COUNT%28DISTINCT%20%3Farticle%29%20AS%20%3Fcount%29%20%0A%0AWHERE%20%7B%0A%20%20%0A%20%20%3Fitem%20wdt%3AP31%20wd%3AQ5%20.%0A%20%20%3Fitem%20wdt%3AP21%20%3Fgender%20.%0A%20%20%3Farticle%20schema%3Aabout%20%3Fitem%20.%0A%20%20%3Farticle%20schema%3AisPartOf%20<https%3A%2F%2Fcy.wikipedia.org%2F>%0A%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%0ASERVICE%20wikibase%3Alabel%20%7B%20bd%3AserviceParam%20wikibase%3Alanguage%20"en"%20.%20%7D%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%0A%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%0A%7D%20GROUP%20BY%20%3FgenderLabel%0A%0AORDER%20BY%20DESC%28%3Flinkcount%29 sy'n dangos ein bod wedi colli'r cydraddoldeb i ferched. Cam mawr yn ol i'r Wicipedia Cymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:48, 15 Mawrth 2019 (UTC)
Ti'n gywir: rocesi: 11741, llancie: 11830. Jason yn dipyn bach o free spirit! Fedrith rhywun revertio nhw? Twm Twm yr Hwntw (sgwrs) 19:50, 15 Mawrth 2019 (UTC)
Efo pob parch, does dim modd beio @Jason.nlw: am ddiffyg cydraddoldeb yn y Bywgraffiadur. Mae'n wych bod mwy o erthyglau am fenywod ar Cy Wici ar hyn o bryd ond dydy o ddim yn gynaliadwy am byth. Y gwir trist yw bod mwy o gofnodion hanes parthed dynion na fenywod. Wrth i'n Wici ehangu mae bron yn anorfod bydd y cyfartaledd yn lleihau. O weld mae dim ond egin oedd ar gael ar gyfer Dannie Abse mi geisiais ei ehangu o wybodaeth ar yr ODNB. Roedd gwybodaeth am ei wraig Joan Abse, digon i greu erthygl annibynnol, fel troed nodyn i erthygl y gŵr. Dyna natur y ffynonellau yr ydym yn dibynnu arnynt i greu "cyfeiriadau" dibynadwy. Rwy'n sgwenu'n aml am Aelodau Seneddol, ond does dim modd cynnal cyfartaledd gan na fu hawl i ferched bod yn ASau rhwng 1283 a 1918. Ac rwy'n ansicr os yw creu erthyglau, heb sylwedd, trwy ddata, yn rhoi cydraddoldeb, pan fo llawer mwy o erthyglau sylweddol a grëwyd trwy ymchwil yma am ddynion.AlwynapHuw (sgwrs) 04:21, 17 Mawrth 2019 (UTC)
Cytuno nad bai Jason ydy cynnwys y Bywgraffiadur Cymreig! Ond yn y dyfodol, dylai unrhyw brosiectau i fas-gynhyrchu erthyglau data ar ddynion hefyd ystyried creu yr un nifer o erthyglau ar ferched - ac mae digonedd o ferched nodedig nad ydynt ar y Wicipedia Cymraeg. Mae peidio a gwneud hynny yn anheg iawn. Fe gawsant eu trin yn anheg ac yn eilradd am ganrifoedd, mae'r dyddiau yno drosodd! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:23, 17 Mawrth 2019 (UTC)
Fe ddywedais ar 8 Cwefror (gweler uchod): Mae angen cadw'r glorian yn wastad o ran cydraddoldeb y ddau ryw, rywsut, neu mi fydd Wicipedia Cymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol yn edrych fel ffylied, ac mae'r peth yn anheg hefyd. Fe aeth Llywelyn2000 ati, wedi hynny i greu erthyglau ar fenywod. Pam felly'r brys i gyhoeddi cyn Llywelyn, felly, Jason? Mae'n wych gweld egin erthyglau newydd, ond mae'n rhaid parchu'r golygyddion sydd wedi bod wrthi ers blynyddoedd, ein harferion sefydlog a'n consensws barn. Fe gafwyd cydraddoldeb, ac roedd hynny'n beth da, a phawb yn cytuno gyda hynny, ond yna, fe'i torrwyd, heb drafodaeth. O'r ychydig y bum i'n ymwneud a hi, fyddai'r Wikipedia Saesneg (nac unrhyw iaith arall) fyth bythoedd wedi derbyn hyn. Ond anghytunaf gyda Twm Twm yr Hwntw. Ni ddylid eu dileu, yn enwedig pe medrwn uwchlwytho rhai Llywelyn, ac ailsefydlu'r cydraddoldeb rhyw. Cell Danwydd (sgwrs) 13:12, 17 Mawrth 2019 (UTC)
Helo pawb. Rwy'n cytuno'n llwyr efo sylwadau Defnyddiwr:AlwynapHuw. Rhyw bryd bydd rhaid i ni gyfaddef bod e ddim yn bosib parhau i gadw'r balans (er bod hynny ffaith drist). Mae rhaid i ni hefyd bod yn ofalus i beidio cyfyngu cyfranwyr sydd eisiau gweithio ar bynciau ble nad oes modd creu'r un nifer o erthyglau am fenywod. Gan ddweud hynny, am y tro d’win credu bod digon o ddata ar gael i barhau efo'r balans efo erthyglau awtomatig. Dw'i wedi nodi uchod ein bwriad i geisio cywiro'r deffasit dw'i wedi creu efo ein prosiect nesaf (cais newydd fynd mewn i'r llywodraeth).
Cell Danwydd - Diolch am eich sylwadau. Mae drwg gen i am orfod cyhoeddi'r erthyglau yn gynnar. Y bwriad oedd aros tan ganol wythnos nesaf i gyhoeddi i roi cyfle i Llywelyn2000 cyhoeddi'r erthyglau ar ferched ond yn anffodus ges i neges gan y llywodraeth dydd Gwener i ddweud bod angen i fi cwblhau prosiect Wicipobl erbyn canol wythnos nesaf, ychydig yn gynt na beth o'n i'n disgwyl. Er mwyn cael amser i ysgrifennu fy adroddiadau a chael yr holl dystiolaeth mewn ar amser, roedd gen i ddim dewis ond i gyhoeddi yn gynt. Gan fod pawb wedi cytuno i'r erthyglau a gyda llwyth o erthyglau ar fenywod ar y ffordd, nes i ddim gweld hyn fel problem fawr yn y sefyllfa yma. Ond allan o gwrtais mi wnes i hela e-bost draw i Llywelyn2000 i esbonio'r sefyllfa cyn i mi gyhoeddi. Dw'i wedi gwneud fy ngorau i jyglo gofynion y prosiect (sydd wedi rhoi adnoddau gwych i wella ein Wici ac i dyfi gymunedau o gyfranwyr), a'r gymuned wici, ac yn ymddiheuro os dw'i wedi cynhyrfu unrhyw un. Mae'r bartneriaeth yma rhwng Wikimedia, y Llyfrgell a'r llywodraeth yn un uchelgeisiol ac yn eithaf unigryw ledled y byd, felly does dim strwythur sefydlog ar ran sut i weithredu. Ni'n dysgu, ni'n addasu ac yn symud ymlaen. Ond credaf fod e'n bwysig i ni geisio datblygu a chefnogi'r bartneriaeth yma er lles ein Wicipedia, ein hiaith a'r Genedl! :) Jason.nlw (sgwrs) 16:18, 17 Mawrth 2019 (UTC)
Mae dweud "Dw'i wedi nodi uchod ein bwriad i geisio cywiro'r deffasit dw'i wedi creu efo ein prosiect nesaf (cais newydd fynd mewn i'r llywodraeth)" yn fy nychryn! Wyt ti ddim am holi ni yn gyntaf a ydym yn dymuno rhagor o dalennau dwy frawddeg? Ac a fyddi di'n gwneud fait accompli arall, gan dympio tudalennau na ellir eu galwn'n 'egin' hyd yn oed, pan fydd Llywelodraeth Cymru yn newid eu meddyliau? Mae Duncan ac eraill wrthi ers blynyddoedd yn rhoi dyfnder i'r erthyglau, nid creu rybish. Fy awgrym i yw dy fod yn gwneud cais i godi'r lot diwetha ma yn erthyglau go iawn, yn hytrach na creu rhagor. Dw i wedi ebostio fy anniddigrwydd at un neu ddau gan mod i bron iawn a rhoi'r ffidil yn y to. Derbyniaf nad wyt wedi gwneud hyn yn fwriadol, ond mae'n amlwg nad oes gen ti lawer o ddealltwriaeth o'r Wicipedia Cymraeg, Jason. Cell Danwydd (sgwrs) 15:59, 18 Mawrth 2019 (UTC)
Ymlaen a ni hogia! Dw i di creu ambell erthygl crap dros y blynyddoedd! Mae na lawer o ymarfer da a thorri tir newydd wedi digwydd yn ystod y ddwy, dair blynedd diwetha; gadwch i ni hel y rheiny at ei gilydd a ffurfio polisiau ychydig mwy tynn, lle bod y math yma o beth yn digwydd eto. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:37, 18 Mawrth 2019 (UTC)


@Cell Danwydd, Llywelyn2000: Hoffwn i dod nôl ar cwpl o pethau mae Cell Danwydd wedi dweud.
"Wyt ti ddim am holi ni yn gyntaf a ydym yn dymuno rhagor o ddalennau dwy frawddeg?" - Mae gan bob erthygl oleuaf 3 brawddeg - gyda llawer (tua 700) yn cynnwys un neu dwy frawddeg sydd wedi ysgrifennu ar law. Rwyt wedi cytuno i'r erthyglau gan Llywelyn2000 trwy ddweud "Maen nhw'n edrych yn dda, a gorau po gynted y medri di eu huwchlwytho!" ond mae nifer o'r erthyglau yma efo 3 frawddeg yn unig (megus Elizabeth von Arnim a Maria Rita Saulle) yn union fel rhai fi, felly dw'i ddim yn deall yr angen i fod yn ymosodol efo fi wrth drafod safon yr erthyglau? Ges i ymateb da gan y gymuned i safon i brif batsh o erthyglau felly mae'r sylwadau yma yn annisgwyl a di-fudd. Mae Llywelyn2000 wedi awgrymu uchod fy mod i yn ystyried y balans cyn cychwyn prosiect ac i drafod efo'r gymuned ar ddechrau'r prosiect. Fi wedi dylyn yr awgrym cyntaf trwy gynnwys batsh o erthyglau am fenywod yn fy nghais - yn dilyn adborth dw'i hefyd wedi awgrymu bod safon y cynnwys yn bwysicach na'r nifer o erthyglau - dyma oedd teimlad i beth bynnag, ond fi am wneud yn siŵr bod unrhyw noddwyr yn deall y pwysigrwydd o hyn i'r gymuned. Mae gen i bob bwriad wedyn, i drafod efo'r gymuned yn syth bin os bydd y cais yn llwyddiannus. Beth mwy alla'i gwneud?
@Dafyddt, Llywelyn2000: Yn dilyn negeseuon di-fudd gan 1 neu 2 fi'n credu hefyd bod e'n bwysig nodi fy mod i'n dechrau teimlo'n ddigroeso ar y Wikipedia Cymraeg er gwaethaf pob ymdrech i ymateb a gweithredi ar adborth. Mae Wicipedia i fod yn ofod saff a croesawgar i bawb sydd eisiau cyfrannu, ar unrhyw bwnc nodedig, nid llwyfan cyhoeddus i alw cyfraniadau unigolyn yn 'crap' neu 'Rybish', neu i ddweud bod gen i ddim dealltwriaeth o'r Wicipedia Cymraeg, heb esbonio beth ddw'i wedi camddeall. Y gyd mae hynny yn eu gwneud yw estron pobol. Mae 'admin' yma i stopi'r fath mha ymddygiad a sarhad, nid i gytuno bod yr erthyglau yn 'Crap', er bod nhw o'r un safon ar rai maen nhw newydd holi i gyhoeddi. Mae'r gwrthddywediad yn gwneud i'r sylwadau edrych fel ymosodiad personol. Jason.nlw (sgwrs) 12:46, 19 Mawrth 2019 (UTC)

Pam ymateb, Jason? Cladda dy falchder a symuda mlaen! Dy gyhuddiad mod i wedi defnyddio'r gair 'crap' am dy waith: os ddarlleni yr hyn a ddywedais (18:37, 18 Mawrth), sôn amdanaf fi fy hun oeddwn i! Darllen fo eto! Rwyt ti wedi cam-ddarllen o'r blaen (y ffynhonellau, 13:49, 15 Mawrth), ac efallai mai dyma yw'r rheswm pennaf dros y dadlau rwyt yn ei godi. Ti hefyd yn fy llusgo i fewn i bethau, yn hytrach nag amddiffyn dy gangymeriadau dy hun! Pam wyt ti'n codi maint fy erthyglau i pan fo rhywun arall yn trafod safon dy erthyglau di? Sôn dy fod wedi creu erthyglau DWY FRAWDDED roedd @Cell Danwydd:! A gyda llaw mae o'n anghywir e.e. Thomas Parr. Cangymeriad arall gen ti ydy honni mai tair brawddeg sydd gen i yn yr erthygl ar Elizabeth von Arnim - cyfra nhw eto! Ond nid camddealltwriaeth ieithyddol yw hwn, ond heb gyfri'n gywir, ac mae pawb yn gwneud cangymeriadau. A plis, paid a dod yma i ddweud wrth y gweinyddwyr beth i wneud neu beth i beidio a gwneud! Mi gest ymateb da gan y gymuned i'r esiamplau a roddaist, do, ond roedden nhw llawer mwy na'r rhai o'r swp a aeth i fyny. Ti'm yn meddwl mai gwell fyddai gadael i bethau fod, derbyn y feirniadaeth a - get on with it! Mae llawer o waith y prosiect Wicipobl yn wych iawn a diolch i ti am hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:09, 19 Mawrth 2019 (UTC)

Os mae rhywun yn gofyn cwestiwn i mi ac yn cyflwyno gwybodaeth anghywir am fy ngwaith mae gen i bob hawl i ymateb Robin. Edrychwch eto ar yr erthygl yma Thomas Parr. 1,2,3. Felly mae'n amlwg bod problem cyfru efo ti, fi a Cell Danwyd ond mae fy pwynt i yn sefyll! Jason.nlw (sgwrs) 15:52, 19 Mawrth 2019 (UTC)
Rwyt yn gorymateb i wybodaeth gywir, Jason! Mi ddywedais:
Sôn dy fod wedi creu erthyglau DWY FRAWDDED roedd @Cell Danwydd:! A gyda llaw mae o'n anghywir e.e. Thomas Parr.
Mae'r o yn y dyfyniad yn cyfeirio at yr enw olaf, Cell Danwydd; ceir yr un rheol ym mhob iaith hyd y gwn i. Yr enw olaf yma ydy Cell Danwydd. Roedd o (Cell Danwydd) yn anghywir ddywedais. Dim ymddiheuriad am dy gyhuddiad anghywir am 'crap', chwaith! Fel yr awgrymaisis: symud ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:23, 19 Mawrth 2019 (UTC)
Ymddiheuriadau, dwi'n ddyslecsig a dysbracsig ac ambell waeth dw'i yn gweld pethau yn anghywir - yn deall yn iawn sut mae brawddegau yn gweithio (ond diolch am y wers beth bynnag) Ymlaen! Jason.nlw (sgwrs) 16:39, 19 Mawrth 2019 (UTC)

@AlwynapHuw, Llywelyn2000: Fi newydd redeg bot i wneud yn siŵr bod yr holl lincs Bywgraffiadur yn mynd i'r gwefan Cymraeg. Diolch Alwyn am godi'r broblem yma, a rowch wybod os wyt ti'n dod ar draws unrhyw broblemau arall. Jason.nlw (sgwrs) 10:50, 26 Mawrth 2019 (UTC)

Newid Enw Tudalen[golygu cod y dudalen]

Helo! Dwi newydd gyfrannu erthygl ar y bardd a'r llenor Caryl Bryn. Am ryw reswm, dwi wedi llwyddo i roi llythyren fach i ail enw Caryl - gan ei gwneud yn Caryl bryn yn lle Caryl Bryn. Mae pawb yn haeddu llythrennau mawr, ond dwi'n methu gweithio allan sut i newid teitl y dudalen i wneud hynny. Dyma'r cofnod: https://cy.wikipedia.org/wiki/Caryl_bryn Iestyntyne (sgwrs) 11:40, 26 Chwefror 2019 (UTC)

Wedi gwneud Iestyn, a thwtio ychydig ar y fformat. --Dafyddt (sgwrs) 12:15, 26 Chwefror 2019 (UTC)
Diolch yn fawr iawn i chi! Iestyntyne (sgwrs) 12:21, 26 Chwefror 2019 (UTC)

Cyfarfod Grwp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, Aberystwyth, 27 Mawrth 2019[golygu cod y dudalen]

Bydd y Grwp Defnyddwyr yn cyfarfod yn y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Mercher 27 Mawrth 2019 (flwyddyn union ers ein cyfarfod cyntaf!). Rhagor o wybodaeth am y Grwp, cofnodion ein cyfarfodydd diwethaf, a manylion ac agenda ddrafft y cyfarfod nesaf ar Meta. Ychwanegwch eich enw i'r agenda, os gwelwch yn dda, i roi gwybod a ydych chi'n bwriadu dod neu'n anfon eich ymddiheuriadau. Diolch yn fawr! DafyddTudur (sgwrs) 07:31, 6 Mawrth 2019 (UTC)

Ac fel arfer, os oes rhywun am wneud cais am gostau teithio, yna plis ebostiwch fi! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:21, 14 Mawrth 2019 (UTC)
Gan nad oes modd teithio i Aberystwyth ac yn ôl mewn un ddiwrnod oherwydd diffygion trafnidiaeth gyhoeddus warthus Cymru, rwyf wedi bwcio gwesty i sefyll y noson cyn y cyfarfod. Pe bai modd cael pas yn ôl hyd Ddolgellau ar ôl y cyfarfod byddwn yn niolchgar. AlwynapHuw (sgwrs) 04:39, 19 Mawrth 2019 (UTC)
Credu dod Aaron yn gyrru Alwyn, felly potensial lifft i ti. Jason.nlw (sgwrs) 13:04, 26 Mawrth 2019 (UTC)
Sori, nawr dwi'n gweld hwn - angen i fi fynd i'r Caffi yn amlach - diolch Wyn am fy atgoffa neithiwr! Gobeithiaf alw draw. Siôn Jobbins

Erthyglau ar fenywod: ffeministiaid a llenorion[golygu cod y dudalen]

@Adda'r Yw, Dafyddt, AlwynapHuw: Er mwyn cadw'r nifer o erthyglau ar ferched a dynion yn eitha cyfartal (angen mwy ar ferched), mae gen i swp o erthyglau sydd bron yn barod i'w huwchlwytho. Un cwestiwn: Os ydw i'n creu categori Pobl o:xxx, yna oes angen treiglo enwau llefydd sydd ddim yn draddodiadol-Gymraeg e.e. Pobl o Enefa, Pobl o Watemala, o Ddenmarc, o Lasgow... Nagoes yn fy marn i. Dw i'n gweld fod ambell un wedi eu gwneud yn yr is gategoriau o fewn 'Pobl yn ôl anheddiad' a 'Categori:Pobl yn ôl dinas' e.e. Categori:Pobl o Firmingham‎, Categori:Pobl yn ôl dinas ym Melarws, Categori:Pobl yn ôl dinas neu dref ym Mrasil, Categori:Pobl o Ferlin. Y rhesymeg yma, dw i'n meddwl ydy fod Birmingham, Brasil, Paris a Berlin wedi hen sefydlogi o fewn y Gymraeg, ac felly'n cael eu hystyried yn eiriau traddodiadol-Gymraeg, a gallaf dderbyn hyn. Ydw i'n iawn? ON Dw i'n pingio defnyddwyr sydd wedi mynegi barn ar enwau llefydd tramor yn y gorffennol, rhag iddyn nhw golli'r sgwrs yma, ond mae croeso i bawb arall ddweud eu barn hefyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:18, 14 Mawrth 2019 (UTC)

Cytuno, fod dim angen treiglo os nad yw'n gwbl gyfarwydd i wneud. Yn bersonol fasen i ddim yn treiglo enwau unrhyw iaith arall, hyd yn oed os ydyn nhw wedi ei drosi i orthograffi Cymraeg. Ar lafar wrth gwrs, mae'n wahanol. --Dafyddt (sgwrs) 10:59, 14 Mawrth 2019 (UTC)
Diolch Dafydd! Mi gadwai at y lleiafswm posib o dreiladau, felly, ar gyfer dinasoedd tramor. Efallai y dylem drafod 'ym Melarws' ac un neu ddau arall hefyd cyn hir. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:12, 14 Mawrth 2019 (UTC)
Na yn gyffredinol, ond gydag ambell eithriad. Peth a grëwyd yn naturiol i gynorthwyo llif iaith gan ei siaradwyr yw gramadeg. Peth ffug a grëwyd llai na chanrif yn ôl yw rheolau gramadeg y Gymraeg. Y cwestiwn mawr yw ydy treiglo enwau llefydd diarth yn cyflawni gwaith naturiol gramadeg neu yn dilyn rheol annaturiol? Yn fy marn fach i mae i Firmingham, o Baris, ym Melarws yn llifo'n naturiol, tydi i Enefa ddim. Be am geisio osgoi treigliadau mewn categorïau lle bo modd ee Pobl Caerdydd yn hytrach na Phobl o Gaerdydd? Bydd dim rhaid crafu pen parthed Genefa a Belarws wedyn. AlwynapHuw (sgwrs) 14:48, 14 Mawrth 2019 (UTC)
Diolch Alwyn! Da ni i gyd, felly'n cytuno mai eglurdeb yw'r peth pwysig - fod y darllenwr yn deall yr hyn a ddarllenir. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:04, 14 Mawrth 2019 (UTC)
@Llywelyn2000: Fi'n cofio cael yr un trafodaeth efo cydweithwyr yn y Llyfrgell wrth i ni greu erthyglau am brosiect Wicipop a'r penderfyniad oedd i beidio treiglo heblaw llefydd fel Paris sydd wedi sefydlogi o fewn y Gymraeg, felly rwy'n cytuno hefyd. Jason.nlw (sgwrs) 09:41, 15 Mawrth 2019 (UTC)
Gret! Diolch Jason. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:31, 15 Mawrth 2019 (UTC)

Newydd uwchlwytho chwe erthygl ar fenywod, o'r mawr i'r bach, fwy neu lai:

Eich beirniadaeth lem, os gwelwch yn dda!

Mae gen i ddau broblem: diffyg amser i gael y gyfeiriadaeth yn ei lle; fe welwch fy mod wedi gadael cod anweledig yn cadw lle ar ei gyfer. Bydd y gyfeiriadaeth yn dod yn otomatig o ddisgrifiad yr eitem (ayb) ar Wicidata. Yn ail, mae na broblem bychan efo 'carrage return' sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a mater bach yw dileu'r bylchau efo regex, ond eto, gellir gwneud hyn wedi gosod yr erthyglau, gan fod yma ychydig o frys.

Fe welwch mod i wedi amrywio'r frawddeg gyntaf, hefyd, er mwyn ei symlhau i'r darllenydd: yn hytrach na rhestr o ansoddeiriau cyn enw'r person, dw i wedi ei osod yn syml e.e. Ffeminist ydy Jane Jones...., a'i gwaith a disgifiadau ohoni yn ail ran y frawddeg yn hytrach na'r cychwyn. Gobeithio eich bod yn cytuno! Mae amrywio ein patrwm, weithiau, hefyd yn beth da, dw i'n meddwl.

Yn ola, mae dau gatergori newydd yma 'Pobl o Limerick...' ayb, sydd, yn fy marn i'n werth ei wnud, gan fod gennym rai yn barod ee Categori:Pobl o Fadrid ac yn ail Merched a aned yn y 1880au - mae'r 20g wedi'i wneud gen i tua dwy flynedd yn ol, ond nid cyn hynny. Felly, job arall i AWB!

Felly, rhowch wybod a ga i fynd ymlaen, neu beidio os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:49, 15 Mawrth 2019 (UTC)

Mae'r testun yr erthyglau yn edrych yn grêt - strwythyr da. Wedi sylwi cwpl o pethau bach;
  • Angen ychwanegu (Rheoli awdurdod)
  • Oes modd ychwanegu unrhyw cyfeiriadau/Dolennu allanol? Mae gan llawer o'r pobl Identifiers defnyddiol ar Wikidata, neu falle tynnu nhw mewn o'r Wiki Saesneg?
  • Yn eich adborth uchod nes ti son i mi bod "(8 - 10 fel arfer) o esiamplau teg yn hanfodol" - felly bydd e'n wych os allwch chi rannu cwpl o enghreifftiau ychwanegol er mwyn cadw cysondeb.
Diolch yn fawr am eich gwaith ar yr erthyglau yma Jason.nlw (sgwrs) 17:06, 15 Mawrth 2019 (UTC)
Croeso. Wedi ychwanegu'r Nodyn:Rheoli awdurdod. Dw i'n son am y gyfeiriadaeth uchod ('Bydd y gyfeiriadaeth yn dod yn otomatig o ddisgrifiad yr eitem (ayb) ar Wicidata.'). Os nad oes brys, yna, fel dwi'n son, mi eith y gyfeiriadaeth i fyny wedi i mi / cyfaill eu creu, ond 'does dim amser gen i tan ddydd Llun ( o leiaf) i wneud hynn, a mi addewais i nhw heddiw. Dibynu faint o frys sy gen ti Jason. Tri arall wedi'u creu: Marilynne Robinson‎, Elizabeth von Arnim‎ a Tatiana Proskouriakoff‎. Diolch am dy sylwadau. Chwaneg, plis? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:04, 15 Mawrth 2019 (UTC)
Diolch. Wedi sylwi efo Elizabeth von Arnim bod e'n dweud Bu'n briod i Frank Russell ac ail iarll Russell. Felly jyst angen sieco bod hyn heb digwydd efo erthyglau eraill ble mae teitl yn dylyn enw. Sori nes i ddim gweld yr esboniad am cyfeiriadau. Jason.nlw (sgwrs) 19:55, 15 Mawrth 2019 (UTC)
Diolch am greu'r rhain Llywelyn2000! Mae nhw'n edrych yn dda, a gorau po gynted y medri di eu huwchlwytho! Cell Danwydd (sgwrs) 13:14, 17 Mawrth 2019 (UTC)
Efo pob parch, egin erthyglau sydd ddim yn ychwanegu llawer i'n gwybodaeth am y menywod, wedi eu creu i gadw rhif cydbwysedd yn hytrach na chyflwyno gwybodaeth. Maent yn cadw dysgl yn wastad o ran nifer o erthyglau sydd ag enw merch ac enw dyn yn y teitl, ond be di'r cydbwysedd parthed cynnwys sylweddol erthyglau am ddynion a merched? Rwy'n pryderu am erthyglau bot, o'r fath. Mae erthygl bot yn help i greu erthyglau, ond mae'r tuedd o'u creu wrth eu miloedd tu hwnt i allu ein cyfranwyr cig a gwaed i'w troi yn erthyglau gwerth chweil. Pwnc trafod pwysig! AlwynapHuw (sgwrs) 03:50, 21 Mawrth 2019 (UTC)
Rhan o'r broblem, mae'n ymddangos, yw grantiau'r Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth yn dymuno niferoedd erthyglau yn hytrach na sylwedd erthyglau. Mae angen i ni berswadio'r Llywodraeth bod ariannu efengylu dros Wicipedia i ychwanegu nifer y cyfranwyr yn bwysicach nag ychwanegu niferoedd erthyglau ceiniog a dimau. AlwynapHuw (sgwrs) 04:09, 21 Mawrth 2019 (UTC)
Yn hollol. Mae na dri pheth yma'n does: niferoedd, sylwedd a chydbwysedd rhyw. Wedi i ni gyrraedd y 100,000 (a sawl prosiect Cymraeg gan Google wedi dilyn hynny!) y teimlad ges i oedd fod y gymuned wici wedi symud o esgyrn sychion tila i sylwedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:21, 21 Mawrth 2019 (UTC)

Yn ystod y 5 wythnos diwetha, fel ymateb i'r cyhoeddiad mai dynion bron i gyd oedd erthyglau WiciPobl, mi es ati i gyfieithu termau Wicidata ar dros 2,700 o fenywod (enwau'r colegau, gwobrau ayb). Mae'r erthyglau ar ffeministiaid a nofelwyr benywaidd wedi cychwyn eu rhoi ar wici; gallwch eu gweld yma. Gan mod i'n eu gwiro a llaw a llygad, dw i ddim am frysio, hyd yn oed os y cymerith fis neu ddau, neu dri! Mae'r erthyglau newydd wedi lleihau'r diffyg, gan ddod a'r niferoedd rwan i:

  • dynion - 11838
  • merched - 11760
  • merched trawsrywiol - 9.

Mater bach fyddai eu huwchlwytho'n un swp, ond ers y 18 mis diwethaf, teimlad y gymuned yw bod safon a dyfnder yn bwysicach na niferoedd yr erthyglau. Gan fod y gwaith ar ffeministiaid ac awduron wedi'i wneud gen i ar WD, plis dewisiwch faes arall os ydych am sgwennu, neu mi ffyddwn yn mynd ar draws ein gilydd e.e. gwyddonwyr, cerddorion, actorion neu ieithegwyr benywaidd. Yn ola, os oes rhywun isio swp o'r esgyrn sychion (egin erthyglau) er mwyn ychwanegu dau baragraff neu fwy atyn nhw, mi ddanfonaf y db ar gyfer AWB atoch, fel y gallwch chitha greu'r erthyglau hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:50, 21 Mawrth 2019 (UTC)

Llywelyn2000 os oes rhywun isio swp o'r esgyrn sychion (egin erthyglau) er mwyn ychwanegu dau baragraff neu fwy atyn nhw, mi ddanfonaf y db ar gyfer AWB atoch, fel y gallwch chitha greu'r erthyglau hyn. Pa mor gymleth yw AWB i'w defnyddio? Os yw'n weddol syml hoffwn ei drio. AlwynapHuw (sgwrs) 00:36, 22 Mawrth 2019 (UTC)
Helo Llywelyn2000 a AlwynapHuw. Fi'n cytuno bod fformat presennol y grantiau llywodraeth ddim yn siwtio bellach - yn enwedig os ydym ni'n sôn am greu erthyglau am bobol. I fod yn hollol agored efo chi, doedd gan y Llyfrgell dim bwriad creu unrhyw erthyglau bot i brosiect Wicipobol. Newid munud olaf o'r ochr y llywodraeth oedd hyn. D’win gallu gweld y gwerth o'r erthyglau yma o safbwynt nhw, ond mae'r prosiect, a'r ymateb y gymuned, wedi ymddangos bod angen newid y drefn. Fel mae Alwyn wedi awgrymu, mae codi'r nifer o gyfranwyr yn bwysicach, ac mae'r stats yn awgrymu bod y prosiect wedi llwyddo yn y maes yna hefyd, felly mae angen rhoi mwy o adnoddau mewn i'r gwaith yma. Credaf fod y gwaith efo ysgolion (efo'r arweiniad cywir) yn ffordd wych o gael pobol ifanc i feddwl mwy am gyfrannu i Wicipedia. Mae 50% o'r disgyblion chweched sydd wedi cyfrannu i Wicipobl wedi golygu eto ers y digwyddiadau!. Beth bynnag, y prif reswm am ymateb fan hyn oedd nodi bod y Llyfrgell Genedlaethol yn ymwybodol o'r angen i symud i ffwrdd o greu miloedd o erthyglau 3/4 brawddeg a byddwn yn gwneud hyn yn glir i unrhyw noddwyr prosiectau yn y dyfodol.Jason.nlw (sgwrs) 19:55, 21 Mawrth 2019 (UTC)
Gallaf ychwanegu cwpwl o frawddegau ar y casliad o erthyglau ar arlunwyr benywaidd cyn hir: gan dynnu'r wybodaeth o wicidata. Mae rhai'n hynod o fyr! Ond ai hyn yw fy nefnydd gorau o amser, ynteu parhau gyda geotagio erthyglau lleoedd / prosiect Cyfoes, Llywelyn? Sian EJ (sgwrs) 11:14, 22 Mawrth 2019 (UTC)
@AlwynapHuw: diolch Alwyn! Newydd anfon 500 atat mewn ebost.
@Jason.nlw: falch o glywed!
@Sian EJ: gwna di be ti isio, Sian fach! Mae na gap yn dal i fodoli: ond mae lawr i 31 erthygl. Beth am orffen adio'r nodyn newydd Anrhydeddau, wedyn nol at Prosiect:Cyfoes? Ond mae fyny i ti - gwna fo os ti'n ei fwynhau o, paid a'i wneud os nad! A diolch, gyda llaw! A diolch am beidio a rhoi'r gorau iddi yn dilyn y smonach fawr! Call a dawo! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 23 Mawrth 2019 (UTC)
@Llywelyn2000: @Jason.nlw: @Sian EJ: Sori os yw hyn yn gwestiwn hurt. Ydy cymeriadau ffuglenol yn cael eu cynwys yn y balans gwryw / benyw? Ee:
Ydyn! Mae Daisy Duck yn fenywaidd, ond nid yn fod dynol; dyma'r drefn ar Wicidata hefyd, lle rhoddir (yn hytrach na bod dynol) 'hwyaden ffuglenol', 'cymeriad mewn comig' ayb. Ond yn sicr mae'n fenywaidd, a'i phartner Donald, yn sicr yn wrywaidd, ac nid oes angen tystiolaeth gwyddonol i brofi hyn! Ar Wicipedia, efallai ei bod yn bryd rhannu'r Categori:Cymeriadau ffuglen yn ddau, neu dri! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:24, 27 Mawrth 2019 (UTC)

Canlyniadau prosiect Wicipobl[golygu cod y dudalen]

Helo pawb - amser am fach o newyddion positif dwi'n credu!

Mae prosiect Wicipobl yn dod i ben yn swyddogol a bydd adroddiad llawn ar gael yn gyhoeddus mewn da bryd. Ond yn y cyfamser hoffwn i rannu rhai o'r prif ganlyniadau:

  • LLyfrgell Genedlaethol wedi rhannu bron 5,000 o portreadau i Comin ar trwydded CC-0.
  • Wedi creu Wikidata efo 100% o'r ddata yn ymdangos yn Gymraeg (Saesneg oedd y metadata)
  • Mae 25% or delweddau mewn defnydd ar Wiki mewn 55 iaeth.
  • Cynhaliwyd 4 digwyddiad mewn ysgolion - gyda 50 erthygl newydd
  • Cynhaliwyd Hacathon Hanes yn Caerdydd i gwneud defnydd o data agored LLGC
  • Adroddiad gan Defnyddiwr:Prosiect Wici Môn yn edrych ar sut, a pam i ddefnyddio Wici mewn ysgolion
  • Cynhaliwyd 'Cyfieith-a-thon' yn y Llyfrgell gen i cyfieithu erthyglau o'r Saesneg
  • Cyfanswm o 1444 erthygl newydd ar bobl Cymreig pwysig, a pobol enwog yn ein casgliad Portreadau genedlaethol

Ac yn amlwg mae'r gwaith wedi cael effaith positif ar stats y Wici Cymraeg:

  • Mwy o olygiadau yn ystod mis Ionawr nag unrhyw fis arall yn hanes Wicipedia
  • Y nifer uchaf o olygyddion gweithredol mewn mis ers 2013 (Ionawr)
  • Nifer o hits misol uchaf ers 2015.

Felly diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd! Gobeithio bydd ein prosiect nesaf yn well byth!

Jason.nlw (sgwrs) 13:07, 19 Mawrth 2019 (UTC)

Diolch yn fawr i ti am yr holl waith Jason! --Dafyddt (sgwrs) 13:14, 19 Mawrth 2019 (UTC)
Mae llawer o waith y prosiect Wicipobl yn wych iawn a diolch i ti am hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:11, 19 Mawrth 2019 (UTC)

Her Wicipedia Staff BBC Cymru[golygu cod y dudalen]

Gyfeillion - wele isod ebost ddrafft i Rhuanedd Richards, pennaeth BBC Cymru. Croeso i chi wneud newidiadau/cywiriadau/awgrymiadau. Dwi ddim yn siwr o deitlau pobl ag ati.

Brynhawn da Rhuanedd, ers talwm!

Dwi'n un o'r bobl hynny sy'n cyfrannu'n gyson i'r Wicipedia Cymraeg ac wedi ymgymryd â her #wici365 sef ysgrifennu erthygl y dydd (ar gyfartaledd). Dwi hefyd ar Fwrdd y Grwp Wicipedia Cymraeg. Hoffwn wneud cynnig a gweld os yw o ddiddordeb i ti ... a na, dwi ddim yn holi am arian!

O gofio sut mae sawl cwmni a sefydliad yn caniatau i'w staff gymryd amser (dyweder, awr yr wythnos) o fewn oriau gwaith i wneud gwaith cymunedol a fyddai diddordeb gan BBC Cymru weithio ar sustem lle mae ei staff yn gallu cyfrannu peth amser i ysgrifennu cofnodion i'r Wicipedia Cymraeg?

O gofio'r talent a'r profiad a'r arbenigedd o fewn y Gorfforaeth, byddai erthyglau (gallant fod yn addasiad neu grynodeb o rai Saesneg, neu iaith arall ond gyda chyfeiriad Gymreig iddynt) yn gyfraniad hynod o werthfawr a defnyddiol. Byddai'n arwydd weledol a gwaddol arbennig o bwysig gan y BBC i'w talwyr trwydded.

Rhai awgrymiadau:

  • Chwaraeon: erthyglau ar glybiau pêl-droed, safleodd a thermau pêl-droed a rygbi; chwaraeon merched; campau Olympaidd; uwchlwytho ffotos o ganddynt o feysydd chwaraeon bach a mawr a chwaraewyr Cymru.
  • Uned Wleidyddol a Newyddion - termau gwleidyddol; hanes wleidyddol; gwleidyddion; etholiadau; cytunedau
  • Adloniant Ysgafn: rhaglenni Cymraeg; actorion a pherfformwyr Cymraeg, Prydeinig neu dramor; grwpiau a recordiau cerddorol
  • Menywod - bywgraffiadau
  • Natur ac Amaeth: erthyglau ar natur, cysoni rhywogaethau; ychwanegu ar erthyglau cyfredol

Fe all y staff sgwennu erthygl yr wythnos neu benderfynnu eu bod am sgwennu ar un thema arbennig - un gyfres deledu neu un faes arbennig o feddygaeth neu fyd natur.

Fel gyda mentrau tebyg gall y BBC ddweud mai dim ond am flwyddyn y bydd hyn yn cael ei dreialu- fel mae cwmniau'n noddi neu'n gefnogi un elusen arbennig am flwyddyn.

Byddai Jason Evans, swyddog Wicipedia y Llyfrgell Genedlaethol (y 'Wicipediwr Cenedlaethol) neu Robin Llwyd ab Owain, Rheolwr Cymru ar y Wikipedia UK, ac eraill, wrth law ac yn barod iawn i roi hyfforddiant ar ysgrifennu a llwytho erthyglau - dydy e ddim yn anodd, wir!

Os hoffet sgwrs, rho wybod, 'mond syniad yw e ond dwi'n meddwl gall fod yn PR da i'r BBC a bydd yn gyfraniad wirioneddol bwysig o ran cynyddu deunydd arlein, codi proffeil wicipediad Cymraeg a chyfrannu at ymestyn pau y Gymraeg ar-lein, a maes o law, gyda thechnoleg fel adnabod llais.


Siôn Jobbins

Bore da Siôn!
Syniad gwych! Cytuno'n llwyr! Sian EJ (sgwrs) 04:43, 29 Mawrth 2019 (UTC)
Diolch am gwneud hyn Siôn, mae'r neges yn edrych yn digon glir i mi! Credu hefyd bod Wici yn gallu apelio fel fordd o cadw ac archifo gwaith ymchwil syn digwydd beth bynnag. Croesi bysedd gawn ni ymateb bositif. Jason.nlw (sgwrs) 08:48, 29 Mawrth 2019 (UTC)