Creu awyrgylch 'heddychlon, cynnes a chroesawgar' i gleifion yw nod uned iechyd meddwl newydd sydd yn agor ger Caerdydd ddydd Iau. Mae canolfan Hafan y Coed yn rhan ganolog o'r gwaith o foderneiddio Ysbyty Llandochau, sydd wedi costio £88m. Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys ystafelloedd en-suite, sydd ddim ar gael yn Ysbyty'r Eglwys Newydd. Bydd yr uned iechyd meddwl yno'n