Baner Rwmania

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Baner Rwmania FIAV 110111.svg

Baner drilliw yw baner Rwmania. Cafodd ei chreu yn 1848 trwy gyfuno lliwiau Wallachia a Moldafia, y taleithiau Otomanaidd sydd heddiw yn Rwmania: glas o faner Moldafia, melyn o faner Wallachia, a choch o faneri'r ddwy dalaith sydd yn cynrychioli undod Rwmanaidd. Yn 1867 gosodwyd arfbais y wlad yn y stribed melyn canolog; cafodd yr arfbais ei newid nifer o weithiau ac yn 1948 cafodd ei hailosod gan arwyddlun comiwnyddol. Cafodd hyn ei ddiddymu yn dilyn cwymp yr Arlywydd Ceauşescu yn 1989, a mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 27 Rhagfyr y flwyddyn honno.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Romania.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwmania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.