Croeso i'r Wiciadur Cymraeg, prosiect cydweithredol i greu geiriadur amlieithog a'r cynnwys i gyd yn rhad ac am ddim.
Yn wreiddiol, nod Wiciadur oedd i fod yn gydymaith geiriol i Wicipedia, y prosiect gwyddoniadurol, a'n nod yw fod Wiciadur yn tyfu i fod yn llawer mwy na geiriadur cyffredin. Ein gweledigaeth yw fod Wiciadur yn cynnwys thesawrws, odliadur, llyfrau ymadrodd, ystadegau ieithyddol a mynegai cynhwysfawr. Anelwn at gynnwys, nid yn unig diffiniad y gair, ond digon o wybodaeth i chi wir ddeall ystyr y gair. O ganlyniad caiff etymolegau, ynganiadau, dyfyniadau engreifftiol, cyfystyron, gwrthwynebeiriau a chyfeithiadau eu cynnwys.