Gweithdy: Technoleg a Hawliau Ieithyddol: Edrych tua’r Dyfodol

Cynhelir gweithdy Technoleg a Hawliau Ieithyddol: Edrych tua’r Dyfodol yn Pontio, Prifysgol Bangor ar y 9fed o Fedi 2022. Mae’r digwyddiad yn rhan o rwydwaith Language in the Human-Machine Era, sef rhwydwaith traws ddisgyblaethol a ariannir drwy broject COST, yr Undeb Ewropeaidd. Nod y rhwydwaith yw edrych i’r dyfodol i ragweld beth fydd dylanwad y… Darllen Rhagor »

LibreOffice 7.4 Newydd

Taenlenni mwy, gwell cyflwyniadau… LibreOffice 7.4 yw’r fersiwn mawr diweddaraf o’r casgliad o raglenni swyddfa, gyda llawer o nodweddion newydd – edrychwch ar y fideo hwn i gael trosolwg, ac yna sgroliwch i lawr am ragor o fanylion… 16,384 o golofnau yn Calc Os yn gweithio gyda llawer iawn o ddata mae modd i daenlenni… Darllen Rhagor »

Linux Mint 21 Newydd

Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 21 “Vannessa” ar Orffennaf 31. Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a bydd cyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru’n ymddangos yn fuan. Mae’r fersiwn… Darllen Rhagor »

Chromebooks nawr yn Gymraeg

Mae rhyngwyneb Chromebooks – cyfrifiaduron rhwydwaith, rhad a syml sy’n cael eu gwerthu gan Google nawr ar gael yn Gymraeg. Mae’r cyfrifiaduron hyn yn boblogaidd drwy’r drefn addysg yma yng Nghymru ac mae’n dda gweld fod y system weithredu, y porwr ac amryw o’r rhaglenni swyddfa ar gael yn Gymraeg. Ers fersiwn ChromeOS 102 (Ebrill… Darllen Rhagor »

Cod Agored a’r Gymraeg / Open Source Software and The Welsh Language

(Fersiwn Saesneg islaw/English version below) I sylw: Grŵp Trawsbleidiol: Hawliau Digidol a Democratiaeth, Sennedd Cymru 1/3/22 Ymateb i ddogfen: Why Wales should embrace Free and Open Source Software, Afallen. Mae’r gymuned Cymraeg ei hiaith wedi elwa yn fawr o fod yn rhan o ddatblygiad byd-eang meddalwedd cod agored. Mae’r croeso gan y rhan fwyaf o… Darllen Rhagor »

Waze – mae Gareth nôl!

Mae’r ap llywio Waze wedi cael sylw‘n ddiweddar yng Nghymru am y rhesymau anghywir. Diflannodd Gareth! Cafodd Waze ei addasu i’r Gymraeg dan grant gan Lywodraeth Cymru nôl tua 2017 gan gwmni cyfieithu a lleoleiddio Applingua ac ar ddiwedd y cyfnod grant ddaeth y gefnogaeth i ben. Mi wnes i ac eraill barhau cyfieithiad y… Darllen Rhagor »

WordPress 6.0 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wegan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Croeso i WordPress 6.0 Mae WordPress 6.0 yn cynnwys mwy na 500 o welliannau… Darllen Rhagor »

Macsen Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf o Macsen, y cynorthwyydd personol Cymraeg, yn cynnwys 3 sgil newydd: Trawsgrifio testun Cymraeg – mae modd siarad â Macsen ac wedyn copïo’r testun i ap arall. Amserydd – amseru cyfnodau amrywiol. Rheoli goleuadau Philips HUE – defnyddio Macsen i droi golau Philips Hue ymlaen neu i ffwrdd. Mae’r rhain yn ychwanegol… Darllen Rhagor »

Holiadur Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop

Cais am gymwynas! Oes gyda chi farn ar y gefnogaeth ddigidol i gymunedau ieithyddol yn Ewrop, a’r Gymraeg yn benodol? Mae project Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop yn gofyn i chi gyfrannu at eu holiadur byr. Holiadur: https://european-language-equality.eu/language-surveys/ Diolch!

Gwefan Scratch ar Waith

Mae gwefan Scratch ar Waith – Scratch in Practice – yn ffynhonnell syniadau a deunyddiau gan Dîm Scratch ac addysgwyr sy’n cefnogi Scratch. Mae’r wefan yn cynnwys adnoddau ar gyfer cydweddu Scratch ar gyfer y cwricwlwm addysgol lleol, ffyrdd diwylliannol  amrywiol o wneud defnydd o Scratch, cyd ddysgu cyfoedion a chreu projectau ar gyfer rhannu… Darllen Rhagor »