Cychwyn Arni

Mae'r cyfeirlyfr thema WordPress yn cael ei ddefnyddio gan filiynau o ddefnyddwyr WordPress ar draws y byd. Mae'r themâu yn y cyfeiriadur ar gael i'w llwytho i lawr oddi ar WordPress.org, a gall defnyddwyr WordPress hefyd eu gosod nhw yn uniongyrchol oddi ar eu sgriniau gweinyddol.

Drwy westeio eich thema ar WordPress.org, byddwch yn derbyn:

Nod y cyfeiriadur thema yw nid i gynnal pob thema yn y byd, ond i gynnal y themâu WordPress cod agored gorau oll. Mae themâu sy'n cael eu cynnal ar WordPress.org yn trosglwyddo'r un rhyddid defnyddiwr a WordPress ei hun; mae hyn yn golygu eu bod yn 100% GPL neu gydnaws.

Canllawiau ac Adnoddau

Er mwyn sicrhau bod defnyddwyr WordPress yn siŵr o gael profiad da, mae pob thema yn y cyfeirlyfr yn cael ei hadolygu gan y tîm thema. Cofiwch ddarllen y canllawiau cyn llwytho eich thema i fyny.

Ni fydd themâu o safleoedd sy'n cefnogi themâu nad ydynt yn GPL (neu gydnaws) neu nad ydynt yn cwrdd â'r canllawiau adolygu thema yn cael eu cymeradwyo.

Bydd eich thema yn cael ei hadolygu gan ddefnyddio'r data Prawf Uned Thema. Cyn llwytho eich thema i fyny, cofiwch ei brofi gyda'r data allforio sampl yma.

Mae adnoddau ychwanegol ar gyfer datblygwyr themâu i'w cael yn y Theme Developer Handbook.

Am gwestiynau am ddatblygu thema defnyddiwch y fforwm Themâu a Thempledi.

Llwytho eich Thema i Fyny