Akismet – Diogelu Rhag Sbam

Disgrifiad

Mae Akismet yn gwirio’ch sylwadau a’ch cyflwyniadau ffurflen gyswllt yn erbyn ein cronfa ddata fyd-eang o sbam i atal eich gwefan rhag cyhoeddi cynnwys maleisus. Gallwch adolygu’r sbam sylwadau y mae’n ei ddal ar sgrin weinyddol “Sylwadau” eich blog.

Mae nodweddion amlycaf Akismet yn cynnwys:

  • Yn gwirio’r holl sylwadau yn awtomatig ac yn hidlo’r rhai sy’n edrych fel sbam.
  • Mae gan bob sylw statws hanes, felly gallwch chi weld yn hawdd pa sylwadau gafodd eu dal neu eu clirio gan Akismet a pha rai gafodd eu sbamio neu heb eu sbamio gan gymedrolwr.
  • URLs yn cael eu dangos yng nghorff sylwadau i ddatgelu dolenni cudd neu gamarweiniol.
  • Gall cymedrolwyr weld nifer y sylwadau cymeradwy ar gyfer pob defnyddiwr.
  • Nodwedd diystyru sy’n rhwystro’r sbam gwaethaf yn llwyr, gan arbed lle ar y ddisg i chi a chyflymu’ch gwefan.

ON: Rydym yn eich annog i gael allwedd API Akismet.com i’w ddefnyddio, ar ôl ei agor. Mae allweddi am ddim ar gyfer blogiau personol; mae tanysgrifiadau taledig ar gael i fusnesau a gwefannau masnachol.

Gosod

Llwythwch yr ategyn Akismet i’ch blog, ei agor, ac yna cyflwyno eich allwedd API Akismet.com.

1, 2, 3: A dyna ni!

Adolygiadau

Gorffennaf 22, 2022
Askinet installée sur tous les sites que j'utilise
Gorffennaf 16, 2022
Automatic's automatic bait-n-switcch. Greed. Might be worth it if it, or any Automatic products, worked worth a damn.
Gorffennaf 1, 2022
Definitely a must-have for your WooCommerce store
Mehefin 29, 2022
I think this plugin is a must installed plugin to start your wordpress site. I have use it on my every website.
Read all 950 reviews

Contributors & Developers

“Akismet – Diogelu Rhag Sbam” has been translated into 72 locales. Thank you to the translators for their contributions.

Translate “Akismet – Diogelu Rhag Sbam” into your language.

Interested in development?

Browse the code, check out the SVN repository, or subscribe to the development log by RSS.

Cofnod Newid

5.0

Dyddiad Ryddhau – 26 Gorffennaf 2022

  • Ychwanegwyd nodwedd newydd i ddal sbamwyr drwy wylio sut maen nhw’n rhyngweithio gyda’r dudalen.

4.2.5

Dyddiad Ryddhau – 11 Gorffennaf 2022

  • Wedi trwsio gwall oedd yn ychwanegu cofnodion hanes diangen ar ôl gwiriadau sylwadau.
  • Ychwanegwyd hysbysiad sy’n dangos pan fod WP-Cron wedi’i analluogi ac efallai’n effeithio ar ailwirio sylwadau.

4.2.4

Dyddiad Ryddhay – 20 Mai 2022

  • Gwell cyfarwyddiadau ar gyfer hanes sylwadau.
  • Symudwyd y tag “Profwyd hyd at” i WP 6.0.

4.2.3

Dyddiad Ryddhau – 25 Ebrill 2022

  • Gwell cydnawsedd â FluentForms
  • Wedi trwsio parthau cyfieithu coll
  • URL ystadegau wedi’u diweddaru.
  • Gwell hygyrchedd elfennau ar y dudalen ffurfweddu.

4.2.2

Dyddiad Ryddhau – 24 Ionawr 2022

  • Gwell cydnawsedd â Formidable Forms
  • Wedi trwsio gwall a allai achosi problemau pan fydd ffurflenni cyswllt lluosog yn ymddangos ar un dudalen.
  • Camau gweithredu delete_comment a deleted_comment wedi’u diweddaru i basio dau ymresymiad i gyd-fynd â chraidd WordPress ers 4.9.0.
  • Wedi ychwanegu hidl sy’n caniatáu i fathau o sylwadau gael eu heithrio wrth gyfrif sylwadau cymeradwy defnyddwyr.

4.2.1

Dyddiad Ryddhau – 1 Hydref 2021

  • Wedi trwsio gwall gan achosi i ddilysiad AMP fethu ar rai tudalennau sy’n cynnwys ffurflenni.

4.2

Dyddiad Ryddhau – 30 Medi 2021

  • Ychwanegwyd dolenni at wybodaeth ychwanegol am hysbysiadau defnydd API.
  • Wedi lleihau nifer y ceisiadau rhwydwaith sydd eu hangen ar gyfer tudalen sylwadau wrth redeg Akismet.
  • Gwell cydnawsedd â’r ategion ffurflen gyswllt fwyaf poblogaidd.
  • Gwell botymau defnydd API i egluro pa uwchraddio sydd ei angen.

Ar gyfer cofnodion cofnod newid hŷn, gweler y ffeil changelog.txt ychwanegol a sy’n cael ei ddarparu gyda’r ategyn.