Rydym yn gwneud y rhyngrwyd yn fwy diogel, iach a chynt, am byth.
Mozilla yw'r corff ddim-am-elw y tu ôl i Firefox, y porwr arall gwreiddiol. Rydym yn creu cynnyrch a pholisi i gadw'r rhyngrwyd fel gwasanaeth i bobl, nid er mwyn elw.
Effaith
Pan fyddwch y defnyddio Firefox, rydych yn helpu Mozilla i frwydro yn erbyn gwybodaeth gamarweiniol ar-lein, dysgu sgiliau digidol a gwneud colofnau sylwadau’n fwy dynol. Darllenwch beth sy'n helpu i wneud rhyngrwyd mwy iach.
Arloesedd
Gan ddefnyddio'r we fel platfform, rydym yn adeiladu technolegau agored ac arloesol sy'n caniatáu i ddatblygwyr weithio'n rhydd o ecosystemau caeëdig corfforaethau gan greu profiadau gwe cynt a mwy diogel ar ein cyfer ni oll.
-
Estyniadau
Personolwch Firefox gyda'ch hoff ychwanegiadau fel rheolwyr cyfrineiriau, rhwystrwyr hysbysebion a mwy.
-
Gyrfaoedd
Dysgu am fanteision gweithio i Mozilla a gweld y swyddi gweigion sydd o amgylch y byd.
-
Angen cymorth?
Cewch atebion i'ch cwestiynau am Firefox a holl gynnyrch Mozilla gan ein tîm cefnogi.