Anghydraddoldeb iechyd meddwl

Oddi ar Wicipedia
Data cyffredinol
Mathgwasnaethau iechyd meddwl Edit this on Wikidata
Rhan odisgyblaethau ymddygiad meddygol Edit this on Wikidata

Mae anghydraddoldeb iechyd meddwl yn cyfeirio at y gwahaniaethau yn yr ansawdd, y mynediad, a'r gofal-iechyd y mae gwahanol gymunedau a phoblogaethau yn eu derbyn gan y gwasanaeth iechyd meddwl. Yn fyd-eang, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod anhwylderau iselder yn effeithio ar 350 miliwn o bobl bob dydd.[1]

Gellir diffinio iechyd meddwl fel lles yr unigolyn ac absenoldeb salwch meddwl, a ddiffinnir yn glinigol.[2] Gall anghydraddoldebau a all ddigwydd mewn gofal iechyd meddwl gynnwys statws yr iechyd meddwl, y mynediad at ofal ac ansawdd y gofal hwnnw, a chanlyniadau iechyd meddwl, a all amrywio ar draws poblogaethau o hil, ac ar draws ethnigrwydd gwahanol, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, statws economaidd gymdeithasol, lefel addysg, a lleoliad daearyddol y person. Mae penderfynyddion cymdeithasol (neu ragfynegyddion) [determinants (or predictors)] iechyd a all ddylanwadu ar dueddiad unigolyn i ddatblygu anhwylderau a salwch meddwl yn cynnwys statws economaidd, lefel addysg, emograffeg, lleoliad daearyddol a geneteg.[3]

Gwahaniaethau o ran mynediad ac ansawdd gofal iechyd meddwl[golygu | golygu cod]

Mae angen cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl a thegwch yn ansawdd y gwasanaethau hyn. Er bod y gwasanaethau hyn yn aml yn hysbysebu eu hunain fel system gefnogi ac fel gofalwyr ar gyfer unrhyw un a phawb sydd angen triniaeth neu gefnogaeth, yn aml bydd rhai agweddau ar fywyd unigolyn, megis hil, ethnigrwydd, a chyfeiriadedd rhywiol, yn pennu mynediad ac ansawdd y gofal maent yn cael eu rhoi. Ystyrir y gwahaniaethau hyn yn annheg.

Oherwydd lefel gynyddol o anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol ymhlith hiliau, mae Americanwyr Affricanaidd yn llai tebygol o gael gofal iechyd meddwl ac yn fwy tebygol o gael gofal o ansawdd salach pan fyddant yn llwyddo i'w gael.[4] Mae Americanwyr Affricanaidd a Sbaenaidd yn fwy tebygol o fod heb yswiriant neu gael <i>Medicaid</i>, gan gyfyngu ar faint a'r math o fynediad sydd ganddynt. Mewn un astudiaeth, o'r holl bobl a dderbyniodd ofal iechyd meddwl, adroddodd poblogaethau lleiafrifol lefel uwch o anghenion a oedd heb eu diwallu ac anfodlonrwydd gyda'r gwasanaethau a roddwyd iddynt. O'r rhain a holwyd, roedd 12.5% yn wyn, 25.4% yn Americanwyr Affricanaidd, a 22.6% yn Sbaenaidd ymhlith y rhai a oedd wedi cael profiadau o ofal gwael.[5]

Yn ogystal, mae salwch meddwl yn aml yn cael ei dan-ddiagnosio a thros-ddiagnosio ymhlith gwahanol grwpiau lleiafrifol, am wahanol resymau. Er enghraifft, mae sgitsoffrenia yn aml yn cael ei or-ddiagnosio mewn Americanwyr Affricanaidd, tra bod anhwylderau hwyliau, iselder ysbryd a phryder yn cael eu tanddiagnosio.[6] Mae hyn yn enghraifft o sut mae grwpiau lleiafrifol yn yr Unol Daleithiau, fel Americanwyr Affricanaidd, mewn perygl o gael diagnosis yn seiliedig ar stereoteip a heb eu hasesu na'u trin yn briodol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl.

Gwahaniaethau mewn statws economaidd-gymdeithasol[golygu | golygu cod]

Gall diffyg adnoddau economaidd-gymdeithasol arwain at ddatblygu profiadau trawmatig sy'n arwain at anhwylderau iechyd meddwl.[7] Er enghraifft, gall peidio â chael cyflogaeth neu fod â mynediad cyfyngedig at adnoddau ddylanwadu ar gwrs datblygu rhai o’r anhwylderau iechyd meddwl mwyaf cyffredin, fel iselder, gorbryder, anhwylder deubegynol, a straen seicolegol.[8] Gallai byw gydag anhwylder iechyd meddwl effeithio ar statws economaidd yr unigolyn, a all hefyd arwain at ansawdd eu hiechyd meddwl yn ogystal â disgwyliad oes.[9]

Ffactor economaidd-gymdeithasol arall a all arwain at rwystrau ac anghydraddoldebau wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd meddwl yw cyfyngiadau ariannol. Bu cynnydd yn y gost i unigolion heb yswiriant wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd meddwl o'i gymharu ag unigolion sydd ag yswiriant preifat neu gyhoeddus.[10]

Gwahaniaethau addysg[golygu | golygu cod]

Gellir diffinio gwahaniaethau addysgol fel gwahaniaethau anghyfiawn neu annheg mewn canlyniadau addysgol a all fod o ganlyniad i wahaniaeth yn y modd y caiff grwpiau lleiafrifol penodol eu trin mewn ysgolion, statws economaidd-gymdeithasol amrywiol, ac anghenion addysgol amrywiol.[11] Gall y gwahaniaethau hyn mewn addysg arwain yn y pen draw at broblemau iechyd meddwl.

Ceir gwahaniaethau rhwng adnoddau o un wlad i'r llall hefyd. Mae'r gwahaniaethau hyn fel arfer yn targedu cymunedau sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ac sydd ag incwm isel.[12] Defnyddir ystadegau wrth fesur graddau, GPA, sgoriau profion, a chyfraddau dropouts i bennu llwyddiant y myfyrwyr.[13] Gall creu system na all person byth lwyddo ynddi barhau'r anghydraddoldebau, yn enwedig y rhai sy’n dioddef o iechyd meddwl.

Gwahaniaethau gofodol (lleoliad daearyddol)[golygu | golygu cod]

Gall gwahaniaethau gofodol gynnwys lle mae'r person yn byw, lle mae'n derbyn y rhan fwyaf o'i adnoddau, a lle mae'r person yn derbyn ei addysg. Er enghraifft, mae hiliau lleiafrifol sy'n byw mewn cymdogaethau tlodi uwch yn wynebu risg uwch o straen ychwanegol ac anhwylderau iechyd meddwl eraill. Er hynny, dangoswyd bod y boblogaeth hon yn profi mwy o anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. O ystyried y cylch hwn o angen gofal ond methu â chael gofal, mae’n debygol y bydd anghydraddoldeb oherwydd lleoliad gofodol yn parhau ac yn parhau i gyfyngu ar fynediad at ofal iechyd meddwl.

Gwahaniaethau ethnig a hiliol[golygu | golygu cod]

Mae anghydraddoldeb hefyd yn bodoli o ran mynediad at ofal iechyd meddwl ar gyfer gwahanol hil ac ethnigrwydd. Dengys yr astudiaethau bod gan leiafrifoedd ag incwm isel lai o fynediad at ofal iechyd meddwl na phobl wyn incwm isel nad ydynt yn Latino.[14] Yn ogystal â diffyg mynediad, roedd lleiafrifoedd yr Unol Daleithiau yn fwy tebygol o dderbyn ansawdd gwael mewn gofal a thriniaeth iechyd meddwl o gymharu ag unigolion gwyn nad oeddent yn Latino, gan arwain at lawer o leiafrifoedd yn oedi neu'n methu triniaeth.[15]

Mae astudiaethau wedi dangos bod gan Americanwyr Affricanaidd lai o fynediad at wasanaethau iechyd meddwl a gofal iechyd meddwl o'i gymharu ag Americanwyr gwyn nad ydynt yn Latino.[14] Mae llawer o leiafrifoedd yn cael anhawster dod o hyd i ofal ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.

Ar ôl cynnal arolwg o unigolion o wahanol hiliau, dangosodd yr astudiaeth bod Americanwyr Affricanaidd, Sbaenaidd, ac Americanwyr Asiaidd yn cael llai o fynediad i'r un math o wasanaethau meddwl ag y mae pobl wyn nad ydynt yn lleiafrifol yn cael mynediad iddynt.[16]

Rhyw a gwahaniaethau a rhagfynegyddion rhyw[golygu | golygu cod]

Er bod gwahaniaethau rhyw ymhlith y rhai ag anhwylderau iechyd meddwl yn faes astudiaeth sydd yn ei fabandod, mae agweddau rhyw-benodol yn achosi gwahaniaethau. Mae rhyw yn aml yn benderfynydd faint o bŵer sydd gan rywun dros ffactorau yn eu bywyd, megis statws economaidd-gymdeithasol a safle cymdeithasol, a'r straenwyr sy'n cyd-fynd â'r ffactorau hyn. Gall lleoliad rhyw o fewn y lluniad (neu'r strata) cymdeithasol benderfynu maint y risgiau o ran anhwylderau iechyd meddwl. Gall y gwahaniaethau hyn mewn rhyw gydberthyn i'r gwahaniaethau yn y mathau o anhwylderau iechyd meddwl sydd gan unigolion. Er bod pob rhyw mewn peryg o afiechydon iechyd meddwl, mae rhai afiechydon ac anhwylderau yn fwy cyffredin ymhlith un rhyw nag un arall. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol na dynion o gael diagnosis o fathau o iselder gan fod anhwylderau iselder yn cyfrif am bron i 41.9% o anabledd anhwylderau niwroseiciatrig ymhlith menywod o'i gymharu â 29.3% ymhlith dynion. Ar y llaw arall, mae dynion deirgwaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o anhwylder gorbryder cymdeithasol na menywod.[17]

Mae rhyw y person hefyd yn chwarae rhan flaenllaw mewn agweddau eraill eraill o iechyd meddwl. Gall amser cychwyn y symptomau fod yn wahanol, yn dibynnu ar eich rhyw. Mae menywod yn fwy tebygol o ddangos arwyddion o salwch meddwl, fel iselder, yn gynharach ac yn iau na dynion. Cred llawer bod hyn yn mynd law-yn-llaw gyda chychwyn y cyfnod glasoed. O ganlyniad i stigmas cymdeithasol a stereoteipiau o fewn cymdeithas, mae menywod hefyd yn fwy tebygol o gael meddyginiaethau sy'n newid hwyliau ar bresgripsiwn, tra bod dynion yn fwy tebygol o gael meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer dibyniaeth.[18] Mae angen ymchwil pellach ar y gwahaniaethau iechyd meddwl rhwng rhyw a rhyw er mwyn cael gwybodaeth ddyfnach o ragfynegyddion iechyd meddwl a'r gwahaniaethau posibl mewn triniaethau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Uncovering the hidden impacts of inequality on mental health: a global study". Translational Psychiatry 8 (1): 98. May 2018. doi:10.1038/s41398-018-0148-0. PMC 5959880. PMID 29777100. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5959880.
  2. World Health Organization (2003) Investing in mental health. Geneva, World Health Organization (https://www.who.int/mental_health/media/investing_mnh.pdf ).
  3. "Public health determinants of health" (PDF).
  4. "Measuring trends in mental health care disparities, 2000 2004". Psychiatric Services 58 (12): 1533–40. December 2007. doi:10.1176/ps.2007.58.12.1533. PMID 18048553. http://ps.psychiatryonline.org/doi/full/10.1176/ps.2007.58.12.1533.
  5. "Ethnic disparities in unmet need for alcoholism, drug abuse, and mental health care". The American Journal of Psychiatry 158 (12): 2027–32. December 2001. doi:10.1176/appi.ajp.158.12.2027. PMID 11729020. https://archive.org/details/sim_american-journal-of-psychiatry_2001-12_158_12/page/2027.
  6. Barclay, Laurie (August 26, 2009). "Disparities in Access to Mental Health Services by African Americans: An Expert Interview With Annelle B. Primm, MD, MPH". www.medscape.com. Cyrchwyd 2017-04-02.
  7. "Are the Brown and Harris "vulnerability factors" risk factors for depression?". Journal of Psychiatry & Neuroscience 16 (5): 267–71. December 1991. PMC 1188364. PMID 1797101. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1188364.
  8. "Types of Mental Illness". WebMD (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-14.
  9. Mental Health of Children and Young People in Great Britain, 2004. 2005. doi:10.1037/e557702010-001.
  10. "Access and cost barriers to mental health care, by insurance status, 1999-2010". Health Affairs 32 (10): 1723–30. October 2013. doi:10.1377/hlthaff.2013.0133. PMC 4236908. PMID 24101061. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4236908.
  11. "Ethnic and Racial Disparities in Education: Psychology's Contributions to Understanding and Reducing Disparities" (PDF). American Psychological Association. 2012.
  12. "Unequal Opportunity: Race and Education". 2001-11-30.
  13. Wiggan, Greg (2007). "Race, School &. Achievement". Review of Educational Research 77 (3): 310–333. doi:10.3102/003465430303947. https://archive.org/details/sim_review-of-educational-research_2007-09_77_3/page/310.
  14. 14.0 14.1 "Inequalities in use of specialty mental health services among Latinos, African Americans, and non-Latino whites". Psychiatric Services 53 (12): 1547–55. December 2002. doi:10.1176/appi.ps.53.12.1547. PMID 12461214. https://archive.org/details/sim_psychiatric-services_2002-12_53_12/page/1547.
  15. "New evidence regarding racial and ethnic disparities in mental health: policy implications". Health Affairs 27 (2): 393–403. March 2008. doi:10.1377/hlthaff.27.2.393. PMC 3928067. PMID 18332495. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3928067.
  16. "Racial/ethnic disparities in the use of mental health services in poverty areas". American Journal of Public Health 93 (5): 792–7. May 2003. doi:10.2105/ajph.93.5.792. PMC 1447841. PMID 12721146. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1447841.
  17. "WHO | Gender and women's mental health". www.who.int. Cyrchwyd 2017-03-30.
  18. >"WHO | Gender and women's mental health". www.who.int. Cyrchwyd 2017-03-30."WHO | Gender and women's mental health". www.who.int. Retrieved 2017-03-30.