Amish
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
Math | Ailfedyddiaeth |
Sylfaenydd | Jakob Ammann |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o gymdeithasau eglwysig Cristnogol sy'n ffurfio is-grŵp o eglwysi'r Mennoniaid yw'r Amish[1] (Almaeneg Pennsylvania: Amisch, Almaeneg y Swistir: Amische, Saesneg: Amish). Adnabyddir yr Amish am eu dull o fyw syml, eu dillad blaen, eu cymunedau amaethyddol a theuluol, a'u hamharodrwydd i fabwysiadu nifer o gyfleusterau technoleg fodern. Maent yn byw yn bennaf yn Lancaster County, Pennsylvania, a Holmes County, Ohio, yn Unol Daleithiau America.
Tarddai'r Amish o sgism rhwng y Mennoniaid yn y Swistir, Alsás, a de'r Almaen ym 1693–97. Ymochrai cyndeidiau'r Amish â Jakob Ammann (1644–tua 1730), sydd yn rhoi ei enw i'r sect. Dechreuasant ymfudo i Ogledd America yn nechrau'r 18g, yn gyntaf i ddwyrain Pennsylvania. Ymfudodd yr Amish i'r Unol Daleithiau trwy gydol y 19g a'r 20g, a diflannodd eu cymunedau yn Ewrop.
Yn ystod ail hanner y 19g, bu rhwyg rhwng Amish "y drefn newydd", a dderbyniasant newidiadau cymdeithasol a thechnoleg newydd, a'r "hen drefn" a chadwasant at eu traddodiadau. Erbyn dechrau'r 20g, bu 2/3 ohonynt naill ai wedi ffurfio eglwysi bychain, ar wahân i'r hen drefn, neu wedi ymuno â'r Eglwys Fennonaidd neu Eglwys Fennonaidd y Gynhadledd Gyffredinol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Amish".