Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc
Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc | |
---|---|
Ganwyd | Napulione Buonaparte 15 Awst 1769 Ajaccio |
Bu farw | 5 Mai 1821 Longwood House |
Man preswyl | Saint Helena, Ajaccio, Paris, Ynys Elba |
Dinasyddiaeth | y Weriniaeth Ffrengig Gyntaf |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gwladweinydd, swyddog milwrol, casglwr celf, ymerawdwr, brenin neu frenhines, ymgyrchydd brwd, arweinydd milwrol |
Swydd | Ymerawdwr y Ffrancwyr, Cyd-Dywysog Ffrainc, Ymerawdwr y Ffrancwyr, First Consul, Brenhinoedd yr Eidal, Cyd-Dywysog Ffrainc |
Taldra | 168 centimetr |
Tad | Carlo Bonaparte |
Mam | Letizia Ramallo |
Priod | Joséphine de Beauharnais, Marie Louise, Duges Parma |
Partner | Marie Walewska, Pauline Fourès, Emilie Kraus von Wolfsberg, Elisabeth de Vaudey, Eléonore Denuelle de La Plaigne, Giuseppina Grassini |
Plant | Napoleon II, Charles Léon, Alexandre Colonna-Walewski, Eugen Megerle von Mühlfeld |
Perthnasau | Camillo Borghese, 6th Prince of Sulmona, Stéphanie de Beauharnais, Eugène de Beauharnais, Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc |
Llinach | Tylwyth Bonaparte |
Gwobr/au | Urdd yr Eliffant, Urdd yr Eryr Gwyn, Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andreas, Grand Master of the Legion of Honour, grand cross of the Order of Saint Joseph, Order of the Iron Crown (Austria), Order of Saint Stephen of Hungary, Order of Saint Hubert, Urdd yr Eryr Du, grand cross of Imperial Order of Christ |
Llofnod | |
Roedd Napoleone Buonaparte (yn wreiddiol, yn Eidaleg a Chorseg) neu Napoléon Bonaparte yn Ffrangeg), neu Napoleon I ar ôl 1804, (15 Awst 1769 – 5 Mai 1821) yn rheolwr Ffrainc o 1799; daeth i gael ei gydnabod fel Ymerawdwr Cyntaf Ffrainc o dan yr enw Napoléon I le Grand (Napoleon I "y Mawr") o 18 Mai 1804 hyd 6 Ebrill 1814, cyfnod pan reolai ran fawr o orllewin a chanolbarth Ewrop yn ogystal â Ffrainc. Apwyntiodd nifer o'i berthnasau, o'r teulu Bonaparte, i reoli fel yn brenhinoedd mewn gwledydd eraill, ond daeth rheolaeth y mwyafrif ohonyn i ben pan gwympodd Napoleon o rym.
Cafodd ei eni yn Ajaccio, Corsica, yn fab y cyfreithiwr Nobile Carlo Buonaparte a'i wraig, Letizia Ramolino.
Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon i gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain Fawr, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiwyd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.
Bu farw Napoleon ar ynys Saint Helena yn ne Cefnfor Iwerydd.
Cysylltiad â Chymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli a boddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhagflaenydd: Louis XVI |
Ymerawdwr Ffrainc 18 Mai 1804 – 6 Ebrill 1814 |
Olynydd: Louis XVIII fel Brenin Ffrainc a Navarre |
Rhagflaenydd: Ffransis II |
Brenin yr Eidal 26 Mai 1804 – 1814 |
Olynydd: Dim (o 1861 Vittorio Emanuele II) |
Rhagflaenydd: Louis XVIII fel Brenin Ffrainc a Navarre |
Ymerawdwr Ffrainc 23 Mawrth 1815 – 22 Mehefin 1815 |
Olynydd: Napoleon II |