Prifddinas a dinas fwyaf Aserbaijan yw Baku (Aserbaijaneg: Bakı, Perseg: باراکاBadkube[1][2]), a adnabyddir hefyd fel Baqy, Baky, Baki neu Bakü. Gorwedd Baku, porthladd mwyaf y wlad, ar orynys Absheron. Lleolir Baku 28 medr islaw lefel y môr. Baku yw'r brifddinas genedlaethol isaf yn y byd. Poblogaeth: 2,045,815 (Ionawr, 2011).