Hafan
Jump to navigation
Jump to search
| ||||||||||||||||||||
Croeso i'r Wiciadur Cymraeg, prosiect cydweithredol i greu geiriadur amlieithog a'r cynnwys i gyd yn rhad ac am ddim.
Yn wreiddiol, nod Wiciadur oedd i fod yn gydymaith geiriol i Wicipedia, y prosiect gwyddoniadurol, a'n nod yw fod Wiciadur yn tyfu i fod yn llawer mwy na geiriadur cyffredin. Ein gweledigaeth yw fod Wiciadur yn cynnwys thesawrws, odliadur, llyfrau ymadrodd, ystadegau ieithyddol a mynegai cynhwysfawr. Anelwn at gynnwys, nid yn unig diffiniad y gair, ond digon o wybodaeth i chi wir ddeall ystyr y gair. O ganlyniad caiff etymolegau, ynganiadau, dyfyniadau engreifftiol, cyfystyron, gwrthwynebeiriau a chyfeithiadau eu cynnwys.
Wici ydy'r Wiciadur, sy'n meddwl y gallwch chi ei olygu, ac amddifynnir yr holl gynnwys gan drwydded-ddeuol y Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License yn ogystal a'r Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU. Cyn i chi ddechrau cyfrannu, efallai yr hoffech ddarllen rhai o'n tudalennau Cymorth, a chofiwch ein bod yn gwneud pethau ychydig yn wahanol i wicis eraill. Yn benodol, mae gennym gonfensiynnau pendant ynglyn â sut i osod cofnod ar dudalen. Dysgwch sut i ddechrau tudalen newydd, sut i olygu cofnodion, arbrofwch yn y pwll tywod ac ymwelwch â Phorth y Gymuned i ddarganfod sut y gallwch chi gyfrannu yn natblygiad y geiriadur hwn.
|
| |||||||||||||||||||
|