Gwam
Math | ardal ynysol, ynys, unincorporated territory, Territory of the United States |
---|---|
Enwyd ar ôl | Unknown |
| |
Prifddinas | Hagåtña |
Poblogaeth | 161,785 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Stand Ye Guamanians |
Pennaeth llywodraeth | Lou Leon Guerrero |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Chamorro |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Micronesia |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 544 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 13.5°N 144.8°E |
US-GU | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Guam |
Corff deddfwriaethol | Legislature of Guam |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Guam |
Pennaeth y Llywodraeth | Lou Leon Guerrero |
Arian | doler yr Unol Daleithiau |
Cyfartaledd plant | 2.386 |
Un o diriogaethau tramor Unol Daleithiau America yw Gwam neu Ynys Gwam (Saesneg: Guam; Chamorreg: Guåhån). Saif yn rhan orllewinol y Cefnfor Tawel. Y brifddinas yw Hagåtña (gynt Agana), ac roedd y boblogaeth yn 2000 yn 154,805. Gwam yw'r fwyaf a'r fwyaf deheuol o Ynysoedd Mariana.
Cyrhaeddodd y boblogaeth frodorol, sef y Chamorros, yr ynys tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyrhaeddodd ymsefydlwyr Sbaenig, yn cynnwys y cenhadwr Catholig Padre San Vitores yn 1668. Bu'r ynys yn eiddo Sbaen hyd 1898, pan gipiwyd hi gan yr Unol Daleithiau. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cipiwyd yr ynys gan luoedd arfog Japan yn Rhagfyr 1941, a'i hadfeddiannu gan yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 1944. Heddiw, ceir gwersylloedd milwrol yno, ac mae twristiaeth, o Japan yn bennaf, yn bwysig.