Iaith arwyddion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Preservation of the Sign Language (1913)

Iaith sy'n cael ei chyfleu drwy batrymau o arwyddion corfforol yw iaith arwyddion (hefyd iaith arwyddo neu arwyddiaith[1]), yn hytrach na phatrymau sain. Mae'n cyfuno siapiau a chyfeiriad y dwylo, y breichiau neu'r corff ac ystumiau'r wyneb er mwyn cyfleu syniadau'r unigolyn.

Ble bynnag mae cymunedau o bobl fyddar, bydd ieithoedd arwyddo yn datblygu. Mae eu gramadeg gofodol cymhleth yn wahanol iawn i ramadeg ieithoedd llafar.[2][3] Defnyddir cannoedd o ieithoedd arwyddo ledled y byd ac maent yn greiddiol i ddiwylliannau y byddar. Mae rhai ieithoedd arwyddo wedi ennill cydnabyddiaeth gyfreithiol, tra nad oes gan eraill statws o gwbl. Iaith Arwyddion Prydain yw'r iaith arwyddo fwyaf cyffredin yng Nghymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?arwyddiaith
  2. Stokoe, William C. (1976). Dictionary of American Sign Language on Linguistic Principles. Linstok Press. ISBN 0-932130-01-1.
  3. Stokoe, William C. (1960). Sign language structure: An outline of the visual communication systems of the American deaf. Studies in linguistics: Occasional papers (No. 8). Buffalo: Dept. of Anthropology and Linguistics, University of Buffalo.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Signes du Monde, cyfeirlyfr o'r holl eiriaduron ieithoedd arwyddo] (Saesneg a Ffrangeg)