Grawn
Jump to navigation
Jump to search
Grawn neu Grawnfwyd yw'r term a ddefnyddir am rai mathau o weiriau (Poaceae) a dyfir am eu grawn, sy'n fath ar ffrwyth a elwir yn caryopsis. Y rhain yw'r pwysicaf o'r gwahanol fwydydd a dyfir trwy'r byd, ac mewn rhai gwledydd prin fod y tlodion yn bwyta dim arall.
Ymhlith y mathau pwysicaf mae Indrawn, sy'n arbennig o bwysig yng Ngogledd a De America ac Affrica; Reis, y math pwysicaf yn y trofannau, yn arbennig yn Asia; Gwenith, y math pwysicaf yn y rhannau oerach o'r byd, Haidd, Sorghwm, Miled, Ceirch a Rhyg.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]