Eurythmics
Jump to navigation
Jump to search
Eurythmics | |
---|---|
Yr Eurythmics ym 1987 | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Man geni | Llundain |
Cerddoriaeth | New Wave Synthpop pop roc |
Blynyddoedd | 1980 - 1990 1999 - 2005 |
Label(i) recordio | RCA, Arista |
Cysylltiedig | The Catch The Tourists |
Gwefan | Eurythmics.com |
Deuawd cerddorol Prydeinig yw'r Eurythmics, a ffurfiwyd ym 1980 gan Annie Lennox a Dave Stewart.
Cafodd y pâr lwyddiant beirniadol a masnachol sylweddol yn fyd-eang, gan werthu 75 miliwn o recordiau, ennill gwobrau amrywiol a sawl taith ryngwladol llwyddiannus. Nhw yw'r ddeuawd Brydeinig sydd wedi gwerthu fwyaf o recordiau erioed. Mae'r Eurythmics yn adnabyddus am eu caneuon pop deallus, sy'n amlygu llais alto pŵerus Lennox, a thechnegau cynhyrchu arloesol Stewart. Cânt eu cydnabod hefyd am eu fideos cerddorol a'u cyflwyniadau gweledol.