Diweddariadau Diweddar Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhos Prys 3:11 PM ar 2 March 2020 Dolen Barhaol | Ateb  

    Newyddion Common Voice Chwefror 2020 

    Gŵyl Dewi Hapus i bawb!

    Cyfraniadau

    Erbyn heddiw, 2 Mawrth mae’r ffigyrau cyfraniadau fel â ganlyn:

    Recordio: 79 awr Gwrando: 63awr Cyfranwyr: 1172.

    Mae cynnydd o ddwy awr yn yr oriau dilysu wedi bod ond mae’r cyfraniadau recordio wedi aros yr un â diwedd Ionawr.

    Mae’n beth da ein bod yn dechrau cau’r bwlch rhwng y recordio a’r dilysu gan mai’r data dilysu sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y dechnoleg llais. Ond, mae angen parhau i gyfrannu, felly rydym yn gofyn i chi barhau i gyfrannu ac annog teulu, ffrindiau, cyd-weithwyr, sefydliadau a chwmniau i gyfrannu.

    Ydy hi’n bosibl i chi ailgychwyn eich ymgyrchoedd Common Voice lleol?

    Mae deunydd ymgyrch i’w cael oddi ar wefan Meddal yn https://www.meddal.com/meddal/?p=1643 ac mae gan Common Voice ddeunydd y mae modd eu haddasu yn https://drive.google.com/drive/folders/1RfgsCI6-rs1crh7OhlxryXO5-zN8JREr

    Cynnydd yn y Brawddegau i’w darllen

    Mae 200 o frawddegau newydd wedi eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg yn ystod y mis, gan ddod a’r cyfanswm i tua 5,000. Mwy fyth o ddifyrrwch darllen!

    Cymhariaeth cyfraniadau data Saesneg a Chymraeg, Rhagfyr 2019 (Gw. Tudalen Setiau Data)

    Saesneg

    Cymraeg

    Maint y data

    38 GB

    1 GB

    Oriau wedi’u Recordio

    1,488 awr

    77 awr

    Oriau wedi’u Dilysu

    1,118 awr

    59 awr

    Cyfranwyr

    51,072

    1,149

    Rhyw (amryw heb gofrestru)

    46% gwryw / 13% benyw

    29% gwryw / 18% benyw

    Mae 91 iaith o fewn system Common Voice erbyn hyn.

    Ap Macsen – Uned technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

    Mae fersiwn Beta o ap Macsen, Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr ar gael ar yr App Store ac ar y Play Store ac ApkPure ar gyfer ffonau Android. Mae’r ap yn ymgais i greu ap llais i destun tebyg i Alexa neu OK Google ar y ffôn symudol, gan gychwyn gyda nifer cyfyngedig o orchmynion.

    Mae’r Uned yn chwilio am brofwyr beta i osod y ffonau ar eu dyfeisiau, profi’r gorchmynion a chyfrannu eu lleisiau drwy’r ap. Os oes adborth, gyrrwch nhw at d.prys@bangor.ac.uk

    ————————————————-

    Mozilla – cwmni meddalwedd cod agored, dim-er-elw mozilla.org/cy/ @Mozilla

    Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor @techiaith

    Meddal.com – meddalwedd Cymraeg meddal.com @MeddalCom

     
  • Rhos Prys 1:00 PM ar 14 February 2020 Dolen Barhaol | Ateb  

    Thunderbird 68 – beth sy’n newydd 

    Mae Thunderbird 68.5.0 wedi ei ryddhau gyda nifer o nodweddion newydd a diweddariadau diogelwch.

    Mae’r rhaglen yn cynnig nodwedd rheoli e-byst, calendr a rheolwr tasgau all-lein. Mae modd trefnu iddo reoli nifer o gyfrifon e-byst ar-lein er mwyn eu diogelu all-lein.

    Mae’r Thunderbird newydd eisoes ar gael drwy’r system diweddaru a hefyd drwy wefan Cymraeg Thunderbird.net. https://www.thunderbird.net/cy/

    Mae modd ychwanegu gwirydd sillafu Cymraeg at y rhaglen, Mae’r ychwanegyn, Geiriadur Cymraeg ar gael drwy’r  Rheolwr Ychwanegion.

    Mae dwy nodwedd newydd yn y fersiwn newydd:

    1. Cefnogaeth i ddilysiad OAuth 2.0 ar gyfer cyfrifon POP3.
    2, Cymorth ar gyfer Estyniad Gwasanaeth Hunaniaeth Cleient IMAP/SMTP

    Mae’r ddau yn ymestyn cydnawsedd ac yn ychwanegiadau at restr y rhaglen e-bost o nodweddion sy’n cael eu cynnal.

    Nid yw’r uwchraddio o Thunderbird 60.x i 68.x yn un llyfn. Nid yw estyniadau wedi’u gosod yn cael eu diweddaru’n awtomatig yn ystod y broses uwchraddio; gall hyn fod yn angenrheidiol at ddibenion cydnawsedd a gall rhai ychwanegiadau gael eu hanalluogi o ganlyniad. Fodd bynnag, bydd y gwiriad diweddaru integredig ar gyfer ychwanegion yn gwirio am fersiynau newydd o estyniadau wedi’u gosod ar ôl yr uwchraddiad.

     
  • Rhos Prys 10:08 AM ar 13 February 2020 Dolen Barhaol | Ateb  

    Firefox 73 – beth sy’n newydd 

    Mae Firefox wedi ryddhau fersiwn newydd o’u porwr gwe poblogaidd. Mae’r newidiadau yn fersiwn 73.0 yn llai nag arfer. Maen nhw’n cynnwys cywiriadau diogelwch yn ogystal â dwy brif nodwedd newydd.

    Bydd yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig neu mae ar gael o wefan Cymraeg Firefox yn: https://www.mozilla.org/cy/firefox/new/


    1. Rhagosod Chwyddo Tudalen Cyffredinol

    Gall defnyddwyr Firefox newid lefel chwyddo gwefannau unigol i wella hygyrchedd. Hyd yn hyn, dim ond ar gyfer gwefannau unigol y cefnogwyd hyn.

    Er bod hynny’n darparu hyblygrwydd, roedd yn gwneud y broses yn feichus pe bai angen newid chwyddo ar y mwyafrif o wefannau yn Firefox.

    Gyda Firefox 73.0, mae bellach yn bosibl newid y chwyddo rhagosodedig yn y dewisiadau. Dyma sut mae gwneud hynny:

    1. Agorwch Offer > Dewisiadau > Cyffredinol.
    2. Yn yr adran Iaith a Gwedd  mae’r pennawd Chwyddo.
    3. Gallwch newid y chwyddo rhagosodedig o 100% i werth rhwng 30% a 300% gan ddefnyddio’r gosodiad newydd. Yn ogystal, gallwch dicio’r blwch “Chwyddo testun yn unig” i chwyddo dim ond y testun a chadw pob elfen dudalen arall ar y lefel rhagosodedig.

    Gallwch ailosod y lefel chwyddo unrhyw bryd trwy newid gwerth y chwyddo rhagnodedig.


    2. Gwelliannau i’r Modd Cyferbyniad Uchel

    Mae Modd Cyferbyniad Uchel yn nodwedd hygyrchedd system weithredu Windows i wella darllenadwyedd. Arferai Firefox analluogi delweddau cefndir yn y modd hwnnw cyn rhyddhau Firefox 73.0 er mwyn gwella darllenadwyedd.

    O Firefox 73.0 ymlaen, yn lle hynny bydd Firefox yn gosod bloc lliw o amgylch testun mewn Modd Cyferbyniad Uchel i wella darllenadwyedd testun heb dynnu’r ddelwedd gefndir yn llwyr o’r dudalen we.


    Newidiadau eraill

    • Gall defnyddwyr Firefox gynyddu neu leihau cyflymder chwarae sain; mae ansawdd y rhain wedi gwella yn y fersiwn newydd.
    • Dim ond os cafodd maes yn y ffurflen fewngofnodi ei addasu y bydd Firefox yn annog cadw mewngofnodiad.
    • Cyflwyno WebRender i liniaduron sydd â chardiau graffeg Nvidia ac sy’n defnyddio gyrwyr sy’n fwy na 432.00 a meintiau sgrin sy’n llai na 1920×1200.

    Firefox ar gyfer Android

    Mae Mozilla yn gweithio ar borwr Android newydd o’r enw Firefox Preview ar hyn o bryd. Maen nhw’n bwriadu symud defnyddwyr y Firefox cyfredol ar gyfer Android i Firefox Preview yn 2020.

     
  • Rhos Prys 1:00 PM ar 30 January 2020 Dolen Barhaol | Ateb  

    Newyddion Common Voice, Ionawr 2020 

    Cyfraniadau

    Erbyn hyn mae gwefan Common Voice Cymraeg wedi casglu 79 awr o recordiadau gyda 61 awr wedi eu dilysu. Hyd yma mae 1163 o bobl wedi cyfrannu.

    *Mae dal angen parhau i gyfrannu, felly rydym yn gofyn i chi gyfrannu ac annog teulu, ffrindiau, cyd-weithwyr, sefydliadau a chwmnïau i gyfrannu.*

    Byddai’n dda gallu cynyddu’r Gwrando i ddod â’r ddau darged yn nes at ei gilydd. Pan fydd Mozilla’n ryddhau eu data llais ar gyfer datblygwyr y cyfanswm wedi ei ddilysu sy’n cael ei ryddhau ac, wrth gwrs, gorau po fwyaf!

    Cynnydd yn y Brawddegau i’w darllen – cafodd brawddegau newydd eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg gan ddod a’r cyfanswm i tua 5000. Rhagor o ddifyrrwch darllen!

    Defnydd o’r data – dros y misoedd diwethaf, mae’r Uned Technolegau Iaith wedi bod yn gweithio gyda Mozilla i ddatblygu peiriant lleferydd i destun Mozilla, Deep Speech. Mae’r swp data Cymraeg o 59 awr gafwyd ym mis Rhagfyr wedi bod yn ddefnyddiol iawn i fireinio’r dechnoleg ar gyfer y Gymraeg. Mae’r dechnoleg yn farus iawn ac felly i wella’r dechnoleg mae angen llawer iawn mwy o Recordio a Gwrando yn Common Voice Cymraeg!

    Cynlluniau Mozilla ar gyfer Common Voice yn 2020

    Mae trafodaeth fer ar gynlluniau Mozilla am Common Voice i’w gweld yn y ‘Common Voice Project Update’:

    Open Voice Challenge – Cystadlu rhwng Cyrff: Mae Mozilla wedi bod yn arbrofi gyda chystadlu rhwng timau mewn cwmnïau gwahanol yng Nghalifornia. Mae modd darllen ei hadroddiad yma: ‘Welcome to the Open Voice Challenge’

    Bosib y byddai angen addasiad i’r cynllun yma ar gyfer cystadlu rhwng cyrff cyhoeddus. Mae disgwyl i ganlyniadau hyn ymddangos mis Chwefror/Mawrth 2020. Diolch i Einion Gruffudd o’r Llyfrgell Genedlaethol am ei awgrymiadau i’r cynllun yma.

    Ap Macsen – Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

    Mae fersiwn Beta o ap Macsen, Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr ar gael ar y PlayStore ac APKPure ar gyfer ffonau Android a bydd ar gael ar yr App Store ar gyfer iOS cyn bo hir. Mae’r ap yn ymgais i greu ap llais i destun tebyg i Alexa neu Ok Google ar y ffôn symudol, gan gychwyn gyda nifer cyfyngedig o orchmynion.

    Mae’r Uned yn chwilio am brofwyr beta i osod y ffonau ar eu dyfeisiau, profi’r gorchmynion a chyfrannu eu lleisiau drwy’r ap. Os oes adborth, gyrrwch nhw at d.prys ar ebost @bangor.ac.uk

    Y Microsoft Edge newydd

    Mae Microsoft wedi ryddhau eu porwr newydd i olynu Microsoft Edge. Mae’r porwr wedi ei seilio ar borwr Chromium sy’n cael ei ddatblygu gan Google. Mantais y porwr yma yw bod modd recordio a gwrando ar wefan Common Voice. Doedd dim modd gwneud hynny ar Internet Explorer na’r Edge gwreiddiol. Mae yna lot o gyrff yn defnyddio technoleg Microsoft ac o bosib bydd y datblygiad yma’n hwyluso cyfraniad gan staff i Common Voice.

    I gael y dechnoleg yma i weithio’n y Gymraeg, mae angen cyfraniadau llais a dilysu – cyfrannwch, os gwelwch chi’n dda!

    ————————————————-

    Mozilla – cwmni meddalwedd cod agored, dim-er-elw      @Mozilla

    Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor                     @techiaith

    Meddal.com – meddalwedd Cymraeg                                @MeddalCom

     
  • Rhos Prys 10:59 AM ar 30 January 2020 Dolen Barhaol | Ateb  

    LibreOffice 6.4 

    Mae fersiwn newydd o LibreOffice wedi ei ryddhau yn cynnwys nifer o nodweddion newydd.

    Canolfan Cychwyn LibreOffice 6.4

    Dyma’r manylion:

    Gweithiwch yn gynt, gyda mathau amrywiol o ffeiliau

    Mae cydnawsedd â Microsoft Office wedi ei wella’n sylweddol, yn arbennig ar gyfer ffeilia DOCX, PPTX ac Excel 2003 XML. Yn y cyfamser, yn Calc, mae’r perfformiad wedi gwella ar gyfer taenlenni gyda lot o sylwadau, arddulliau a thracio newidiadau.

    Nodweddion newydd ar gyfer y cartref a busnesau

    Yn y Ganolfan Cychwyn, mae gan y lluniau bach eiconau i ddangos pa fath o ddogfennau ydyn nhw. Hefyd, mae cynhyrchydd cod QR ar gael ar draws y casgliad, er mwyn creu codau y mae modd eu darllen gan ddyfeisiau symudol. Ac mae’r nodwedd cuddolygu (redaction), gyflwynwyd yn LibreOffice 6.3, yn eich helpu i guddio data cyfrinachol neu sensitif mewn dogfen. Yn LibreOffice 6.4, mae nodwedd Cuddolygu Awtomatig sy’n caniatáu i chi guddio data ar sail testun neu gydweddiad mynegiadau rheolaidd.

    Gwell triniaeth o siapiau, tablau a sylwadau

    Pan fyddwch yn defnyddio siapiau yn Writer, mae dewis wedi ei ychwanegu i’w rhwystro rhag gorgyffwrdd ei gilydd. Hefyd, pan fyddwch yn gweithio gyda sylwadau, gallwch nawr eu nodi wedi eu datrys – ac mae nawr yn bosibl gadael sylwadau ar ddelweddau a siartiau hefyd. Yn olaf, mae copïo, torri a gludo o dablau wedi ei wella, gyda dewis dewislen Gludo Arbennig “Gludo fel Tabl Nythog”.

    Manylion pellach

    Am restr lawn o nodweddion newydd LibreOffice 6.4, ewch i’r nodiadau ryddhau.

     
  • Carl Morris 3:03 PM ar 21 January 2020 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth 

    Es i i’r Hacathon Hanes diwethaf ac roedd hi’n diwrnod ardderchog ac ysbrydoledig – o ddatblygwyr, pobl data, haneswyr, ymchwilwyr, pobl chwilfrydig, ac eraill yn dod at ei gilydd i geisio canfod dulliau o ddarganfod a chyfleu hanes mewn ffyrdd newydd.

    Mae trefnwyr yr Hacathon Hanes wrthi eto, yn Aberyswyth y tro hwn, ac wedi gofyn i mi basio’r neges isod ymlaen.

    Bydd yr Hacathon Hanes yn ddiwrnod hacio sy’n canolbwyntio ar ailddefnyddio data hanesyddol am bobl Cymru o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hyn yn cynnwys miloedd o gofnodion bywgraffyddol, delweddau portread, cofnodion llongau, data daearyddol a thestun OCR o’r casgliadau. Rydym yn arbennig o awyddus i weld defnydd o ddata iaith Gymraeg.

    Gall hacio gynnwys rhaglenni, visualisations, gamification, defnyddio creadigol ac artistig a llawer mwy!

    Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn a bydd lluniaeth, cinio a bag o bethau da i’r holl gyfranogwyr!

    Mae modd cofrestru ar Tocyn.Cymru.

    Am unrhyw holiadau cysylltwch yn uniongyrchol.

     
  • Sioned Mills 6:37 PM ar 16 January 2020 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Haclediad 82: Brynjury Recovery Blwyddyn Newydd 

    Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned – byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn.

    Hyn oll a llawer llawer mwy ym mhennod cyntaf 2020, diolch am danysgrifio! newydd dda gan griw’r Haclediad!

    Cefnogwch yr Haclediad

    Dolenni

     
  • Rhos Prys 9:38 AM ar 16 January 2020 Dolen Barhaol | Ateb  

    Y Microsoft Edge Newydd :-) 

    Diweddariad

    *Mae modd diweddaru i’r Microsoft Edge newydd a defnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg*

    Diolch i wefan cymorth Microsoft GB mae rhyngwyneb Cymraeg ar yr Edge newydd. Dyma sut mae ei gael i weithio:

    Mynd i Settings (clicio ar y byrgyr)>Language>Add language > Dewis y Gymraeg, yna clico ar y Tri dot > Display Microsoft Edge in this language>Restart

    Mae llawer o gyrff yn defnyddio Edge a/neu Internet Explorer oherwydd cydnawsedd â rhaglenni meddalwwedd penodol ac felly mae’n hollbwysig cael Edge i fod ar gael yn Gymraeg.

    Diolch Microsoft!

    ———————————————————————————————————————–

    *Peidiwch ddiweddaru Microsoft Edge os ydych yn ei ddefnyddio fel porwr Cymraeg*

    Cafodd fersiwn newydd o Microsoft Edge ei ryddhau ddoe. Mae’n seiliedig ar Chromium y porwr cod agored sy’n cael ei ddatblygu gan Google. Mae cwmniau eraill yn defnyddio Chromium fel sail, e.e. Opera.

    Roedd yr hen Edge ar gael yn Gymraeg ond does dim golwg o Gymraeg ar y fersiwn newydd. Mae Microsoft yn datgan fod y rhaglen wedi ei ryddhau mewn 90 iaith ond nid yw ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd, beth bynnag.

    Felly, os ydych yn defnyddio Edge am ei fod ar gael yn Gymraeg, peidiwch ei ddiweddaru ar hyn o bryd. Mae Microsoft wedi dangos tipyn o gefnogaeth i’r Gymraeg dros y blynyddoedd ac mae’n biti eu gweld yn peidio â gwneud eto gydag Edge. Gobeithio y daw cyfieithiad yn fuan.

    Yn y cyfamser, os medrwch chi, cadwch yr hen Edge neu ddefnyddio Firefox.

     
  • Rhos Prys 10:49 AM ar 8 January 2020 Dolen Barhaol | Ateb  

    Linux Mint 19.3 

    Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 19.3 “Tricia” ym mis Rhagfyr.

    Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru o 19.2. Fersiwn Cinnamon sy’n cynnwys y mwyaf o ryngwyneb Cymraeg.

     
  • Rhos Prys 4:41 PM ar 18 November 2019 Dolen Barhaol  

    WordPress 5.3 

    Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress, fersiwn 5.3 wedi ei ryddhau ac yn ymddangos ar fyrddau gwaith gweinyddwyr WordPress ar draws y byd.

    Dyma’r cyflwyniad:

    Mae 5.3 yn ehangu ac yn mireinio’r golygydd bloc a gyflwynwyd yn WordPress 5.0 gyda blociau newydd, rhyngweithio mwy greddfol, a gwell hygyrchedd. Mae nodweddion newydd yn y golygydd yn cynyddu rhyddid dylunio, yn darparu opsiynau gosodiad ychwanegol ac amrywiadau arddull i ganiatáu i ddylunwyr reoli’n llwyr dros golwg gwefan. Mae’r ryddhad hwn hefyd yn cyflwyno’r thema Twenty Twenty gan roi mwy o hyblygrwydd dylunio ac integreiddio i’r defnyddiwr gyda’r golygydd bloc. Dyw hi erioed wedi bod yn haws i greu tudalennau gwe hardd a chynlluniau datblygedig.

    Mae’r gweddill i’w weld wrth glicio ar eicon WordPress ar chwith uchaf eich tudalen Bwrdd Rheoli.

    Cofiwch wefan Gymraeg WordPress yn https://cy.wordpress.org/

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel