MTV
Sefydlwyd | 1 Awst 1981 |
---|---|
Pencadlys | |
Rhiant-gwmni | ViacomCBS Domestic Media Networks |
Is gwmni/au | MTV Films |
Gwefan | http://www.mtv.com, http://www.mtv.co.uk/ |
Mae MTV (Music Television) yn rwydwaith deledu gwifren a leolir yn Ninas Efrog Newydd. Fe'i lawnsiwyd ar y 1af o Awst, 1981 a'r nod gwreiddiol oedd i chwarae fideos cerddorol a fyddai'n cael eu cyflwyno gan gyflwynwyr a elwir yn VJs. Erbyn heddiw, mae MTV yn dal i chwarae detholiad o fideos cerddorol, ond yn bennaf mae'r sianel yn darlledu amrywiaeth o raglenni teledu realiti a diwylliant pop sydd wedi'u hanelu at arddegwyr ac oedolion ifanc.
Ers dechrau'r sianel, mae MTV wedi chwyldroi y diwydiant cerddorol. Daeth sloganau megis "I want my MTV" yn wybyddus ym meddyliau'r cyhoedd, a phoblogeiddiwyd y syniad o'r VJs. Cyflwynwyd y syniad o fan penodol i chwarae fideos cerddorol a darparodd fan canolog i artistiaid a chefnogwyr i ddysgu am ddigwyddiadau cerddorol, newyddion a hysbysebu. Cyfeiriwyd at MTV droeon gan gerddorion, sianeli a rhaglenni teledu eraill, ffilmiau a llyfrau pan yn sôn am ddiwylliant poblogaidd.
Arweiniodd MTV at nifer o sianeli tebyg yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol. Mae dylanwad moesol MTV, gan gynnwys materion megis sensoriaeth a gweithredu cymdeithasol, wedi bod yn bwnc llosg am nifer o flynyddoedd. Mae dewis MTV i ganolbwyntio ar raglenni heb gerddoriaeth wedi cael ei drafod llawer hefyd ers y 1990au, gan ddangos dylanwad y sianel ar ddiwylliant fodern.