Wicidata

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wicidata
Wikidata
Logo Wicidata
Wikidata.png
Hafan Wicidata
URL www.wikidata.org
Masnachol? Nag ydy
Ieithoedd Amlieithog
Perchennog Wikimedia Foundation
Crewyd gan Cymuned Wicifryngau
Laniswyd 30 Hydref 2012 (2012-10-30)

Prosiect cydweithredol, byd-eang ydy Wicidata gan gymuned Wicimedia (neu Wicifryngau); fe'i bwriedir i ganoli data ar gyfer prosiectau megis Wicipedia,[1] fel a wneir gyda Comin Wicimedia. Mae'r cynnwys, fel gyda gweddill y teulu "Wici" wedi'i drwyddedu ar ffurf cynnwys rhydd, agored tebyg i'r CC-BY-SA a ddefnyddir ar y wici hwn.

Y defnydd ar y Wicipedia Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei lansio ar 30 Hydref 2012 ac ar 21 Chwefror y flwyddyn ganlynol fe'i gwelwyd oddi fewn i'r Wicipedia Cymraeg pan ddechreuwyd canoli'r dolennau ieithoedd. Y bwriad gwreiddiol oedd cadw data ffeithiol nad yw'n newid (e.e. hyd afon neu ddyddiad geni) yn ganolog, gyda'r wybodaeth honno'n cael ei galw'n otomatig i wybodlenni a phrosiectau eraill Wicimedia.

Ar 19 Tachwedd 2015, ychwanegwyd rhestr o baentiadau ar y ddalen Rhestr o luniau gan Jacob van Ruisdael, a oedd yn defnyddio'r "Nodyn:Wikidata list" i alw'r data o gronfa ddata Wicidata i'r dudalen ar Wicipedia. Ym Mehefin 2016 crewyd rhestr o eglwysi a enwyd ar ôl Beuno, ac erbyn Hydref y flwyddyn honno crewyd 9,500 o restri Wicidata ar adar gyda phob un ohonynt hefyd yn tynnu llif i'r wybodlen drwy ddefnyddio'r Nodyn:Blwch tacson. Yng Ngorffennaf 2016 galluogwyd Gwybodlen gyfan a oedd yn tynnu data o Wicidata: Telesgop Pegwn y De. Erbyn Rhagfyr 2016 roedd gan cy-wici dair gwaith mwy o restri Wicidata na phob Wicipedia arall (dros 290 o ieithoedd) gyda'i gilydd 17,100) a phob un o'r rhain yn tynnu llif otomatig o Wicidata.

Gwybodlenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir Categori o ddynodwyr (neu 'codau-Q') sydd heb gyfieithiad yn Categori:Tudalennau gydag elfennau o WD heb eu cyfieithu.

Rhoddwyd y canlynol:

  • yn rhannol (gyda rhan o'r wybodlen yn cymryd llif uniongyrchol o Wicidata)
    • Nodyn:Blwch tacson; addaswyd y wybodlen a oedd yn bodoli'r barod ar gyfer llif Wicidata a'i rhoi ar dros 9,000 o erthyglau newydd ar adar.
Geirfa perthnasol

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymorth:Wicidata - geirfa

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Data Revolution for Wikipedia". Wikimedia Deutschland. March 30, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 11, 2012. Cyrchwyd September 11, 2012.