Linz
Math | statutory city of Austria, dinas fawr |
---|---|
| |
Poblogaeth | 204,846 |
Pennaeth llywodraeth | Klaus Luger |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i |
Charlottenburg-Wilmersdorf, České Budějovice, Chengdu, Gabès, Halle (Saale), Dinas Kansas, Gwangyang, Linköping Municipality, Linz am Rhein, Modena, Albufeira, Brașov, Nizhniy Novgorod, Bwrdeistref Norrköping, San Carlos, Río San Juan, Zaporizhzhya, Tampere, Eskişehir, Gorizia, Dunaújváros |
Nawddsant | Saint Florian |
Daearyddiaeth | |
Sir | Awstria Uchaf |
Gwlad | Awstria |
Arwynebedd | 95.99 km² |
Uwch y môr | 261 metr |
Yn ffinio gyda | Altenberg bei Linz, Engerwitzdorf, Steyregg, Luftenberg an der Donau, Asten, Sankt Florian, Ansfelden, Traun, Leonding, Puchenau, Gramastetten, Lichtenberg |
Cyfesurynnau | 48.3°N 14.28°E |
Cod post | 4010, 4040–4049, 4020–4029, 4030–4039 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
Pennaeth y Llywodraeth | Klaus Luger |
Prifddinas talaith Awstria Uchaf yng ngogledd Awstria yw Linz. Roedd y boblogaeth yn 188,968, sy'n ei gosod yn drydedd ymysg dinasoedd Awstria o ran poblogaeth.
Saif Linz ar afon Donaw. Sefydlwyd hi gan y Rhufeiniaid dan yr enw Lentia, ac yn ddiweddarach daeth yn ganolfan fasnach bwysig dan yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Mae nawr yn ddinas ddiwydiannol bwysig.
Bu nifer o enwogion yn byw yma ac yn eu plith y gwyddonydd Johannes Kepler a'r cyfansoddwr Anton Bruckner. Enwyd y brifysgol ar ôl Kepler a'r conservatorium ar ôl Bruckner. Yr enwocaf o gyn-drigolion Linz, fodd bynnag, yw Adolf Hitler, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yma, er iddo gael ei eni yn Braunau am Inn. Yn Linz y cyhoeddodd Hitler uniad gwleidyddol Awstria a'r Almaen, yr hyn a elwid yn Anschluss, yn 1938. Roedd ganddo gynlluniau mawr ar gyfer ail-adeiladu'r ddinas, ond dim ond pont y Niebelung dros yr afon a godwyd yn y diwedd.
Mae Linz yn un o ddwy Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop am 2009.