Arllwysiad olew Deepwater Horizon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Deepwater Horizon yng Ngwlff Mecsico 2010. Y llif olew mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.

Dechreuodd arllwysiad olew Deepwater Horizon o ganlyniad i ffrwydrad ar rig ddrilio olew Deepwater Horizon yng Ngwlff Mexico ar 20 Ebrill 2010. Erbyn dechrau Mehefin 2010, roedd eisoes ymhlith yr arllwysiadau olew mwyaf erioed, gyda rhwng 3,200,000 a 6,400,000 litr y dydd o olew yn cael ei arllwys i ddyfroedd y Gwlff.

Roedd Deepwater Horizon yn drilio mewn rhan o'r Gwlff lle mae'r môr yn cyrraedd dyfnder o tua 1,500 medr. Credir fod y broblem wedi deillio o fethiant falf, a lladdwyd 11 o weithwyr ar y rig yn y ffrwydrad a ddilynodd. Rhwng diwedd Ebrill a dechrau Mehefin, defnyddiodd cwmni olew BP nifer o ddulliau gwahanol i geisio atal y llif o olew, ond er fod y llif wedi lleihau, roedd olew yn parhau i arllwys ganol Mehefin. Bu cryn ddifrod i fywyd gwyllt a physgodfeydd ar draethau gogleddol y Gwlff, yn arbennig yn nhalaith Louisiana yn yr Unol Daleithiau. Cyhoeddodd llywodraeth yr Unol Daleithiau y bydd cwmni BP yn cael ei ddal yn gyfrifol am y costau sy'n deillio o'r arllwysiad.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato