Deddfwriaeth

Yma gallwch weld y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r broses o wneud cais, gan gynnwys:

Sylwer, bydd y dolenni isod yn agor y ddeddfwriaeth berthnasol ar wefan legislation.gov.uk.

Deddfwriaeth sylfaenol

planning act 2008 thumbnailDeddf Cynllunio 2008 fel y’i digwygiwyd gan Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a Deddf Lleoliaeth 2011 (a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Tachwedd 2008)

Y ddeddfwriaeth syflaenol a bennodd y fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwneud cais, archwilio a phenderfynu ar geisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd gan ystyried yr arweiniad mewn Datganiadau Polisi Cenedlaethol.

Coast and Marine Access Act 2009 thumbnailDeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Tachwedd 2009)

Y ddeddfwriaeth sylfaenol, sydd, ymhlith materion eraill, yn diwygio darpariaethau penodol o ran Deddf Cynllunio 2008 yn cynnwys adrannau 42 a 104, yn diddymu adrannau 148 a 149 ac yn ychwanegu adran 149A newydd.

Localism Act thumbnailDeddf Lleoliaeth 2011 (a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 15 Tachwedd 2011)
Mae’r Ddeddf yn dileu’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith ac yn trosglwyddo pwerau penderfynu’r Comisiwn i’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Cynllunio 2008, sydd i bob pwrpas, yn addasu rhai agweddau ar y weithdrefn ar gyfer ceisio caniatâd datblygu ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd.

Is-ddeddfwriaeth

The Infrastructure Planning (Environmental Impact Assessment) (Amendment) Regulations 2012 thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) 2012 (a ddaethant i rym ar 13 Ebrill 2012)

Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2009.

The Infrastructure Planning (Transitional Provisions) Direction 2012 thumbnailCyfarwyddeb Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Trosiannol) 2012 (a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2012)

Cyfarwyddeb a wnaed ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol yn amlinellu’r trefniadau trosiannol ar gyfer ceisiadau a cheisiadau arfaethedig.

The Localism Act 2011 (Infrastructure Planning) (Consequential Amendments) Regulations 2012 thumbnailRheoliadau Deddf Lleoliaeth 2011 (Cynllunio Seilwaith) (Diwygiadau Canlyniadol) 2012 (a ddaethant i rym ar 1 Ebrill 2012)

Mae Rheoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012, i bob pwrpas, yn diwygio unrhyw gyfeiriad mewn deddfwriaeth at “Y Comisiwn Cynllunio Seilwaith” (neu’r “Comisiwn”), o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, ac yn rhoi “Ysgrifennydd Gwladol” yn ei le. Mae’r rheoliadau hyn hefyd yn dileu’r gofyniad (yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefnau Rhagnodedig) 2009) i ymgeiswyr ddangos unrhyw wyro oddi ar y darpariaethau enghreifftiol yn eu Memorandwm Esboniadol.

The Localism Act 2011 (Commencement No. 4 and Transitional, Transitory and Saving Provisions) Order 2012 thumbnailGorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) 2012 (a wnaed ar 1 Mawrth 2012)

Mae erthygl 7 yn dod ag adran 128 at adran 142, Atodlen 13 a rhannau 20 a 21 Atodlen 25 y Ddeddf Lleoliaeth i rym ar 1 Ebrill 2012 (gan gynnwys darpariaethau ar gyfer diddymu’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith).

The Infrastructure Planning (National Policy Statement Consultation) Regulations 2000 thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ymgynghoriad ar Ddatganiad Polisi Cenedlaethol) 2009 (a ddaethant i rym ar 22 Mehefin 2009)

Mae’n amlinellu’r holl unigolion a sefydliadau y mae’n rhaid ymgynghori â nhw cyn bod modd i’r llywodraeth ddynodi copi drafft o’r Datganiad Polisi Cenedlaethol a chyn bod modd i’r Arolygiaeth Gynllunio ei ystyried wrth wneud argymhellion mewn perthynas â cheisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd.

The Infrastructure Planning (Environmental Impact Assessment) Regulations 2009 thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2009 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) 2012 a Rheoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012 (a ddaethant i rym ar 1 Hydref 2009)

Mae’r rheoliadau’n pennu’r gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn fel bod ystyried ceisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd yn adlewyrchu gofynion Cyfarwyddeb Cyngor Ewropeaidd 85/337/EEC yn llawn – fel y’u diwygiwyd – ar asesu effeithiau prosiectau preifat a chyhoeddus penodol ar yr amgylchedd (‘Cyfarwyddeb Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA)’).

The Infrastructure Planning (Applications: Prescribed Forms And Procedures) Regulations 2009 thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefnau Rhagnodedig) (Diwygiad) 2014 Mae’r fersiwn yma yn cynnwys newidiadau sydd yn codi o adolygiad 2014 o’r gyfundrefn seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd (mewn grym 1 Hydref 2014).

Maent yn amlinellu’r gweithdrefnau manwl y mae’n rhaid eu dilyn ar gyfer cyflwyno a chyhoeddi ceisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd.

The Infrastructure Planning (Model Provisions) (England and Wales) Order 2009 thumbnailGorchymyn Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Enghreifftiol) (Cymru a Lloegr 2009 (a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2009)

I bob pwrpas, mae Deddf Lleoliaeth 2011 (‘Deddf 2011’) yn dileu pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ragnodi a’r ddyletswydd i ystyried darpariaethau enghreifftiol, ac felly, ni fydd gan y Gorchymyn Darpariaethau Enghreifftiol unrhyw statws ffurfiol mwyach o 1 Ebrill 2012. Caiff y gofyniad i ymgeiswyr ddangos yn eu Memorandwm Esboniadol, a gyflwynwyd gyda chais am ganiatâd datblygu, “..unrhyw wyro oddi ar y darpariaethau enghreifftiol” ei ddileu hefyd gan is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf 2011. Er y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol bennu darpariaethau enghreifftiol nad ydynt yn orfodol, er enghraifft, drwy gyhoeddi Arweiniad, nid yw wedi gwneud hynny hyd yma. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn parhau i fod o’r farn, serch hynny, y gallai fod yn ddefnyddiol ac yn fanteisiol i ymgeiswyr ddangos sut a pham maent wedi gwyro oddi ar y Gorchymn Darpariaethau Enghreifftiol yn eu ceisiadau.

The Conservation (Natural Habitats, &c.) (Amendment) (No. 2) Regulations 2009 thumbnailRheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 (a ddaethant i rym ar 1 Hydref 2009)

I bob pwrpas, mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yn dirymu Rheoliadau Cadwraeth (Cynfinoedd Naturiol etc) (Diwygio) (Rhif 2) 2009, ac eithrio Rheoliad 6(2).

The Conservation of Habitats and Species Regulations 2010 thumbnailRheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012 (a ddaethant i rym ar 1 Ebrill 2010)

Maent yn amlinellu’r gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn fel bod ystyried ceisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd yn adlewyrchu gofynion Cyfarwyddeb Cyngor Ewropeaidd 94/43/EEC yn llawn – fel y’u diwygiwyd – ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a chadwraeth fflora a ffawna (‘Cyfarwyddeb Cynefinoedd’). Mae’r Rheoliadau yn cydgrynhoi Rheoliadau Cadwraeth (Cynefineodd Naturiol etc) 1994 ac yn dirymu Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 ac eithrio Rheoliad 6(2).

The Conservation of Habitats and Species (Amendment) Regulations 2012 thumbnailRheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) 2012 (Came into force 16 August 2012)

Ymhlith materion eraill, mae’r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (“Y Rheoliadau Cynefinoedd”) er mwyn gosod dyletswyddau newydd ar gyrff cyhoeddus i gymryd mesurau i ddiogelu, cynnal ac ailsefydlu cynefin ar gyfer adar gwyllt ac mae hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau pellach i’r Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn sicrhau bod darpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb 92/43/EEC (“y Cyfarwyddeb Cynefinoedd”) a Chyfarwyddeb 2009/147/EC (“Y Cyfarwyddeb Adar Gwyllt”) yn cael eu trosi’n eglur mewn cyfraith ddomestig.

Interested Parties Regulations thumbnailRheoliadau Seilwaith Cynllunio (Partïon â Buddiant) 2010 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012 (a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus, ym mis Chwefror 2010. Daethant i rym ar 1 Mawrth 2010.)

Maent yn diffinio amrywiaeth o dermau ac yn rhestru ‘partïon statudol’ at ddibenion adran 102 Deddf Cynllunio 2008.

Examination Procedure Rules thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefnau Archwilio) 2010 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012 (a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus ym mis Chwefror 2010. Daethant i rym ar 1 Mawrth 2010.)

Rheolau sy’n pennu’r weithdrefn i’w dilyn mewn perthynas ag archwilio cais am ganiatâd datblygu. Mae gweithdrefnau i’w dilyn ar ôl i’r archwiliad ddod i ben neu ar ôl dirymu penderfyniad wedi’u cynnwys hefyd.

Compulsory Acquisition Regulations thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Prynu Gorfodol) 2010 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012 (a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2010. Daethant i rym ar 1 Mawrth 2010.)

Maent yn gosod gweithdrefn y mae’n rhaid ei dilyn os oes cynnig i brynu tir yn orfodol nas henwir mewn cyfeirlyr a gyflwynwyd gyda chais.

Miscellaneous Prescribed Provisions Regulations thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2010 

fel y’u digwygiwyd gan Reoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012 (a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus ym mis Chwefror 2010. Daethant i rym ar 1 Mawrth 2010.)

Maent yn ymdrin â nifer o faterion amrywiol sy’n rhan o Ddeddf Cynllunio 2008 gan gynnwys rhestr o gynnwys rhagnodedig yn unol ag adran 150 Deddf Cynllunio 2008.

Fees Regulations thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 fel y’u digwygiwyd gan Reoliadau Diwygiadau Canlyniadol 2012 (a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus ym mis Chwefror 2010. Daethant i rym ar 1 Mawrth 2010.)

Rheoliadau’n rhagnodi’r ffioedd sy’n daladwy i’r Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â chais am ganiatâd datblygu.

Decisions Regulations thumbnailRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Penderfyniadau) 2010 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Diwygio Canlyniadol 2012 (a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus ym mis Chwefror 2010. Daethant i rym ar 1 Mawrth 2010.)

Rheoliadau’n pennu’r weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd datblygu.

Exempt Installations thumbnailGorchymyn Llinellau Uwchben (Gosodiadau Eithriedig) 2010 (a ddaethant i rym ar 1 Mawrth 2010)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 16(3) Deddf Cynllunio 2008, gan ddisgrifio sefyllfaoedd lle nad ystyrir llinellau trydanol yn brosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd (NSIP).

Exempt Installations Consequential Provisions thumbnailGorchymyn Llinellau Uwchben (Gosodiadau Eithriedig) (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (a ddaethant i rym ar 1 Mawrth 2010)

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn ystyried y newidiadau a wnaed yn Rheoliadau Llinellau Uwchben (Eithriedig) 2009.

The Overhead Lines Exemption thumbnailRheoliadau Llinellau Uwchben (Eithriad) (Cymru a Lloegr) 2009 (a ddaethant i rym ar 6 Ebrill 2009)

Diwygiadau i reoliadau eithrio gan ystyried caniatâd yn unol â Deddf Cynllunio 2008.

Railways Designation thumbnailGorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Dynodi Rheilffyrdd) 2010 (a ddaeth i rym ar 1 Mawrth 2010)

Dynodiadau ar gyfer adran 25 Deddf Cynllunio 2008.

Commencement No. 1 and Savings Order 2009Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) 2009 (fe’i gwnaed ar 25 Chwefror 2009)

Daeth â darpariaethau penodol o ran Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 6 Ebrill 2009.

Commencement No. 1 Order 2009Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Lloegr) 2009 (a wwnaed ar 20 Mai 2009)

Daeth â darpariaethau penodol o ran Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 23 Mehefin 2009.

Commencement No. 2 Order 2009Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009 (a wnaed ar 1 Medi 2009)

Daeth â darpariaethau penodol o ran Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 1 Hydref 2009.

Commencement No. 3 Order 2009Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 3) Gorchymyn 2009 (a wnaed 21 Medi 2009)

Daeth â darpariaethau penodol o ran Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 1 Hydref 2009.

Commencement No.4 thumbnailGorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 4 ac Arbed) 2010 (a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus ym mis Chwefror 2010)

Daeth â darpariaethau penodol o ran Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 1 Mawrth 2010.

Commencement No5 and Saving order 2010Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 5 ac Arbed) 2010 (a wnaed ar 3 Mawrth 2010)

Daeth â darpariaethau penodol o ran Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 6 Ebrill 2010.

Commencement No. 6 Order 2011Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 6) 2011 (fe’i gwnaed ar 8 Mawrth 2011)

Daeth â darpariaethau penodol Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 6 Ebrill 2011.

Commencement No. 7 Order 2011Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 7) 2011 (a wnaed ar 18 Awst 2011)

Daeth â darpariaethau penodol Deddf Cynllunio 2008 i rym ar 1 Hydref 2011.

Changes to, and Revocation of, Development Consent OrdersRheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu 2011 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Diwygio Canlyniadol 2011 (a ddaethant i rym ar 1 Hydref 2011)

Amlinellodd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2011, y gweithdrefnau i’w dilyn lle y cynigir newid neu ddirymu Gorchymyn Caniatâd Datblygu a roddwyd. Mae’r gweithdrefnau hyn, sy’n ymwneud â darpariaethau adran 153 ac Atodlen 6 Deddf Cynllunio 2008, yn ymdrin â newidiadau sy’n sylweddol ac nad ydynt yn sylweddol a newidiadau arfaethedig eraill i Orchmynion Caniatâd Datblygu a roddwyd. Mae’r Rheoliadau hyn, ymhlith materion eraill, yn cynnwys gweithdrefnau’n ymwneud ag asesu’r iawndal sy’n daladwy yn unol â pharagraff 6 Atodlen 6, ac maent yn diwygio Rheoliadau Seilwaith Cynllunio (Prynu Gorfodol) 2010.

Waste Water Transfer and StorageGorchymyn Cynllunio Seilwaith (Trosglwyddo a Storio Dŵr Gwastraff) 2012 (a ddaeth i rym ar 23 Mehefin 2012)

Drwy Orchymyn a wnaed o dan adran 14 (3) Deddf Cynllunio 2008 (Deddf 2008): ‘Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Trosglwyddo a Storio Dŵr Gwastraff 2012’ – a ddaeth i rym ar 23 Mehefin 2012 – mae Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (ACLl) wedi diwygio adran 14(1) Deddf 2008, o ganlyniad i reoliad 2 y Gorchymyn hwnnw, i ymestyn categorïau prosiect seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd at ddibenion Deddf 2008 drwy ychwanegu atynt, yn amodol ar adran 29 Deddf 2008: ‘adeiladu neu addasu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff’.