|
Powys County Council is delighted to announce the launch of the all new Explore Mid Wales website.
Mae'r haul yn llifo dros y mynyddoedd, y cymylau'n cronni ar y gorwel ac mae teimlad o ryddid di-gyffwrdd yn swatio'n fodlon yng nghalon Cymru. Anadlwch yn ddwfn, ciciwch eich sodlau a neidiwch i wlad sy'n llawn cyfleoedd ac antur.
... Mae Canolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog yn eich croesawu.
Dyma ddechrau'r daith. Ydych chi'n barod? Mae ein gwefan yn rhoi'r llwyfan perffaith i chi gynllunio. Cewch ollwng eich traed i afon ffres, troedio'n ofalus o amgylch castell llawn bwganod, tuchan wrth ddringo llwybr mynyddig neu lansio ar antur seiclo - a threfnu'r cwbl o'ch cadair gyfforddus.
Trwy'r wefan, gallwch chwilio am amrywiaeth o bethau, yn cynnwys llety, gerddi, atyniadau a gweithgareddau bydd yn ein helpu i roi darlun bywiog o rai o'n hoff drefi a rhoi'r gallu i chi drefnu eich gwyliau unigryw eich hun, yma yng nghanolbarth Cymru, trwy ein tudalen creu eich llyfryn eich hun.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Ganolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog.