Sunni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Rhan o gyfres ar
Islam

Allah1.png

Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Gwledydd gyda mwy na 10% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Islam
Gwyrdd: Gwledydd y Swnni, Coch: Gwledydd Shïa, Glas: Ibaditiaid (Oman)

Enwad fwyaf Islam yw Sunni neu Islam Sunni. Cyfeirir at Islam Sunni fel Ahl as-Sunnah wa’l-Jamā‘ah (Arabeg: أهل السنة والجماعة‎ "pobl [sy'n dilyn] esiampl (Mohamed) a'r Gymuned") hefyd neu Ahl as-Sunnah (Arabeg: أهل السنة‎). Daw'r gair 'Sunni' o'r gair Sunnah (Arabeg: سنة‎), sy'n golygu geiriau neu weithredoedd neu esiampl Mohamed, proffwyd Islam.

Mae tua 80% neu ragor o Fwslemiaid yn Sunni. Yr enwad ail fwyaf yw Islam Shia (rhwng 15% a 20% o Fwslemiaid), sydd i'w cael yn bennaf yn Iran, de Irac, Iemen a rhannau o Syria, Libanus ac Affganistan: y tu allan i'r cadarnleoedd hynny mae'r Sunni yn ffurffio'r mwyafrif llethol yn y gwledydd Islamig, o'r Maghreb i Indonesia.

Ysgolion y gyfraith Sunni (Madhhab)[golygu | golygu cod y dudalen]

Gelwir cyfraith Islamaidd yn Sharī‘ah. Seilir y Sharī‘ah ar y Coran a'r Sunnah,. Y prif ysgolion Sharia Sunni yw:

  • Yr Ysgol Hanafi (sefydlwyd gan Abu Hanifa)

Ganwyd Abu Hanifa (m. 767) tua 702 yn Kufa, Irac.[1][2] Mae nifer o Fwslemiaid Bangladesh, Pacistan, India, Affganistan, Canolbarth Asia, rhannau o Dde Rwsia, y Cawcasws, rhannau o'r Balcanau, Irac a Twrci yn dilyn yr ysgol hon.

  • Ysgol Maliki (sefydlwyd gan Malik ibn Anas)

Datblygodd Malik ibn Anas (m. 795) ei syniadau ym Medina, lle roedd yn adnabod rhai o ddilynwyr byw olaf Mohamed Prophet neu eu ddisgynyddion. Cofnodir ei athrawiaeth yn y Muwatta sydd yn cael ei derbyn gan y rhan fwyaf o'r Mwslemiaid yn Affrica ac eithrio de'r Aifft, Corn Affrica, Sansibar a De Affrica. Mae'n arbennig o gryf yn y Maghreb.

  • Ysgol Shafi'i (sefydlwyd gan Muhammad ibn Idris ash-Shafi`i)

Dysgodd Al-Shafi‘i (m. 820) yn Irac a'r Aifft. Ystyrir ei ddysgeidiaeth yn un gymhedrol. Mae nifer o Fwslemiaid yn Indonesia, De'r Aifft, Maleisia, Singapôr, Somalia, Gwlad Iorddonen, Libanus, Syria, Palesteina a'r Iemen yn perthyn i'r ysgol hon. Rhoddodd Al-Shafi'i bwyslais mawr ar Sunnah y Proffwyd Mohamed, fel y'i ceir yn yr Hadith (Dywediadau).

  • Ysgol Hanbali (sefydlwyd gan Ahmad bin Hanbal)

Ganed Ahmad ibn Hanbal (m. 855) yn Baghdad. Daliai fod y Coran yn llyfr tragwyddol na chafodd ei greu erioed. Mae'r ysgol hon yn boblogaidd yn Arabia yn bennaf.

Er gwaethaf rhai gwahaniaethau rhyngddynt, mae Mwslemiaid Sunni yn ystyried fod y pedair ysgol hyn i gyd yn ddilys. Ceir sawl ysgol cyfraith Sunni lai hefyd, ond nid oes ganddynt lawer o ymlynwyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Josef W. Meri, Medieval Islamic Civilization: An Encyclopedia (Routledge: 2005), tud. 5
  2. Hisham M. Ramadan, Understanding Islamic Law: From Classical to Contemporary, (AltaMira Press: 2006), tud. 26

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Islam template b.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.