Image copyright Mei Lewis/Mission Photographic Image caption Mae Dewi Llwyd yn rhoi'r gorau i gyflwyno Pawb a'i Farn ar ôl 21 mlynedd Ar ôl 21 mlynedd yn arwain y drafodaeth ar raglen banel Pawb a'i Farn, mae'r cyflwynydd Dewi Llwyd yn rhoi'r gorau iddi gan gyflwyno ei raglen olaf yn y gyfres nos Lun, Rhagfyr 2. Wrth edrych nôl dros ei gyfnod wrth y llyw - cyfnod a ddechreuodd