Anelu at Ddifodiant

Fel sy’n digwydd gyda fi’n rhy aml, ar ôl cwthwm sydyn o flogiadau yma, mae’r lle wedi bod yn segur ers misoedd. Dw i ddim wedi marw, na cholli diddordeb ym mhethau Gwrthryfel Difodiant: i’r gwrthwyneb, dw i’n fwy argyhoeddedig nag erioed bod angen gweithredu yn y modd XR-aidd.

Rydw i a Philippa wedi bod wrthi ddygsu sut i roi’r “sgwrs”, Anelu at Ddifodiant, ac wedi anerch grwpiau yma ym Mhontgarreg, ac yn Aberteifi, yn y Gymraeg ddwywaith ac unwaith yn Saesneg. Rhaid i fi ddweud mod i ddim yn naturiol pan mae’n dod at siarad yn gyhoeddus, ac ro’n i’n nerfus dros ben y tro cyntaf, ond mae wedi gwella bob tro, a chawson ni sesiwn hyfforddi arbennig o dda ddoe, gan Siân Cox o XR Aberhonddu.

Un o’r pethau wnaeth fy nharo yn y sesiwn yna, oedd cymaint yn well oedd cyflwyniadau pawb arall, nag yw fy ymdrechion innau – o leia yn fy marn i. Wrth gwrs, oedd pawb yn garedig iawn, ac wrth gwrs mae peth o’r hen syndrom y cogiwr yn chwarae rhan, ond dw i wir ddim yn meddwl mod i’n siaradwr cyhoeddus da, a byddai’n llawer gwell gen i tasai pobl eraill yn wneud y gwaith yma. Yn achos y sgyrsiau Saesneg, mae’n debyg bydda i mewn lwc, gan fod criw bach o ddarparwr siaradwyr yn ardal Aberteifi yn barod i gymryd eu tro, ond gyda’r cyflwyniadau Cymraeg, mae’n debyg y bydd rhaid i ni gario ymlaen a gwneud rhagor o’r sgyrsiau yn y dyfodol agos. Mae’n rhy pwysig i beidio wneud, a does dim digon o siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n gallu wneud yn ein hardal ni, hyd yn hyn.

Dyma fideo o rai o siaradwyr XR yn cyflwyno y sgwrs, yn Saesneg. Mae cymaint o fersiynau o’r sgwrs ag sydd pobl sy’n ei gyflwyno, ac mae e wedi newid tipyn dros y flwyddyn a hanner diwetha, ond dyma prif offeryn denu aelodau newydd sydd gan XR, oni bai am y Gwrthryfela ei hunan.

Dr Gail Bradbrook – un o sylfaenwyr XR
George Monbiot a chyfeillion

(Rhagor i ddod, gobeithio. Rhaid i fi baratoi dosbarthiadau!)

Bwydo Gwrthryfel yr Hydref

Neges ar dudalen Facebook Bwydo Gwrthryfel yr Hydref, sy’n cynnwys cyngor i’r rhai sy’n methu mynd i Lundain ar gyfer y protestiadau anafudd-dod di-drais mwya erioed (ymddiheuriadau am y cyfieithiad Google-aidd, bach yn brysur):

Rydym yn dal i glywed pobl yn dweud eu bod am gymryd rhan mewn Gwrthryfel Difodiant ond nid ydynt yn gwybod sut oherwydd diffyg amser, iechyd, gwaith ac ati ond mae llwyth o ffyrdd y gallwch gefnogi XR wrth gadw cydbwysedd bywyd.

Un ffordd o’r fath yw edrych trwy’ch holl offer gwersylla cyn i chi ei bacio i ffwrdd a / neu edrych yn eich siopau elusennol lleol i gael setiau picnic a’u danfon i ardal fwyd un o safleoedd Gwrthryfel mis Hydref.

Hyd yn oed os na allwch chi bod yn y Gwrthryfel, fe allech chi roi sachaid o lestri i rywun sydd!

Am ragor o fanylion ar hyn, ewch i dudalen Facebook “October Sustenance“.

Galwyr y Gwrthryfel

Mae’r isod yn gyfieithiad o ebost ces i gan y Rebel Ringers – pan mae pobl yn dweud “dw i eisiau helpu XR, ond dw i’n methu mynd ar brotestiadau mawr”, dyma un peth gellir awgrymu iddyn nhw.


Mae XR-UK eisiau clywed gan Wrthryfelwyr sy’n gyffyrddus ar y ffôn ac yn enwedig y rhai sydd â phrofiad mewn Canolfan Alwadau …. mae angen eich sgil arnom i’n helpu i ledaenu’r gair, tyfu’r symudiad a chael cymaint o bobl ar y strydoedd ym mis Hydref â bosibl!

Mae hwn yn weithred gynhwysol a allai fod yn addas i wrthryfelwyr hŷn neu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd cyrraedd gweithredoedd naill ai oherwydd problemau amser neu symudedd.


(Fi, Nic sy ‘ma nawr.)

Mae’r Rebel Ringers yn cynnal sesiynau hyfforddi wythnosol i’r rhai sydd â diddordeb ymuno mewn tîm Galwyr y Gwrthryfel – yma yng Nghymru byddai’n bwysig iawn bod yr opsiwn i siarad Cymraeg ar gael i’r rhai sy’n cael galwad o’r fath.

Beth amdano?

DeSmog UK

Ymgyrchydd Preston New Road ar brotest yn Swydd Hirfryn

Lansiwyd DeSmog UK ym mis Medi 2014 fel porth cyfryngol ymchwiliol sy’n ymroddedig i dorri trwy’r troelli sy’n tywyllu’r ddadl ar ynni a’r amgylchedd ym Mhrydain. Ers hynny, mae eu tîm o newyddiadurwyr ac ymchwilwyr wedi dod yn ffynhonnell ddiofyn ar gyfer gwybodaeth gywir, wedi’i seilio ar ffeithiau ynghylch ymgyrchoedd gwybodaeth anghywir ar wyddoniaeth hinsawdd yn y DU.

Rhai o erthyglau diweddar DeSmog UK:

Llun: Ymgyrchydd Preston New Road ar brotest yn Swydd Caerhirfryn. (Credyd: Reclaim the Power)

Pwysigrwydd normaleiddio dwyieithrwydd yn XR Cymru

Ddim yn wneud hyn yn aml (unwaith o’r blaen, os dw i’n cofio’n iawn), ond dw i newydd bostio hyn ar Basecamp XR Cymru, ac yn meddwl falle byddai’n werth cael copi ohono fe fan hyn.

The importance of bilingualism (in XR Cymru)

Second attempt at making this shorter, and now into my third hour, so I’m going to pretend it’s a poem, rather than what has turned out to be a blog post, and just abandon it as it is. Please bear the bold bit of first sentence below in mind if it seems like I’m one of those Rude Welsh Speakers you’ve heard about. This obviously goes much deeper than XR for me. I hope it sparks a conversation, but I realise that it might read as a rant, so apologies in advance.


Let’s start with the good news: XR is far better at this stuff than other UK-wide or global movements I’ve been involved with in the past, but there’s still a way to go before bilingualism is normalised here, and I know, from experience, how difficult it is for someone who doesn’t speak Welsh (me, until my late-20s) to identify with the experience of someone who to all practical purposes, rarely speaks anything but Welsh (me, since my early-30s).

And before you ask, I’m 52 now, so I’ve had a good 20 years of living in “Welsh Wales” to internalise all this, and for it to become something I take for granted. In my childhood in Anglicised and industrialised Wrexham, and my youth in ditto Cardiff, none of this stuff had occurred to me, and I learnt it the hard way, via a string of more or less embarassing faux pas. (Bit of French there. Just showing off.)

So, here’s the thing…

If you’re holding an event in Wales, and especially in “y Fro Gymraeg” (roughly speaking Gwynedd, Môn, Ceredigion, Carmarthenshire, north Pembs and west Cardiff 😉) and you don’t include the Welsh language from the very beginning of your advertising for that event, you’re ensuring that a significant proportion of the Welsh-speaking population will not attend that event. If it’s an event you’re advertising on Facebook, those people won’t share the event either. They just won’t. I probably won’t, and I love you.

Wales is officially a bilingual country: the statistics are irrelevant, it just is. The official status of the Welsh language was won by, wait for it, people who blocked bridges (amongst other forms of NVDA), got arrested, went to prison. The fact that XR is advocating these very same tactics is the reason I started going to XR events, even though they were only being advertised in a language I rarely speak anymore! I know NVDA works, because I’ve been a member of Cymdeithas yr Iaith for 30 years and know some of the people who went to prison to win the rights that I now take for granted. This stuff works!

But… any event in Wales that advertises itself in just one (or, rarely, the other) of Wales’s two official langauges, is by definition, not an “official” event. If a public body does this, they risk prosecution under the various Welsh Language Acts. If it’s a community event, there’s no legal issue, but there may be an ethical one, and there’s almost certainly a practical one. If you want, or expect, members of the two main linguistic communities to attend your event, you have to advertise it bilingually. 

There may be a practical reason why you would want to give the impression that the event is only for people who mostly identify with one of those two communities: an evening of strict-metre Welsh-language poetry has a pretty good excuse, for instance. But if you think that since “everybody speaks English anyway” your English-only poster is inclusive I’m afraid you’ve just made a mistake. 

An English-only poster/Facebook/whatever gives one of three, possibly overlapping impressions:

  1. There isn’t a significant Welsh-speaking population in this community
  2. Even if there is, they won’t be interested in this event
  3. Even if there are, they can all read English, can’t they? It’s not anyone’s going to be actually speaking Welsh, once we’ve got the formalities out of the way. 

(The first impression might well be true, but your definition of “significant” is likely to differ from mine.)

I should stress again, that XR has been far better at this than, say… no, that’s not fair, but suffice it to say that I once had to correct the spelling of the Welsh version of one organisation’s name on a poster, and I was assured that “hardly anyone in Cardigan will have noticed” – in a town with about 60% Welsh speakers at that time, the vast majority first language. 

Ok, this is already too long, and I’ve spent far too long on it. I’ll copy it to my blog, where I can get into more detail later, if there’s time. For some of you, yn amlwg, none of this will be news as you know this stuff far better than I’ll ever know it, having been brought up bilingually. I’ve already had private chats with some others on related topics, and I’ve always been met with good faith and understanding. The only slightly uncomfortable experiences I’ve had have been down to, shall we say, an innocence about the socio-linguistic reality of south-west Wales, which as a Welsh tutor, come as no surprise. 

So once last time: XR is doing really well on this, and it has been noticed in the Welsh-language community. But as we say: Nid da lle gellir gwell / Don’t settle for “good enough”.

(I know everyone’s too busy to even read this, never mind respond to it! Don’t feel you have to respond, I just wanted to explain how I feel, and maybe spark a conversation. Ping me if there’s anything you’d rather discuss in private. Dioch am fod yn amyneddgar / thanks for your patience.)

Colli’r Hen Flog

Dw i wedi sôn am hyn o’r blaen, ond y rheswm nad oes archif i’r blog ‘ma yw iddo fe gael ei hacio, sawl gwaith dros y “cyfnod segur”, sef rhywle rhwng diwedd fy amser gyda maes-e, a diwedd y flwyddyn diwetha, pan o’n i’n blogio yma yn achlusurol iawn.

O beth dw i’n gallu gweld, mae cynnwys i gyd dal ar weinydd Dreamhost, ond Duw a wyr a fydd yn bosibl ei adfer. Ces i gynnig arall arno heddi, ond ar ôl methiant arall o ffidlo gyda wp_config.php ac yn y blaen, wnes i roi’r ffidl yn y to, ‘to.

Fel dwedais i ym mis Rhagfyr, dyw hyn oll ddim yn golled mawr i fi, ac mae siŵr o fod rhagor o stwff fyddwn i ddim eisiau gweld eto, na stwff sydd o unrhyw werth i hanesyddion cymdeithasol manion y we Cymraeg. Wedi dweud hynny, oedd yn braf gweld ei fod e’n bosibl o hyd i gael blas ar fy hen flog, trwy Y Way Back Machine.

Yr uchod oedd y ddolen cyntaf i fi bostio, nôl yn y dyddiau cyn i fi goftrestru’r URL morfablog.com – roedd y blog yn arfer byw ar Blogspot.com, sef rhagflaenydd Blogger. Yn y fersiwn cynharaf o’r meddalwedd, doedd dim modd rhoi teitl i’ch blogiadau, os dw i’n cofio’n iawn. Rhywle yn y broses o allforio cynnwys y blog o un platfform i’r nesaf (Moveable Type), creuwyd teitlau awtomatig, o linell cyntaf y blogiadau.

(Mae fersiwn gwreiddiol Prosiect Megapenny wedi’i hergipio gan rhyw sgamwyr sy’n hybu gwestai yng Nghaliffornia, ond mae ‘na fersiwn “newydd” yma, rhag ofn i chi eisiau gweld sut mae cwintiliwn o geiniogau yn edrych.)

Sa i’n gwybod pam dw i’n boddran mwydro am hyn i gyd. Dw i newydd ddod ar draws fy nghofnod ar 11 Medi, 2001, a chael fy atgoffa pa mor ffycd ydyn ni.

Ar y llaw arall, ac ar yr un funud, ces i dwît gan un o fy arwyr mwya y byd arlein, Jessamyn West, felly dyn ni ddim yn hollol ffycd.

Gŵyl Gwrthryfel, Y Borth, 13-15 Medi 2019

(Wedi’i gopio o wefan swyddogol XR.)

Gŵyl hyfforddi XR i uno Cymru!

P’un a ydych chi’n wrthryfelwr profiadol neu’n darganfod XR am y tro cyntaf, ymunwch â ni i ddod at ein gilydd, i gael eich hyfforddi, i drefnu… a chael hwyl!

• Hyfforddiant yn y Dull Di-Drais o Weithredu’n Uniongyrchol a Chyfathrebu
• Sgyrsiau gan Arbenigwyr
• Cynulliadau’r Bobl
• Cerddoriaeth a Dawns
• Gweithdai Creadigol
• Gweithgareddau i Blant
• Bwyd a Diod o ffynonellau cynaliadwy
• Ymlacio ac Adfywio
• Paratoadau ar gyfer Gwrthryfel yr Hydref!

Mae tocynnau’n gyfyngedig – dyma’r lle i fod er mwyn bod y cyntaf i gael gafael ar un pan fyddant ar werth!

Tocyn penwythnos cyffredinol: £20
Tocyn penwythnos gostyngol cyflog isel: £10
Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn yn eu harddegau): £40
Iau na 12 am ddim

Dewch â’ch offer gwersylla!

Mae’r tocyn yn cynnwys:

•Bws gwennol rhwng yr orsaf reilffordd a’r safle
•Maes pebyll a mynediad i gyfleusterau gwersylla
• Prydau addas i figaniaid a llysieuwyr am y penwythnos cyfan o Gegin XR Cymru sy’n ddibynnol ar roddion!

Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl a’r gwyliau eraill sydd am ddigwydd ar draws y DU, ewch at: https://rebelrising.co.uk/


Un peth sy wedi newid am yr uchod, am wn i, yw bydd ‘na bwyd ar gael i’r rhai sy’n bwyta cig, hefyd, gyda chynhyrchwyr lleol wedi’u gwahodd i gynnal stondinau.

Er mod i’n figan fy hunan, dw i’n meddwl bod hyn yn syniad da iawn – mae’n bwysig dros ben i ni agor a chynnal trafodaethau gyda ffermwyr Cymru am ddyfodol amaethyddiaeth a defnydd tir yma, a does dim diben i ni yn XR fynnu taw dim ond ar sail figaniaeth bur mae ennill y dyfodol. Yn sicr, mae rhaid i “ni” (yn enwedig yng ngwledydd cyfoethog y “gogledd”) fwyta llai o gig os ydyn ni am gyrraedd ein targedau carbon mewn da pryd, ond mae mwy nag un ffordd o gael Wil i’r gwely hwnna. (Rhywbeth am flogiad arall, falle?)

Dw i wedi sôn am fy agwedd at figaniaeth yma o’r blaen, ac mae’n agwedd sy’n newid gydag amser. Dw i’n dal at figaniaeth eitha “pur” yn bersonol, ond yn gweld gor-bwysleisio “purdeb” figaniaeth yn agwedd hollol wrth-gynhyrchiol. Os mai “lladd llai o anifeiliaid er mwyn eu bwyta” yw’r nod tymor hir, mae’n llawer gwell i bwysleisio’r pwysigrwydd o fwyta llai o gig, na cheisio (a methu) darbwyllo pawb yn y byd i fynd yn figan. Does dim amser ‘da ni i chwarae’r gêm hon.

“Blogiwr ar newid hinsawdd”

Ces i’r fraint o gael erthygl yn rhifyn cyfredol Y Cymro, ar fy mhrofiadau fel aelod Gwrthryfel Difodiant, y protestiadau yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, a pham dw i’n meddwl bod rhaid i “bobl normal fel fi” cael ein harestio yn y pen draw.

Dyw’r erthygl ddim ar-lein (Y Cymro, natch), ond os chi’n fodlon craffu ar hyn, falle y cewch chi’r jist:

Yr unig ddarnau o hyn dw i ddim yn adnabod yw’r disgrifiad ohona i fel “blogiwr ar newid hinsawdd” a’r honiad mod i’n “wedi ysgrifennu erthyglau helaeth ar newid hinsawdd ar ei flog”.

(Wedi meddwl, mae’r erthygl ar gael arlein, gan fod copi gyda fi yn fy Ngoogle Drive – mae’n bosibl bod man gwahaniaethau rhwng hyn a’r fersiwn cyhoeddwyd, ond o leia mae hyn yn ddarllenadwy.)

Dw i heb sgwennu gair ar y blog yma ers dechrau’r flwyddyn, ond er hynny, dw i ddim wedi bod yn hollol segur. Ers y gwanwyn, ac yn enwedig ar ôl i fi weld y fideo o’r protestiadau ar strydoedd Llundain a chael deall mod i’n nabod ambell un o’r rhai cafodd eu harestio (gan gynnwys un o fy myryfwyr Cymraeg i Oedolion; grŵp Sylfaen dydd Mawrth, cynrycholi!), dw i wedi dod yn fwy gweithgar yn y mudiad.

Un o’r sloganau mae ymgyrchwyr Cymraeg XR wedi’u mabwysadu

Y prif beth dw i wedi bod yn wneud yw ceisio hybu Gwrthryfel Difodiant ar-lein i Gymry Cymraeg. Ar ôl derbyn ebost ynglŷn â “Grwpiau Cymunedol XR”, es i ati i sefydlu XR Cymraeg, fel grŵp ar Facebook i bobl sy’n cefnogi XR, ac yn siarad (neu’n dysgu) y Gymraeg. Yn ein dau fis cyntaf, rydyn ni wedi denu bron 150 o aelodau i’r grŵp, ac mae tipyn o’r rheini wedi cymryd y cam nesa ac ymuno mewn un o’r grwpiau lleol XR yng Nghymru, ac yn helpu ma’s trwy ymuno â’r tîm cyfieithu sy’n ymgynnull at blatfform Basecamp*. Mae gyda ni gyfrif Twitter, hefyd, ond dw i heb gael cyfle i fynd mor bell a chychwyn un ar Instagram. Dw i’n nabod fy hun yn rhy dda, a ffeindiais i fy hun hiraethu am Azeroth heddi, sy’n arwydd bod realiti yn dechrau bod yn drech na fi, a bod rhaid i fi ofalu am fy hunan.

Yn ystod y tymor dysgu, dw i wedi bod yn mynychu cyfarfodydd fy ngrŵp lleol fy hunan, XR Aberteifi, ond ers diwedd y tymor dw i ond wedi gweld y criw yna mewn cyfarfodydd hyfforddi (ar y Dull Di-Drais a “Chyfrathrebu Heb Wrthdaro”) ac ambell i ddigwyddiad codi proffil fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst a Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi.

Llun clawr Facebook, gyda logos Cymraeg a Saesneg Gwrthryfel Difodiant, a llinell o farddoniaeth Gerallt Lloyd Owen: "Cawsom wlad i'w chadw, darn o dir yn dyst ein bod wedi mynnu byw." (Etifeddiaeth)
Cynllun ar gyfer “llun clawr Facebook”, gyda llinell o gerdd Gerallt Lloyd Owen

Mae hyn i gyd yn swnio fel mod i naill ai’n brolio, neu ‘n wneud esgudion am beidio â wneud mwy! Beth dw i’n ceisio wneud yma gyda hyn o flogiad yw ymarfer teipio geiriau fy hunan, yn lle cyfieithu pethau sy wedi’u sgwennu ym Mryste a Llundain. Dw i’n gwybod o brofiad hir taw’r ffordd orau i gael fy hunan i flogio yw jyst i ddechrau blogio heb ormod o amcan, ac wedyn syrffio’r tonnau o frwdfrydedd nes iddynt farw ar draethau diflas fy niogrwydd.

Dyma ni, ‘te. “Erthygl ar newid hinsawdd”, o ryw fath.


* os gallwch chi helpu gyda’r gwaith cyfieithu yma, cysylltwch trwy un o’r sianeli yna, neu trwy ebost – mae digon i’w wneud, a llawer o bethau sy ddim wedi’u wneud gan fod pawb yn rhy brysur

Wynebu’r Bwystfil

Mae gwadu realiti yr argyfwng hinsawdd yn hollol naturiol; mae’n rhan o’r atblygiad “ymladd neu ffoi”. Heb yr atblygiad yma fydden ni ddim yma. Doedd yr atblygiad yma ddim gyda’r dodo. Mae’n hanfodol i’n llwyddiant fel rhywogaeth.

Wrth wynebu gelyn, neu anifail rheibus, neu unrhyw her amgylcheddol arall, ein dewis sydyn yw “ydw i’n ddigon cryf i ymladd â hyn neu ddylwn i ei heglu hi?”

Y broblem gyda teigr yr argyfwng hinsawdd yw does dim lle i ni ffoi. Dyn ni ddim yn gallu ffoi rhag y bygythiad yma trwy rhedeg yn glou dros y safana, neu ddringo coeden neu guddio yn ein hogofeydd. Mae rhaid i ni wynebu’r teigr.

Ydy, mae’n fwstfil enfawr. Ydyn, mae ei ddannedd yn fawr. Mae bod ag ofn yn naturiol, ac yn iawn a does dim rheswm i ni fod â chywilydd, ond does dim modd i ni ffoi. Mae rhaid i ni ymladd.

Mae un mantais gyda ni. Yr un mantais oedd gyda ein hen deidiau a’n hen neiniau ar y safana, yn y coed ac yn eu hogofeydd. Mae gyda ni ymennydd sy’n annaturiol o fawr.

Ein hymennydd mawr yw’r rheswm mae cymaint ohonon ni ar y graig fawr las yma. Ni wedi wneud y dewis iawn, ymladd neu ffoi, bob tro ni wedi wynebu gelyn dirfodol, hyd yn hyn.

Hyd yn hyn.

Ein hymenydd mawr sy’n gyfrifol am ein gallu anhygoel o gyfathrebu. Ein gallu anhygoegol o ddofi anifeiliaid a phlanhigion, lleihau’r amser ni’n gorfod treulio casglu calorïau a’n rhyddhau i wneud gwaith arall…

Gwaith fel adeiladu pontydd crog, ysgrifennu sonedau a [gwirio nodiadau] treulio hanner ein horiau deffro edrych ar gyfrifiaduron bach ni’n cario o gwmpas yn ein pocedi.

Ni yw’r anifeiliaid sy’n siarad. Dim ond trwy siarad â’n gilydd ydyn ni wedi llwyddo creu’r byd anhygoel, prydferth a pheryglus tu hwnt yma. Dim ond trwy siarad â’n gilydd y ffeindiwn ni’r cryfder i ymladd â’r argyfwng mawr gwrychlyd sy’n ein hwynebu nawr.

Mae rhaid i ni siarad â’n gilydd, mae rhaid i ni fod yn onest, ac mae rhaid i ni weithredu, gyda’n gilydd, yn glou iawn. Ni sy wedi creu’r bwystfil hwn, a dim ond ni sydd gyda’r arfau, a’r gallu, a’r dealltwriaeth i’w daclo.

Mae rhaid i ni addysgu ein hunain.

Mae rhaid i ni newid y ffordd ni’n byw.

Mae rhaid i ni ladd y teigr cyn iddo fe ladd ein plant.

Mae e yma. Mae e’n real. A ni sy wedi ei greu. Mae rhaid i ni siapo.