Playboy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Marilyn Monroe ar glawr Playboy

Mae Playboy yn gylchgrawn Americanaidd i ddynion, a gafodd ei sefydlu yn Chicago, Illinois ym 1953, gan Hugh Hefner a'i gyd-weithwyr. Mae'r cylchgrawn wedi datblygu i Playboy Enterprises, Inc., gyda phresenoldeb ymhob agwedd o fywyd bron. Yn ogystal â'r prif gylchgrawn yn yr Unol Daleithiau, cyhoeddir fersiynnau gwledydd unigol yn fyd-eang.

Mae gan y cylchgrawn hanes o gyhoeddi straeon byrion gan nofelwyr fel Arthur C. Clarke, Ian Fleming, Vladimir Nabokov, a Margaret Atwood. Mae Playboy yn cynnwys cyfweliadau misol gan bobl enwog megis artistiaid, penseiri, economegwyr, cyfansoddwyr, cyfarwyddwyr ffilm, newyddiadurwyr, nofelwyr, dramodwyr, arweinwyr crefyddol, athletwyr a gyrrwyr ceir rasio. Ers cychwyn y cylchgrawn, mae ganddo agwedd ryddfrydig ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]