Yn ystod y moment hon, gyfeillion, efallai bod y hanesydd radical Gwyn Alf Williams yn gallu cynnig rhywbeth o werth i ni – os nad cysur, yn sicr bach o ddoethineb.
Mae defnyddiwr YouTube o’r enw International School History newydd lanlwytho ddwy bennod o The Dragon Has Two Tongues mewn ansawdd weddol dda.
Mae pobl wedi rhannu darnau o’r rhaglenni o’r blaen ond y tro yma mae’r ansawdd sain yn cyfleu’r dadleuon yn well, dehongliadau o’r Cymry sydd yn hollol wahanol rhwng Gwyn Alf a’r boi arall.
Darlledwyd y gyfres yn wreiddiol ar Channel 4 yn 1985 pan oedd cymunedau Cymru yn dioddef polisïau llywodraeth Margaret Thatcher yn sgil methiant yr ymgyrch i sefydlu senedd i Gymru yn 1979.
Bu farw Gwyn Alf yn 1995. Doedd i ddim o gwmpas i ymateb i’r oes datganoli ers 1997, na thrychineb 2016. Ond dyw hynny ddim yn ein hatal ni rhag dychmygu beth fyddai fe wedi dweud.
I’r rhai ohonom ni a oedd yn rhy ifanc neu rywle arall pan oedd Y Cyrff yn eu hanterth dyma hen raglen ddogfen Cofia Fi’n Ddiolchgar am y grŵp roc o fri o Lanrwst.
Mae hi’n cynnwys fideos ac hen glipiau eraill o’r archif gan gynnwys cyfweliadau gyda chyn-aelodau o’r grŵp – a’i cyn-athro daearyddiaeth dylanwadol Toni Schiavone. Hebddo fe byddai’r Cyrff wedi bod yn wahanol iawn – cynigiodd e gig cynnar iddynt ar yr amod eu bod nhw yn canu yn Gymraeg.
Mae teimlad y rhaglen yn syml gyda thestunau ar y sgrîn yn hytrach nag unrhyw droslais.
Darlledwyd y rhaglen gan gwmni cynhyrchu Pop 1 ar S4C yn 2000 yn wreiddiol. Mae testun ar y dechrau yn nodi bod y rhaglen yn deyrnged i’r gitarydd Barry Cawley a fu farw yn yr un flwyddyn mewn damwain ffordd.
Os ydych chi’n chwilio am fwy o fideos mae pobl yn rhannu ffilmiau am gerddoriaeth ar Twitter trwy’r dydd gyda’r hashnod #doccerdd. Diolch i Nwdls am y syniad ac i Siôn Richards am y ddolen i’r rhaglen am Y Cyrff.
Dyma adolygiad gan Bethan Williams o raglen ddogfen Geraint Jarman a ddarlledwyd ar S4C ym mis Mai 2015. Ar hyn o bryd, dydy’r rhaglen ddim ar gael trwy ddulliau trwyddededig.
Dilyn Geraint Jarman a chyfweld ag e wrth iddo berfformio gigs a recordio’i albwm ddiweddara mae’r rhaglen.
Mae’n amlwg taw cyfansoddi a cherddoriaeth yw bywyd Jarman. Mae’n dweud ei fod yn mwynhau recordio a chyfansoddi o hyd, a’i fod yn un o’r pethau yn ei fywyd nad ydy e wedi mynd ‘yn ffed up ohono’.
Dechreodd ysgrifennu fel ‘outlet’ i’w agwedd o wrthod cydymffurfio a mitsio o’r ysgol ac mae’n dal ati achos ‘Be wnawn i heblaw am be ‘sgen i?’.
Mae’n amlwg yn llwyddo i dynnu pobl i’w gerddoriaeth – y fenyw mae’n sôn amdani sy’n gwrando ar ei recordiau bob dydd; y cerddorion rydyn ni ei weld e’n cydweithio â nhw fel ffrindiau; ei ferched, sy’n canu ar yr albwm ddiweddaraf a hyd yn oed diwylliant!
Wrth ganu reggae, diwylliant sy’n sôn am gam-drin a chael eich gwrthod, roedd e’n teimlo fod y diwylliant hwnnw’n uniaethu â’r Gymraeg – drwy gerddoriaeth.
Mewn cyfweliad o’r 70au am ddylanwad reggae mae’n dweud fod neges ei ganeuon wedi’i chlymu gyda’r diwylliant Cymraeg a dyna pam ei fod yn canu reggae yn Gymraeg.
Un o’r pethau mwyaf dwi’n ei gysylltu gyda Jarman yw’r sbecs haul, hyd yn oed mewn lleoliadau tywyll mae’r sbecs tywyll yn aros. Mae’n esbonio ei fod wedi dechrau gwneud am nad oedd e am i’r gynulleidfa i’w weld e, achos nyrfs – ac yn cyfaddef fod y nyrfs yn dal i ddod cyn gigs. Yn ystod y rhaglen mae’r sbecs tywyll yr un mor amlwg.
Wrth fynd nôl i ardal ei fagwraeth a sôn am brofedigaeth a gafodd yn fachgen ifanc er enghaifft mae’n gwisgo’r sbecs; ond wrth drafod cerddoriaeth mae’r sbecs ar goll.
Falle mai fi sy’n darllen gormod i hynny ond roedd e’n fwy parod a chyfforddus wrth siarad am gerddoriaeth. Roedd rhywbeth arall yn digwydd tu ôl i’r sbecs, heb yn wybod i’r gynulleidfa, ond bydd rhaid i chi wylio i weld beth!
I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â Butetown, ysgrifennodd yr awdur John Williams gyflwyniad i hanes yr ardal yn y llyfr Bloody Valentine:
[…] from this point on Butetown was not simply a conventional ghetto or a colourful adjunct to the city’s maritime life, but effectively an island. It was not simply a black island: the area had always had a white Welsh population and continued to do so, there was an Irish presence too as well as Chinese, Arab and European sailors, and refugees from successive European conflicts as well. And as the black or coloured population was initially almost exclusively male, Butetown rapidly became a predominantly mixed-race community, almost unique in Britain, the New Orleans of the Taff delta, home of the creole Celts. But this integration was firmly confined to Tiger Bay: above the Bute bridge you were back in the same hidebound old Britain. […]
Cyfres teledu BBC am fywydau, profiadau a diwylliannau pobl dduon oedd Ebony yn yr 80au cynnar. Yn 1984 aeth criw o BBC Bryste i Gaerdydd i ddarlledu rhaglen ‘arbennig’ yn fyw ac mae defnyddiwr YouTube wedi bod yn ddigon caredig i rannu recordiad yn ddiweddar. Yn ôl ffrind sy’n deillio o Butetown mae PAWB yn ymddangos yn y rhaglen hon.
O’n i’n chwilfrydig am gerddoriaeth yr oes ac mae dwy enghraifft dda o artistiad reggae lleol. Bandiau y dociau oedd ymhlith ysbrydoliaethau a chyd-artistiaid Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr wrth gwrs.
Bissmillah, sy’n agor y rhaglen, yw band llawn gan gynnwys adran bres gyda dau ganwr sy’n atgoffa fi o Michigan & Smiley a’r oes dancehall cyn reggae digidol.
O 12:00 ymlaen yn ystod clipiau o barti blues mewn lleoliad anhysbys ger Stryd Bute, mae Conqueror Sound – artistiaid gyda phroffil uchel tu hwnt i Gaerdydd a Chymru – yn perfformio mewn hetiau Viet Cong: detholwr yn chwarae fersiwn o’r curiad Answer tra bod canwr yn rhannu ei falchder am liw ei groen. Mae dyn arall yna ond dw i ddim yn gallu canfod ei swyddogaeth.
Mae’r perfformiad Bissmillah yn rhan o gig ehangach ac mae’r rhaglen yn cynnwys dawnswyr o ddull Ghanaidd a band disco o’r enw Denym ar y diwedd. Lleoliad y gig oedd yr Ocean Club ar Rover Way, stryd a enwyd ar ôl cwmni Rover pan oedd ffatri ceir yna. Mae archfarchnad anferth ar hen safle’r ffatri bellach, Tesco Rhostir Pen-Gam.
Mae eitemau am ffasiwn ac ymgyrch yn erbyn y darn Grangetown o’r A4232 yn amseru’r rhaglen. Afraid dweud, dyma oedd y cyfnod cyn y morglawdd a datblygiadau ‘Bae Caerdydd’ pan oedd Margaret Thatcher a’r Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan. Yn ogystal â’r glowyr adeg hynny, roedd bywyd yr un mor anodd i’r docwyr yn Tiger Bay a gweithwyr eraill. Dyna sy’n ddiddorol iawn am glywed sylwadau’r dyn o 13:00 ymlaen, geiriau sy’n atseinio gyda rhai gan Gwyn Alf Williams o’r un cyfnod yn union:
[…] Mae pawb eisiau adeiladu ‘amgueddfeydd’ lawr yma ac ailddatblygu fel bod e’n debyg i ryw atyniad i dwristiaid. Bydd pawb yn byw yn y gorffennol fel fath o amgueddfa fyw […]
Trigolyn Butetown, 1984
Albwm annisgwyl sydd newydd gael ei rhyddhau ydy I’r Gwyll, trac sain answyddogol ar gyfer y gyfres teledu Y Gwyll.
Recordiau yn dweud:
Trac sain ddychmygol o gerddoriaeth atmosfferig/llofruddiog wedi ei ddylanwadu ag ysbrydoli gan y gyfres deledu wefreiddiol a ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C a’r BBC yw I’r Gwyll….
Y bren tu ôl i’r prosiect ydy Geraint Ffrancon, cyfansoddwr a chynhyrchydd electronig, sydd hefyd wedi dwyn yr enwau Stabmaster Vinyl a Blodyn Tatws dros y blynyddoedd.