Croeso i wefan Capel y Ffynnon

———————————————————————————————

*Yn sgil yr haint Covid19 nid yw’r Eglwys yn cynnal gwasanaethau cyhoeddus ac rydym wedi symud ein gweithgareddau ar-lein.*

Bydd gwasanaeth bore Sul yn cael ei ddarlledu bob bore Sul ar YouTube

Dyma’r gwasanaeth diweddaraf – Awst 23

https://youtu.be/bu-ek3rhOUA

I weld mwy o’n gwasanaethau, a myfyrdodau Gair o’r Gell ewch i’n sianel youtube (yma)

Os ydych am i’ch plant ymuno â’r Ysgol Sul ar fore Sul rhwng 9.45 a 10.45 trwy feddalwedd fideo-gynhadledd(Zoom), plîs cysylltwch.

Os ydych am ymuno gyda’r seiat pnawn Sul am 5.00 y.p. i drafod neges bore Sul, trwy feddalwedd fideo-gynhadledd(Zoom), plîs cysylltwch

Os ydych am ymuno gyda nifer o astudiaethau a grwpiau trafod fydd yn digwydd yn rheoliadd, trwy feddalwedd fideo-gynhadledd(Zoom), plîs cysylltwch.

Cysylltu am unrhyw gymorth. Diolch.

————————————————————————————————

Mae’r Eglwys yn cynnal nifer o wasanaethau a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos.

Mae croeso arbennig i blant a’u rhieni, mae stori i’r plant yn ystod y gwasanaeth ac Ysgol Sul cyn y bregeth am 9:45. Mae paned ar gael ar ôl gwasanaeth y bore.

Mae cyfieithu ar y pryd ar gael felly mae croeso i chi ddod â theulu neu ffrindiau di-Gymraeg i’r gwasanaethau ac mae modd clywed recordiad o’r pregethau drwy’r tab Pregethau ar y wefan hon.

Mae Capel y Ffynnon wedi ei leoli mewn man canolog yng nghanol dinas Bangor ar Lôn Penrallt Uchaf, wrth ymyl Pontio, ac mae parcio ar gael gerllaw. Mae map o’r lleoliad ar gael yn fan hyn .

Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu gyda’n gweinidog, Dafydd Job drwy’r dudalen Cysylltu.