Croeso i wefan Capel y Ffynnon

Chwilio am Eglwys?

Eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth?

Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu yma i Gapel y Ffynnon ym Mangor.

Gobeithiwn y bydd y wefan yn rhoi rhyw flas i chi o fywyd a gwaith yr Eglwys.

Mae’r Eglwys yn cynnal nifer o wasanaethau a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos.

Mae croeso arbennig i blant a’u rhieni, mae stori i’r plant yn ystod y gwasanaeth ac Ysgol Sul cyn y bregeth am 9:45. Mae paned ar gael ar ôl gwasanaeth y bore.

Mae cyfieithu ar y pryd ar gael felly mae croeso i chi ddod â theulu neu ffrindiau di-Gymraeg i’r gwasanaethau ac mae modd clywed recordiad o’r pregethau drwy’r tab Pregethau ar y wefan hon.

Mae Capel y Ffynnon wedi ei leoli mewn man canolog yng nghanol dinas Bangor ar Lôn Penrallt Uchaf, wrth ymyl Pontio, ac mae parcio ar gael gerllaw. Mae map o’r lleoliad ar gael yn fan hyn .

Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu gyda’n gweinidog, Dafydd Job drwy’r dudalen Cysylltu.