Archifau Morgannwg: Capteinio Tîm Criced Morgannwg, 24 Medi 1890

Gyda phedair gêm Cwpan Criced y Byd ICC yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia, mae’r ffocws unwaith eto’r haf hwn ar griced. Wrth fwrw cipolwg ar gofnodion Archifau Morgannwg daethpwyd o hyd i hanes gêm griced a chwaraewyd dros 130 o flynyddoedd yn ôl, pan fentrodd tîm criced Sir Morgannwg i’r cae i wynebu’r […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hapus, hapus, hapus

Dw i newydd orffen llyfr gan Phil Robertson, sef “Happy, Happy, Happy.” Wedi byw bywyd gwyllt, anhapus, daeth ar draws Iesu Grist pan oedd o’n 28 oed. Newidiodd ei fywyd yn gyfan gwbl. Drwy weithio’n galed gyda dyfalbarhad, a bob amser gadw ei olwg ar … Parhau i ddarllen

shitclic: Daw hyfryd fis…

Mae fy ngorchwylion darllen/gwylio yn gorgyffwrdd â’i gilydd dyddiau hyn. Amrywiaeth piau hi, er bod perig i mi chwalu ’mhen gyda’r gwahanol genre yr un pryd. Dim diolch i fis Mehefin sy’n prysur droi’n dampar go iawn, a’r nosweithiau oerddu yn g’neud … Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Mansel Thomas: cerddor o fri

Wythnos hon, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn coffau 100 mlynedd ers genedigaeth Mansel Thomas, un o gyfansoddwyr a cherddorion campus Cymru. Cafodd ei eni ar 12… Darllen Mwy

The post Mansel Thomas: cerddor o fri appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yn ôl i america

Daeth fy merch hynaf yn ôl i America wedi treulio pythefnos bendigedig yn Israel. Dwedodd hi ei bod hi wedi dysgu cymaint o bethau newydd am Israel a’r ardaloedd o gwmpas, a chyfarfod nifer o bobl annwyl. Does dim dwywaith y bydd y profiadau’n cael eff… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: BBC Gorwelion yn cyhoeddi 12 o sêr newydd disglair Cymru / BBC Horizons announces 12 of Wales’ hottest new acts

Band indi-pop breuddwydiol y mae ei gerddoriaeth wedi ymddangos ar Black Mirror a Made in Chelsea, artist pop electro yn ei harddegau, grŵp roc, rap a reggae byw, cantores jazz, cynhyrchydd dawns ac un o’r chwaraewyr banjo cyflymaf yng Nghymru. A dreamy indie-pop band whose music has appeared on Black Mirror and Made in Chelsea,…

The post BBC Gorwelion yn cyhoeddi 12 o sêr newydd disglair Cymru / BBC Horizons announces 12 of Wales’ hottest new acts appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Atgofion Llwyncrwn

Ail bennod Gretta Catwright.

Daeth datblygiadau i’r ardal, agor y rheilffordd o’r Bala i Flaenau Ffestiniog yn 1883, trwy dir Llwyncrwn, ac yna cronni’r afon Prysor i wneud y llyn a gorsaf bŵer i greu trydan yn 1928. Pryd hynny, roedd peth o’r tir yn … Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Y Darlunydd / The Artist Huw Aaron

Un o’r artistiaid mwyaf adnabyddus yn y maes cyhoeddi Cymraeg yw Huw Aaron, ac mae pobl wedi gweld e waith yn y cylchgronau Mellten a LOL, cloriau llyfr fel y gyfres Trio gan Manon Steffan Ros, Llyfr Hwyl y Lolfa, ac yn nawr yr holl lyfrau Ble Mae Boc? / Find The Dragon! a’r pecynnau…

The post Y Darlunydd / The Artist Huw Aaron appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Gronyn: Na, nid bresych.

Mae’n debyg na ddylwn ddweud hyn, ond pwy all feio plant am beidio â bwyta bresych. Mi wn eu bod yn wyrdd ac yn faethlon, ond mae’n siŵr gen i y byddai llysieuwyr pybyr yn cydnabod nad bresych yw’r delaf na’r mwyaf blasus o blant llysiau. Pam felly y meddyliodd neb (a mwy na hynny, […] Parhau i ddarllen

Gronyn: Y Sulgwyn

Actau 2 Dyfodiad yr Ysbryd Glân 1Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, 2ac yn sydyn fe ddaeth o’r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle’r oeddent yn eistedd. 3Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tad prysur

Mae Cardinal gwrywaidd sydd yn dod aton ni wrthi’n bwydo ei fabis hŷn. Doeddwn i ddim yn gwybod tan yn ddiweddar mai tad sydd yn eu bwydo nhw, ac mai mam yn eistedd ar eu nyth. Yn aml iawn mae o’n bwydo dau fabi ar yr un pryd sydd yn newynog bob amser;… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Dathlu Blwyddyn o Common Voice Cymraeg

Mae’n flwyddyn nawr ers i Mozilla ryddhau Common Voice ar gyfer y Gymraeg, gw. Parlez-vous Deutsch? Rhagor o Leisiau i Common Voice Mae gennym darged cychwynnol o 100 awr ac rydym wedi cyrraedd 42 awr wedi’u dilysu a 48 awr wedi eu recordio, felly, cynnydd da, ond tipyn o ffordd i fynd! Diolchiadau felly i bawb […]

The post Dathlu Blwyddyn o Common Voice Cymraeg appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Cinio Penblwydd: El Retiro

Beth yw penblwydd ond cyfle i fynd i flasu pryd o fwyd mewn rhywle newydd? Mae gan Asturias, a’i ychydig dan filiwn o boblogaeth, wyth bwyty ag o leiaf un seren Michelin, felly roedd digon o ddewis. Hyd yn oed yn ein rhanbarth ddibobledig ni mae 4 ar y rhestr serennog. Mae cael bwyd yn […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : i’r gogledd

Ar ôl treulio diwrnod llawn yn Jerwsalem eto, aeth fy merch a’i grŵp i’r Gogledd wrth basio Môr Galilea, a chyrraedd Kfar Blum, cymuned fach dwy filltir i Uwchdir Golan. Caethon nhw ginio tu allan, mewn natur braf. Dwedodd fy merch fod yna niferoedd o … Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Llenyddiaeth Stryd: Almanaciau Cymraeg

  Almanaciau oedd hoff ddeunydd darllen siaradwyr uniaith Gymraeg o ddechrau’r 17eg ganrif. Roedd llenyddiaeth fforddiadwy fel yr almanac yn boblogaidd gyda’r dosbarthiadau is, a… Darllen Mwy

The post Llenyddiaeth Stryd: Almanaciau Cymraeg appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 9 ac 16 Mehefin 2019

Croeso i chi i Sul y Pentecost 2019. Heddiw bydd Cristnogion ar draws y byd yn cofio’r diwrnod syfrdanol hwnnw yn Jerwsalem pan wireddwyd addewid Iesu Grist. Wedi’r disgwyl, llanwyd y disgyblion gyda’r Ysbryd Glân ac yn sgil hynny daeth 3,000 o bobl i gredu yng Nghrist mewn un diwrnod (Actau 2:41). Ac wrth i . . . → Read More: Dydd Sul, 9 ac 16 Mehefin 2019

Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: D-Day 75: Cofio glaniadau Normandi

Saith deg pump o flynyddoedd yn ôl, ar ddydd Mawrth y 6ed o Fehefin 1944, glaniodd y lluoedd Cynghreiriol ar draethau Normandi fel rhan o’r… Darllen Mwy

The post D-Day 75: Cofio glaniadau Normandi appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Fy Adolygiad Blynyddol

Rhannais fy adolygiad blynyddol llynedd mewn ymgais i fod y newid roeddwn i eisiau gweld yn y gweithle.

Roeddwn i jyst wedi derbyn fy ffurflen adolygu flynyddol pan sylwais fod Dan Barrett wedi trydar amdano sut mae ymarferwyr nodiadau wythnosol wedi bod yn defnyddio eu blogbostau i fwydo i mewn i’w hadolygiadau.

Shout out to any of the #weeknotes crew referring back to their blog posts for annual performance review purposes. Writing is great ✏️💪 Trying to remember when I went to Bristol to speak about data and so on, so I searched ‘dan barrett renatos’ 😆

 — @dasbarrett

Penderfynais edrych yn ôl dros fy nodiadau o flwyddyn diwethaf ar gyfer syniadau am beth i gynnwys mewn adolygiad eleni.

Mae ein broses adolygu yn cynnwys cwestiynau mawr agored. Mae hyn yn grêt gan ei fod yn symud yr adolygiad i ffwrdd o fod yn ymarfer ticio blychau i fod yn rhywbeth sy’n ceisio mynd i’r afael â beth sy’n bwysig.

Teimlodd y cwestiynau yma ychydig yn rhy fawr i ddechrau. Ond ar ôl i mi edrych dros fy mlogbostau roeddwn i’n gallu gweld fy mod i eisoes wedi mynd i’r afael â beth roeddwn i eisiau cynnwys.

Arweiniodd hyn i mi fod yn fwy ddewr yn fy adborth nag oeddwn i wedi bwriadu achos roeddwn i wedi bod mor onest ar-lein yn barod. Doeddwn i ddim yn bwriadu cuddio unrhyw beth yn fy adolygiad, ond teimlais bod rhaid i mi gario’r gonestrwydd yma i fewn i’r adolygiad ei hun gan fy mod i eisioes wedi fod yn ddiflewyn ar dafod.

Felly dyma sut mae pethau wedi mynd.

Perfformiad

Mae’n tîm ni wedi gwneud yn eithriadol o dda dros y flwyddyn diwethaf. Cynhaliom 560 o ddigwyddiadau, a chafon adborth ansoddol da iawn. Mae yna wedi bod ychydig o heriau ar y ffordd ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau strwythurol er mwyn symleiddio ein gwaith ac i gefnogi ein gilydd yn well. Rhaid i ni ffocysu arno hyn yn y flwyddyn sydd i ddod, ac rwy’n ceisio dangos yr ymddygiadau dymunol fy hunain — bod yn gymwynasgar, yn gefnogol a gweithio tu hwnt i’m gyfrifoldebau personol. Rwy’n meddwl am fy rôl yn yr un modd â phan ddechreuais ynddo, sef fel arweinydd gwas.

Rydym yn rhoi egwyddorion adferol ar waith yn y tîm fel ein bod ni’n meithrin cydberthnasau cryf ac rydym yn grymuso eraill yn ôl Model Cyflyrau Ego (Rhiant, Oedolyn, Plentyn). Mae hyn yn ymwneud â symud i ffwrdd o wneud i bobl teimlo cywilydd am eu camgymeriadau. Fel y byddai Brene Brown yn dweud, rydym yn gwneud dewisiadau gwael, dydyn ni ddim yn bobl gwael.

https://medium.com/media/f9ba47d5c7d1bdf99125c98ac71f4da4/href

Gweithio’n agored

Rydw i wedi bod yn meddwl amdano sut y gallaf weithio’n fwy agored eleni. Mae ein tîm ni’n gyfoethog o ran data, ac rydw i eisiau gwneud defnydd llawer gwell ohono yn y flwyddyn sydd i ddod.

Rydym yn lwcus gan fod ein gwaith yn seiliedig ar fodel aelodaeth, felly dydyn ni ddim wedi cael ein gorfodi i fewn i sefyllfa ble rydym yn defnyddio bethau sy’n hawdd eu mesur i ddangos ein heffeithiolrwydd. Does gennym ddim Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, felly mae ein data yn gallu fod yn union beth ydyw, sef dangosydd yn hytrach na naratif o’n gwaith. Rydw i wedi cael trafodaethau da gyda Kelly Doonan ar hyn, a rhannodd hi’r blogbost yma ar Gyfraith Campbell gyda mi, ac mae whatsthepont hefyd wedi edrych ar hyn yn ddiweddar:

“Mae targedau a mesuriadau gofalus o welliant yn eu herbyn yn eithaf dibwrpas. Rydych chi’n ceisio diffinio’r pethau anrhagweladwy (trwy osod targedau) a mesur pethau nad oes gennych unrhyw reolaeth drostynt.”

Mae’r trydar yma gan Dave Floyd yn taro’r hoelen ar ei phen. Ni fydd y data hwn yn allbwn ynddo’i hun, ond gobeithiaf y bydd yn rhan o lun i roi mwy o wybodaeth inni.

This, data informed is a phase for me at the moment. Data without insight is noise. Data is one of many inputs to allow informed decision making. https://t.co/6xgmhRUqBd

 — @DaveAFloyd

Rwyf wedi sefydlu dangosfyrddau fel y gallaf rannu sut mae ein partneriaid yn ymgysylltu â ni ac fel y gallaf wella’r defnydd o ddata yn ein gwaith. Mae Ben Proctor wedi ysgrifennu cwpl o flogbostau gwych ar aeddfedrwydd data (neu yr ysgol data anhygoel). Rydym wedi bod yn adweithiol iawn yn y gorffennol. Nawr fy mod i’n hyderus yn fy rôl, rydw i mewn sefyllfa lle gallaf ddarparu data sydd ei angen yn llawer gyflymach, a hoffwn gyrraedd y pwynt ble rydym yn defnyddio data i edrych ymlaen i’r dyfodol rydyn ni eisiau gweld.

Yr ochr arall i weithio’n agored yw’r modd rydw i’n rhannu fy ngwaith. Edrychodd Blabchat Bromford Lab ar hyn, lle canodd rhai o sylwadau Neil Tamplin cloch i mi.

@NeilTamplin @webofweeknotes Do you think the wide scope of something like @webofweeknotes is a benefit to creativity/innovation Neil, or is it better to sometimes #workoutloud to a more targeted audience/network? #Blabchat #WOL

 — @simon_penny

@simon_penny @webofweeknotes I’ve been mulling that over today funnily enough! I think there’s value in pure personal reflection, and making it public adds accountability. But if you genuinely want a diverse range of opinion, you probably have to roll your sleeves up and go invite it. 🙂

 — @NeilTamplin

Nid yw’n ddigon i weithio’n agored, mae rhaid i mi hefyd sicrhau ei fod wedi’i dargedu a’i fod yn hygyrch. Ar hyn o bryd rwy’n meddwl amdano sut y gallaf ddiweddaru ein Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn rheolaidd mewn modd sy’n gweithio iddyn nhw. Rydw i eisiau sicrhau bod nhw’n cael y darlun llawn wrth wneud penderfyniadau.

Twf a Datblygiad

Yn wahanol i fy rolau blaenorol ble wnes i hwyluso digwyddiadau fy hun, mae fy rôl bresennol yn fwy o rôl swyddfa gefn. Fel y nodais yn fy amcanion ar gyfer y flwyddyn, yr elfen rwy’n colli’r fwyaf yw’r rhan rwydweithio lle wnes i ddatblygu fy ngwybodaeth am welliant gwasanaethau cyhoeddus.

Eleni mae rhaid i mi feddwl yn fwy gweithredol am sut y gallaf dyfu a gwella. Rydw i wedi bod yn meddwl am fy nhwf mewn ffordd linellol iawn ers i mi ddechrau’r swydd yma. Rwy’n credu bod rhaid i mi ddechrau meddwl am welliant mewn ystyr llawer ehangach er mwyn fy ngalluogi i i dyfu.

Lles

Yn ddiweddar, rydw i wedi blogio amdano sut mae seiclo wedi bod yn llesol i mi. Ers hynny, rydw i wedi dechrau seiclo o Gaerwysg i’r swyddfa unwaith yr wythnos. Fe wnes i fynd ar goll yn Nhorquay y tro cyntaf, ond nawr rwy’n gallu cymudo mewn tua 2 1/4 awr. Mae gwneud ymarfer corff wrth i’r ddydd gwawrio yn golygu nad oes rhaid i mi wneud ymarfer bellach yn y nosweithiau. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth fy mhartner, gan na fyddai’n bosib heb ei chefnogaeth.

Un o’r pethau a nodais eleni oedd yr anghydbwysedd mewn llafur emosiynol yn ein cartref. Mae fy mhartner newydd gael dyrchafiad, sy’n gwbl haeddiannol. Mae hi’n hynod o glyfar ac mae ganddi gymaint o empathi tuag at bobl. Rwy’n credu y bydd hi’n grêt.

Gan mai newydd ddechrau’r rôl yw hi, dydw i ddim yn gwybod pa newidiadau sydd angen i ni gwneud. Rydw i’n ddiolchgar iawn fy mod i’n gweithio i sefydliad cefnogol.

Ble nesaf?

Rwy’n gobeithio y bydd y nodiadau hyn yr un mor ddefnyddiol â rhai llynedd. Rwy’n teimlo fy mod i wedi datblygu llawer yn fy amser yma. Rydw i wedi gwella o ran hwyluso gwaith y tîm ac rydw i’n rheoli cyllideb yn llawer gwell nag oeddwn i. Rwy’n teimlo fy mod i wedi cyflawni lot yn y 18 fis diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen i weld sut y gallaf wneud defnydd gwell o ddata yn y dyfodol, sy’n anhygoel wrth feddwl mai dyma’r anrheg gadael y dderbynais wrth gadael Good Practice WAO achos roeddwn i’n casau Excel….

Barddoniaeth Excel wedi’i fframio. Derbyniais hwn pan adawais Swyddfa Archwilio Cymru. Nid taenlenni oedd fy nghryfder…. Ond roedd e’n dîm arbennig!

Ymlaen ac i fyny!


Fy Adolygiad Blynyddol was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Ffilm: Always Be My Maybe (12)

Bydda i’n adolygu Always be My Maybe ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Gwener, Mehefin 7ed, 2019. Cliciwch yma i wylio ar S4C Clic. Mae’n teimlo fel OES ers i mi sgwennu adolygiad ffilm, er mod i’n mynychu’r … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Llafar Bro ar Newydd Wedd

GAIR O EGLURHAD

O fis Mehefin ymlaen, bydd ein papur bro yn newid yn sylweddol, o ran diwyg a lliw. Mae’r newidiadau hyn yn anorfod oherwydd y ffordd y bydd y papur yn cael ei argraffu o hyn allan.

Y manteision                       
•    Bydd pob r… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gweithio’n galed

Mae fy mab ifancaf wrthi’n gweithio mewn gwersyll Cristnogol yn Nhalaith Missouri yn ystod yr haf eto. Cynnal a chadw ydy ei waith. Yn ogystal â thorri’r lawnt, casglu sbwriel, gwneud y gwaith trwsio, dylai fo drwsio toiledau wedi’u rhwystro o bryd i’w… Parhau i ddarllen

Carl Morris: Ar y ffordd i Lydaw am Gouel Broadel ar Brezhoneg 2019

Dros y penwythnos byddaf i’n cymryd rhan mewn Gouel Broadel ar Brezhoneg yn Langoned, Llydaw. Mae’r gair ‘broadel’[…]

The post Ar y ffordd i Lydaw am Gouel Broadel ar Brezhoneg 2019 appeared first on Carl Morris.

Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Tom

Nofel wedi ei hanelu at yr arddegau ydi ‘Tom’ gan y nofelydd newydd sbon danlli, Cynan Llwyd, ond fel sawl nofel debyg, mae hi’n berffaith ar gyfer oedolion hefyd. Mae Manon Steffan Ros wedi ei disgrifio fel nofel ‘gyffrous, fentrus a chwbl unigryw’ a dwi’n cytuno 100%. O’r dudalen gyntaf un, dach chi’n gwybod eich […] Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Rhagfarn Widdecombe ac amddiffyniad truenus Farage

Mae’n anodd dychmygu eitem deledu llai apelgar na Piers Morgan yn dadlau gyda Nigel Farage am sylwadau ffiaidd gan Ann Widdecombe. Pwy ddychmygodd y byddai’r canlyniad mor affwysol o dwp?Mae gan Widdecombe  hen hanes o ddweud pethau ffiaidd am gyf… Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Cymru’n dangos y ffordd iawn ymlaen – atal 2ail draffordd M4 Casnewydd

Calonogol iawn nodi bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o weithredu uniongyrchol cryfach nag erioed o blaid gwarchod ein planed mewn sawl gwlad. A bod ymateb cadarnhaol eisoes wedi bod i hynny, yn arbennig yma yng Nghymru. Yn … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd : croesi’r ffin eto

Wedi treulio tri diwrnod yng Ngwlad Iorddonen, mae fy merch a’i grŵp yn dod yn ôl i Israel heddiw. Cwrddon nhw â rhai gwleidyddion, mynychu darlith a mynd i siopa. Daeth twymyn siopa ar y merched i gyd, a phrynodd fy merch ffrog hardd (a drud!) Er… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ysgytlaethu

Mae yna hobi newydd wedi dod yn boblogaidd iawn dros yr ychydig wythnosau diwethaf, sef taflu ysgytlaeth dros eithafwyr asgell-dde. Mae’n edrych fel llawer o hwyl, ac mae’n anodd peidio teimlo boddhad o weld Stephen Yaxley-Lennon, Carl Benjamin, Nigel … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Etholiadau Ewrop 2 – nodiadau brysiog iawn

Cafodd y ddwy brif blaid unoliaethol efo’i gilydd y ganran isaf erioed o’r bleidlais – 22% – o filltiroedd.  Yn 2017 y ffigwr cyfatebol oedd 82.5%.  Mae‘r cwymp yng nghyfanswm y pleidleisiau hyd yn oed yn fwy trawiadol – mae’n syrth… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yng ngwlad iorddonen

Mae fy merch yng Ngwlad Iorddonen ynghyd â’i grŵp ar hyn o bryd. Ymwelon nhw â gwersyll ffoaduriaid Syria ddoe. Dwedodd hi fod pawb yn hynod o siriol. Dyma hi’n dangos iddyn nhw sut i greu craen drwy origami; roedd y merched ifanc wrth eu bodd. Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Emyr Humphreys yn 100

Yn ddiweddar, dathlodd Emyr Humphreys, un o nofelwyr enwocaf a mwyaf blaengar Cymru, ei ben-blwydd yn gant oed. Mae ei ddylanwad ar lenyddiaeth Gymreig wedi… Darllen Mwy

The post Emyr Humphreys yn 100 appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

petroc: Y Cymry yn ddominyddu? Ffat sians.

via Y Cymry yn ddominyddu? Ffat sians. Advertisements Parhau i ddarllen

Plaid Cymru Cangen Llundain London Branch: Cyfarfod Blynyddol 2019 AGM

Ein cyfarfod nesaf fydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Nos Fercher, 19fed Mehefin 2019, 7.30 yr hwyr (Canolfan Cymry Llundain, ystafell i’w chadarnhau). Yn ystod y cyfarfod, ceir adroddiadau blynyddol gan eich swyddiogion a chynhelir etholiadau ar gyfer swyddogion y Gangen (2019-20) (gwahoddir enwebiadau gan aelodau yn ystod y cyfarfod.  Mae … Continue reading Parhau i ddarllen

Gronyn: Dydd Iau

Mae’n ddydd Iau. Wir i chi. Beth bynnag a ddywed y calendr ar y wal a’r dyddiadur yn eich poced ac ar sgrin eich ffôn, dydd Iau yw hi arnaf yn sgwennu’r geiriau hyn.  Dydd Iau, Mai 29, neu yng Nghalendr yr Eglwys Gristnogol eleni, Dydd Iau Dyrchafael. Byr iawn yw’r adroddiadau am ‘y dydd […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : diwrnod jerwsalem

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Ardal Arbennig- Bae Sir Gaerfyrddin: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i…

The post Ardal Arbennig- Bae Sir Gaerfyrddin: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Gwrthsefyll y dilyw glas

Mi fydd Plaid Cymru wedi cael o leiaf rywfaint o le i ddathlu ac ymfalchïo ynddo ar ôl etholiad Ewrop yr wythnos ddiwethaf. Parhau i ddarllen

fel y moroedd : bedd yoni

Ymwelodd fy merch hynaf a’i grŵp yn Israel â bedd Yoni Netanyahu, arwr Entebbe. Teimlodd hi mor ddwfn yn ei chalon fel penderfynodd hi greu murlun mawr ohono fo. Syniad hyfryd. Gobeithio wir y ceith gyfle i’w wneud. Wedi gorffwys am Saboth, aethon… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : sgwrs saesneg sydyn

Mae gan fy nhrydedd ferch olwg hollol Japaneaidd, ac mae ei henw hi ar y wisg yn Japaneg hefyd, ac felly dydy neb, sydd yn dod i’r siop goffi lle mae hi’n gweithio ynddi, yn sylweddoli bod hi’n hanner Americanaidd. Dechreuodd cwsmer siarad â hi, fodd b… Parhau i ddarllen

rhysllwyd.com: Mae ‘Cenedlaetholdeb Gristnogol’ yn air brwnt heddiw, ond yng Nghymru roedd yn arfer bod yn ddylanwad blaengar a chadarnhaol

Bydd fy llyfr Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones yn cael ei gyhoeddi yn Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg yn Rhydymain ymhen pythefnos ac ar gael ym mhob siop lyfrau Gymraeg a gwales.com wedyn. Yn gobeithio trefnu digwyddiadau eraill dros yr haf i rannu am y llyfr hefyd. Ces i fy magu ar aelwyd Gristnogol […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru (2019-2022) / Literature Wales Strategic Plan (2019-2022)

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Cynllun Strategol tair blynedd y sefydliad, gydag ymrwymiad i gefnogi egin awduron a mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth yn y sector lenyddol. Literature Wales has launched a new three-year Strategic Plan with a commitment to supporting early career writers and tackling under-representation in the literature sector. llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni/cynllun-strategol-2019-2022 literaturewales.org/about/strategic-plan-2019-2022  

The post Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru (2019-2022) / Literature Wales Strategic Plan (2019-2022) appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: A nawr mae’r pedwar ohonom yn un: Ffurfio Cwnstablaeth De Cymru, 1 Mehefin 1969

Fis Mehefin bydd hi’n hanner canrif ers ffurfio Cwnstablaeth De Cymru. Dyma’r cyntaf o dair erthygl yn edrych nôl ar hanes ffurfio’r gwnstablaeth a’i dyddiau cynnar. Mae’n tynnu ar gofnodion a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg gan gynnwys copïau o’r adroddiadau blynyddol a luniwyd gan y Prif Gwnstabl. Yn ôl unrhyw fesur roedd 1969 […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Elin Meek & Lynda Tunnicliffe: Rhoi Cymru ar y Map / Putting Wales on the Map

Mae Cymru ar y Map wedi enill y wobr Tir na-nOg mewn seremoni yn Eisteddfod yr Urdd, mis Mai 2019, Bae Caerdydd. Cymru ar y Map has won the Tir na-nOg Welsh-language awards children’s book award in a cermony at the Urdd Eisteddfod, May 2019, Cardiff Bay. Mae Cymru’n gwlad y gân, cennin pedr, defaid,…

The post Elin Meek & Lynda Tunnicliffe: Rhoi Cymru ar y Map / Putting Wales on the Map appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Gwobrau Tir na n-Og 2019

Llongyfarchiadau i bawb! A ddeudis i bod Fi a Joe Allen yn lyfr arbennig, arbennig o dda nôl ym mis Mai 2018 yndo? Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yn samaria

Mae fy merch a’i grŵp wedi symud i Samaria (a elwir yn West Bank) yn ymweld â Phrifysgol Ariel, ffatri, a chyfarfod mwy o bobl leol. Gwelon nhw rai merched Iddewig ac Arabaidd yn chwarae pêl-fasged gyda’i gilydd yn gyfeillgar. (Maen nhw’n fedrus iawn, … Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Apêl y Tabernacl

Y drydedd bennod yng nghyfres W. Arvon Roberts.

Yn Hydref 1916, cyrhaeddodd llythyr oddi wrth y Parch R.R. Morris, Gweinidog y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, yn diolch i’r ‘Drych’ am gefnogi yr apêl dros y Capel at Gymry yr America. Yn y llythyr hwnnw… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yr hen broblem

Falch o weld bod Cardinals yn mynychu’r bwydwr adar newydd. Mae’n hwyl eu gweld nhw’n bwydo’n fodlon. Yna, dechreuodd yr hen broblem eto, sef gwiwerod. Maen nhw’n medru neidio o’r rheilen at y bwydwr, neu ddringo’r polyn haearn i’w gyrraedd. Roedd rhai… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Mali, Gwawr Edwards

Mae hon yn gyfrol fach hyfryd a lliwgar am Mali’r ci sy’n byw ar fferm – ond nid ci defaid mo Mali, ond sbaniel King Charles go iawn yr awdures. Ac ia, y Mali go iawn sydd wedi ysbrydoli’r 4 stori sydd yn y gyfrol. Roedd ‘na luniau ohoni hi, Gwawr a Nel, ei merch […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Castell Coch, Tongwynlais

Tybir fod y Castell Coch gwreiddiol yn dyddio o’r 12fed neu’r 13fed ganrif.  Daw ei enw o liw y garreg dywodfaen leol yr adeiladwyd y castell ohoni.  Gadawyd y castell i fynd â’i ben iddo yn weddol gynnar, roedd yn rhan or ystadau a gysylltwyd â Chastell Caerdydd.  Erbyn y 19eg ganrif dim ond y […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pwy gawn ni ?

Yn gyfansoddiadol, gall y Frenhines wahodd unrhyw aelod o Dŷ’r Cyffredin neu o Dŷ’r Arglwyddi i ffurfio llywodraeth. Hwyrach yr hoffech chi, ddarllenwyr y blog, gynnig ambell enw iddi. Ar y llaw arall, mae confensiwn wedi rheoli’r dewisiadau drwy’r blynyddoedd, ac mae gwahaniaeth rhwng (a) dewis prif weinidog hanner ffordd drwy dymor seneddol a (b) […] Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad #77: Huawehei!

Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a’r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae’r A-Gin-Da, […]

The post Haclediad #77: Huawehei! appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen