Chwilio

Cyhoeddwyd Geiriadur yr Academi gyntaf yn 1995 gan Wasg Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Ers hynny bu’r geiriadur print drwy sawl adargraffiad, a dymuniad y golygyddion oedd iddo barhau i ddatblygu a thyfu yn adnodd gwerthfawr i ysgolheigion a’r cyhoedd fel ei gilydd.

Mae’r gwaith o fireinio’r fersiwn ar-lein yn parhau, ac mae croeso i ddefnyddwyr yrru neges at post@comisiynyddygymraeg.org ynghylch y fersiwn hwn. Yr oedd y geiriadur print gwreiddiol yn eiriadur Saesneg i Gymraeg. Mae modd chwilio’r fersiwn ar-lein gyda rhyngwyneb Saesneg neu ryngwyneb Cymraeg.

Bydd datblygiadau pellach maes o law. Yn y cyfamser gobeithio y cewch fudd a mwynhad o ddefnyddio’r fersiwn ar-lein cyntaf hwn.