Diweddariadau Diweddar Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 12:50 PM ar 9 May 2019 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau:   

    Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith 

    Bydd rhai eisoes wedi gwylio’r rhaglen ddifyr ar S4C DRYCH: Achub Llais John am un o brosiectau’r Uned Technolegau Iaith ym Mangor. Gwyliwch y rhaglen os nad ydych chi wedi cael siawns eto.

    Dyma ddigwyddiad difyr yn Aberystwyth mae’r uned yn trefnu ym mis Mehefin – at sylw unrhyw un sydd eisiau cael profiad o ddefnyddio rhai o’r technolegau neu’n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau’r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog.

    Annwyl Pawb

    Fe’ch gwahoddir i weithdy ymarferol ar sut i wneud defnydd llawn o adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 18 Mehefin, 2019.

    Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer datblygwyr meddalwedd, hacwyr, ieithwyr cyfrifiadurol, athrawon cyfrifiadureg, gwirfoddolwyr technoleg iaith, a phawb sy’n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau’r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog.

    Byddwn yn ceisio cynnal gweithdai i ateb diddordebau penodol y rhai fydd yn bresennol. Y themâu dan sylw yw:

    • Adnoddau Adnabod lleferydd
    • Adnoddau Testun i leferydd
    • Gwasanaethau API ac ategynion (Vocab, Cysill Ar-lein, Termau, Lemateiddiwr)
    • Adnoddau Cyfieithu Peirianyddol
    • Cyfrannu i Common Voice

    Bydd y gweithdai yn cael eu rhedeg gan staff yr Uned Technolegau Iaith a’u partneriaid. Ariennir y gweithdy hwn gan yr ESRC drwy Gronfa Cyflymu Effaith Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    Cofrestrwch yma:-

    https://tocyn.cymru/cy/event/ec034710-9e5c-4a29-ab01-1a79e906b2ab

    A fyddech cystal ag anfon yr e-bost hwn at eich rhwydweithiau ac unrhyw un arall sydd â diddordeb.

    Cofion Cynnes

    Stefano Ghazzali

    Cysylltwch yn uniongyrchol â Stefano fel trefnwr am ragor o wybodaeth. (Dw i wedi cael caniatâd i gyhoeddi’r gwahoddiad yma.)

     
  • Rhos Prys 4:43 PM ar 8 May 2019 Dolen Barhaol | Ateb  

    WordPress 5.2 

    Gwaith pellach ar ddatblygu dull newydd WordPress o weithio drwy gyfrwng blociau. Mae’r pwyslais y tro yma ar gadw’r wefan yn ddiogel ac yn iach.

    Croeso i WordPress 5.2

    Mae’r ategyn Classic Editor yn rhwystro’r defnydd o’r Golgydd Bloc newydd. Newid gosodiadau’r Classic Editor.

    Llongyfarchiadau ar ddiweddaru i WordPress 5.2! Mae’r diweddariad hwn yn ei gwneud yn haws nag erioed i drwsio’ch gwefan os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.

    Cadw’ch Gwefan yn Ddiogel

    Mae WordPress 5.2 yn rhoi offer hyd yn oed mwy cadarn i chi ar gyfer nodi a thrwsio problemau ffurfweddu a gwallau angheuol. P’un a ydych chi’n ddatblygwr yn helpu cleientiaid neu’n rheoli eich unig wefan, gall yr offer hyn eich helpu i gael y wybodaeth gywir pan fydd ei hangen arnoch.


    Archwiliad Iechyd Gwefan

    Gan adeiladu ar y nodweddion Iechyd Gwefan a gyflwynwyd yn 5.1, mae’r ryddhad hwn yn ychwanegu dwy dudalen newydd i helpu dadfygio materion cyfluniad cyffredin. Mae hefyd yn ychwanegu lle y gall datblygwyr gynnwys gwybodaeth dadfygio ar gyfer cynhalwyr gwefannau.Gwiriwch statws eich gwefan, a dysgwch sut i ddadfygio anawsterau .


    Diogelu Gwall PHP

    Bydd y diweddariad hwn sy’n canolbwyntio ar y gweinyddwr yn gadael i chi ddatrys neu reoli camgymeriadau angheuol yn ddiogel heb fod angen amser datblygwr arnoch. Mae’n cynnwys ymdrin yn well â’r “sgrin gwyn o farwolaeth”, a ffordd o gofnodi modd adfer, sy’n oedi ategion neu themâu sy’n achosi gwallau.


    Gwelliannau i Bawb

    Diweddariadau Hygyrchedd

    Mae nifer o newidiadau yn gweithio gyda’i gilydd i wella ymwybyddiaeth gyd-destunol a llif llywio bysellfwrdd i’r rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgrîn a thechnolegau cynorthwyol eraill.

    Eiconau Bwrdd Gwaith Newydd

    Mae tri ar ddeg o eiconau newydd yn cynnwys Instagram, cyfres o eiconau ar gyfer BuddyPress, ac eiconau cylchdroi’r Ddaear ar gyfer cynhwysiant eang. Dewch o hyd iddyn nhw yn y Bwrdd Gwaith a chael hwyl!


    Hapusrwydd Datblygwyr

    Symud Fersiwn PHP Ymlaen

    Cefnogaeth leiaf PHP yw5.6.20. O WordPress 5.2, gall themâu a ategion fanteisio’n ddiogel ar gofodau enwau, swyddogaethau dienw, a mwy!

    Diweddariadau Preifatrwydd

    Mae templed tudalen thema newydd, swyddogaeth amodol, a dau ddosbarth CSS yn gwneud dylunio ac addasu’r dudalen Polisi Preifatrwydd yn haws.

    Bachyn Tag Corff Newydd

    Mae 5.2 yn cyflwyno bachyn wp_body_open, sy’n caniatáu i themâu gefnogi chwistrellu cod yn syth ar gychwyn elfen <body>.

    Adeiladu JavaScript

    Gydag ychwanegu gwebecyn a ffurfweddau Babel yn y pecyn @ wordpress/scripts, ni fydd yn rhaid i ddatblygwyr boeni am osod offer adeiladu cymhleth i ysgrifennu JavaScript moder n.


     
  • Carl Morris 8:56 AM ar 26 April 2019 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau:   

    Swydd: Menter a Busnes yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau TG 

    Mae Menter a Busnes wedi gofyn i mi rannu’r cyfle isod. Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion.

    Mae Menter a Busnes yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau TG ym Mangor, Llanelwy, Aberystwyth neu Gaerdydd

    Am ragor o fanylion am y cyfle hwn cysylltwch trwy’r manylion sydd yn yr hysbyseb ar wefan y cwmni.

     
  • Aled Powell 11:13 PM ar 17 April 2019 Dolen Barhaol | Ateb  

    /e/ – Android Cymraeg Arall! 

    Sgrinlun /e/ 0.5 yn Gymraeg

    Mae fersiwn Android /e/ bellach ar gael yn Gymraeg.

    Yn wahanol i’r mwyafrif o ROMs Android amgen, mae gan /e/ gynllun a chefnogwyr busnes gyda’r bwriad o greu fersiwn Android sydd ar gael i bawb heb fod yn rhaid i bobol gael sgiliau technegol arbennig a mentro i’w osod ar eu dyfeisiau eu hunain. Os ydych eisiau mentro, mae /e/ ar gael yn Gymraeg ar gyfer nifer o ddyfeisiau yma: https://gitlab.e.foundation/e/wiki/en/wikis/devices-list

    Dylwn i grybwyll fy mod efo /e/ yn gweithio ar ddyfais ers peth amser er mwyn gwirio’r Gymraeg ond heb ei ddefnyddio fel ffôn go iawn. Dyw /e/ ddim yn cynnwys Google Play a dw i heb osod gwasanaeth amgen er mwyn lawrlwytho a gosod apiau fy hun, felly dw i methu gwneud sylwadau ar ba mor dda mae’n gweithio ar hyn o bryd.

    Gosodiadau /e/ yn Gymraeg

    Bwriad /e/ yw creu fersiwn Android a fydd yn parchu preifatrwydd a gwarchod data defnyddwyr trwy beidio â chael unrhyw ddibyniaeth na chysylltiad â Google nac unrhyw gwmni anfoesol arall. Mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan: https://e.foundation/

    Mae /e/ yn seiliedig ar LineageOS ac felly wrth i’r prosiect diweddaru ffeiliau’r system dros yr wythnosau diwethaf, mae lleoleiddiad Cymraeg LineageOS wedi ei fewnforio i /e/, gan olygu bod y Gymraeg mwy neu lai yn gyflawn erbyn hyn. (Ac mae’r gwall USB wedi’i drwsio.)

    Ond mae dal angen lleoleiddio nifer o apiau gwahanol.

    Mae LineageOS wedi ychwanegu at yn hytrach na newid elfennau o AOSP – yr Android Open Source Project – ac felly mae’n cynnwys yr un apiau sydd yn Android craidd, hynny yw gan Google. Er mwyn cael torri’r cysylltiad â Google, mae /e/ yn defnyddio nifer o apiau amgen yn lle’r rhai sydd yn AOSP a LineageOS, gan olygu bod yn rhaid eu lleoleiddio ar wahân.

    Yn hytrach na defnyddio’r ap e-bost sydd yn AOSP, er enghraifft, mae /e/ wedi dewis defnyddio K-9 Mail. Trwy lwc mae K-9 Mail wedi’i lleoleiddio i’r Gymraeg cwpl o flynyddoedd nôl ac mae’n debyg eich bod chi eisoes wedi ei lawrlwytho a’i osod o Google Play ac yn ei ddefnyddio yn Gymraeg ar eich ffonau Android ers peth amser. https://play.google.com/store/apps/details?id=com.fsck.k9&hl=cy

    Yn ogystal â K-9 Mail (ebost), mae’r apiau canlynol wedi’u lleoleiddio:

    Rhai o apiau /e/

    Mae rhestr llawn o’r apiau sy’n cael eu cynnwys yn /e/ ac felly sydd eisiau eu lleoleiddio yma: https://gitlab.e.foundation/e/apps

    Tra bod /e/ yn defnyddio cod a lleoleiddiadau LineageOS a’r holl apiau uchod, mae hefyd yn newid eu henwau a dyw’r enwau mae /e/ yn eu rhoi arnyn nhw ddim eto yn ymddangos yn Gymraeg.

     
  • Sioned Mills 5:43 PM ar 9 April 2019 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Haclediad #76: Mae Popeth Yn Ossym! 

    Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan…

    Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rîli’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o gwbl! 🙌

    Cefnogwch yr Haclediad

    Dolenni

     
  • Rhos Prys 11:11 AM ar 18 March 2019 Dolen Barhaol | Ateb  

    Firefox Send – gwasanaeth rhannu ffeiliau 

    Mae Firefox Send yn wasanaeth rhannu ffeiliau rhad ac am ddim y gall unrhyw un ei defnyddio, does dim rhaid defnyddio Firefox na bod a Chyfrif Firefox.

    Mae modd ychwanegu ffeiliau hyd at 1GB fel defnyddiwr heb gofrestru. Mae maint y ffeiliau’n codi i 2.5Gb i ddefnyddwyr wedi’u cofrestru. Mae cofrestru’n golygu bod â Chyfrif Firefox, felly os oes gennych chi un eisoes gallwch ddefnyddio hwnnw, os nad cofrestru am un o’r newydd. Mae’n werth cofrestru gan ei fod yn codi maint y ffeiliau i 2.5Gb a’r gallu i reoli ffeiliau wedi eu llwytho i fyny o ddyfeisiau eraill a newid cyfnod dod i ben. Does dim rhaid talu am gyfrif.

    Gallwch lusgo a gollwng ffeiliau i’w rannu gydag eraill ar wefan Firefox Send neu ddefnyddio’r botwm llwytho i fyny i ddefnyddio’r chwilotwr ffeiliau i ddewis eich ffeiliau.

    Mae’r holl ffeiliau gafodd eu dewis yn cael eu dangos gyda’u henwau a’u maint. Bydd Firefox Send yn dangos cyfanswm maint y ffeiliau gyda’r dewis i ychwanegu rhagor o ffeiliau i’r ciw.

    Bydd ffeiliau wedi eu llwytho i fyny’n dod i ben yn awtomatig ymhen amser penodol neu nifer o weithiau wedi eu llwytho i lawr. Bydd yn eu dileu ar ôl eu llwytho i lawr unwaith neu o fewn 24 awr fel rheol. Mae modd codi’r nifer o lwythi i 100  neu 7 diwrnod. Gall llwythi i lawr ddod i ben ymhen 5 munud o’u llwytho i fyny.

    Mae Firefox Send yn defnyddio amgryptiad i ddiogelu ffeiliau ac mae defnyddio cyfrinair yn ychwanegu at y diogelwch.

    Beth am roi cynnig arno?

     
    • Aled Powell 11:07 PM ar 31 Mawrth 2019 Dolen Barhaol

      Da iawn. Dylid rhannu newyddion am hyn, yn enwedig gyda sefydliadau sydd fod i’n gwasanaethu yn Gymraeg.

      Bu’n rhaid i mi drosglwyddo dipyn o ffeiliau i rywun yng Nghyngor Wrecsam yn ddiweddar a gofynnwyd i mi ddefnyddio WeTransfer. Edrychais yn yr opsiynau ond am nad yw’r Gymraeg yn opsiwn dewisais iaith arall a bu’n rhaid i swyddog y Cyngor gwneud synnwyr o’r broses yn Swedeg!

    • Aled Powell 10:41 AM ar 2 Ebrill 2019 Dolen Barhaol

      Newydd ddefnyddio hwn. Dw i’n synnu nad oes opsiynau iaith i’w gweld yn Firefox Send. Mae’n ymddangos yn Gymraeg dim ond os ydy defnyddiwr wedi gosod y Gymraeg yn newisiadau ei borwr fel dewis iaith gyntaf cynnwys ar y we. Mae hyn yn handi i’r rhai ohonom sy’n gwybod ac yn gwneud felly, ond i’r mwyafrif mae’n golygu y bydd Send yn ymddangos yn Saesneg heb fod dewis Cymraeg – nac unrhyw iaith arall – ar gael.

      Dw i’n teimlo bod yr arfer hyn yn dod yn fwy cyffredin ac mae’n fater i’w drafod yn ehangach, dw i’n credu.

    • Rhoslyn Prys 11:04 AM ar 2 Ebrill 2019 Dolen Barhaol

      Diolch Aled am y sylwadau hyn.
      Mae’r ffaith nad oes dewislen iaith ar Firefox Send, a’i fod yn dilyn iaith y porwr, yn rhywbeth dwi eisoes wedi codi gyda Mozilla fel ymarfer gwael, felly dwi’n falch dy fod wedi codi hwn.
      Beth yw barn pobl eraill i mi gael trafod adborth defnyddwyr gyda’r criw lleoleiddio ym Mozilla?
      Diolch 🙂

  • Sioned Mills 9:04 AM ar 16 March 2019 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , , ,   

    Haclediad 75: Sneaky Nest a Robo-Iest 

    Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets!

    Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!)

    Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd – Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a datblygiadau’r gynhadledd i’r byd digidol Cymraeg.

    Ymddiheuriadau am safon sain Iestyn, mae o’n troi’n bionic.

    Cefnogwch yr Haclediad

    Dolenni

     
  • Aled Powell 10:31 AM ar 14 March 2019 Dolen Barhaol | Ateb  

    LineageOS – Android 100% yn Gymraeg, ond… 

    Mae pob gair o’r Android Open Source Project a LineageOS erbyn hyn wedi’u lleoleiddio ac Android ar gael am y tro cyntaf yn llawn yn Gymraeg*. Ond mae dal wir angen eich help chi i gywiro a gwella ambell beth.

    Lineage 15.1 a 16.0

    Mae ROMs swyddogol 16.0 nawr yn cael eu hadeiladu yn ddyddiol a 15.1 wedi eu israddio i gael eu hadeiladu yn wythnosol. Cafodd y cyfieithiadau 100% Cymraeg eu mewnforio 11 Mawrth felly dylai fod unrhyw ROM wedi’i adeiladu o 12 Mawrth gyda’r Gymraeg yn 100%.

    *Ond, er bod pob gair o AOSP a LineageOS wedi’i lleoleiddio, mae ambell ddarn yn parhau i ymddangos yn Saesneg. Mae rhai yn ymddangos mewn llefydd amlwg, e.e. y dewis ‘Advanced’ yn y gosodiadau ac ambell beth dan ‘App Permissions’, ond mae’n debyg bod eraill yn llai amlwg i’w darganfod. Ga’i ofyn i chi plîs rhoi gwybod i mi am enghreifftiau. Anfon sgrinlun ata’i sydd orau. Dw i’n cydweithio â datblygwyr i’w cywiro.

    LineageOS 14.1

    Mae datblygiad a diweddariadau’r fersiwn hwn wedi dod i ben dechrau mis Chwefror. Mae’r ROMs swyddogol olaf yn rhannol yn Gymraeg ond yn cynnwys gwall.
    15 Hydref 2018 – Mewnforiwyd y cyfieithiadau Cymraeg (tua 75% cyflawn, gyda gwall).
    5 Tachwedd 2018 – Cywiriwyd camgymeriad yn un o’r ffeiliau Cymraeg sy’n achosi problem wrth gysylltu USB.
    19 Ionawr 2019 – Ychwanegwyd y Gymraeg fel dewis yn y rhestr ieithoedd.
    7 Chwefror 2019 – Adeiladwyd y fersiwn swyddogol olaf.
    12 Mawrth 2019 – Mewnforiwyd y cyfieithiadau Cymraeg (100% a dim gwallau).
    Beth mae hyn yn golygu yw os ydych yn gosod a defnyddio ROM swyddogol wedi’i adeiladu rhwng 19 Ionawr a 7 Chwefror mi fydd yn rhannol yn Gymraeg ond gyda gwall. Bydd y rhyngwyneb yn stopio gweithio pan fo unrhyw beth yn cael ei gysylltu â’r micro USB, felly rhaid newid i iaith arall bob tro chi’n gwefru neu gysylltu i drosglwyddo ffeiliau. Yn anffodus, ni fydd rhagor o ROMs swyddogol, ond mae yn bosib adeiladu ROMs answyddogol o 12 Mawrth gyda’r Gymraeg yn gyflawn ac heb y gwall. Dw i’n gallu adeiladu rhain os oes angen ar unrhyw un, e.e. os nad yw 15.1 neu 16.0 ar gael ar gyfer eich dyfais.

    LineageOS: https://lineageos.org/

    Lleoleiddio: https://crowdin.com/profile/LineageOS

     
  • Carl Morris 3:58 PM ar 5 March 2019 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: drupal, dylunio   

    Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am ddylunydd gwefan 

    Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am ddylunydd gwefan sydd yn gallu creu neu addasu thema ar gyfer gwefan Drupal.

    Am ragor o fanylion am y cyfle hwn cysylltwch trwy’r manylion sydd yn yr hysbys ar wefan y Gymdeithas.

     
  • Aled Powell 4:32 PM ar 4 March 2019 Dolen Barhaol | Ateb  

    LineageOS – Android yn Gymraeg 

    Dyma ddiweddariad o ble mae’r gwaith lleoleiddio AOSP – yr Android Open Source Project – a LineageOS arni ar hyn o bryd. Fel pob prosiect cod agored arall, mae croeso i unrhyw un gyfrannu. Ymunwch yma: https://crowdin.com/profile/LineageOS

    Fersiwn Android Fersiwn LineageOS AOSP – Android Open Source Project (Android ei hun) LineageOS (ychwanegion LineageOS i AOSP)
    Geiriau yn y gwreiddiol (En_US) Wedi’i lleoleiddio (Cy_GB) Geiriau yn y gwreiddiol (En_US) Wedi’i lleoleiddio (Cy_GB)
    6.0.1 (Marshmallow) 13.0 64,397 100% 17,886 95% (17,098)
    7.1.2 (Nougat) 14.1 16,267 100% 6,860 74% (5,133)
    8.1 (Oreo) 15.1 23,061 98% (22,780) 5,016 99% (4,972)
    9.0 (Pie) 16.0 15,800 93% (14,933) 602 100%
    Cyfanswm 119,525 99% (118,377) 30,364 91% (27,805)
    Sgrin gartref LineageOS 16.0

    Sgrin gartref LineageOS 16.0

    Yn anffodus, dyw’r Gymraeg yn LineageOS ei hun ddim cweit mor gyflawn â’r ffigyrau uchod am fod datblygwyr ond yn diweddaru ffeiliau’r system gyda’r cyfieithiadau tua unwaith y mis. Digwyddod y mewnforio diweddaraf o’r Gymraeg ar 1af o Fawrth (ferswin 15.1) a 27 Chwefror (16.0).

    Mae dros 8,000 o eiriau wedi’u lleoleiddio ers hynny ac ni fydden nhw’n ymddangos yn adeileddau LineageOS am ychydig wythnosau. Ond mae’r rhannau olaf i’w lleoleiddio yn tueddu bod yn ddwfn o fewn y system mewn mannau a nodweddion nad yw’r defnyddiwr cyffredin yn debyg o’u gweld yn aml.

    Sgrinlun apiau ar LineageOS 16.0

    Sgrinlun apiau ar LineageOS 16.0

    Dw i’n mawr obeithio i fwy o bobol rhoi cynnig ar ddefnyddio dyfais gyda LineageOS yn Gymraeg. Dw i’n siŵr bod camgymeriadau yma a byddai’n dda cael gwybod am unrhyw wallau a sicrhau bod y Gymraeg yn cadw yn gywir ac yn gyfoes. Yn ddelfrydol, byddai defnyddwyr sy’n sylwi unrhyw fylchau neu gamgymeriadau yn y Gymraeg yn mynd draw at CrowdIn a chynnig gwelliannau.

    Lawrlwytho

    Mae ROMs LineageOS swyddogol ar gael i’w lawrlwytho yma: https://download.lineageos.org/

    Mae argaeledd LineageOS ar gyfer unrhyw ddyfais benodol yn ddibynnol ar rywun gyda thipyn o arbenigedd i gynnal a chadw adeiledd ar gyfer y ddyfais honno. Mae adeiladu’r ROM cyntaf ar gyfer unrhyw ddyfais yn broses cymhleth am fod, er enghraifft, rhaid cynnwys cnewyll sy’n unigryw i bob model. Mae gen i Samsung S5, er enghraifft. Ond mae dwsinau o wahanol fodelau o’r S5 ac o ganlyniad mae o leiaf deg gwahanol ROM LineageOS ar eu cyfer nhw. Os am osod LineageOS a chael Android yn Gymraeg ar eich dyfais chi, rhaid gwybod union fodel y ddyfais (i’w weld yn y gosodiadau) yn hytrach na dim ond ei henw, ac edrych yn gyntaf os oes ROM LineageOS ar ei chyfer.

    Sgrinlun dewisiadau yn LineageOS 16.0

    Sgrinlun o’r gosodiadau yn LineageOS 16.0

    Mae’r fersiynau o LineageOS sydd ar gael ar gyfer gwahanol ddyfeisiau hefyd yn amrywio. Mae LineageOS 16.0 ar gael ar gyfer rhai dyfeisiau tra bod fersiynau 15.1 neu 14.1 ar gael ar gyfer dyfeisiau eraill. Dw i ddim yn credu bod LineageOS 13.0 yn dal i gael ei gynnal ar gyfer unrhyw ddyfais.

    Gosod

    Dw i ddim am roi canllawiau gosod yma. Mae’r broses yn gymhleth, yn amrywio o un ddyfais i’r llall, gyda thipyn o risg, ac, o brofiad, mae fel arfer ychydig o helyntion annisgwyl i’w datrys. Os oes gennych hen ddyfais Android ac eisiau rhoi bywyd newydd iddo trwy osod Android amgen a mwy diweddar, rhyddhau lle ar y storfa, ymestyn oes y batri, a bod ymhlith y cyntaf i fod â ffon Android Cymraeg – cysylltwch i drafod. Yn ogystal â gallu gosod LineageOS ar eich dyfeisiau, mae gen i nifer o ffonau Samsung gydag Android Cymraeg ar werth.

    Sgrin gartref Android /e/ fersiwn 0.2 yn Gymraeg

    Sgrin gartref Android /e/ fersiwn 0.2 yn Gymraeg

    Gair am /e/

    Mae /e/ yn fersiwn o Android sy’n cael ei datblygu gyda’r bwriad o fod wedi ei osod ar ddyfeisiau sydd ar gael i’w prynu. Mi fuasai’n dda pe bai’r Gymraeg yn gyflawn yn y system pan gaiff fersiwn 1.0 ei ryddhau.

    Mae Android /e/ (https://e.foundation) wedi’i adeiladu yn seiliedig ar LineageOS ac felly mae yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg AOSP a LineageOS. Mae datblygwyr yn cymryd y ffeiliau Cymraeg o brosiect LineageOS ar Github yn hytrach na’n uniongyrchol o CrowdIn ac felly dyw’r Gymraeg yn /e/ ddim mor gyfredol a chyflawn â LineageOS.

    Yn anffodus, mae adeileddau /e/ ar hyn o bryd yn cynnwys ffeil lleoleiddiad Cymraeg gyda gwall ynddi ac o ganlyniad mae’r rhyngwyneb yn rhewi pob tro mae unrhyw beth yn cael ei gysylltu at USB y ddyfais. Cafodd y broblem hon ei darganfod a’i chywiro yn y ffeil ar CrowdIn nôl ym mis Hydref 2018, felly mae hyn yn rhoi syniad pa mor hen yw rhai o’r ffeiliau Cymraeg yn /e/. Mae degau o filoedd o eiriau hefyd wedi eu cyfieithu ers hynny. Felly os ydych yn gosod /e/ ar ddyfais, byddwch yn dal i weld dipyn o Saesneg nes bod datblygwyr wedi mewnforio’r ffeiliau Cymraeg mwyaf diweddar.

     

    Unrhyw gwestiynau?

     
    • Carl Morris 5:40 PM ar 4 Mawrth 2019 Dolen Barhaol

      Efallai bod modd cyflymu’r broses o gynnwys dy gyfieithiadau newydd yn y prosiect trwy wneud cais cyfuno Git. Dw i wrthi’n chwilio am y brosiect ar Github i weld os mae hyn yn bosibl.

      Diolch o galon am gyfrannu at hyn Aled (ac eraill)!

    • Carl Morris 5:45 PM ar 4 Mawrth 2019 Dolen Barhaol

      Ond mae’n edrych fel bod nhw wedi awtomeiddio’r diweddariad o gyfieithiadau.

      Dyma enghraifft o’r ap Camera2.

    • Aled Powell 9:13 PM ar 4 Mawrth 2019 Dolen Barhaol

      Mae’r mewnforio o’r cyfieithiadau a holl newidiadau eraill i god LineageOS yn cael eu gwneud trwy gerrit.

      Mae’r cyfnodau rhwng mewnforio’r cyfieithiadau yn handi o safbwynt y gwaith lleoleiddio, a dweud y gwir. Ond dw i yn adeiladu fy ROMs answyddogol fy hun weithiau pan dw i’n awyddus a methu aros i brofi a gweld sut mae rhywbeth yn edrych yn y ROMs swyddogol.

    • Rhos Prys 11:34 AM ar 7 Mawrth 2019 Dolen Barhaol

      Llongyfarchiadau mawr ar y gwaith yma Aled!

      Rwy wedi gosod LineageOS ar Nexus 4 sydd gen i ac mae’n grêt.

      Mae’n rhedeg LineageOS 15.1 gan nad yw 16 ar gael, hyd yma ar gyfer y ffôn yma. Fel ti’n awgrymu mae ROM yr /e/ Foundation yn hŷn, mae ar Android 7.1.2 a does dim cymaint o’r cyfieithiad ar gael ar hwnnw.

      Mae’n handi gallu uwchraddio hen ffôn o 2014 i’r Android diweddaraf a chael rhyngwyneb Cymraeg. 🙂

    • Aled Powell 11:31 AM ar 9 Mawrth 2019 Dolen Barhaol

      Mae pob fersiwn o AOSP ac addasiadau LineageOS wedi’u lleoleiddio 100% erbyn hyn.

      Ond mae nifer o dermau dw i jyst wedi’u cynnig er mwyn gyrru ymlaen. Dw i wir angen help gyda thermau ffotograffiaeth yn arbennig. Termau am dechnegau digidol cyfoes, hynny yw. Oes arbenigwr neu adnodd rhywle?

      Mae’n hanfodol bod eraill yn defnyddio LineageOS yn Gymraeg ac yn cynnig gwelliannau. Ond peidiwch â mynd ati i jyst eto. Dyw’r cyfieithiadau Cymraeg cyflawn heb eu mewnforio eto. Byddaf yn cyhoeddi cofnod newydd yma ac Haciaith pan fydd hynny wedi digwydd.

      Nodyn am LineageOS 14.1 – Am fod hwn yn fersiwn hyn, nid yw’n cael ei ddiweddaru mor aml. Dyw’r ffeiliau Cymraeg heb eu diweddaru ers 15 Hydref ac felly mae’r system yn dal i gynnwys gwall cafodd ei gywiro ar 5 Tachwedd. Yn Gymraeg, bydd y rhyngwyneb yn chwalu pob tro mae rhywbeth yn cael ei gysylltu â’r porth micro USB, sy’n golygu bod rhaid troi’r system i iaith arall pob tro chi’n gwefru neu gysylltu â chyfrifiadur. Bydd diweddariad yn fuan.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel