Blog y Cynulliad: Llythyr gan Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bron i ugain mlynedd ar ôl sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd datganoli yng Nghymru yn cyflawni carreg filltir arwyddocaol arall ar 6 Ebrill. O ddydd Sadwrn ymlaen, bydd cyfraddau treth incwm sy’n berthnasol i Gymru yn cael eu penderfynnu yng Nghymru, gan effeithio ar tua dau biliwn o bunnoedd o’r dreth a gesglir yma bob … Continue reading Llythyr gan Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Cloriau llyfrau

Dyma be ydi clincar o glawr ynde? A dyma un arall dwi’n hoff iawn ohono: Gofynodd Mared Lewis, yr awdures ar Facebook yn ddiweddar “Be sy’n gwneud clawr da i chi?” a chafodd ymateb difyr: y rhan fwya’n deud nad oedden nhw’n hoffi ffotograffau ar gloriau. “Well gen i ddarn o gelf na ffoto ar […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hen ddyn, hen wraig hapus

Mae’r gŵr yn dal i gadw’n brysur. Mae o’n brysurach yn ddiweddar wrth ei gwmni dyfu, a’i ddiddordeb ddatblygu, a dweud y gwir. Dw i wedi hen gyfarwydd â’n nith wag ni, a setlo i lawr i’r drefn newydd. Pan godais fy llaw at y gŵr sydd yn gyrru i ffwrdd … Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Karla Brading: Defnyddio Aberfan a thafarn fwyaf ysbrydoledig Cymru i ysbrydoli ysgrifen oedolion ifanc / Using Aberfan and Wales’ most haunted pub to inspire young adult writing

Awdur iaith Saesneg o Ferthyr Tudful yw Karla Brading sydd yn arbenigo mewn dod â phynciau anodd i ddarllenwyr oedolion ifainc. Yn yr erthygl hon mae’n rhoi cyflwyniad byr am ei hun, ei llyfrau, a phaham mae’n ysgrifennu… Karla Brading is an English-language author from Merthyr Tydfil who specialises in bringing difficult subjects to young adult readers. In this article she gives a brief introduction to herself, her books, and why she writes…

The post Karla Brading: Defnyddio Aberfan a thafarn fwyaf ysbrydoledig Cymru i ysbrydoli ysgrifen oedolion ifanc / Using Aberfan and Wales’ most haunted pub to inspire young adult writing appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Fframio risg a hawliau ar gyfer arloesi

Fe wnes i weithio ar weminar RiPfA ar gyfraith iechyd meddwl yn ddiweddar gydag Alex Ruck-Keene o 39 Essex Chambers. Ysgogodd y gweminar i ni edrych ar ganlyniadau â deddfwriaeth ar y cyd. Roedd Alex yn heriol yn y ffordd orau — dechreuodd y sesiwn drw… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Recordio llais a chwant bwyd

Un o’r petha dwi’n gorfod gwneud yn eithaf aml ydi recordio fy llais. Dros y blynyddoedd, dwi wedi dod i arfer efo clywed o – fedra i’m dweud bod fi’n hoff iawn o’i wneud, ond tydi o ddim yn swnio’n gwbl diarth fel y mae o tro cyntaf ti’n clywed dy lais dy hun. Heddiw, … Continue reading Recordio llais a chwant bwyd Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: 62 Heol Charles, Caerdydd

Gan fod eiddo Heol Charles wedi’i ail-rifo o leiaf ddwywaith, dyw hi ddim yn hawdd olrhain hanes rhif 62. Fodd bynnag, mae’r adeilad siŵr o fod yn dyddio o ganol y 19eg ganrif.  Drwy gymharu manylion cyfrifiadau a chyfeirlyfrau, gwelwn mai rhif 52 ydoedd tua 1880 ac ar ddechrau’r 1900au, ac mae’n bosibl taw ei […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : pedwar pwnc

Mae fy mab ifancaf wrthi’n paratoi araith fer ar gyfer y dosbarth araith. Dyma bedwar pwnc a gyflwynodd i’r athrawes. Bydd o’n dewis un nes ymlaen.1: Pam nad ydy’r wal ffin yn anfoesol.2: Pam mae mewnfudwyr anghyfreithlon yn beryglus i gymunedau A… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, 2 Ebrill 2019

    Wrth i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, daw ein herthygl gwadd gan Sarah A Morgan, Uwch Swyddog Ymgysylltu Cangen Cymru o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol.    Fel sefydliad sydd wedi ennill gwobr am ei waith ym maes awtistiaeth, rydym yn falch o nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd. Mae’r wobr hon yn … Continue reading Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, 2 Ebrill 2019 Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Ysbrydoliaeth, ofn a diflastod

Mae’n daith ryfedd adeiladu busnes, neu brosiect o unrhyw fath am wn i. Mae cyfnodau cyffrous pan mae posibiliadau difyr newydd yn agor i fyny (gen i gyfarfod diddorol iawn wythnos nesaf, er enghraifft). Mae cyfnodau pan mae pwysau gwaith yn heriol iawn – unai bod andros lot i’w wneud, neu fod y llif arian … Continue reading Ysbrydoliaeth, ofn a diflastod Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Dewi Wyn Williams: Ysgrifennu’r nofel Madi am ferch ifanc sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia / Writing the novel Madi about a young girl who lives with anorexia and bulimia

Madi yw nofel gyntaf y dramodydd Dewi Wyn Williams, am ferch sy’n dioddef o anorecsia: ‘Roeddwn i’n wyth oed. Ac ar ddeiet.’ Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth- sut gall Madi ddod o hyd i’r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi’n gwmni? Yma mae Dewi yn cyfrannu mwy am pam mae e wedi sgwennu am y pwnc hwn… Madi is the first novel by the playwright Dewi Wyn Williams, about a girl who is suffering from anorexia: ‘I was eight years old. And on a diet.’ Perfection, identity, control- how can Madi find these in an imperfect, competitive and unruly world, and only loneliness for her company? Here Dewi contributes more about why he has written about…

The post Dewi Wyn Williams: Ysgrifennu’r nofel Madi am ferch ifanc sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia / Writing the novel Madi about a young girl who lives with anorexia and bulimia appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : enw newydd

Mae llywodraeth Japan newydd gyhoeddi enw ymerodrol newydd, sef Reiwa. Roedd llawer o ddyfalu ynglŷn â’r enw newydd yn ddiweddar. Welais mohono ar y rhestr! Gallai “rei” olygu “gorchymyn,” ond yn yr achos hwn, mae o’n golygu “da” neu “bendigaid.’ Cytgo… Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Blas ar waith… Cynorthwyydd Cadwraeth dan hyfforddiant

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn dilyn amryw o aelodau staff y Llyfrgell wrth eu gwaith i roi syniad i chi o beth sy’n digwydd… Darllen Mwy

The post Blas ar waith… Cynorthwyydd Cadwraeth dan hyfforddiant appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Taith Lobsgows y Llan

Adroddiad gan John Griffiths am Daith

Lobsgóws flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd, y tro hwn yn Llan ‘Stiniog. 

Fe ddaeth dros ddeugain aelod ynghyd ar y 5ed o Ionawr am daith fach o gwmpas Llan Ffestiniog gyda Vivian Parry Williams a Steffan ab Owa… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Amser grrrrr

Gen i ryw fath o athrylith mewnol tywyll sydd yn gwneud i mi fod yn hwyr i ‘ngwely bob un tro mae’r blincin clociau yn mynd ymlaen. Grrrrr. Mewn newyddion eraill, mae’r ymateb cychwynnol i’n pwyslais newydd ar y cwrs 6 munud yn addawol iawn – mis neu ddau difyr iawn o gasglu data a … Continue reading Amser grrrrr Parhau i ddarllen

Gronyn: Ffŵl er mwyn Crist

Maddeuwch nodyn personol heddiw gan ei bod yn ddeugain mlynedd ers i mi gychwyn fy ngweinidogaeth ym Mhen Llŷn. Cefais fy ordeinio yn Abersoch ar Fawrth 29ain, 1979,  a dydd Sul, Ebrill 1af oedd y diwrnod cychwyn swyddogol yn yr Ofalaeth.  Erbyn heno, felly, bydd union ddeugain mlynedd ers y diwrnod hwnnw. Do, mi ddechreuais […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Diwedd mis Mawrth

A dyma ni ar ddiwedd mis Mawrth.  A fel y dywediad Saesneg – death y mis i fewn fel llew.  I di, ddechreuodd y mis gyda penwythnos yng Nghaernarfon yn y Gŷyl, (Gŵyl Ddewi Arall) felly digon o bethau Cymraeg a Chymreig – a gorffennod… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Llyfr ffeithiol da tua 8/10 oed +

Un Saesneg, sori, ond nefi, mae o’n un da: Mi wnes i archebu copi drwy’r llyfrgell yn sgil ei weld ar y silff ‘ffefrynnau’ yn y blogiad dwytha. Synnu dim ei fod wedi ennill ‘Best Book With Facts Blue Peter Book Award 2017.’ Mi ddylai apelio at unrhyw un o unrhyw oed sy’n mwynhau darllen, […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : torri fy ngwallt

Cas gen i gael torri fy ngwallt mewn siop. Fydda i byth yn cael steil dw i’n ei hoffi, ac eto rhaid talu gan gynnwys cildwrn. Dw i’n casáu’r holl brofiad annifyr beth bynnag. Yr unig steilydd gwallt dw i’n ei hoffi ydy fy merch yn Japan, ond dydy hi dd… Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Llythyr Pennal: Rôl bwysig Cymru yng ngwleidyddiaeth Ewrop

Dyma gofnod gwâdd fel rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes… Darllen Mwy

The post Llythyr Pennal: Rôl bwysig Cymru yng ngwleidyddiaeth Ewrop appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tvp

Dw i newydd ddarganfod TVP, sef gronynnau sych o ffa soi. Ar ôl gwasgir olew allan o ffa soi, hwn sydd yn aros, ac mae o’n llawn o brotein a fitaminau. Mae nifer o ffyrdd i’w ddefnyddio, ond dw i wedi meddwl modd newydd, hynny ydy ychwanegu TVP at geir… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Dibynnu ar y tywydd

Dwi’n teimlo’n sbonciog ac yn llawn brwydfrydedd ac optimistiaeth bore ‘ma. Cornel wedi’i throi efo’r busnes? Neu jesd bore heulog?…;-) Weles i rywbeth yn ddiweddar yn awgrymu bod pobl pesimistaidd yn debycach o lwyddo mewn busnes. Efallai bod fi’n gwneud gwaith gwell yn nhywyllwch y gaeaf, ac yn dipyn o liability unwaith i’r haul gyrraedd… … Continue reading Dibynnu ar y tywydd Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 31 Mawrth a 7 Ebrill 2019

‘Iesu, Iesu, ’rwyt ti’n ddigon, ’rwyt ti’n llawer mwy na’r byd’. Dyna linell gyntaf emyn enwog William Williams Pantycelyn, a datganiad hyfryd o’i ffydd. Ond wrth ganu geiriau tebyg i hyn, ydym ni’n gofyn i’n hunain – ydw i’n credu hyn? Mae’n hawdd iawn morio canu yn ddifeddwl bron, ond tybed yw’r hyn y mae’r . . . → Read More: Dydd Sul, 31 Mawrth a 7 Ebrill 2019

Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Dymunwn yn dda i Polly Higgins, ‘Cyfreithwraig y Ddaear’

Fel myrdd o garedigion y Ddaear ledled y blaned, clywsom gyda thristwch enfawr fod ‘Cyfreithwraig y Ddaear’ Polly Higgins yn dioddef o afiechyd difrifol. Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn falch i son am ymgyrchoedd heriol Polly ynghanol y … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Lleucu Roberts a’r drioleg wedi’i seilio yn y dyfodol / and the futuristic trilogy: Yma- Yr Ynys, Hadau & Afallon

Sut ydy rhywun mynd ati greu cyfres o dri llyfr wedi’i seilio yn y dyfodol? Yma mae Lleucu Roberts, sydd wedi ennill gwobr Tir na n-Og dwywaith ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, yn esbonio mwy… How does someone go about creating a series of three books set in the future? Here Lleucu Roberts, who has won the Tir na n-Og award twice and she has won the Daniel Owen Memorial Prize and the Prose Medal at the 2014 National Eisteddfod in Carmarthenshire, explains more… ylolfa.com/awduron/475/lleucu-roberts / YLolfa  

The post Lleucu Roberts a’r drioleg wedi’i seilio yn y dyfodol / and the futuristic trilogy: Yma- Yr Ynys, Hadau & Afallon appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Antur Stiniog: Llawer mwy ‘na llwybrau beics

Ychydig o hanes a gobeithion yr Antur at y dyfodol, wedi’i addasu erthygl yn rhifyn Chwefror 2019.
Mae Antur Stiniog wedi hen sefydlu ei hun yn ardal Blaenau Ffestiniog ers dros ddegawd bellach a priodol fyddai atgoffa’n hunain a’r ardal ychydig o’n ha… Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Brexit am byth!

Mae pethau’n mynd yn dda, meddai Dylan Iorwerth Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Arferion

Un wendid sydd gen i ydi sut dwi’n diflasu ar ormod o drefn. Dwi’n gallu teimlo mod i mewn rhigol yn rhy hawdd – ac wrth gwrs un o’r pethau sydd angen i adeiladu unrhyw fath o sefydliad (busnes, cymdeithas, beth bynnag) ydi cysondeb. Rhyw ddiwrnod, bydd rhaid i ni gael beth mae Americanwyr yn … Continue reading Arferion Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gwyliau sydyn

Mae fy merch arall yn Japan newydd orffen blwyddyn arall o waith mewn ysgol feithrin ryngwladol yn llwyddiannus. (Yn Japan mae blwyddyn ysgol yn gorffen ym mis Mawrth.) Roedd hi’n gweithio’n ofnadwy o galed, a rŵan penderfynodd fynd ar wyliau… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Bore llawn addewid

Wel oedd hynna’n rhyfedd. Gweiddi ar y plant bod ‘cyfle olaf am gwtsh’ (sef bod hi’n 5 munud i 8 ac amser iddyn nhw siapio hi) – a dyna lle oedd y ddau, wedi gwisgo, wedi cael brecwast, yn barod am y diwrnod (ac yn reit falch ohonyn nhw eu hunain!). Hen ddigon o amser … Continue reading Bore llawn addewid Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Datgloi Ein Treftadaeth Sain Cyfle Gwirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  Y Prosiect Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o’r 10 Hwb ar draws y DU sy’n cymryd rhan yn y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth… Darllen Mwy

The post Datgloi Ein Treftadaeth Sain Cyfle Gwirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Cylchgrawn The Ocean and National, 1936: Atgofion Drwy Lyfr Amser yng Nglofa Bute Merthyr

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : cerdded yn y dref

Wedi cael ymweliad gan fy nau ŵyr dros y penwythnos, roedd angen triniaeth geiropracteg arna i! Fe wnaeth Dr. Chris bopeth i fy nhrwsio’r bore ‘ma. Gan fod y diwrnod mor braf, penderfynais gerdded yn y dref wedyn. Does dim llawer i’w weld yn y dref fac… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Trio eto…

Aeth heddiw rhwng y cŵn a’r brain braidd – prin wedi cael cyfle i wneud mwy na llond llaw o bethau oedd eu hangen rhwng y galwadau ffôn gwahanol yn trio gweithio allan os oedd fy mam yn cael dod adref neu beidio, ac wedyn yn mynd ati hi yn yr ysbyty a chael clywed … Continue reading Trio eto… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Ffilm ddogfen Anorac: Hanner canrif o chwyldro roc, pop a cherddoriaeth Gymraeg / Documentary film Anorac: 50 years of rock, pop and the Welsh music revolution

“Yn y flwyddyn rhyddhaodd y Beatles Sgt. Pepper, dyna’r flwyddyn gwelwyd y grŵp roc cyntaf yn y Gymraeg.” “The year in which the Beatles released Sgt Pepper, was the same year we saw the first ever Welsh rock band.” Diddordeb mewn cerddoriaeth, diddordeb yn y Gymraeg neu ddiddordeb yng Nghymru – mae Anorac yn ffilm hanesyddol ond eto’n gyfoes, sydd am roi blas i wylwyr o bob math o ddiwylliant gyfoethog Cymru, Gwlad y Gân. Gwyliwch, nos Iau, 4 Ebrill am 9.30 ar S4C. Bydd Anorac ar gael i’w gwylio yn rhyngwladol ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill am 150 diwrnod wedi’r darllediad ar 4 Ebrill. Whether you’re interested in music, in the Welsh language or in Wales,…

The post Ffilm ddogfen Anorac: Hanner canrif o chwyldro roc, pop a cherddoriaeth Gymraeg / Documentary film Anorac: 50 years of rock, pop and the Welsh music revolution appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr enwog ddeiseb fesul etholaeth

Mae’r ffigyrau yma wedi dyddio rhyw gymaint – neithiwr wnes i fynd ati i edrych – ond wele’r canrannau sydd wedi arwyddo’r enwog ddeiseb i wyrdroi Erthygl 50:Ynys Mon – 5.95%Arfon -10.08%Meirion Dwyfor – 6.83%Aberconwy – 7.22%Gorllewin Clwyd -6.31%Dyff… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hen bryd

Dinistriodd roced Hamas tŷ yn llwyr yng Ngogledd Israel wrth anafu saith o bobl. Diolch i Dduw bod neb wedi cael ei ladd. Mae’n hen bryd i  lywodraeth Israel gymryd camau pendant yn erbyn Hamas er mwyn amddiffyn ei phobl. Ar yr un pryd, mae’n hen … Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Ail-gychwyn herciog

Dan ni adref ar ôl penwythnos braf iawn i ffwrdd – dylen ni fod yn llawn egni a sbarc wedi amser mor dda, ond o diar, mae’n troi allan mae heddiw ydi’r diwrnod mae mam yn dod adref efo’i chlun newydd… felly mae fel ffair yn fan hyn, efo pob math o ofal cymdeithasol a … Continue reading Ail-gychwyn herciog Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Ar ein telerau ni

‘£350miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd bob wythnos’; ‘Cael ein gwlad yn ôl’;  dyna i chi ddau o sloganau mwyaf pleidwyr Brexit cyn y Refferendwm yn 2016.  Un arall oedd ‘Cipio rheolaeth yn ôl’. ‘Take back control’ oedd y gri. Roedd pobl Prydain, meddid, wedi blino ar griw anetholedig yr Undeb Ewropeaidd yn rheoli pob dim, ac […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Abaty Cymer, abaty dirgel

Faint o weithiau dych chi’n gyrru’n gyflym ar hyd yr A470 o Lanelltud tua Dolgellau, gan anwybyddu’r lôn fach i’r chwith, yn syth ar ôl croesi afon Mawddach, sy’n arwain at Abaty Cymer?   Y dydd o’r blaen ymwelais â’r Abaty am y tro cyntaf.  O’r maes parcio, tro bach yw e lawr i’r afon, a’r […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: PRALLAN ?

Diwrnod o orymdeithiau, ralïau a chynadleddau oedd hi ddoe. Clywn fod tua dau gant o Frexitwyr o Ogledd-Ddwyrain Lloegr (Brynaich a Deifr, chwedl yr hen Gymry) ar eu hymdaith bythefnos tua Llundain, a bod yr hen Farage wedi ymuno â nhw am ychydig filltiroedd. Yn y cyfamser, rali lawer iawn mwy yn llenwi canol Llundain […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Trafod Tictacs -Ceri Roberts

Colofn newydd yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog, gan gychwyn efo Ceri Roberts, rheolwr/hyfforddwr tîm pêl-droed Amaturiaid y Blaenau.
Llongyfarchiadau mawr ar eich llwyddiant hyd yn hyn y tymor yma. Er gwaetha’r enw, does ‘na ddim… Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Difa Twbercwlosis yng Nghymru: 1912 – 1948

Ar 24 Mawrth eleni cynhelir diwrnod rhyngwladol Twbercwlosis. Dydd i godi ymwybyddiaeth am effaith dinistriol yr aflwydd ar iechyd, cymdeithas ac economi. Dyma hanes sefydlu… Darllen Mwy

The post Difa Twbercwlosis yng Nghymru: 1912 – 1948 appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Difa Twbercwlosis yng Nghymru: 1912 – 1948

Ar 24 Mawrth eleni cynhelir diwrnod rhyngwladol Twbercwlosis. Dydd i godi ymwybyddiaeth am effaith dinistriol yr aflwydd ar iechyd, cymdeithas ac economi. Dyma hanes sefydlu… Darllen Mwy

The post Difa Twbercwlosis yng Nghymru: 1912 – 1948 appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gwneud hanes eto

“Fe wnaethoch chi hanes unwaith eto,” dwedodd y Prif Weinidog Netanyahu wrth yr Arlywydd Trump ar y ffôn neithiwr. Roedd o’n sôn am ddatganiad cyhoeddus yr Arlywydd ynglŷn ag Uchder Golan. Mae’r Arlywydd newydd ddatgan bod gan Israel sofraniaeth dros y… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : er cof am kurt

Dw i a’r gŵr newydd glywed buodd Kurt, ein hoff handyman ni, farw’n sydyn dri diwrnod yn ôl o ganser pancreatig. 55 oed oedd. Roedd o’n fedrus dros ben yn ei faes, ac wedi gweithio droston ni dros ddegawd yn cadw ein tŷ ni mewn siâp. Dim ond mis yn ôl … Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Fforwm Ieuenctid Iechyd Cyhoeddus Cymru, Jessie Hack

Mae Jessie Hack o Fforwm Ieuenctid Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu blog i ni am ei phrofiad o fod yn rhan o’r AQS pobl ifanc ac Uwchgynhadledd Ieuenctid Cymru Ifanc cyn ein digwyddiad ‘Pobl Ifanc yn Dylanwadu ar Benderfyniadau ynghylch yr Hyn sy’n Bwysig Iddyn Nhw’. Roedd y Datganiad Ansawdd Blynyddol (AQS) pobl ifanc yn […] Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Cadw i fynd ac ambell sgwrs difyr

O’n i’n meddwl byddai modd gwneud dwy, tair awr o waith da bob dydd tra byddai Mam yn yr ysbyty, ond dydi o ddim cweit yn gweithio felly – mae fy meddwl yn teimlo fod o’n cael ei dynnu i ormod o gyfeiriadau gwahanol i fedru gwneud unrhyw beth o werth real. Wedi dweud hynna, … Continue reading Cadw i fynd ac ambell sgwrs difyr Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Mae’n hawdd bod eisiau newid, ond mae’n goblyn o anodd gwneud newid

Mae Toby Jones o Fforwm Ieuenctid Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu blog i ni am ei brofiadau’n cynrychioli pobl ifanc mewn amrywiaeth o rolau cyn ein digwyddiad ‘Pobl Ifanc yn Dylanwadu ar Benderfyniadau ynghylch yr Hyn sy’n Bwysig Iddyn Nhw‘. Mae fy mhrofiad gyda’r Fforwm Ieuenctid wedi newid fy mywyd.  Mae ymgynghoriadau lleol, ymchwil a […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : purim

Bydd Gŵyl Purim yn cychwyn ar fachlud yr haul heddiw, ac yn para am ddiwrnod. “Os byddi’n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i’r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daetho… Parhau i ddarllen