shitclic: Nôl i Norge

’Swn i ar goll heb Walter Presents. Mae gwasanaeth ar-alw All4/Channel 4 ar waith ers tair blynedd bellach, a bu’n achubiaeth i mi sawl tro gyda’i bocsets o safon pan oedd yr arlwy’n ddiawledig ar deledu daearol. Ac mae’r ffaith fod cynnyrch sylweddol … Parhau i ddarllen

fel y moroedd : portread

Daeth y gŵr â llond cês o eiddo ei ddiweddar dad a oedd yn garej ei frawd. Yn ymysg sanau, lluniau ac offer, mae yna baentiad gwerthfawr, sef portread ohono fo a baentiwyd gan artist Almaenaidd pan oedd yn hogyn dwy flwydd oed yn yr Almaen. (Cafodd ei … Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Dim mor hwyr â hynna

Weithiau, mae tipyn o’r amser ‘meddwl am waith dwfn’ yn diflannu – ond mewn ffordd dda. Hynny yw, dwi’n cael sgwrs efo Jesse, sydd yn gorfod bod peth cyntaf pan mae o mewn timezone heriol – ond mae sgwrs efo Jesse wastad yn gweithio fel rhyw fath o sesiwn ffocysu, felly fedra i ddim gweld … Continue reading Dim mor hwyr â hynna Parhau i ddarllen

fel y moroedd : croeso’n ôl y ddau

Daeth y gŵr a’n merch ni (y drydedd) adref neithiwr wedi cael amser gwych mewn llefydd gwahanol, y gŵr yn Las Vegas (dim i gamblo ond mynychu cwrs) a’r ferch gyda’i chwaer yn Norman. Er fy mod i’n mwynhau’r tŷ distaw, roedd dipyn yn rhy ddistaw, a dweu… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Dafydd Gwylon: Tafodiaith y Bont: Cymraeg Dwy Ardal / Dialect of Pontarddulais: Two Regions of Welsh

Ledled Cymru, mae pob cymuned Gymraeg, boed yn dre’ neu’n gwm, yn defnyddio’i geiriau a’i hymadroddion ei hun i greu ystyron newydd sy ddim i’w clywed yn rhywle arall. Yma mae Dafydd Gwylon, sy’n dod o Bontarddulais yn wreiddiol, yn rhannu’i hoff enghreifftiau o dafodiaith ei fro. Across Wales, each Welsh-speaking communitity, whether it’s a town or a valley, uses its own words and phrases to create new meanings that not to be heard anywhere else. Here Dafydd Gwylon, a native of Pontarddulais, shares his favourite examples of his region’s dialect. gwales.com/bibliographic/?isbn=9781903529249

The post Dafydd Gwylon: Tafodiaith y Bont: Cymraeg Dwy Ardal / Dialect of Pontarddulais: Two Regions of Welsh appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Be’ ddudes i am ddechrau’r diwrnod?

O. Hanner dydd yn barod, a dyma fi’n gwneud y peth cyntaf ar fy rhestr beunyddiol… wps! Eto, weithiau mae’n rhaid cydnabod pan ti wedi blino – a dwi wedi blino. Dydd Iau wythnos diwethaf es i Gaerdydd am gyfarfod efo’r TUC – nos Wener bues i yn Llanelli am bwt ar Heno am Common … Continue reading Be’ ddudes i am ddechrau’r diwrnod? Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -Eira

Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au. Cyfres Steffan ab Owain.
Tybed os cawn ni drwch o eira neu rew y gaeaf hwn, neu’r ddau, o bosibl. Cafwyd sawl gaeaf oer gyda chnwd o eira yn y 50au, er nad oedd yr un ohonynt mor ddrwg ag un 1947, wrth gwrs. Roedd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Twr o gelwydd

Un o nodweddion diddorol yr holl ffrae Brexit ydi bod cymaint o ffeithiau  ar gael, ond  bod cymaint o’r ddadl yn ymwneud a gwybodaeth sydd ddim yn ffeithiol gywir – neu gelwydd.Y celwydd mae pob celwydd arall wedi eu adeiladu arno ydi ei bod… Parhau i ddarllen

Adran y Gymraeg – Ysgol Dyffryn Ogwen: Blogio gyda blwyddyn 7!

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : murlun bach

Mae fy merch newydd orffen murlun bach mewn tŷ bwyta yn Tulsa. Gorffennodd hi mewn deuddydd gyda dau gynorthwyydd medrus, sef ei gŵr a’i chwaer. Roedd yn dipyn o her fodd bynnag gan fod y wal mor isel. Umami Fries ydy enw’r tŷ bwyta.  Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: The Ocean and National Magazine, 1929: Clybiau Bechgyn

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y […] Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Ac ymlaen i’r deng mlynedd nesaf…

Roedd yn braf cael pawb at ei gilydd ddoe – dan ni’n gobeithio gwneud hynny’n amlach. Ac roedd yn brafiach byth i fedru gyrraedd adref a chynnig gwaith i aelod newydd o staff – bydd yn galluogi ni i gynnig pecyn llawnach i’n dysgwyr Cymraeg…:-) Heddiw, mae gen i dipyn o waith ‘dal i fyny’ … Continue reading Ac ymlaen i’r deng mlynedd nesaf… Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Y Gymraes o Ganaan – Margaret Jones

Roedd bywyd Margaret Jones yn arbennig. Magwyd yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, ac fe ddaeth yn enwog yn y ddeunawfed ganrif a chael ei hadnabod fel y ‘y Gymraes o Ganaan’. Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gwir ystyr "mae gen i freuddwyd"

“Un diwrnod bydd fy mhlant yn cael eu barnu yn ôl eu cymeriadau, nid lliw eu croen” – breuddwyd Martin Luther King Jr. Unrhyw liwiau’r croen – du, brown, gwyn, coch neu biwsDiwrnod MLK hapus. Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Signal, yr ap negesu preifat ar gael yn Gymraeg

Mae Signal, yr ap negeseuon diogel newydd ei ryddhau’n Gymraeg. Mae modd dewis y Gymraeg drwy fynd i Settings > Appearance a dewis Cymraeg. Bydd y rhyngwyneb yn troi’n Gymraeg. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Android yn unig. Mae Signal yn ap sy’n defnyddio’r signal ffôn neu’r rhyngrwyd i gyfathrebu. Mae modd […]

The post Signal, yr ap negesu preifat ar gael yn Gymraeg appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

shitclic: Blwyddyn newydd, cyfresi newydd

Mae’r bwrdd bwyd wastad yn faromedr da o’r byd a’i bethau. Ac felly’r oedd hi ddydd San Steffan, lle bu’r teulu estynedig acw – o saith i saithdeg pump oed – yn trafod arlwy S4C dros yr ŵyl. Yn fras, Sioe Dolig Hen Blant Bach oedd y ffefryn clir, mewn … Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Diweddariad prosiect: Ysgol Llanfair DC

Dyma rai lluniau sy’n dangos cynnydd y prosiect o’n hymweliad diweddar i safle ysgol newydd Llanfair DC. Mae’r prosiect hwn mewn partneriaeth a Esgobaeth Llanelwy yn cael ei gyllido gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ain Ganrif.   Advertisements Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Mymryn o ddathlu

Gen i eithaf dipyn o bethau i’w gwneud heddiw – creu mwy o hysbysebion i’w profi, gwneud rhai o’r rhai presennol yn fideos, dechrau trafod efo rhywun am ein cwrs Sbaeneg dwys – ond bydd rhaid i’r rhan helaeth o hynna aros tan yfory. Achos heddiw, ffordd â mi lawr i Aberystwyth eto – y … Continue reading Mymryn o ddathlu Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Diwrnod braf

Barrug trwchus, niwl a’r haul yn dechrau torri trwy’r niwl.  Dyma’r fath o fore ’roedd hi heddiw – a braf cael cerdded gyda’r ci trwy’r comin. Wedyn ymweliad i’r gwarchodfa natur i weld be oedd o gwmpas.  Dim gymaint a hynny ond dyma llun o’r… Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Blodau’r Ysgaw heb glwten

Mae bywyd wedi bod yn eithaf prysur yn ddiweddar. Rhwng magu plentyn, ysgrifennu llyfr arall (Blasus) a gweithio yn San Steffan yn un o’r cyfnodau mwyaf gwallgof yn ein gwleidyddiaeth, mae wedi bod yn anodd cadw’r ddysgl yn wastad ar adegau. Ond ar droad blwyddyn newydd dwi wedi gwneud adduned i fi fy hun i […] Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Mary a Domingo

Gallasai canlyniad un o gemau Uwch Gynghrair Lloegr bnawn ddoe fod: St Mary’s Young Men’s Association Football Club 2, St Domingo Football Club 1.  Mae’n dipyn haws dweud ‘Southampton 2 Everton 1’. Mae’r gyfrol Thank God for Football yn olrhain hanes dwsin o glybiau sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr a ffurfiwyd yn gysylltiedig […] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Trafferth Treftadaeth

Stori fach fydd o ddiddordeb arbennig i ohebwyr sydd wedi treulio oriau mewn cyfarfodydd cyngor. Fe dreuliodd cyngor Ribadesella yn nwyrain Asturias gryn amser yn ymgyrchu gyda chyrff eraill i gael statws Safle Treftadaeth y Byd (Patrimonio de la Humanidad) i lwybr gogleddol Santiago, sy’n dilyn arfordir yr Iwerydd ac yn pasio drwy’r dref. Yn […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: A Oes Heddwch?

Cofio Gwrthwynebwyr Cydwybodol Y Rhyfel Byd Cyntaf

Ganol Tachwedd 2018, cynhaliwyd Cynhadledd Undydd yng Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog ar y testun uchod. Drwy’r dydd cafwyd cyflwyniadau difyr ar wahanol agweddau a chyd-destunau oedd yn effeithio … Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Top 10: Actorion o Gymru / Actors from Wales

Mae nifer o actorion talentog sy’n dod o Gymru. Maen nhw wedi ymddangos mewn amrywiaeth o raglenni a ffilmiau poblogaidd. Maen nhw yn Saesneg ac yn Gymraeg a ffilmiwyd yn America ac yn y Deyrnas Unedig. There are a number of talented actors who come from Wales. They have appeared in a variety of popular programmes and films. They are in English and in Welsh and they were filmed in America and in the United Kingdom. Gan / By Lydia Hobbs  Sir Anthony Hopkins CBE

The post Top 10: Actorion o Gymru / Actors from Wales appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : llyfr yn y bwlch post

Ffeindiais lyfr yn y bwlch post ddoe. Trump’s America gan Newt Gingrich gyda llofnod yr awdur! Anfonwyd gan Bwyllgor Gweriniaethwyr at y gŵr yn ddiolch am ei rodd. Dechreuais ei ddarllen ar yr unwaith. Mae’n ddiddorol o’r dudalen gyntaf … Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Ysgol y Cwm, Y Wladfa / Patagonia: Cylchlythyr Mis Ionawr 2019 / Newsletter January 2019

Fel rhan o parallel.cymru cyhoeddi eitemau o’r Wladfa, dyma’r newyddion yr haf o Ysgol y Cwm yn Trevelin… As part of parallel.cymru publishing items from Patagonia, here is this summer’s news from Ysgol y Cwm in Trevelin… Rydym yn dal i chwilio am athro neu athrawes cynradd o Gymru ar gyfer 2019, felly os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod awydd her cysylltwch â ysgolycwm@hotmail.com! www.ysgolycwm.com / CwmYsgol / YSGOL-Y-CWM-1442021682782063 Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm. This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.    

The post Ysgol y Cwm, Y Wladfa / Patagonia: Cylchlythyr Mis Ionawr 2019 / Newsletter January 2019 appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Mawredd mawr !

Dyma inni ganlyniad pleidlais y ‘Merched Mawreddog’, ond druan o Betty Campbell. Pa ferch fyddai’n dewis cael ei chofio fel un ‘fawreddog’? Mae gwahanol ystyron neu led-ystyron i’r ansoddair wrth gwrs (cyngerdd mawreddog, defod fawreddog, golygfa fawreddog, adeilad mawreddog &c &c), ond fel disgrifiad o ddyn neu ferch ei ystyr y rhan amlaf o ddigon […] Parhau i ddarllen

Y Twll: Dinas y digwyddiadau – dinas di enaid

Ychydig dros flwyddyn yn ôl er mwyn ennill ychydig o arian fe fues i yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd – roedd o yn teimlo fel tawn i’n gwerthu fy enaid – ond dyna fo mae pawb isho byw! Rhwng y paneidiau di bendraw a’r dydd-fyfyrio fe glywais sôn am “unofficial tag-line” roedd y ddinas … Parhau i ddarllen “Dinas y digwyddiadau – dinas di enaid”

The post Dinas y digwyddiadau – dinas di enaid appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : 18 ionawr

Byddai fo’n troi’n 97 oed heddiw, pe bai tad y gŵr yn byw. “Gŵr a thad ffyddlon, milwr gwladgarol, y dyn mwyaf rhinweddol dw i wedi erioed ei nabod,” meddai fy ngŵr. Mae o ym mhresenoldeb yr Arglwydd bellach. Yn y llun yma (2014,) roedd fy ngŵr yn darl… Parhau i ddarllen

newydd sbon: Ysbrydolwyr Hiut 2018

Unwaith eto, mae cwmni jîns (clos cotwm caerog?) Hiut o Aberteifi wedi creu rhestr o 100 person o’r flwyddyn flaenorol sydd wedi bod yn ryw fath o ysbrydoliaeth iddynt. 100+ MAKERS AND MAVERICKS – 2018 Maent wedi cyhoeddi rhestr o gant o wneuthurwyr a gwrthwynebwyr ers 2013, gyda’r bobl wedi eu rhannu yn ôl adrannau. […] Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 20 a 27 Ionawr 2019

‘Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.’ Dyna eiriau hyfryd Galarnad 3:22-23 i ni fyfyrio arnynt ar ddechrau diwrnod newydd, ac wrth i ni edrych ymlaen at wythnos arall. Does neb ohonom yn gwybod beth a ddaw . . . → Read More: Dydd Sul, 20 a 27 Ionawr 2019

Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Edrych i’r dyfodol …

Yn dilyn cyhoeddiad Hitachi heddiw fe gyfyd cwestiynau mawr wrth geisio tremio drwy niwloedd y dyfodol. 1. Be ddaw o’r prentisiaid a’u holl SGILIAU? Siawns am fachiad tua Fukushima ’na …? 2. Oes beryg y palla nawdd Horizon i’r Eisteddfod Genedlaethol, Menter Iaith Môn ac achosion clodwiw eraill? Pwy ddaw i’r adwy? Beth amdani BAE […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : diddordeb y gŵr

Gadawodd y gŵr i fynychu cwrs gunsmith a gynigir gan Arfdy Springfield yn Las Vegas. Mae ei ddiddordeb newydd mewn gynnau a saethu yn datblygu’n helaeth. Cyn iddo adael, llenwodd y blwch logiau cymaint â phosib i mi fedru cadw’r tân dros y penwythnos. … Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Ysgol Gatholig Crist y Gair

Gweler y lluniau diweddar o’r cynnydd ar safle Ysgol Gatholig Crist y Gair, y Rhyl. Caiff yr ysgol, a fydd yn darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser 3-11 a 500 o ddisgyblion 11-16, ei hariannu gan bartneriaeth Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif. Ysgol Gatholig Crist […] Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Common Voice Cymraeg nawr ar Microsoft Edge

Hyd yma dim ond ar Firefox a Google Chrome mae Common Voice Cymraeg wedi bod ar gael. Heddiw, mae Mozilla wedi cyflwyno newidiadau i’r wefan sy’n golygu ei fod ar gael ar Microsoft Edge, y porwr Cymraeg sydd gan Microsoft yn Windows 10. Mae rhai sefydliadau yn cyfyngu eu dewis o borwr i offer Microsoft […]

The post Common Voice Cymraeg nawr ar Microsoft Edge appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Byr ond cyson

Dyna’r amcan ar y funud, beth bynnag… Hyd yn oed ar ddiwrnodiau fel heddiw, pan fo rhaid i mi gasglu ‘mhethau at ei gilydd a gadael fan hyn erbyn tua 11. Ond dwi’n gwneud hynny ar ôl diwrnod da arall o hysbysebu, ac efo tipyn o benderfyniadau i’w cymryd am strategaeth tyfu dros y mis … Continue reading Byr ond cyson Parhau i ddarllen

shitclic: Twll bach y clo

Mae ’na fynd mawr ar gyfresi busnesu/hel tai ar ein Sianel hoff y dyddiau hyn. Rhai wedi’u hanelu at siaradwyr newydd yn bennaf dan faner ‘Dysgu Cymraeg’ ar foreau Sul a ailddarlledir fin nos wedyn, ond sy’n hynod boblogaidd yn gyffredinol. Dyna chi’r … Parhau i ddarllen

fel y moroedd : grits yn tiffany’s

Tiffany’s oedd enw’r tŷ bwyta cafodd y teulu frecwast ynddo fo ddoe. Dim yn Efrog Newydd, ond yn Noble, Oklahoma mae o. Mae o’n llawn o luniau Audrey Hepburn, ond yn cynnig bwyd Americanaidd deheuol nodweddiadol, fel grits, omelet, biscuits, pancakes, … Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: The Ocean and National Magazine, 1928: Yr Eisteddfod yn Nhreorci

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y […] Parhau i ddarllen

shitclic: Llanast!

Hen fasdad ydi mis Ionawr. Diffoddwyd goleuadau’r ŵyl gan adael ein strydoedd fel y fagddu a’r ysbryd yn dduach. Mae cloc y corff wedi rhewi ar 26 Rhagfyr, ac mae’r “Bs” yn fygythiad parhaus – biliau a Brecshit.Does ryfedd mod i’n crefu am rywfain… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Peth cyntaf yn y bore

Ia, mae’n gorfod bod yn beth cyntaf yn y bore. Dim mwy o’r busnas yma o ‘jesd delio efo cwpl o bethau ac wedyn gwneud y pytiau sgwennu’. Tydi hynna ddim yn gweithio, nac ydi? Sori, jesd nodyn i fi fy hun ydi hyn…;-) Diweddglo prysur ond difyr i’r wythnos – i lawr i Landysul … Continue reading Peth cyntaf yn y bore Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Cegin Lowri: Blwydd-jin Newydd Dda!

Blwyddyn newydd dda i chi, ac i bawb sydd yn y tŷ! Dwi ddim yn gwbod amdanoch chi, ond bu’r wythnos gyntaf ‘nol i’r gwaith yn ddigon heriol i mi, wedi gwyliau Nadolig llawn gwledda, coginio a gorweddian o gwmpas … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd : un o’r pedair

Cafodd fy merch hynaf (Juuri ydy ei ffugenw) ei chyflwyno fel un o’r pedwar artist benywaidd a greodd murluniau yn ardal Boston. Mae’r cyflwyniad yn swnio’n hynod o dda ac eithrio galwyd hi’n artist Japaneaidd. Cafodd ei geni a magu tan chwech oed yn J… Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Y Bleidlais Fawr

Dylan Iorwerth yn ceisio edrych y tu hwnt i ddigwyddiadau Tŷ’r Cyffredin heno Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Traed moch a helyntion eraill

Gwers newydd i mi – mae dal at ddefod beunyddiol yn fwy heriol byth pan mae llawer iawn yn mynd ymlaen – ond efallai yn bwysicach byth adeg hynny hefyd… Dwi’n cofio clywed hen stori am Gandhi yn dweud byddai angen awr i fediteiddio, un o’i swyddogion yn dweud bod dim amser, ac ynteu’n ateb … Continue reading Traed moch a helyntion eraill Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Lluniau adeiladau: rhan 1

Llynedd dechreuais cwrs fforograffiaeth:  ffotograffiaeth creadigol  Ar ol un tymor, es yn ol a wedyn yn yr Hydref hefyd.  ’Roedd y cwrs yn ddigon leol i fi feicio yna, a r’on am ymuno eleni hefyd.  Yn anffodus doedd dim ddigon o bo… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : sgarff arall

Gorffennais sgarff arall, i ŵr fy merch hynaf. Gofynnodd hi i mi wneud un ar ei gyfer wedi gweld y sgarff a wnes i’w chwaer. Ac felly a fu. Cymrodd amser byr iawn – tra oeddwn i’n siarad gyda fy mam ar Skype ddeuddydd yn ôl, a dweud y gwir. Dw i’n cros… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Pethau i’w gwneud yn Ne Cymru / Things to do in South Wales: Top 10

Mae llawer o bethau gwahanol y gallwch chi eu gwneud yn Ne Cymru. Mae’n llawn hanes, hwyl a chyffro. Mae amrywiaeth enfawr o bethau i’w gwneud  yn Ne Cymru, felly mae rhywbeth i bawb. There are lots of different things that you can do in South Wales. It is full of history, fun and excitement. There is a huge variety of things to do in South Wales so there is something for everyone. Gan / By Lydia Hobbs  Pwll Mawr, Amgueddfa Lafaol Cymru / Big Pit, Welsh Coal Museum

The post Pethau i’w gwneud yn Ne Cymru / Things to do in South Wales: Top 10 appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr wythnosau nesaf – beth sydd o’n blaenau?

Reit ta – beth sy’n debygol o ddigwydd tros yr wythnosau nesaf?  Yr ateb wrth gwrs ydi nad oes yna neb yn gwybod.  Ond o ran ceisio darogan y dyfodol mae yna waeth ffyrdd o fynd ati nag edrych ar beth mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu.&nbsp… Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Dilyn Iolo

Bore mwyn, di-haul o Ionawr, a dyma bedwar ohonon ni’n cychwyn ar Daith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg.  Taith gylchol o ryw bedair milltir a hanner yw hon, un o gyfres o deithiau cerdded wedi’u dyfeisio gan Gyngor Bro Morgannwg, gyda help Valeways, Ramblers Bro Morgannwg a’r Undeb Ewropeaidd (cofio hwnnw?). Taith berffaith ar gyfer canol […] Parhau i ddarllen