fel y moroedd : yn boston

Mae fy merch hynaf yn Boston y tro hwn i baentio murlun arall ynghyd â grŵp o artistiaid. Bydd o’n furlun mwyaf a greodd hi erioed. Bydd y murluniau eraill yn fawr hefyd fel yr artistiaid i gyd yn gorfod mynychu cwrs i ddysgu sut i drin a gyrru cerbyd … Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Un noson yn sîn llenyddol Caernarfon…

Yn fy ngholofn ddiwethaf, fues yn swnian am y sioc o golli fy nghreadigrwydd, yn sgil straen a thristwch y misoedd diwethaf. Wel, mae’n rhyfeddol fel gall un digwyddiad bach hwylus, disodli’r cwmwl enfawr o rwystredigaeth. Sôn wyf, mis yma, am fynychu lansiad llyfr newydd Yr Athro Angharad Price, o ysgol y Gymraeg yma ym […] Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Ysgol Carreg Emlyn – Diweddariad

Dyma rai lluniau sy’n dangos cynnydd y prosiect o’n hymweliad diweddar i safle Ysgol newydd Carreg Emlyn. Mae strwythur yr adeiladau rwan yn dechrau cymryd siâp! Mae’r prosiect yma yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif. Advertisements Parhau i ddarllen

Dyma dwi'n feddwl am hyn…: Mae’r Wefan Yn Symud!

Dim ond nodyn bach i ddweud mod i wrthi’n symud y wefan yma i gyfeiriad newydd: https://www.dafyddelfryn.cymru Mae’r rhan fwyaf o gynnwys wedi cael ei drosglwyddo drosodd yn barod – a fydd na ddim cynnwys newydd yn ymddangos ar y fersiwn yma o hyn ymlaen. Diolch i bawb sydd wedi dod draw i fysnesu dros y blynyddoedd, a gobeithio wela ni chi ar y safle newydd!   Hwyl Dafydd

Cafodd y post yma Mae’r Wefan Yn Symud! ei weld yn gyntaf ar Dyma dwi’n feddwl am hyn….

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Gwaed Morgannwg: Argyfyngau Glofaol

Yn Hydref 1913, bu farw 439 o lowyr ac un gweithiwr achub yng Nglofa’r Universal, Senghennydd yn dilyn ffrwydrad.  Digwyddodd y trychineb ar 14 Hydref 1913. Hon yw’r ddamwain lofaol waethaf erioed yn hanes y DU o ran nifer y meirw.  Gellir archwilio deunydd yng nghasgliad Archifau Morgannwg i ddarganfod mwy am gyfrifoldebau perchnogion y […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Hanner ffordd …

Hanner ffordd drwodd ac o’r pellter hwn, mae’n ymddangos fod ‘Steddfod y Stryd’ yn llwyddiant diamheuol. Eisoes mae dyn yn dechrau meddwl pryd y gellir ei wneud eto, ac ym mhle. Y funud hon nid yw’n hawdd meddwl am leoliadau addas, ond efallai y daw rhyw weledigaeth. Yn y cyfamser, siawns na fydd yr eisteddfodwyr […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hanes rhyfeddol

Mae fy merch yn dal i fwynhau ei hamser yn Almaen. Aeth i’r eglwys efo ei ffrindiau mewn tref orllewinol. Eglwys efengylaidd digwydd bod, a chanodd hi gân addoli gyfarwydd yn Saesneg ac Almaeneg. Rhan o’i hanes rhyfeddol ydy hyn – daeth fy merch ar dra… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Sylwadau Boris Johnson am y gorchudd islamaidd

Rwyf wedi esbonio fy marn am y nicáb a’r bwrca o’r blaen, felly gwnaiff grynodeb sydyn y tro: nid wyf yn eu hoffi, mae’r theoleg sy’n eu cyfiawnhau yn ffiaidd, ond ni ddylid eu gwahardd oherwydd rwy’n credu’n gryf na ddylai’r wladwriaeth ddeddfu ynghyl… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : crwybr

Cawson ni ddarn o grwybr efo llawn o fêl ynddo gan ffrind sydd yn cadw gwenyn (ynghyd â nifer o anifeiliaid fferm.) Mae gan y mêl flas ysgafn a naturiol. Roeddwn i erioed wedi bwyta peth felly. Dw i’n ddiolchgar i’r gwenyn am yr anrheg arbennig. Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Sieiloc (Miles Productions) – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Sut goblyn mae e’n llwyddo, i gofio pob gair… yn chwys i gyd,  a phob anadl yn ei le? Os da chi’n chwilio am wefr, a pherfformiad tan gamp ar lwyfan yng Nghanolfan y Mileniwm, yna ewch ar eich union … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -Wagan Gynta’r Rýn

Cyfres Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y ’50au, gan Steffan ab Owain.

Erbyn yr 1950au roedd y ‘Lein Fach’ fel y gelwid Rheilffordd Ffestiniog gennym, a’r ryn o wageni a gariai lechi ‘Stiniog i lawr i Borthmadog wedi dod i ben, ac o ganlyniad, roedd ba… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cwis: Darganfod Dreigiau / Discovering Dragons

How hot is your dragon knowledge? Find out in this week’s quiz! Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cylchlythyr Wythnosol / Weekly Newsletter

Mae parallel.cymru yn cyhoeddi nifer o erthyglau’n wythnosol. Gallwch dderbyn diweddariadau drwy danysgrifio i’r cylchlythyr wythnosol ar e-bost. Parallel.cymru is publishing several articles each week. You can receive updates by subscribing to the weekly email newsletter. Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Nos Sadwrn o Hyd (Canolfan Mileniwm Cymru)

Am ddiwrnod cyntaf anhygoel yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018; roedd naws arbennig a’r tywydd yn wych.  Bu’n hyfryd cael cwmni dinasyddion o bob math, i Brifwyl gynhwysol, ac amrywiol dros ben. Rhwng y Lle Celf gwefreiddiol yn ein Senedd syfrdanol, … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd : abel yn ôl

Daeth Abel (y wiwer efo hanner cynffon) eto o’r diwedd. Roeddwn i heb ei weld am ddyddiau. Gosodais lwyaid o hadau blodau haul ar ei gyfer o (wrth obeithio nad ydy’r lleill yn eu ffeindio nhw.) Rhedodd i ffwrdd pan agorais y drws, ond dod yn ôl munudau… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : melon dŵr a thomatos

Cawson ni felon dŵr a thomatos gan ffrind sydd yn tyfu llawer o ffrwythau a llysiau. Mae ei felonau dŵr melys yn enwog ymysg ei ffrindiau. Dewison ni un bach fodd bynnag ar gyfer ein teulu bach ni (y gŵr a fi yn unig bellach.) Dw i’n gwirioni ar domato… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : celf ffa

Roeddwn i’n gwneud yn siŵr nad oedd cerrig ymysg y ffonbys cyn eu golchi nhw. Dyma gael syniad sydyn – Totoro bach. Fedrwn i ddim peidio! Efallai dylwn i’w alw fo’n gelf ffa! Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Uchelgais Ddigidol

Yn dilyn digwyddiad a gynhaliwyd gennym y llynedd, gwnaethom ddechrau sgwrs Twitter ar-lein gyda Neil Prior @PriorNeil, Cynghorydd Sir Annibynnol ac Aelod o’r Cabinet dros Drawsnewid a TG yng Nghyngor Sir Penfro. I’r rheini ohonoch nad ydych yn ei adnabod – dyma flog gwych am ei flwyddyn gyntaf fel Cynghorydd Sir. Nid oedd Neil yn […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Ffermydd Bro Ffestiniog -6

Parhau â chyfres Les Darbyshire, efo ail ran Plwyf Trawsfynydd.

Mae’r hen ffordd o’r Traws i Lanuwchlyn yn llawn o ffermydd diddorol a hanesyddol  i fyny i Benstryd.

Cychwynwn eto o hen bont Traws a mynd at y fferm gyntaf sydd ar y ffordd yma sef  Rh… Parhau i ddarllen

blog bwyd: Diwrnod 4

Ers ail gychwyn o ddifrif dydd Llun mae’r effaith o’r 5:2 i weld yn glir yn barod, 8 pwys i lawr yn barod. Mae heddiw yn ddiwrnod ympryd a dwi allan heddiw efo gwaith. Dwi’n ffeindio dyddiau brysur yn haws … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Dewis Dall: Jasper Fforde – One of our Thursdays is Missing

Mae’n ddrwg gennyf ddweud mai hwn yw un o’r llyfrau gwaethaf i mi ei fenthyg o lyfrgell erioed. Nid oedd yn gwneud synnwyr o gwbl, rwyf yn hynod siomedig â’m dewis oherwydd rwyf yn ddarllenwr eang o bynciau amrywiol, ond … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

atgof.co: Saib

Lowri Haf Cooke: Heno: Canllaw Bach Caerdydd

Wythnos d’wetha bues i’n ffilmio cyfres deledu o ‘rough guides’ i Gaerdydd, i’w darlledu ar raglen Heno ar S4C i gydfynd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae’r cynghorion yn seiliedig ar gynnwys fy llyfr Canllaw Bach Caerdydd (Gwasg Gomer) ac … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Bwytai Caerdydd: Y Da, Y Drwg… a’r Hyll!

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : mae o’n rhydd!

Mae Tommy Robinson newydd ei rhyddhau! Hwrê! Datganodd y prif farnwr fod Tommy wedi cael ei arestio, ei farnu’n euog, ei ddedfrydu i garchar, ei drin yn y carchar – i gyd yn hollol anghyfreithlon. Carcharor gwleidyddol oedd o. Llongyfarchiadau mawr idd… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Dyfodol digidol i’r Gymraeg / The digital future in Welsh: Lansio Melin Drafod “Think Tank” newydd gan Huw Marshall

Mae’r gair digidol yn cael ei ddefnyddio’n aml y dyddiau hyn, ond beth yn union yw digidol? Yma mae Huw Marshall yn cyflwyno mwy am y maes a’i fentur newydd, y ‘think tank’ Melin Drafod. The word digital gets used frequently these days, but what exactly is digital? Here Huw Marshall introduces more about the… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Scratch 3.0 Beta’n cael ei ryddhau…

Heddiw, Awst 1 yw dyddiad ryddhau Scratch 3, fersiwn beta newydd o Scratch sy’n cynnig amryw o welliannau a chyfleoedd newydd i arbrofi ym myd codio ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys gwelliannau fydd yn ei wneud yn fwy addas ar gyfer defnydd ar offer symudol, fel tabledi, yn ogystal â gliniaduron a […]

The post Scratch 3.0 Beta’n cael ei ryddhau… appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Y ‘Konrad Kids’ ym mhenawdau’r newyddion ym Mhwll Nofio’r ‘Empire’, Gorffennaf 1958

Er i’r tyrfaoedd heidio mewn niferoedd mawr i Barc yr Arfau Caerdydd er mwyn gwylio’r athletau, prif atyniad Chweched Gemau’r Ymerodraeth a’r Gymanwlad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 1958 oedd pwll nofio’r Gymanwlad a oedd newydd agor. Wedi’i adeiladu ar gost o dros £650,000, cafodd y ‘Wales Empire Pool’ ei adeiladu’n benodol ar gyfer y […] Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Cylchgrawn Barn: Bwytai’r Brifwyl – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Fydd dim prinder llefydd i fwyta ynddynt i Eisteddfodwyr Caerdydd. Penderfynu ble i fynd fydd y broblem, gyda’r fath ddewis ar gael. Brodor o’r ddinas, ac awdur Canllaw Bach Caerdydd, sy’n cynnig ei detholiad personol i hwyluso’r gwaith… Nid fy … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gofalu am geffylau

Mae fy merch yn dal i fwynhau gwirfoddoli, a phrofi diwylliant gwahanol yn yr Almaen. Mae hi’n aros efo teulu hynod o glên sydd yn mynd â hi o gwmpas yn aml. Falch o weld bod popeth yn dwt ac yn lan fel yn Japan; does dim canlyniad globaleiddio yn yr a… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cymunedau Byw Cymdeithas yr Iaith: Ymestyn y Gymraeg / The Welsh Language Society Living Communities: Expansion of the Welsh language

Ddydd Gwener 10/08, 11:00, bydd grŵp o bobl sydd â diddordeb yn ymestyn yr iaith yn siarad fel panel ym mhabell Cymdeithas yr Iaith (ger Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd) fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd Nia Llywelyn, Neil Rowlands, Lowri Jones, Medi James a Simon Chandler yn rhannu eu barn yn gryno… On Friday 10/08,… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Y Gymraeg mewn technoleg – ble nesaf? (Dydd Gwener 10 mis Awst 2018)

Dewch am weithdy ymarferol lle byddwn yn trin a thrafod y cwestiynau isod: Sut mae mynd i’r afael a’r llu o heriau i’r Gymraeg ar-lein ac mewn meddalwedd? Beth sydd angen yn y maes technoleg Cymraeg? Beth ydyn ni am weld yn ystod y flwyddyn nesaf? Beth am y degawd nesaf? Ym mha achosion ydyn […]

The post Y Gymraeg mewn technoleg – ble nesaf? (Dydd Gwener 10 mis Awst 2018) appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Dewis Dall: Jane Green, Falling – A Love Story

Roedd y llyfr yma’n dda iawn – mi wnes i fwynhau’r stori a’r cymeriadau – diweddglo trist a hapus. Byddwn yn argymell i eraill ei ddarllen 🙂 Archebwch yma> Llyfr Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Adeiladu ar gryfderau trwy Ymchwiliad Gwerthfawrogol

“Po fwyaf rydych chi’n gwybod am yr hyn sy’n mynd yn anghywir ym mywyd unigolyn, y fwyaf rydych chi’n arbenigwr mewn methiant” (O’Connell, 2005)Sut ydyn ni’n fframio methiant? Ydy methiant yn dystiolaeth bod rhywun wedi creu llanast neu fod rhywun yn d… Parhau i ddarllen

newydd sbon: Digido testunau a llyfrau sain Cymraeg

Tynnwyd fy sylw’n ddiweddar at archif arlein o Eco’r Wyddfa. Ffeiliau PDF – sganiau o hen gopïau print, gyda phob tudalen yn llun. Y peth sy’n anffodus gyda ffeiliau yn y fformat hwn yw’r anallu i chwilio drwyddynt. Nid oes modd agor y ffeil a gwasgu ‘Ctrl + F’, ac nid yw Google yn gallu ei […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dwy sgwarnog

Wrth fynd am dro bach bore ’ma cyn gadael Suffolk, lle ’roedden wedi bod yn aros fel ein bod yn medru mynd i briodas teuluol, gwelais y pâr o sgarnogod yma.  [Dydy’r llun ddim rhy agos, yn anffodus.]  Mae rhywbeth am sgarnogod sydd yn codi fy… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : coler oer

Mae milwyr IDF yn cŵl, ond fedran nhw ddim aros yn cŵl yn eu helmedau a festiau trwm pan fydd y tymheredd yn codi’n 100F/38C. Er mwyn helpu’r hogiau a genod sydd wrthi’n amddiffyn eu pobl a’u tir rhag ymosodiadau ffyrnig a di-baid y gelynion bob dydd, … Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Amgueddfa Y Rhyl – Dewch i Cyfarfod y Ceidwad

Dewch i Cyfarfod ein Ceidwad yn Amgueddfa Y Rhyl er mwyn darganfod hanes lleol!
Cyfle i gyffwrdd hen bethau gwreiddiol!
Dewch a’ch artiffactau eich hun ac adroddwch eich hanes lleol?
Dydd Mercher 1af Awst 11.30 – 3.00.
Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Hwyl Y Prifwŷl – Eisteddfod Fun

Ready, steady….’STEDDFOD! Guess what this week’s quiz is about! Parhau i ddarllen

blog bwyd: Dechrau o’r dechrau unwaith eto

Mae llithro nôl i hen arferion drwg yn hawdd. Dwi di gadael i pethau fynd yn y deufis diwethaf. Does dim un rheswm yn benodol, ond mae’r tywydd braf wedi golygu penwythnosau i ffwrdd, mwynhau gormod, gaddo i fi fy … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Deian a Loli a’r Bai ar Gam

LLYFR CYMRAEG GWREIDDIOL NEWYDD I BLANT HYD AT 8 OED! Yn dilyn llwyddiant y gyfres deledu, mae’r Lolfa wedi cyhoeddi hwn. Y gyntaf o gyfres mae’n debyg – ieee! Dyma’r awdures, Angharad Elen: Hi ydi cynhyrchydd y rhaglenni teledu hefyd, a’i ffrind hi, Nest Llwyd Owen (aeth y ddwy i Ysgol Gynradd Llandwrog efo’i gilydd) […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cyfres Amdani: Y Fawr a’r Fach- Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell

Author: Siôn Tomos Owen twitter.com/sionmun Price: £5.99 Language: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page Level: Sylfaen Publisher: Y Lolfa Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784615826 Cyfrol o straeon byrion yn ymwneud â hanesion pentrefi’r Rhondda A volume of short stories and anecdotes about villages in the Rhondda valley. Am Jo Knell Mae Jo wedi bod… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr etholiad arweinyddol – record etholiadol Leanne Wood

Tra nad ydi llinellau’r frwydr am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn gwbl glir eto, un o’r materion sy’n debygol o godi (a sydd yn wir wedi codi) ydi’r tebygrwydd o ennill llwyddiant etholiadol.  Wedi’r cwbl mae Llafur wedi arwain pob llywodraeth datga… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Atgofion Cynhaeaf Gwair

Erthygl gan Wil PriceFel dywed y bardd Eifion Wyn:

‘Gwrendy y weirgloddAm lais y bladur.’
Amser pleserus iawn yng nghalendr y fferm oedd y cynhaeaf gwair.
Mae paratoi am y cynhaeaf yn dechrau yn niwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill, pryd mae’r amaethwr … Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Os am herio twyll, rhaid herio Brexit hefyd

Mae pwyllgor blaenllaw o Aelodau Seneddol yn galw am weithredu llym yn erbyn ‘gau newyddion’ ac am reolaeth dynnach ar wario mewn etholiadau. Parhau i ddarllen

fel y moroedd : y golau lleiaf

Camais allan o’r tŷ mewn hanner tywyllwch y bore ‘ma yn gobeithio gweld y lleuad lawn. Roedd coed tal yn rhwystro fy ngolwg. Ar ôl cerdded hanner munud – dyma hi! – enfawr ac yn oren. Sefais a’i gweld; y golau lleiaf i reoli’r nos. Digwyddodd y diffyg … Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gŵyl gwrw a cherddoriaeth

Tra bod hi’n gwirfoddoli ar y fferm yn yr Almaen, mae fy merch yn mwynhau diwylliant gwahanol ymysg pobl gyfeillgar. Wedi gweld gêm pêl-droed yn y gymuned, ymunodd hi’r ŵyl gwrw a cherddoriaeth gyda’r teulu fferm. Cafodd hi ei synnu gweld y bobl yn yfe… Parhau i ddarllen

Carl Morris: Nodyn i bobl sy’n cyfieithu ategion a themâu WordPress

Helo Gyfieithydd WordPress Pan o’n i yn Y Gyngres Geltaidd yn Kemper, Llydaw yr wythnos diwethaf ces i[…]

The post Nodyn i bobl sy’n cyfieithu ategion a themâu WordPress appeared first on Carl Morris.

Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Na Nel! Wwww! (Arad Goch)

Cofnodwyd sawl merch ‘llawn ysbryd’ ar bapur dros y blynyddoedd, o Minnie the Minx i Beryl the Peril ar dudalennau’r Dandy a’r Beano, i lyfrau Anne of Green Gables  a  Pipi Hosan Hir. Ar deledu, ar hyd fy ieuenctid, dilynais … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Y Cymro: ‘Ryff Geid’ Merch y Ddinas i Gaerdydd

Parhau i ddarllen