Diweddariadau Diweddar Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 2:34 PM ar 10 April 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau:   

    Ydy'ch data Facebook wedi mynd i gwmni Cambridge Analytica? Dyma sut i wirio. 

    Mae Facebook newydd greu tudalen sy’n adrodd os oedd ap This Is Your Digital Life wedi rhannu’ch data gyda chwmni Cambridge Analytica.

    Ewch i weld y tudalen ar wefan Facebook.

    Mae sôn bod data ar 87 miliwn o ddefnyddwyr yn fyd-eang wedi mynd i’r cwmni, nid yn unig y rhai sydd wedi caniatau’r ap This Is Your Digital Life ond ffrindiau ohonynt hefyd.

    Byddai hi’n ddiddorol cael gweld os oedd unrhyw ymestyniad i Gymru. Gadewch sylw os ydych chi’n gweld unrhyw beth diddorol.

    Dyma beth dw i wedi cael:

    Was My Information Shared?

    Based on our available records, neither you nor your friends logged into “This Is Your Digital Life.”

    As a result, it doesn’t appear your Facebook information was shared with Cambridge Analytica by “This Is Your Digital Life.”

    Ond pwy a ŵyr pa grwpiau a chwmnïau eraill sydd wedi ei ddefnyddio dros y blynyddoedd?

    Wrth gwrs os nad ydych chi ar Facebook mae’n debyg eich bod chi’n iawn!

     
  • Carl Morris 3:59 PM ar 4 April 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Ail sesiwn Anturiaethau Mewn Cod 19/4/2018 

    Anturiaethau Mewn Cod yn dychwelyd i’ch dangosydd

    Dw i’n falch iawn o ddweud bod ein hail sesiwn am raglennu wedi ei chadarnhau:

    Anturiaethau Mewn Cod
    dros Telegram
    ar nos Iau 19 Ebrill 2018
    rhwng 7yh a 9yh
    Croeso cynnes i BAWB

    Mae angen gosod client Telegram ar eich peiriant (neu ganfod ffordd arall o fynd ar Telegram). Dyma’r ddolen i grŵp Hacio’r Iaith.

    Y sgwrs gyntaf

    Fe gynhaliwyd ein sgwrs gyntaf ar-lein yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n HWYL!

    Yn ogystal â sgwrs ar ystod eang o faterion yn ymwneud â rhaglennu fe oedd bach o stwff ymarferol, hacio a chwarae. Roedd lot o’r pynciau yn anghyfarwydd i mi, ac yn hynod ddiddorol. Cysylltu â BBC Micro o bell dros SSH oedd un o fy uchafbwyntiau (ac mae llun uchod).

    Diolch i bawb am gyfrannu brwdfrydedd, pynciau trafod a dolenni.

    Y nod

    Nod y sesiynau Anturiaethau Mewn Cod yw i roi lle i drafodaeth, hacio, chwarae a dysgu i bobl ar draws Cymru a’r byd sydd ddim fel arfer yn gallu cwrdd wyneb-i-wyneb yn hawdd.

    Efallai bod modd cynnal digwyddiad yn y cnawd am raglennu rhywbryd eleni… Pa bwnc? Mae’n gallu digwydd os oes galw. Dw i’n meddwl bod sesiwn ymarferol yn bosibl yn eich pentref chi gyda thua 5-10 neu fwy o gyfranogwyr/cyd-drefnwyr fel chi.

    Pynciau eraill?

    Nodwch fod y sgwrs yn bennaf am raglennu ond mae modd trefnu sgyrsiau ar-lein ar unrhyw bwnc sy’n ymwneud â thechnoleg a’r Gymraeg. Gadewch wybod yn y sylwadau os oes gennych syniadau!

     
  • Carl Morris 11:46 AM ar 22 March 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Anturiaethau Mewn Cod: sesiwn arbrofol ar-lein i drin a thrafod rhaglennu 29/3/2018 

    Karen Leadlay 1964 - dim hawlfraint

    Helo bobl

    Pwy sydd awydd cynnal sesiwn ymarferol o:

    • raglennu
    • datblygu
    • hacio
    • dangos apiau a sgriptiau
    • cyfnewid dolenni i brosiectau?

    Rydyn ni am gael sesiwn o Anturiaethau Mewn Cod dros blatfform sgwrsio Telegram.

    Fe fydd croeso cynnes iawn i bawb.

    Sesiwn gyntaf

    Fe fydd y sesiwn gyntaf ar:
    nos Iau 29 Mawrth 2018
    7yh tan 9yh

    Dewch i grŵp Hacio’r Iaith ar Telegram bryd hynny. (Dw i newydd greu’r sianel ar gyfer y sesiwn – i ddechrau.)

    DIWEDDARIAD 28 MAWRTH: dw i newydd newid y ddolen i ein grŵp Telegram newydd yn hytrach na sianel (mae sianel ar gyfer darlledu gan unigolyn).

    Mae 7 o’r gloch yn teimlo i mi fel amser da i ddechrau, ac wedyn mynd ymlaen tan tua 9 o’r gloch. Ond mae pobl yn gallu parhau os oes rhywbeth o ddiddordeb mawr.

    Y platfform

    Os ydych chi eisiau cymryd rhan dw i’n argymell eich bod chi’n gosod Telegram ar eich peiriant.

    O’n i wedi ystyried platfformau eraill megis Slack, Discord, ayyb ond mae Telegram yn teimlo fel yr un mwyaf rydd gyda’r siawns orau o gynnig rhyngwyneb Cymraeg yn y dyfodol agos. Dw i eisoes yn aelod o gwpl o grwpiau ac mae’n gweithio’n dda. Rydyn ni’n gallu monitro pa mor addas yw e wrth fynd ymlaen.

    Rhaglennu, a phynciau eraill

    Yn Hacio’r Iaith yng Nghaerdydd eleni roedd ambell i berson wedi dweud bod nhw eisiau cyfle i wneud codio ymarferol neu rannu prosiectau fel apiau maen nhw wedi datblygu. Mae’r sesiwn yn ymdrech i gynnig y cyfle yna.

    Cofiwch fod popeth yn arbrofol y tro hwn. Croesawir cyfranogaeth, brwdfrydedd, syniadau, ac adborth!

    Wrth gwrs ni fydd y pwyslais a phwnc o ddiddordeb i bawb. Felly gad wybod os ydych chi eisiau cynnal sesiwn debyg ar bwnc arall. Fe geisiaf cynnig help!

     
    • Huw 12:29 AM ar 23 Mawrth 2018 Dolen Barhaol

      Dwi’n gobeithio bod ar hwn i rannu unrhyw bytiau o god dwi efo, ac i adolygu cod a cheisio’u gael i weithio – python, Java, SQL, R etc.

    • Carl Morris 1:11 PM ar 28 Mawrth 2018 Dolen Barhaol

      Nodwch fy mod i wedi newid y ddolen i’r grŵp. Gweler fy niweddariad yn y blogiad uchod.

    • Carl Morris 9:17 PM ar 29 Mawrth 2018 Dolen Barhaol

      Diolch i bawb am sgwrs mor ddiddorol heno!

      Roedd y pynciau trafod yn cynnwys: straeon mewn Twine, API Facebook, data mawrion Cambridge Analytica, Word2vec, RiscPC, RetroPie, BeebEm, Cofnod y Cynulliad, Raspbian, Poedit, Cysill, APIs Cymreig, CLDR, dysgu rhaglennu, data ar Twitter, ceisio adnabod gender ar y cyfryngau cymdeithasol ac Open Semantic Search…!

      Nos Iau 19 Ebrill fydd yr un nesaf. Croeso cynnes i bawb! Blogiad i ddilyn.

    • Rhos Prys 2:29 PM ar 10 Ebrill 2018 Dolen Barhaol

      Nes i golli’r sesiwn gyntaf, oes ffordd i mi weld y drafodaeth fuodd ar Telegram? Dim ond yr hyn sy’n dilyn yr amser nes i ymuno sydd i’w weld?
      Hefyd oes posib cael sgwrs am Mastodon.social? Falle byse’n ddifyr archwilio’r posibiliadau 🙂

    • Carl Morris 2:59 PM ar 10 Ebrill 2018 Dolen Barhaol

      Helo Rhos.

      Pa ap wyt ti’n defnyddio?

      Mae archifau i weld yn iawn ar Telegram Desktop ar Linux.

      Dw i’n aelod cyffredin, fel petai, o grwpiau eraill ac mae modd gweld archifau cyn i mi ymaelodi.

      Hapus iawn i edrych at Mastodon.social. Yn bendant dylen ni edrych at fabwysiadu pethau cwbl rydd. Oes modd darparu demo neu brawf cysyniadol tybed?

    • Rhos Prys 5:18 PM ar 10 Ebrill 2018 Dolen Barhaol

      Telegram Desktop ar LinuxMint 18.2/Android 6.
      Yn ôl:
      https://www.quora.com/How-much-of-a-group-chat-history-can-a-newly-added-member-in-Telegram-see?share=1
      In a usual group chat, the person who’s adding a new member can choose how many last messages to re-send to the new member; by default it’s last 50 messages.
      😉

      Mastodon – mae modd ymuno â https://mastodon.social/about neu greu dy enghraifft dy hun. Mae modd lleoleiddio, er mae’n edrych yn fwy technegol na’r cyffredin.

  • Carl Morris 3:23 PM ar 19 March 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: ,   

    Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018, Aberystwyth 

    Dyma wybodaeth wrth Jason Evans:

    Ar y 5ed a 6ed o Orffennaf bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cynhadledd Cwlwm Celtaidd.

    Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018 fydd yr ail gynhadledd iaith Wicipedia i’w chynnal ac mi fydd yn canolbwyntio ar gefnogi ieithoedd Celtaidd a brodorol.

    Eleni, trefnir y digwyddiad ar y cyd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Wikimedia UK. Prif amcan Cwlwm Celtaidd 2018 fydd uno pobl sy’n gweithio’n ddiwyd i gefnogi cymunedau ieithyddol oddi tan yr un to; gan dynhau’r berthynas rhyngddynt yn ‘gwlwm’ cadarn, a’u cynorthwyo i weithredu.

    Mae modd cyflwyno papur neu gofrestru am y gynhadledd ar wefan y digwyddiad.

    https://wikimedia.org.uk/wiki/Cynhadledd_Cwlwm_Celtaidd_2018

    (Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion.)

    Llun gan Les Barker (CC-BY-SA)

     
  • Sioned Mills 5:39 PM ar 9 March 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Haclediad 66: Iâ Iâ Baby 

    Y tro yma ar yr Haclediad rhewllyd, bydd Bryn, Iest a Sions yn gwirioni dros Waze Cymraeg, smart sbecs sy’n edrych yn union fel rhai Bryn ac Elon Musk yn fflingio mwy o bethau i’r gofod. Plis sdiciwch adolygiad yn iTunes os gewch chi 5 munud fyd, ffankiw!

    Dolenni

     
  • Carl Morris 2:29 PM ar 5 March 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau:   

    Grŵp Hawliau Agored: sgwrs gyda Jim Killock yng Nghaerdydd HEDDIW 

    Grŵp Hawliau Agored: sgwrs gyda Jim Killock heddiw yng Nghaerdydd

    Dewch i siarad yn anffurfiol â chyfarwyddwr Grŵp Hawliau Agored Jim Killock heddiw (5ed o Fawrth) am faterion hawliau digidol yng Nghymru a thu hwnt:

    Tiny Rebel
    25 Stryd Westgate
    Caerdydd
    CF10 1DD

    5:30pm – 8:00pm

    Bydd rhai ohonoch chi yn nabod Jim o ddigwyddiadau Hacio’r Iaith dros y blynyddoedd.

    Croeso cynnes i bawb!

     
  • Sioned Mills 11:56 PM ar 8 February 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , , ,   

    Haclediad 65: Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed 

    Croeso i bennod cyntaf 2018 – yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!

    Dolenni

     
    • Carl Morris 3:10 PM ar 14 Chwefror 2018 Dolen Barhaol

      Diolch i’r tîm am bennod hynod ddiddorol o’r Haclediad. Ardderchog.

      (Dim ond nawr ydw i wedi cael siawns i wrando!)

  • Carl Morris 12:17 PM ar 2 February 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , , ofcom   

    Sesiwn agored arloesedd Ofcom, Caerdydd, 13 Chwefror 2018 

    Dyma fanylion am ddigwyddiad Ofcom dw i newydd weld:

    Sesiwn Agored Arloesedd Ofcom – CAERDYDD
    Dydd Mawrth 13 Chwefror 2018
    6:30pm – 8:30pm
    Rheoleiddiwr telegyfathrebu prif ffrwd, symudol, band-eang, teledu, radio a gwasanaethau-ar-alw y Deyrnas Gyfunol yw Ofcom . Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod pobl y DG yn cael y dewis orau o wasanaethau cyfathrebu a bod y farchnad yn darparu dewis, dibynadwyedd a gwasanaethau arloesol i ddefnyddwyr.

    Maent yn awyddus i ryddhau mwy o ddata agored er mwyn gweld pa arloesedd a mewnwelediad gall hynny ysgogi.

    Mae Ofcom eisoes yn cynhyrchu ystod hynod arbennig o ddata – cryfder signal symudol a band llydan, data technegol telegyfathrebu, ymwybyddiaeth gyfryngol a llawer mwy – sydd yn faes parod i’w ddadansoddi a datblygu. Dymunant gyflawni llawer mwy. Gallwch chi helpu llywio rhyddhau setiau o ddata agored y dyfodol, neu ddefnyddio data agored i greu gwasanaeth i gwsmeriaid, neu ddylunio ap i hysbysu defnyddwyr am eu telegyfathrebu fel bod ganddynt ddewis go iawn o wasanaethau.

    Ymunwch gyda ni ar Nos Fawrth 13eg Chwefror 2018 yn Indycube Lôn Trade St, 6.30yh-8.30yh ar gyfer y sesiwn agored olaf ynglŷn ag arloesi gyda data Ofcom,

    Bydd hi’n sesiwn anffurfiol ble bydd syniadau a chwestiynau pawb yn cael eu parchu a’u nodi ar ddogfen Google y gallwn ni gyfeirio ati eto yn y dyfodol. Rydym yn gweithredu mewn modd hollol agored, felly bydd yna groeso i bobl nad sydd yn gallu mynychu ychwanegu eu mewnbwn nhw hefyd. Beth bynnag eich diddordeb yng nghyfathrebu’r cyfryngau, mae’n sicr bod gennych farn a mewnbwn gwerthfawr i gynnig felly buasem ni wrth ein bodd yn eich gweld chi yn un o ddigwyddiadau Ofcom.

    Cofrestrwch am y digwyddiad.

    Cysylltwch ag Ofcom neu’r Sefydliad Data Agored yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.

     
  • Leia Fee 11:04 PM ar 30 January 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau:   

    Mwy o fenywod? Sut? 

    Yn y sesiwn olaf Hacio’r Iaith eleni siaradais i am nifer y ‘hacwragedd’ oedd yno. Trwy ddyfalu gyda llygad oedd tua 20-30% sy’n well na’r diwydiant TG yn gyffredinol ond lle i wella. Oedd sgwrs ddiddorol a lot o amser cyn y un nesa i drio pethau i wella…

    Felly dyna syniadau (dim mewn unrhyw drefn o gwbl)

    • Marchnata’r digwyddiad i grwpiau sy’n anelu at fenywod mewn tech/STEM fel WISE, Chwarae Teg, Rhaglen Technocamps Computer Clubs for Girls (sydd wedi cyfieithu ei holl adnoddau i’r Gymraeg)
    • Pan marchnata mae rhai tystiolaeth o prosiects STEM i godi nifer of menywod yn dweud bod lluniau sy’n dangos merched/menywod yn gwneud gwahaniaeth. Felly os oes dewis o luniau i farchnata – defnyddio digon sy’n ddangos menywod.
    • Cadw trac drwy’r flywddyn o fenywod sy’n trydari am tech yn Gymraeg – ac gofyn yn arbennig os mae nhw’n dod, ac yn gyfrannu
    • Os ti’n dyn sy’n arwain sess a ti’n nabod merch/menyw sy’n gwybod lot am y pwnc beth am ofyn iddi rhannu’r sess?

    Nid rhoi pwysau ar bobl ond ‘nudge’ ddylai’r ddau syniad olaf ‘na yn fod wrth gwrs!

    Mae lot o bobl yn nerfus am arwain sess os nad ydyn nhw’n gwneud y fath beth gynt ac mae lot o fenywod yn TG yn diodde’ rhyw fath o ‘Imposter Syndrome’ sy’n gallu gwneud y syniad o sefyll i fyny am y tro cyntaf yn waeth. Mae lot o bethe sy’n helpu gyda hyn i ffitio gyda’r holl gysyniad o ANgynhadledd beth bynnag – fel y “rheol dwy droed” (dim yn ‘judgy’ os mae rhywun yn adael), does dim ots faint o bobl yn dod i’r sesiwn ayb – rhaid pwysau ar yr elfennau hyn.

    Un peth sy’n rhwystro menywod yn y diwydiant TG i gyd nid jest Hacio’r Iaith ydy diffyg gofal plant, felly nes i ddechrau meddwl am sut i drwsio hwn, falle drwy rhyw fath of rhaglen ochr-wrth-ochr am blant… Syniadau am hap…

    • Yn y marchnata am y peth rhaid gwneud yn glir mae croeso i ddod a’r plant
    • Pethau bach fel rhoi llwyth o Lego mewn cornel un o’r gweithdai, neu ddeunydd crefft a chelf, neu lyfrau/gemau/teganau arall – mae’r rheini yn gallu ymuno mewn i’r brif raglen tra mae plant yn chwarae.
    • Meddwl am ba sesiynau yn addas i blant ymuno mewn – (fy sess i ar ffuglen ddigidol basai wedi bod yn haws gyda phlant i daflu syniadau ata i siŵr o fod!) ac mae plant hŷn yn gallu dysgu sut i greu fideo neu podlediad neu animeiddio hefyd os sesiynau o’r fath…
    • Falle rhai sesiynau ‘plant’ yn addas i oedolyn hefyd – dw wedi dysgu’r TCP/IP stack i fy mhentisiau lefel 4 i gyda’r adnoddau “playground computing”/CSUplugged!), ac wedi cyflwyno’r Scratch neu eToys iddyn nhw i ddysgu fel fordd o ddysgu’r cysyniadau codio ar wahân i’r syntax…
    • Gemau retro hefyd yw rhywbeth mae’r plant ac oedolyn yn gallu rhannu. Cwpl o RetroPis yn rhyw gornel rhywle? Mae un gyda fi.
    • Neu gemau bwrdd/cerdyn Cardiau Brwydro Y Mabinogi yn hyfryd ac mae gemau geiriau neu ddweud stori gyda fi yn Gymraeg hefyd.
    • Falle mae’n werth siarad gyda phobl o’r Mudiad Meithrin neu/a’r Urdd hefyd – pobl sydd yn gwybod unrhyw logistics/gwaith papur/syniadau eraill…

    O… a… bwyd ar gael sy’n addas am blant pici-eater hefyd, wrth ochr y bwfe posh 😉

    Rhywbeth i feddwl amdano beth bynnag? Beth am drio fe? Gallwn ni rhedeg “Haciaith Bach i’r Teulu cyn y gynhadledd lawn nesa? Falle pan mae’r steddfod yng Nghaerdydd? Rhoi sylw!

     
  • Gareth Morlais 9:54 AM ar 30 January 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau:   

    Barn #haciaith ar rai o flaenoriaethau a bylchau technoleg #Cymraeg 

    Mewn sesiwn yn Haciaith eleni, holwyd barn mynychwyr  yr anghynhadledd ar flaenoriaethau a bylchau technoleg Cymraeg. Ymatebodd y rhai  oedd yn y sesiwn ar post-its.
    O’r cerdiau hynny, dyma naws yr ymatebion, yn nhrefn y nifer o weithiau y soniwyd amdanynt.

    8 sylw

    • Cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg fel iaith yn ATMs a checkouts uwchfarchnadoedd; gwefannau/platfformau yn cofio eich dewis iaith trwy gydol eich amser ar y rhyngrwyd; y Gymraeg yn gyntaf lle bo angen; ystyried dewis iaith o’r cam cyntaf; y dewis o Gymraeg yn amlwg i’r defnyddiwr; cynnwys cyfeiriad at wasanaeth Cymraeg, hyd yn oed wrth hysbysebu yn Saesneg; cynnig cynnwys YouTube, iPlayer yn rhagweithiol; tudalen gartref yn Gymraeg yn gyntaf (e.e. cbac.co.uk); diwylliant cofio dymuniad iaith

    6 sylw

    • Llais i destun; technoleg adnabod lleferydd gall gael ei ddefnyddio fory; Siri; Alexa

    5 sylw

    • Hybu a nid gorfodi’r Gymraeg; wrth hyrwyddo mae angen hybu PAM y dylid defnyddio’r gwasanaeth yn Gymraeg yn hytrach na “achos ei fod o’n Gymraeg”; cyhoeddusrwydd ar beth sydd ar gael; cydnabyddiaeth o’n gofynion; cynyddu’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ddigidol
    • Ethos data agored gyda hwb rhannu canolog; trwyddedu’n agored ar mwyn cael gwared ar yr her o hawlfraint yn rhwystro datblygiadau; blaenoriaethu offer cod agored gyda’r rhyddid i leoleiddio

    4 sylw

    • Sgiliau codio – datblygu meddalwedd a rhaglenni yn Gymraeg; darlunio; adnoddau hyfforddi ar gael i bawb
    • Rhwydwaith symudol a gwe band eang cyflym iawn dros Gymru gyfan
    • Predictive/autocorrect text Cymraeg

    3 sylw

    • Rhoi popeth am ddim; e-lyfrau am ddim i bawb fel yn Norwy; Cyhoeddi llenyddiaeth arlein
    • Gwella cyfieithu peirianyddol; mae busnesau Cymru yn parhau i ddefnyddio y cyfieithu peirianyddol heb gael pobl i wella hynny; gwella’r berthynas rhwng geiriaduron safonol a chyfieithu peirianyddol
    • Adnoddau addysg a hyfforddiant DA yn Gymraeg; adnoddau pwrpasol Cymraeg i tech gwyb, nid tro i’r Gymraeg wedyn

    2 sylw

    • YouTube Cymraeg gydag algorithm Cymraeg ar gyfer YouTube (auto-play fideo Cymraeg eto nesaf)
    • Trydar, Instagram, a gwefannau cymdeithasol
    • Rhoi mwy o bres a swyddi i dechnoleg Cymraeg
    • Addysgu’r genhedlaeth hŷn am y byd digidol; annog y genhedlaeth hyn i rannu eu hamser, cyfoeth a gwybodaeth arlein

    1 sylw

    • Android Cymraeg
    • Cael mwy o arbenigwyr a datblygwyr sy’n siarad Cymraeg
    • Calendr digwyddiadau cyhoeddus
    • Cymraeg safonol ond yn hygyrch a dealladwy
    • Datblygu rhwydwaith hyrwyddo poblogaidd ar Facebook
    • Ffôn symudol Cymraeg gyda darparwyr symudol sy’n gweithio’n ddwyieithog
    • Geiriaduron: un porth i chwilio am bethau
    • Gwell dealltwriaeth caledwedd
    • Gwella ymwybyddiaeth y darparwyr eu hunain o’u gwasanaeth Cymraeg ar bob lefel y cwmni
    • Ffordd mwy cynaliadwy na dibynnu ar wirfoddolwyr i leoleiddio gwasanaethau ac offer (Scratch, WordPress, ayb)
    • Mae cynnwys y Gymraeg yn rhoi hwb i’r economi
    • Mwy o arloesi yn y sector annibynnol
    • Normaleiddio / gorfodi meddalwedd a rhyngwynebau Cymraeg yn yr ysgolion a chlybio codio Cymraeg
    • Papurau bro i fwydo papur(au) cenedlaethol Cymraeg
    • Pob un yn y sector cyhoeddus i ddod i arfer a gofyn am adnoddau Cymraeg
    • Polisi comisiynu clir; cydlynu elfennau i osgoi dyblygu ac annog cydweithio
    • Safonau iaith
    • Sicrhau ansawdd a chysondeb gwasanaeth
    • Technoleg adnabod enwau ar gyfer meddygfeydd
    • Teganau llafar
    • Termau technoleg / cyfrifiadureg safonol
    • Vocab ar bopeth
    • Ymchwil tymor hir
    Llun gan Jason Evans o ddechrau #haciaith 2018 Caerdydd

    Llun gan Jason Evans o ddechrau #haciaith 2018 Caerdydd

    Wedi eu cyhoeddi yma ar wefan Hacio’r Iaith, bydd Jeremy Evas a Gareth Morlais yn rhannu’r ymatebion gydag aelodau Bwrdd Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru sy’n rhoi cyngor i Weinidog y Gymraeg ar strategaeth technoleg Cymraeg, ar ffurf drafft Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd.

     

     
    • Carl Morris 12:43 PM ar 30 Ionawr 2018 Dolen Barhaol

      Diolch am rannu’r casgliadau Gareth.

      O’n i ddim yn gallu mynychu’r sesiwn yma yn anffodus.

      Os gaf i, byddwn i’n ychwanegu:

      • cynhyrchu cynnwys, fideo, erthyglau nodwedd (neu greu amodau sy’n arwain at hyn, e.e. cymorth treth i gynhyrchwyr annibynnol/cymunedol/Cymraeg?)
      • creu gemau / pethau ‘cyffrous’
      • defnydd o dechnoleg i fynd i’r afael â rhai o broblemau dyrys fel yr economi, cartrefi, amaeth cynaliadwy, trafnidiaeth gynaliadwy
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel