Mumbai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mumbai
Mumbai Downtown.jpg
Maharashtra locator map.svg
Lleoliad o fewn Maharashtra ac India
Gwlad India
Ardal Maharashtra
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Corfforaeth Bwrdeisdrefol Mumbai Fwyaf
Maer Shubha Raul
Daearyddiaeth
Arwynebedd 603.4 km²
Uchder 26 troedfedd (8 medr) m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 13,922,125 (Cyfrifiad 2008)
Dwysedd Poblogaeth 21,880 /km2
Metro 20,870,764
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser IST (UTC+5:30)
Gwefan http://www.mcgm.gov.in

Prifddinas dalaith Maharashtra yng ngorllewin India a phrif borthladd a chanolfan economaidd India yw Mumbai (Marathi: मुंबई, Mumbaī, IPA:[ˈmumbəi], hen enw: Bombay). Dyma'r ddinas fwyaf poblog yn India a'r ail ddinas fwyaf poblog yn y byd, gyda phoblogaeth amcangyfrifedig o 13 miliwn. Lleolir Mumbai ar arfordir gorllewinol India a cheir yno harbwr sy'n naturiol ddwfn. Mae Mumbai yn ymdrin â dros hanner cargo morol yr India.

Mae'n borthladd pwysig iawn ac yn ddinas sydd wedi gweld tyfiant economaidd aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf; serch hynny anwastad yw dosbarthiad y buddiannau economaidd a nodweddir y ddinas gan gyferbyniaethau trawiadol rhwng y da eu byd a'r tlodion niferus.

Mae gan y ddinas nifer o adeiladau bric coch o gyfnod y Raj, e.e. y brif orsaf reilffordd yng nghanol y ddinas. Mae "Porth India", yr heneb a godwyd i nodi ymweliad y brenin Siôr V ym 1911, yn symbol o'r ddinas.

Dros y dŵr ym Mae Mumbai mae nifer o henebion Bwdhaidd hynafol i'w cael ar Ynys Elephanta.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Castella de Aguada
  • Llyfrgell David Sassoon
  • Mosg Haji Ali
  • Neuadd Cowasji Jehangir
  • Raj Bhavan
  • Tŵr India
  • Tŵr Rajabai
  • Tŷ Jinnah
  • Tŷ Nariman

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of India.svg Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.