Mae Ian Watkins, canwr y grŵp roc o Gymru Lostprophets, wedi pledio'n euog i gyfres i droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys un o geisio treisio babi. Yn flaenorol roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau'n llwyr. Roedd yr achos yn erbyn Watkins, 36 oed o Bontypridd, i fod i ddechrau yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth ynghyd â'r achos yn erbyn dwy fenyw. Plediodd Watkins yn euog i