Leeds

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol dref Leeds
Y Headrow
Bridgewater Place

Dinas yng ngogledd Lloegr yw Leeds. Saif ar lan afon Aire yng Ngorllewin Swydd Efrog gyda chamlesi hanesyddol yn ei chysylltu â Lerpwl a Goole. Sefydlwyd Prifysgol Leeds yno yn 1904. Amcangyfrifwyd yn 2007 fod y boblogaeth yn 761,100.

Yn yr Oesoedd Canol cynnar roedd teyrnas Elfed - a gyfeirir yn aml fel Elmet - yn gysylltiedig a'r rhan yma o Swydd Efrog. Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.

Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").

Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol hon hefyd yn "Elmet".

Mae'r deyrnas wedi cael ei choffau gan nifer o feirdd o Gymru o'r chweched ganrif hyd y presennol.

Roedd y bardd Ted Hughes hefyd yn ymwybodol iawn o etifediaeth Frythoneg ei sir enedigol a chyhoeddodd lyfr o gerddi a ffotograffiau o'r enw 'Remains of Elmet' hefo Fay Godwin ym 1979. Ail-gyhoeddwyd y llyfr ym 1994 gan Faber and Faber dan yr enw 'Elmet'.

Mae'r ddinas hefyd yn enwog iawn am ei thim pel-droed fu'n hynod llwyddianus yn y 60au a'r 70au ac yn enillwyr cyson yn haen uchaf cynghreiriau Lloegr ac yn y cwpannau Ewropeaidd o dan arweiniaeth Don Revie - bu Terry Yorath cyn gapten a rheolwr Cymru yn rhan allweddol o dim a gynhwysai Billy Bremner, Joe Jordan, Peter Lorimer ac eraill. Cafodd y cyfnod cythrublys a ddilynodd ymadawiad Revie pan ddaeth Brian Clough i reoli'r time ei goffau yn llyfr enwog David Peace - 'The Damned United' a wnaethpwyd yn ffilm gyda'r Cymri Michael Sheen yn actio Clough. Bellach mae Leed United yn chwarae ym mhencampwrieth Lloegr - sel ail reng y cynghreiriau.

Mae ar y ffordd Ewropeaidd E22.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Abaty Kirkstall
  • Adeilad Lumiere
  • Marchnad Kirkgate
  • Neuadd y Dref
  • Neuadd Lotherton
  • Plas Bridgewater ("Y Dalek")

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinaswedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa o dinas Leeds
Magnify-clip.png
Golygfa o dinas Leeds

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato