Ufa
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Gweriniaeth Bashkortostan yn Rwsia yw Ufa (Rwseg: Уфа; IPA: [ʊˈfa]; Bashcireg: Өфө, Öfö; IPA: [ʏ̞ˈfʏ̞]), a hon yw prif ganolfan ddiwydiannol, economaidd, gwyddonol a diwylliannol y weriniaeth hefyd. Poblogaeth: 1,062,319 (Cyfrifiad 2010), sef tua chwarter poblogaeth Bashkortostan.
Lleolir y ddinas yn ne-ddwyrain Rwsia, yn agos i'r ffin ddaearyddol rhwng Ewrop ac Asia, ar gymer Afon Belaya ac Afon Ufa, ar fryniau isel i'r gorllewin o Fynyddoedd yr Wral.